Agenda a Chofnodion

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy, CF40 2XX

Cyswllt: Julia Nicholls - Democratic Services  01443 424098

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

22.

Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y rhai a oedd yn bresennol i gyfarfod hybrid y Cyngor a derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol L Addiscott, S J Davies, J Edwards, A Ellis, R Evans, D Grehan, G Jones, R Lewis, S Powderhill, M Powell, C Preedy, J Smith, D Williams a T Williams.

 

Roedd y Cynghorwyr a’r swyddogion canlynol yn bresennol yn Siambr y Cyngor:

 

Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol P Binning, S Bradwick, J Brencher, G Caple, J Cook, R Davies, V Dunn, E Dunning, S Emmanuel, S Evans, B Harris, S Hickman, G Holmes, G Hughes, W Hughes, K Johnson, D Owen -Jones, GO Jones, W Jones, W Lewis, C Leyshon, M Maohub, N Morgan, S Morgans, M Norris, S Rees, M Rees-Jones, B Stephens, L Tomkinson, S Trask, G Warren a M Webber.

 

 

Mr C. Bradshaw, Prif Weithredwr, Mr B Davies, Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol, Mr A Wilkins, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol, Mr C Hanagan, Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, a Mr P Mee, Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant.

 

 

Roedd y Cynghorwyr canlynol yn bresennol ar-lein:

 

Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol M Ashford, J Barton, R Bevan, J Bonetto, A Crimmings, J Elliott, L Ellis, D Evans, Sera Evans, AS Fox, H Gronow, G Hopkins, C Lisles, C Middle, A Morgan , K Morgan, W Owen, D Parkin, A Roberts, A Rogers, G Stacey, W Treeby, J Turner, K Webb, G Williams, R Williams, D Wood ac R Yeo.

 

23.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â gofynion Cod Ymddygiad y Cyngor

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agenda y mae eu buddiant yn ymwneud ag e a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant personol sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud yngl?n â'r agenda:

 

Eitem 9 - Adolygiad o Delerau ac Amodau'r Cyngor:

 

Datganodd y Cynghorydd W Lewis y buddiant personol canlynol – “Mae fy mab yn gweithio i'r Cyngor"

 

Datganodd y Cynghorydd S Emmanuel y buddiant personol canlynol – “Mae fy ngwraig yn gweithio i'r Cyngor

 

Datganodd y Cynghorydd G Hughes y buddiant personol canlynol – “Mae fy ngwraig yn cael ei chyflogi gan yr Awdurdod Lleol

 

Datganodd y Cynghorydd W Treeby y buddiant personol canlynol – “Mae fy nau fab yn gweithio i’r Cyngor

 

Datganodd y Cynghorydd W Hughes y buddiant personol canlynol – “Mae fy ngwraig yn gweithio i'r Cyngor"

 

 

Ar ddiwedd y cyfarfod, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud,

ni chafodd y datganiadau o fuddiant eu gwneud yn ystod y cyfarfod o ganlyniad i broblemau technegol oedd wedi codi yn ystod y cyfarfod:

 

Eitem 9 - Adolygiad o Delerau ac Amodau'r Cyngor:

 

Datganodd y Cynghorydd A Roberts y buddiant personol canlynol – “Mae fy mab yn gweithio i'r Cyngor

 

Datganodd y Cynghorydd G Stacey y buddiant personol canlynol – “Mae fy merch, fy mab a fy ?yr yn gweithio i’r Cyngor

 

24.

