Lleoliad: Siambr y Cyngor, 2 Llys Cadwyn, Stryd Y Taf, Pontypridd, CF37 4TH
Cyswllt: Julia Nicholls -Gwasanaethau Democrataidd 01443 424098
Rhif | eitem |
---|---|
Croeso Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Croesawodd y Llywydd yr Aelodau a Swyddogion i gyfarfod hybrid y Cyngor i’w gynnal yn Llys Cadwyn, Pontypridd.
|
|
Datganiadau o Fuddiant Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â gofynion Cod Ymddygiad y Cyngor
1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm y mae eu buddiant yn ymwneud ag e a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud yngl?n â'r agenda:
Eitem 10:Premiymau a Gostyngiadau Treth y Cyngor – Eiddo Gwag Tymor Hir ac Ail Gartrefi
Y Cynghorydd K Morgan:
“Rwy'n datgan buddiant sy'n rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 10 – Mae'r Premiymau Treth y Cyngor arfaethedig ar gyfer Eiddo Gwag Tymor Hir yn effeithio ar aelod o'm teulu agos - byddaf i'n gadael y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem yma.”
Eitem 11: Rhybudd o Gynnig
Y Cynghorydd W Lewis
“Rwy'n datgan buddiant personol mewn perthynas ag eitem 11 – rydw i wedi bod yn aelod o RCT PSC Group ers 2009.”
|
|
Cadarnhau cofnodion o gyfarfodydd y Cyngor, a gynhaliwyd am 4pm a 5pm ar 17 Gorffennaf 2024, yn rhai cywir.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNODD y Cyngor gymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd hybrid a gynhaliwyd ar 17 Gorffennaf 2024 am 4pm a 5pm yn rhai cywir.
|
|
Cyhoeddiadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y cyhoeddiadau canlynol eu gwneud:
Ø Talodd y Cynghorydd H Gronow deyrnged i'r diweddar gyn-Gynghorydd Steve Belzak a fu farw. Cynrychiolodd ei ward, Cilfynydd, am 28 o flynyddoedd. Rhoddodd ddiolch i Steve Belzak am ei ymrwymiad i drigolion ei ward ac estynnodd ei gydymdeimlad â'i deulu.
Arweiniodd y Llywydd y Cyngor mewn munud o dawelwch er cof am y cyn-Gynghorydd Steve Belzak.
Ø Cyhoeddodd y Cynghorydd M Webber y bydd Marc Jones o'r Gwasanaethau Democrataidd, gyda thri beiciwr arall, gan gynrychioli cangen Pontypridd o Gymdeithas Catrawd y Cymry Brenhinol, yn beicio o Bontypridd i 's-Hertogenbosch, sef pellter o dros 350 o filltiroedd dros 4 diwrnod. Ychwanegodd y Cynghorydd Webber mai eleni yw 80 mlynedd ers i ddinas 's-Hertogenbosch gael ei rhyddhau gan Adran 53 (Cymreig). Roedd yr Adran yn cynnwys milwyr o 5ed Bataliwn Y Gatrawd Gymreig, oedd â'i bencadlys ym Mhontypridd. Mae dinasyddion 's-Hertogenbosch bob amser wedi cydnabod eu bod nhw'n ddyledus am eu rhyddid i'r milwyr a ymladdodd yn y frwydr dros 5 diwrnod. Mewn gweithred fach i atgyfnerthu'r berthynas sy'n bodoli rhwng 's-Hertogenbosch a Chymru, bydd 4 o feicwyr yn dechrau eu taith ddydd Llun 21 Hydref. Gofynnwyd i'r Aelodau ddymuno'n dda i'r beicwyr a chyfrannu arian trwy ddefnyddio'r ddolen yng nghylchlythyr Yr Wythnos i Ddod.
Ø Cyhoeddodd y Cynghorydd W Hughes fod Osborne Estates, busnes a redir gan deulu yn Nhonypandy, wedi ennill sawl gwobr a'i fod newydd ennill y fedal aur yng ngwobrau Busnes y Flwyddyn. Gofynnodd y Cynghorydd Hughes a fyddai modd anfon llythyr i'r busnes yn ei longyfarch ar ei gyflawniad.