Rhybudd o Gynnig

CYNNIG - CYDYMDEIMLO

 

 

Wedi'i gynnig gan y Cynghorydd A Morgan (Arweinydd y Cyngor)

 

Eiliwyd gan y Cynghorydd K Morgan (Arweinydd yr Wrthblaid)

 

Wedi'i gefnogi ganY Cynghorydd M Powell (Arweinydd y Gr?p Annibynnol) a’r Cynghorydd S Trask (Arweinydd Gr?p y Ceidwadwyr)

 

 

“Mae’r Cyngor yma'n mynegi ei dristwch dwys am farwolaeth Ei Mawrhydi, Y Frenhines, ac yn cydymdeimlo’n ddiffuant â’i Fawrhydi, Y Brenin, ac aelodau eraill o’r Teulu Brenhinol. Rydyn ni'n cydnabod ymrwymiad parhaus Ei Mawrhydi i wasanaeth cyhoeddus a dyletswydd, gan gynnwys ei chefnogaeth i lawer o elusennau a sefydliadau Cymreig, a’i chysylltiad a’i hymroddiad gydol oes i Gymru a’i phobl.”

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynnig - Cydymdeimlo

 

Trafod y Rhybudd o Gynnig isod:

 

Wedi'i gynnig gan y Cynghorydd A Morgan (Arweinydd y Cyngor)

 

Eiliwyd gan y Cynghorydd K Morgan (Arweinydd yr Wrthblaid)

 

Mae'r Rhybudd o Gynnig wedi'i gefnogi gan y Cynghorydd M Powell (Arweinydd y Gr?p Annibynnol) a'r Cynghorydd S Trask (Arweinydd Gr?p Ceidwadol).

 

 

“Mae’r Cyngor yma'n mynegi ei dristwch dwys am farwolaeth Ei Mawrhydi, Y Frenhines, ac yn cydymdeimlo’n ddiffuant â’i Fawrhydi, Y Brenin, ac aelodau eraill o’r Teulu Brenhinol. Rydyn ni'n cydnabod ymrwymiad parhaus Ei Mawrhydi i wasanaeth cyhoeddus a dyletswydd, gan gynnwys ei chefnogaeth i lawer o elusennau a sefydliadau Cymreig, a’i chysylltiad a’i hymroddiad gydol oes i Gymru a’i phobl.”

 

Roedd Arweinwyr y Grwpiau'n unfrydol yn eu barn i gefnogi’r Cynnig ac aeth pob Arweinydd ati i dalu teyrnged i'r Teulu Brenhinol.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD mabwysiadu'r Rhybudd o Gynnig gwreiddiol.

 

25.

Cyhoeddiadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y cyhoeddiadau canlynol eu gwneud:

 

 

Ø  Arweiniodd y Llywydd, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Hughes, munud o dawelwch er cof am gyn Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol Tony Burnell, a fu farw yn gynharach yn y flwyddyn.

 

Yn dilyn munud o dawelwch, estynnodd Arweinydd a Dirprwy Arweinydd y Cyngor eu cydymdeimlad â theulu’r Cynghorydd Burnell a thalodd Arweinydd yr Wrthblaid deyrnged i’r Cynghorydd Burnell, oedd yn ffrind a chydweithiwr i Aelodau Gr?p Plaid Cymru.

 

Ø  Cyhoeddodd y Cynghorydd Sera Evans y bydd hi’n rhedeg Hanner Marathon Caerdydd ar ddydd Sul, 2 Hydref 2022 i godi arian ar gyfer elusen Halcyon Foundation. Ychwanegodd y Cynghorydd ei bod hi am rannu dolen gyda'r Aelodau ar ôl y cyfarfod fel bod modd i Aelodau roi arian os ydyn nhw'n dymuno gwneud hynny.

 

Ø  Cyflwynodd y Cynghorydd D Owen-Jones ddeiseb ar ran trigolion Cymdeithas Trigolion Dwyrain Tonyrefail, mae'r ddeiseb yn nodi bod y trigolion yn gwrthwynebu datblygiad yn y ward.

 

26.

Cofnodion pdf icon PDF 373 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Cyngor, a gynhaliwyd ar 6 Gorffennaf 2022, yn rhai cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNODD y Cyngor gymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Gorffennaf 2022 fel adlewyrchiad cywir o’r cyfarfod, yn amodol ar nodi bod y Cynghorwyr Sheryl Evans a S Emmanuel yn bresennol ar gyfer y cyfarfod.