Ø Cyhoeddodd y Cynghorydd P Binning y cyflawniadau canlynol ym myd chwaraeon o'i ward:
· Cafodd Nia Powell, 17 oed o Feisgyn, ei dewis i fod yn rhan o dîm h?n Athletau Cymru am y tro cyntaf, ac aeth i gystadlu yn y gystadleuaeth naid uchel yn y Pencampwriaethau Cenedlaethol a gynhaliwyd yn Stadiwm Ethiad; · Enillodd Rosie Morgan, o Feisgyn hefyd, Bencampwriaethau Tennis Cenedlaethol Cymru i blant dan 10 oed. Dyma deitl arall iddi ar ôl ennill y pencampwriaethau i blant dan 8 oed ychydig flynyddoedd yn ôl. Mae Rosie wedi cael ei dewis gan y Gymdeithas Tennis Lawnt i fod yn rhan o'i thîm datblygu rhanbarthol ar gyfer chwaraewyr elît; · Cafodd Anwen How ei dewis i chwarae'n rhan o dîm criced merched Cymru dan 15 oed yn ystod yr haf eleni; · Cafodd Harry Weir, 12 oed, sydd wedi byw gyda chyfres hir o broblemau difrifol gyda'i arennau ac a gafodd drawsblaniad aren o ganlyniad i'w Dad yn rhoi ei aren ei hun, ei ddewis i fod yn rhan o dîm Criced Cymru i Ddynion Anabl yn ystod yr haf eleni. Enillodd y tîm deitl Prydain yn sgil ennill pob un o'i saith gêm; Ychwanegodd y Cynghorydd Binning fod pob un o'r bobl ifainc yma wedi bod yn ddisgyblion YGG Llantrisant neu'n mynychu'r ysgol ar hyn o bryd. · Llongyfarchiadau i Gôr Tadau Trisant, côr a gafodd ei sefydlu ar gyfer yr holl dadau yn YGG Llantrisant, ar ennill yr ail wobr ... view the full Cofnodion text for item 28. |
|
Cwestiynau gan y Cyhoedd Derbyn cwestiwn gan y cyhoedd yn unol â gofynion Rheolau Gweithdrefn Llywodraethu Agored Cyfarfodydd y Cyngor.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu fod Uned Busnes y Cyngor wedi derbyn un cais gan drigolyn RhCT, Mr Lyndon Walker,o fewn y cyfnod penodol yn unol â Rheolau Gweithdrefn Llywodraethu Agored Cyfarfodydd y Cyngor (adran 4) a Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd y Cyngor. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y byddai'r Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden, y Cynghorydd A Crimmings, yn ymateb i gwestiwn Mr Walker. Bydd gan Mr Walker gyfle i ofyn cwestiwn ategol a bydd yr Aelod o'r Cabinet yn ymateb iddo:
Cwestiwn gan Mr L Walker i'r Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden:
‘A wnaiff y Cyngor yma ddatganiad pam mae llwybr troed 43/2 wedi bod ar gau am y 12 mis diwethaf heb awdurdod cyfreithlon, a hynny'n groes i adran 119 o Ddeddf Priffyrdd 1980. Mae mynediad cyhoeddus i gae pêl-droed Parc Ton-teg wedi cael ei wrthod. Dydy'r penderfyniad a gafodd ei wneud ddim yn cydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, yn enwedig egwyddorion 4 a 5’.
Ymateb gan yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden, y Cynghorydd A Crimmings:
Rhoddodd y Cynghorydd Crimmings ddiolch i Mr Walker am ei gwestiwn a dywedodd y cafodd prydles y cae pêl-droed ei hadnewyddu ym mis Awst 2018 a oedd yn cynnwys y cae, yr eisteddle a'r mannau i'r chwaraewyr wrth gefn. Roedd y brydles yn destun Hysbysiad Man Agored ym mis Tachwedd 2018, gyda hysbysebion wedi'u rhoi yn y Pontypridd Observer ym mis Tachwedd a Rhagfyr, yn ogystal â Media Wales.
Ychwanegodd y Cynghorydd Crimmings nad oedd Swyddogion wedi nodi'r Hawl Tramwy Cyhoeddus, sef Llwybr Troed Cyhoeddus 43 Llanilltud Faerdref sy'n croesi'r cae pêl-droed, adeg y brydles. O ganlyniad i ymholiadau gan aelodau o'r cyhoedd, adolygodd yr adrannau perthnasol o'r Cyngor y sefyllfa. O ystyried y ffaith bod y llwybr troed cyhoeddus yn mynd trwy 2 gwrt tennis a chae pêl-droed, mae'r Cyngor wedi cynnig dargyfeirio'r llwybr troed i lwybr hygyrch i gerddwyr yn y parc er mwyn unioni'r sefyllfa.
Rhoddodd y Cynghorydd Crimmings wybod bod y Cyngor wedi dechrau ymgynghoriad anffurfiol ar y cynnig hwnnw er mwyn casglu adborth cyn penderfynu a fydd yn gwneud Gorchymyn Gwyro Llwybr o dan ddarpariaethau Adran 119 o Ddeddf Priffyrdd 1980. Hefyd, mae swyddogion wedi cadarnhau bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cael ei hystyried yn rhan o'r broses gwneud penderfyniad honno.
Cwestiwn ategol gan Mr L Walker:
“Alla i gael eich sicrwydd y bydd barn y cyhoedd yn ardal Ton-teg a barn y gr?p cerdded rydw i'n ei redeg yn cael ei chasglu yn rhan o'r ymgynghoriad ar newid llwybr yr Hawl Tramwy Cyhoeddus?”
Ymateb y Cynghorydd A Crimmings:
“Rhoddodd y Cynghorydd Crimmings ei sicrwydd y byddai barn y cyhoedd yn ardal Ton-teg ac unrhyw grwpiau perthnasol, gan gynnwys y gr?p cerdded sy'n cael ei drefnu gan Mr Walker, yn cael ei chasglu yn rhan o'r ymgynghoriad.”
|
|
Cwestiynau gan yr Aelodau Derbyn cwestiynau'r Aelodau yn unol â Rheol 9.2 o Weithdrefn y Cyngor.
(Nodwch: Caniateir hyd at 20 munud ar gyfer cwestiynau.)
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 1.Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol W Hughes i Ddirprwy Arweinydd y Cyngor ac Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Webber: “Pa gymorth y mae'r Cyngor yma'n ei roi i gymuned leol y Lluoedd Arfog?” Ymateb gan y Cynghorydd M Webber: Rhoddodd y Cynghorydd Webber wybod bod Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi dangos cymorth parhaus, cyson i gymuned y Lluoedd Arfog, a'i fod wedi ennill gwobr cydnabod Cyflogwyr Aur Cyfamod y Lluoedd Arfog. Mae'r wobr yma'n cydnabod ymrwymiad y Cyngor i annog cyflogwyr a gweithwyr i gefnogi'r Lluoedd Arfog ac ysbrydoli eraill i wneud yr un peth. Ychwanegodd fod y Cyngor yn cefnogi nifer o grwpiau i gyn-filwyr, gan gynnwys Valley Veterans, Taf Ely Veterans, a Cynon Valley Veterans. Mae'r Cyngor hefyd yn falch o gefnogi Woody's Lodge Veterans Support Hub ac ymgyrch cinio i gyn-filwyr bob dydd Iau yn The Lighthouse Project. Dywedodd y Cynghorydd Webber fod y Cyngor wedi cyflogi Swyddog Cyswllt Lluoedd Arfog penodol sy'n ymgysylltu â grwpiau Cymuned y Lluoedd Arfog i gynnig cymorth uniongyrchol. Mae hyn hefyd yn cynnwys cysylltu â Chomisiynydd Cyn-filwyr Cymru yn uniongyrchol sydd wedi ymweld â grwpiau lleol i gyn-filwyr yn RhCT sawl gwaith.
Nododd y Dirprwy Arweinydd fod y Cyngor wedi dechrau menter i wella a chadw ei 117 o Gofebion Rhyfel ledled y sir. Bydd gan bob un gofnod digidol cynhwysfawr gyda chod QR er mwyn i ddefnyddwyr fynd i wefan a gweld gwybodaeth a darllen am yr hanes. Hefyd aeth y Cyngor i Wobrau Cyn-filwyr Cymru yn ddiweddar lle cafodd unigolion a grwpiau eu cydnabod yn sgil eu cyfraniadau ardderchog at ein Cymuned y Lluoedd Arfog. Cafodd y Cynghorydd Parkin a'r Cynghorydd Middle wobrau, yn ogystal â grwpiau Valleys Veterans a Taf Ely Veterans. Mae'r Cyngor hefyd wedi cefnogi gr?p Valley Veterans i sicrhau cyllid gan Ddeddf yr Eglwys yng Nghymru ar gyfer ei brosiect ceffylau sy'n helpu Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD).
Dywedodd y Dirprwy Arweinydd iddi hi ac Arweinydd y Cyngor fynd i gwrdd â Phwyllgor Blits Cwm-parc tua mis neu ddau yn ôl, a chytunwyd y byddai'r Cyngor yn dod yn berchennog y gofeb. Ers hynny, mae gwaith atgyweirio wedi cael ei gynnal, mae coed newydd wedi cael eu plannu a bydd bwrdd gwybodaeth yn cael ei osod yn fuan.