 

27.

Cwestiynau gan yr Aelodau pdf icon PDF 250 KB

Derbyn cwestiynau'r Aelodau yn unol â Rheol 9.2 o Weithdrefn y Cyngor.

 

(Nodwch: Caniateir hyd at 20 munud ar gyfer cwestiynau.)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu y byddai ymatebion ysgrifenedig yn cael eu darparu i'r sawl sydd wedi cyflwyno cwestiynau un a thri yn sgil absenoldeb yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Ieuenctid a'r Gymraeg, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R. Lewis. Yn ogystal â hynny, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth ei fod e wedi derbyn cais gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Rees-Jones i dynnu'i chwestiwn oddi ar y rhestr (cwestiwn 5).

 

 

1.  Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Williams i Arweinydd y Cyngor - Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan:

 

“Pa gynnydd ydy'r Cyngor wedi'i wneud o ran cyflawni ymrwymiadau'r maniffesto a gafodd ei gyflwyno yn ystod yr etholiadau lleol?”

Ymateb gan y Cynghorydd A. Morgan:

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd fod pob un o ymrwymiadau maniffesto'r weinyddiaeth ddiwethaf wedi'u cyflawni a bod ugain ymrwymiad craidd ar gyfer y tymor yma. Dywedodd fod cynnydd wedi’i wneud yn y meysydd canlynol:

Ø  Mae cyllid wedi'i sicrhau ar gyfer deg Warden Cymunedol, ac mae'r Cyngor wedi llwyddo i recriwtio deg Warden;

Ø  Trafodaethau gyda Heddlu De Cymru ynghylch recriwtio deg Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu ychwanegol;

Ø  Cyllideb o £100,000 wedi'i chytuno ar gyfer y cofebion rhyfel, mae Swyddog Cofebion Rhyfel bellach wedi dechrau yn ei swydd;

Ø  Cynyddu nifer y Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd Ysgolion;

Ø  Cyflwyno Prydau Ysgol am Ddim ym mhob Ysgol Gynradd o fis Medi 2022;

Ø  Arian ychwanegol ar gyfer y Gwasanaeth Ieuenctid (yn enwedig i gefnogi ac ehangu nifer yr hybiau symudol);

Ø  Cyflwyno'r rhaglen fuddsoddi fawr sy'n ymwneud â gwefru cerbydau trydan;

Ø  Cyflwyno adroddiadau i'r Cabinet megis y Strategaeth ar gyfer Plannu Coed sy'n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd;

Ø  Cyllid pellach ar gyfer gwelliannau priffyrdd yn y dyfodol

 

Cwestiwn Ategol gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol R. Williams:

“All yr Arweinydd ddweud rhagor am un o’r ymrwymiadau, sef darparu cymorth ychwanegol i deuluoedd sydd â’r angen mwyaf, yn wyneb yr argyfwng costau byw (ac yn dilyn y cyhoeddiadau diweddar yn rhan o'r gyllideb fechan gan y Llywodraeth Ganolog)?”

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan:

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd y bydd yr Awdurdod Lleol yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru i gyflwyno ail gam y rhaglen i gefnogi trigolion yn ystod yr argyfwng costau byw. Derbyniodd trigolion sy'n derbyn credyd treth gwaith a chredyd cynhwysol gymorth yn gynharach yn y flwyddyn. Mae’r cynllun gwreiddiol bellach wedi’i ehangu i gynnwys y rhai sy’n gymwys ar gyfer Credydau Pensiwn, gyda dros £300miliwn wedi'i ddarparu gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r trigolion yma. Roedd yr Arweinydd wedi galw ar yr Aelodau Etholedig i annog trigolion i hawlio'r cymorth y mae ganddyn nhw'r hawl i'w dderbyn.