I gloi, dywedodd y Cynghorydd Webber y byddai'n ymweld ag Ysgol Gynradd Cwm-parc i weld y disgyblion yn cymryd rhan mewn gweithdy plannu pabïau. Bydd y pabïau yma'n cael eu plannu wrth y gofeb er anrhydedd i'r rheiny a gollodd eu bywydau.
Nid oedd unrhyw gwestiwn ategol.
2.Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol D Williams i'r Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cynhwysiant a'r Gymraeg, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Lewis: “All yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg wneud datganiad mewn perthynas â chamau nesaf gwaith adeiladu ysgol newydd ar gyfer Glyn-coch ar safle presennol Ysgol Gynradd Craig yr Hesg?” Ymateb y Cynghorydd R Lewis: Ymatebodd y Cynghorydd Lewis gan ddweud bod yr ysgol newydd ar gyfer Glyn-coch ar safle ... view the full Cofnodion text for item 30. |
|
Trafod adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ei adroddiad er mwyn rhoi gwybod am ddwy ddeiseb a gyflwynwyd i'r Cyngor sy'n bodloni gofynion haen 3 cynllun deisebau'r Cyngor. Cyfeiriodd at adroddiad blaenorol i'r Cyngor ym mis Hydref 2023 a oedd yn cynnwys darpariaeth ar gyfer cynnwys deiseb ar agenda cyfarfod y Cyngor pan fydd hi'n cyrraedd 1,000 o lofnodion. Gall Aelodau benderfynu nodi'r deisebau neu ddewis penderfynu cyfeirio'r mater at sylw'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu.
Tynnodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth sylw Aelodau at adran pedwar yr adroddiad sy'n nodi manylion y ddwy ddeiseb a ddaeth i law ac at y materion a threfniadau pe bydden nhw'n cael eu cyfeirio at sylw'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu. Cyfeiriodd hefyd yn ôl at yr argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad.
Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD:
1. Nodi'r deisebau a gyflwynwyd i'r Cyngor fel yr amlinellir yn adran 4 yr adroddiad;
2. Cyfeirio'r materion yn y deisebau at sylw'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu fel y nodir yn adran 4 yr adroddiad; a
3. Gofyn i Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd fwrw ymlaen â'r trefniadau angenrheidiol er mwyn cyfeirio'r deisebau at sylw'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu.
|
|
Rhaglen Waith y Cyngor 2024/25 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu wybod am ddau ddiweddariad penodol i Raglen Waith y Cyngor ar gyfer Blwyddyn 2024/25 y Cyngor. Byddai newid i ddyddiad cyfarfod y Cyngor nesaf a bydd y cyfarfod a drefnwyd ar gyfer 23 Hydref bellach yn cael ei gynnal ar 6 Tachwedd 2024 er mwyn addasu yn ôl busnes y Cyngor a gofynion adrodd. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y bydd y busnes sydd eisoes wedi'i nodi o gyfarfod mis Hydref y Cyngor yn cael ei drafod yn y cyfarfod ar 6 Tachwedd. Dywedodd hefyd y bydd cyfarfod y Cyngor a drefnwyd ar gyfer 27 Tachwedd yn parhau i fod yng nghalendr cyfarfodydd y Cyngor felly bydd dau gyfarfod y Cyngor ym mis Tachwedd 2024. Cyhoeddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth hefyd fod Prif Weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi'i wahodd i gyfarfod y Cyngor ar 27 Tachwedd er mwyn amlinellu rôl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ei blaenoriaethau allweddol a sut mae'n cynrychioli buddiannau ar y cyd llywodraeth leol yng Nghymru ac yn cefnogi awdurdodau unigol. Cafodd Aelodau wybod y bydd y cyfarfod arbennig yma'n cael ei gynnal am 4pm mewn gw?s i bwyllgor ar wahân fydd yn cael ei rhannu cyn cyfarfod y Cyngor ar 27 Tachwedd.
|
|
Y Cynllun Ariannol Tymor Canolig 2024/25 - 2027/28 Derbyn adroddiad gan y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cyfadran - Cyllid, Gwasanaethau Digidol a Gwasanaethau Rheng Flaen sy'n rhoi diweddariad mewn perthynas â'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig 2024/25-2027/28.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr y Gyfadran Cyllid, Gwasanaethau Digidol a Gwasanaethau Rheng Flaen ddiweddariad ar y cyd-destun ariannol, Cynllun Ariannol Tymor Canolig 2024/25 - 2027/28 a Chronfeydd Wrth Gefn y Cyngor trwy gyflwyniad PowerPoint o dan y penawdau canlynol:
Ø Cyllideb y Cyngor
Ø Buddsoddiad Cyfalaf
Ø Cynllun Ariannol Tymor Canolig
Ø Cyd-destun ac Ansicrwydd
Ø Iechyd Ariannol a Chronfeydd Wrth Gefn y Cyngor
I gloi, rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod am y camau nesaf. Bydd yr wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei rhoi i'r Cyngor ar ôl derbyn y setliad dros dro gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2024. Dywedodd y Cyfarwyddwr y byddai'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn rhan o gam cyntaf y broses ymgynghori ar y gyllideb a bydd ail gam yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal ym mis Ionawr/Chwefror 2025. Bydd y gyllideb derfynol yn cael ei hargymell i'r Cyngor ym mis Mawrth 2025.