Cyfeiriodd yr Arweinydd at y cymorth y mae'r Cyngor ei hun yn ei ddarparu, megis taliad o £125 i holl staff y Cyngor sy'n derbyn cyflog Gradd 6 neu'n is a £75 i bob teulu gyda phlant oed ysgol. Yn ystod y misoedd nesaf, amcangyfrifodd yr Arweinydd y bydd yr awdurdod lleol yn gwneud tua 30,000 o  ...  view the full Cofnodion text for item 27.

28.

Rhaglen Waith Y Cyngor 2022/23

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, ddiweddariad mewn perthynas â Rhaglen Waith y Cyngor sydd wedi'i mabwysiadu a'i chyhoeddi. Nododd y bydd Datganiad o Gyfrifon Cronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf a'r Adroddiad Archwilio Allanol, y Cyfansoddiad Enghreifftiol a Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd yn cael eu cyflwyno i'r Cyngor ym mis Tachwedd. Ychwanegodd fod adrodd ar y Setliad Llywodraeth Leol yn dibynnu ar amserlenni Llywodraeth Cymru ac y bydd yn cael ei gyflwyno yn unol â hynny.

I gloi, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn cyflwyno diweddariad i'r Cyngor ym mis Tachwedd cyn cyfarfod y Cyngor am 5pm ac y byddai rhagor o wybodaeth am y trefniadau hynny'n cael ei rhannu maes o law.

 

29.

Y Cynllun Ariannol Tymor Canolig – y Newyddion Diweddaraf pdf icon PDF 209 KB

Rhoi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau am y Cynllun Ariannol Tymor Canolig ar gyfer 2022/23 – 2025/2026

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol adroddiad am y Cynllun Ariannol Tymor Canolig ar gyfer 2022/23 tan 2025/26, yn seiliedig ar y tybiaethau modelu presennol, cyn pennu'r cynigion manwl ar gyfer strategaeth cyllideb 2023/24 yn ystod misoedd yr hydref.

 

Cafodd yr Aelodau wybod mai cyd-destun y Cynllun Ariannol Tymor Canolig yw bod gofynion y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf a'r tymor canolig wedi'u pennu yn erbyn lefelau cyllid dangosol dros dro a gafodd eu cyhoeddi ym mis Rhagfyr 2021 yn rhan o setliad Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn hon, ac yng ngoleuni'r adolygiad cynhwysfawr o wariant ar gyfer y flwyddyn honno. Y gobaith yw y bydd yr adolygiad o'r gyllideb sy'n cael ei gynnal gan y Llywodraeth Ganolog, y mae disgwyl iddo gael ei gyhoeddi ar ddiwedd mis Tachwedd, yn adlewyrchu hyn ar adeg pan fydd trigolion yn wynebu argyfwng costau byw. Er hynny, ar ddydd Llun, cyhoeddodd y Trysorlys y bydd yn cadw at yr Adolygiad o Wariant cyfredol hyd at 2024/25.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol wybod bod rhagamcanion y Cyngor yn rhagweld cyfnod ariannol heriol iawn gyda bwlch yn y gyllideb gwerth £77miliwn erbyn 2025/26 a dros £36miliwn yn y flwyddyn ariannol nesaf.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr at y rhagdybiaeth fodelu a nodwyd ym mharagraff 5 o'r adroddiad, mae hyn yn cynnwys modelau Treth y Cyngor wedi'u seilio ar gynnydd o 2%, ond bydd gofyn i'r Cyngor a'r Cabinet drafod y mater yma maes o law. Dywedodd ei bod hi'n bwysig i gynllunio ar gyfer y sefyllfa yma a bod adolygiad yn cael ei gynnal ar hyn o bryd er mwyn ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael i leihau gwariant a chynhyrchu incwm ym mhob rhan o'r Cyngor. Er hynny, yn absenoldeb cyllid ychwanegol, bydd angen lleihau gwasanaethau'r Cyngor er mwyn cau'r bwlch yn y gyllideb. Mae'r Cyngor wedi ariannu'r holl bwysau ar Ysgol ers peth amser, ond bydd angen i'r ysgolion baratoi hefyd.