Yn dilyn y cyflwyniad, cafwyd trafodaeth a chyfraniadau gan bob un o Arweinwyr y Grwpiau. Ymatebodd y Cyfarwyddwr i gwestiynau a ofynnwyd a dywedodd y byddai'r cyflwyniad PowerPoint yn cael ei rannu ar ôl y cyfarfod.
PENDERFYNWYD:
1. Nodi'r sefyllfa bresennol mewn perthynas â 'Chynllun Ariannol Tymor Canolig 2024/25 tan 2027/28' a chael y newyddion diweddaraf yn nhymor yr hydref yn rhan o'r broses pennu cyllideb flynyddol.
|
|
CYNLLUN CORFFORAETHOL Y CYNGOR-BLAENORIAETHAU BUDDSODDI Derbyn adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cyfadran - Cyllid, Gwasanaethau Digidol a Gwasanaethau Rheng Flaen.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr y Gyfadran Cyllid, Gwasanaethau Digidol a Gwasanaethau Rheng Flaen adroddiad y Cabinet a nododd y cyfle i'r Cyngor fuddsoddi ymhellach yn ei seilwaith, yn unol â blaenoriaethau ei Gynllun Corfforaethol. Cyfeiriodd at adran 4 yr adroddiad sy'n nodi'r manylion arfaethedig (£6.950M) ar draws ystod o feysydd megis priffyrdd a ffyrdd, Coridor Trafnidiaeth Gynaliadwy Llanharan a strwythurau sy'n cynnwys pontydd, cwlferi, waliau cynnal, argloddiau wedi'u hatgyfnerthu ac angorau creigiau.
Rhoddodd Cyfarwyddwr y Gyfadran wybod bod cyllid eisoes wedi'i neilltuo yng nghronfeydd buddsoddi a seilwaith wrth gefn y Cyngor ar gyfer hyn a bod modd ei ryddhau i ariannu'r cynigion yma'n llawn. Ychwanegodd fod y Cyngor wedi ariannu buddsoddiad ychwanegol gwerth £181M ar draws seilwaith y Cyngor ers 2015 sydd ar ben y rhaglen gyfalaf graidd sy'n dangos uchelgais parhaus y Cyngor, ac sydd wedi'i ariannu trwy gyflawni trefniadau rheolaeth ariannol parhaus a thymor canolig y Cyngor.
Cyn tynnu sylw Aelodau at yr argymhelliad yn yr adroddiad, dywedodd Cyfarwyddwr y Gyfadran y bydd y cyllid yn cael ei gynnwys yn Rhaglen Gyfalaf y Cyngor, yn amodol ar gymeradwyaeth.
Manteisiodd Arweinwyr y Grwpiau ar y cyfle i gyflwyno sylwadau mewn perthynas â'r buddsoddiad ychwanegol arfaethedig, yn unol â blaenoriaethau Cynllun Corfforaethol y Cyngor, fel y nodir yn yr adroddiad. Cytunwyd y byddai rhestr o waith a buddsoddiadau wedi'u cymeradwyo yn y meysydd yma yn cael ei rhannu gyda'r holl Aelodau maes o law.
Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD:
1. Nodi'r sefyllfa bresennol mewn perthynas â 'Chynllun Ariannol Tymor Canolig 2024/25 tan 2027/28' a chael y newyddion diweddaraf yn nhymor yr hydref yn rhan o'r broses pennu cyllideb flynyddol.
|
|
Premiymau a Gostyngiadau Treth y Cyngor - Eiddo Gwag Tymor Hir ac Ail Gartrefi Derbyn adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cyfadran - Cyllid, Gwasanaethau Digidol a Gwasanaethau Rheng Flaen. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr y Gyfadran Cyllid, Gwasanaethau Digidol a Gwasanaethau Rheng Flaen wybod bod yr adroddiad yn bodloni'r gofyniad i'r Cyngor ailddatgan ei ddull o ran gostyngiadau Treth y Cyngor bob blwyddyn a'i fod hefyd yn nodi newid i'r Premiwm Treth y Cyngor. Ychwanegodd fod Premiymau Treth y Cyngor yn gweithio ochr yn ochr â Strategaeth Cartrefi Gwag y Cyngor i ailddefnyddio eiddo gwag. Yn dilyn ymgynghoriad â'r cyhoedd, rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod bod y Cabinet wedi cytuno ar gynnig i ddiweddaru lefel y premiwm a godir ar gyfer eiddo gwag tymor hir. Byddai premiwm o 100% yn cael ei gyflwyno yn achos unrhyw eiddo sydd wedi bod yn wag am rhwng 1-3 blynedd, felly byddai rhaid talu cymaint ddwywaith â chyfradd Treth y Cyngor. Byddai premiwm o 200% yn cael ei gyflwyno yn achos yr eiddo hynny sydd wedi bod yn wag am fwy na thair blynedd, felly byddai rhaid talu cymaint deirgwaith â chyfradd safonol Treth y Cyngor.
Nododd y Cyfarwyddwr er gwaethaf y cynnydd ers cyflwyno premiwm, mae 459 o eiddo o hyd sydd wedi bod yn wag am fwy na phum mlynedd. Ychwanegodd fod defnydd mesurau ymyrryd ehangach wedi'i nodi ac sydd i'w drafod, megis Gorchymyn Prynu Gorfodol, lle nad oes disgwyliad realistig y bydd yr eiddo yn cael ei ddefnyddio eto.
I gloi, cyfeiriodd y Cyfarwyddwr at adroddiad yr ymgynghoriad sydd wedi'i atodi i adroddiad y Cabinet (19 Medi) ac wrth gyfeirio at yr ymatebion a ddaeth i law, nododd y Cyfarwyddwr rai o'r penawdau. Roedd y rhain yn cynnwys 66% o drigolion a ymatebodd i'r ymgynghoriad yn cytuno â'r cynnig o ran lefel y premiwm, o gymharu â 10% o berchnogion eiddo gwag yn cytuno â fe. Ychwanegodd fod 60% o ymatebwyr wedi cytuno â'r defnydd posibl o bwerau ymyrryd pellach, gyda 75% o drigolion yn cytuno a 40% o berchnogion eiddo gwag yn cytuno.
Dywedodd y Cyfarwyddwr er mai'r amcan yw ailddefnyddio eiddo gwag, y byddai hyn hefyd yn cynhyrchu incwm Treth y Cyngor ychwanegol gwerth £750k a nododd fod y cynnig ger bron y Cyngor Llawn i geisio cytundeb terfynol yn unol â'r rheoliadau perthnasol.
Dywedodd yr Arweinydd fod y premiwm yn achos eiddo gwag wedi bod yn llwyddiannus o ran helpu i leihau nifer yr eiddo gwag. Cyfeiriodd at lwyddiant y fenter flaenorol, cynllun Grant Cartrefi Gwag Tasglu'r Cymoedd, gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn arwain y ffordd trwy'r Gwasanaeth Strategaeth Dai a Buddsoddi. Roedd yr ymateb i'r grant a'r nifer a dderbyniodd y grant yn gadarnhaol dros ben a chafodd arian grant ei roi ar draws holl Awdurdodau Lleol y Cymoedd.
Cyfeiriodd yr Arweinydd at gynllun Grant Cartrefi Gwag Cenedlaethol sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ledled Cymru ac sy'n cael ei gynnal gan Gyngor Rhondda Cynon Taf lle mae hyd at £25k ar gael tuag at gostau gwaith atgyweirio yn y cartref gwag, yn amodol ar amodau. Ychwanegodd fod y Cyngor yn parhau i ymrwymo i sicrhau argaeledd cartrefi o ansawdd da ... view the full Cofnodion text for item 35. |
|
Trafod y Rhybuddion o Gynnig sydd wedi'u cyflwyno yn unol â Rheol Gweithdrefn 10.1 y Cyngor fel sydd wedi’i nodi yn y Cyfansoddiad.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Trafod y Rhybudd o Gynnig isod a gyflwynwyd yn unol â Rheol Gweithdrefn 10.1 y Cyngor ac a dderbyniwyd gan y Swyddog Priodol, yn enwau Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol:
A. Roberts, J. Brencher, L. Addiscott, M. D. Ashford, J. Barton, D. R. Bevan, J. Bonetto, S. Bradwick, G. Caple, J. Cook, A. Crimmings, S. J. Davies, A. J. Dennis, V. Dunn, J. Edwards, J. A. Elliott, L. Ellis, S. Emanuel, R. Evans, S. Evans, A. S. Fox, B. Harris, S. Hickman, G. Holmes, G. Hopkins, G. W. Hughes, W. Hughes, G. Jones, G. O. Jones, R. R. Lewis, W. Lewis, C. Leyshon, M. Maohoub, C. Middle, A. Morgan, N. H. Morgan, S. Morgans, M. A. Norris, D. Owen-Jones, D. Parkin, S. Powderhill, C. Preedy, S. Rees, G. Stacey, L. A. Tomkinson, W. Treeby, J. Turner, G. L. Warren, E. L. Watts, K. Webb, M. Webber, D. Williams, G. E. Williams, R. Williams, T. Williams, R. Yeo. Cafodd trigolion ledled RhCT a thu hwnt eu dychryn, fel y gellid deall, gan y digwyddiadau ar 7 Hydref, pan gynhaliodd Hamas a sawl gr?p milwriaethus arall ymosodiadau arfog o Gaza ar dde Israel. Yn ystod yr ymosodiadau, roedd tua 1,130 o farwolaethau a chafodd dros 250 o wystlon eu cymryd, a oedd yn arswydus. Ers hynny, mae'r gwrthdaro wedi gwaethygu'n sylweddol, gydag awgrym syfrdanol bod dros 40,000 o fywydau pobl Palesteina wedi'u colli. Mae hyd a lled y dinistr a cholled bywydau yn y rhanbarth yma'n warthus ac yn annioddefol. Fel ein trigolion, mae Aelodau hefyd yn bryderus iawn am y sefyllfa a cholled bywydau, ac a ninnau'n gynrychiolwyr a etholwyd yn ddemocrataidd, bydden ni'n erfyn ar yr unigolion hynny sy'n uniongyrchol gysylltiedig i weithio ar unwaith i sicrhau bod y gwystlon yn cael eu rhyddhau, i ddod â'r holl weithgarwch milwrol i ben, ac i ganiatáu i gymorth dyngarol a chyfleusterau meddygol symud yn rhydd i mewn i'r diriogaeth. Hefyd, bydden ni'n cymell arweinwyr y byd i ymdrechu'n galetach er mwyn trefnu proses heddwch barhaol yn y Dwyrain Canol sy'n defnyddio deialog a diplomyddiaeth. Mae'r degawdau o drais yn y rhanbarth yn graith ar ddynoliaeth ac mae angen dod â'r gwrthdaro i ben ar unwaith. Mae'r Cyngor yma, felly, yn penderfynu ychwanegu'i gefnogaeth tuag at y galwadau am y canlynol: · Cadoediad ar unwaith. · Rhyddhau a dychwelyd yr holl wystlon ar y ddwy ochr. · Rhoi rhaglen cymorth dyngarol frys ar raddfa fawr ar waith ar gyfer Gaza er mwyn lliniaru'r amodau hynod ddifrifol yno. · Darparu datrysiad dwy wladwriaeth dichonadwy a heddychlon sy'n sicrhau Israel sy'n ddiogel, ochr yn ochr â gwladwriaeth Palesteina sy'n ddichonadwy ac yn sofran. A hefyd: · Ailddatgan ein hymrwymiad i fynd i'r afael â gwrthsemitiaeth ac islamoffobia a sicrhau bod lles ein trigolion ac undod ein cymunedau yn cael eu cynnal a'u diogelu.
· Gofyn bod Arweinydd y Cyngor yn ysgrifennu at Aelodau Seneddol lleol yn Rhondda Cynon Taf i ofyn iddyn nhw barhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i gefnogi'r safle a amlinellir yn y Cynnig yma. |
|
Materion Brys Trafod unrhyw faterion sydd, yn ôl doethineb y Cadeirydd, yn faterion brys yng ngoleuni amgylchiadau arbennig.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu wybod, yn unol â Rheol Gweithdrefn 10.5, fod y Llywydd wedi rhoi caniatâd i’r Cyngor Llawn benderfynu a ddylai’r Cynnig Brys yma:
• Cael ei drafod yn y cyfarfod; neu • Gohirio'r Cynnig tan y cyfarfod nesaf, i'w drafod gyda mantais cyngor ysgrifenedig gan Swyddogion; neu • Ei atgyfeirio i'r Adain Weithredol neu Bwyllgor.
PENDERFYNWYD trafod y Rhybudd o Gynnig brys yn y cyfarfod.
|
|
Rhybudd O Gynnig Brys Yn unol â Rheol Gweithdrefn 10.5, mae’r Llywydd wedi rhoi caniatâd i’r Cyngor Llawn benderfynu a ddylai’r Cynnig Brys hwn fod
• Cael ei drafod yn y cyfarfod; neu • Gohirio'r Cynnig tan y cyfarfod nesaf, i'w drafod gyda mantais cymorth cyngor ysgrifenedig gan Swyddogion; neu • Ei atgyfeirio i'r Adain Weithredol neu i Bwyllgor, i gael ei ystyried, ei drafod, a'i benderfynu.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Trafod y Rhybudd o Gynnig Brys canlynol sydd wedi’i gyflwyno yn enwau Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol K Morgan, S Evans, A Ellis, P Evans, D Grehan, H Gronow, A Rogers a D Wood:
Ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd Canghellor y DU na fydd pobl h?n nad ydyn nhw'n derbyn credydau pensiwn neu fudd-daliadau eraill sy'n dibynnu ar brawf modd yn derbyn Taliadau Tanwydd Gaeaf o'r flwyddyn yma ymlaen – dyma newid fydd yn cael effaith ar tua 10 miliwn o bensiynwyr ledled y DU, gyda miloedd ohonyn nhw'n byw yn Rhondda Cynon Taf. Ledled Cymru, mae disgwyl i 538,397 o bensiynwyr golli eu Taliadau Tanwydd Gaeaf – dyma gyfanswm o 86.8% o'r rheiny sy'n gymwys o dan y data diweddaraf. Amcangyfrifir y bydd 84.8% o bensiynwyr yn Rhondda Cynon Taf yn colli eu cymhwysedd ar gyfer y lwfans. Bydd y straen ychwanegol y bydd y penderfyniad yma yn ei rhoi ar bensiynwyr agored i niwed, nad yw nifer ohonyn nhw'n hawlio Credyd Pensiwn er gwaethaf y ffaith eu bod nhw'n gymwys, yn gwaethygu eu caledi ariannol ymhellach. Mae disgwyl cynnydd o 10% i'r Cap ar Brisiau Ynni ym mis Hydref fydd, ochr yn ochr â thynnu Taliadau Tanwydd Gaeaf, yn golygu y bydd miloedd o'n pensiynwyr yn wynebu tlodi tanwydd. Does dim disgwyl i oddeutu 780,000 o bensiynwyr yng Nghymru a Lloegr wneud cais am y budd-daliadau y mae gyda nhw hawl iddyn nhw, yn ôl dadansoddiad Llywodraeth y DU ei hun. Mae dull y Llywodraeth yn methu ag ystyried y rhwystrau gweinyddol a stigma sy'n atal ein pensiynwyr cymwys rhag hawlio Credyd Pensiwn, sy'n golygu na fydd gan nifer ohonyn nhw y cymorth sydd ei angen ar frys. Dim ond yr unigolion sy'n derbyn pensiwn gwerth llai na £218.15 yr wythnos (neu £332.95 yr wythnos ar gyfer cyplau) sy'n gymwys ar gyfer credydau pensiwn. Mae hyn yn is o lawer na chyfradd y cyflog byw. Mae'r Cyngor yma'n cydnabod y rôl arwyddocaol y mae Taliadau Tanwydd Gaeaf yn ei chwarae o ran helpu ein trigolion h?n sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf i fforddio gwres yn ystod y misoedd mwyaf oer, gan atal dewisiadau rhwng gwres a bwyd a diogelu iechyd. Bydd y penderfyniad i ddibynnu ar brawf modd yn achos Taliadau Tanwydd Gaeaf, yn enwedig heb fawr o rybudd, yn cael effaith anghymesur ar iechyd a lles ein trigolion h?n tlotaf. Mae'r Cyngor yn bryderus iawn na fydd 84.8% o'n pensiynwyr nad ydyn nhw'n cyrraedd y trothwy yma, bellach yn derbyn y taliadau. Yr wythnos diwethaf, rhoddodd Banc Lloegr hwb cyllidol gwerth hyd at £10 biliwn i'r Canghellor cyn Cyllideb mis Hydref. Dylai'r arbedion yn sgil penderfyniad y Banc gael eu defnyddio i barhau â'r cymhwysedd presennol ar gyfer Taliadau Tanwydd Gaeaf. Mae'r Cyngor yma, felly, yn penderfynu: • Gofyn bod yr Arweinydd, y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, yn ysgrifennu at Ganghellor y Trysorlys yn galw am wrthdroi'r penderfyniad ar gysylltu Taliadau Tanwydd Gaeaf â Chredyd Pensiwn, neu fudd-daliadau eraill sy'n dibynnu ar brawf modd, ar ... view the full Cofnodion text for item 38. |