 

I gloi, dywedodd y Cyfarwyddwr y byddai diweddariadau yn cael eu darparu i'r Cyngor unwaith y bydd y setliad dros dro wedi'i dderbyn gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2022. Dywedodd y Cyfarwyddwr y bydd y CATC wedi'i ddiweddaru yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn rhan o broses ymgynghori ar gyllideb 2023/24.

 

Soniodd yr Aelodau am ddifrifoldeb ac ansicrwydd y sefyllfa ariannol bresennol a'r goblygiadau posibl ar draws holl wasanaethau'r Cyngor. Cytunodd Arweinwyr y Grwpiau y byddai angen cefnogaeth drawsbleidiol yn ogystal ag ymateb ar y cyd dros y misoedd nesaf.

 

Yn dilyn trafodaeth yngl?n â'r adroddiad, PENDERFYNWYDNodi'r sefyllfa bresennol mewn perthynas â'r 'Cynllun Ariannol Tymor Canolig 2022/23 i 2025/26' a chael diweddariad pellach yn yr hydref yn rhan o broses pennu'r gyllideb flynyddol.

 

30.

Blaenoriaethau Buddsoddi'r Cyngor pdf icon PDF 192 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol ei adroddiad sy’n nodi’r sefyllfa o ran cyfle'r Cyngor i fuddsoddi ymhellach yn ei feysydd â blaenoriaeth, yn unol â'r Cynllun Corfforaethol, "Gwneud Gwahaniaeth" 2020-2024.

 

Wrth gyflwyno ei adroddiad, ceisiodd cymeradwyaeth y Cyngor i ddarparu buddsoddiad ychwanegol gwerth £2.725 miliwn ar gyfer y meysydd a nodir ym mharagraff 4.1 yr adroddiad. Os yw'r cynnig yn cael ei gymeradwyo, bydd y rhain yn cael eu cynnwys yn rhan o Raglen Gyfalaf y Cyngor. Cadarnhawyd y bydd rhagor o fanylion am gynlluniau penodol yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet.

 

Ar ôl trafod yr adroddiad PENDERFYNWYD cytuno ar y trefniadau buddsoddi ac ariannu ychwanegol fel sydd wedi'u nodi ym mharagraff 4. Bydd y rhain yn cael eu cynnwys yn rhan o Raglen Gyfalaf y Cyngor.

 

31.

Adolygiad o Delerau ac Amodau'r Cyngor pdf icon PDF 118 KB

Derbyn adroddiad ar y cyd y Prif Weithredwr, y Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol a'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol ei adroddiad ar y cyd â'r Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol a'r Prif Weithredwr i roi gwybod i'r Cyngor am gynnig pellach i gyflwyno cyfradd uwch ar gyfer gweithwyr y Cyngor sy’n cyflawni unrhyw oriau gwaith ar y penwythnos, yn seiliedig ar daliad 1/3. Byddai'r cynnig yma'n cefnogi gofynion gweithredu'r Cyngor ynghylch gweithio ar y penwythnos. Dywedodd y Cyfarwyddwr y byddai'r cynnydd ar gyfer gweithio ar y penwythnos yn golygu bod y Cyngor yn darparu'r un math o gyflog â darparwyr gwasanaeth eraill, megis darparwyr annibynnol ym meysydd gofal, lle mae newidiadau o’r fath yn cael eu gwneud yn aml.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr y byddai'r gweithwyr a fydd yn elwa o'r gyfradd uwch hon yn cynnwys gweithwyr gofal yn y cartref, gofal cymdeithasol, hamdden a glanhau. Cynigir bod y cynnydd yma'n cael ei roi ar waith o 1 Hydref 2022, bydd y goblygiadau parhaus yn cael eu hystyried yn rhan o Gynllun Ariannol Tymor Canolig y Cyngor yn rhan o'r diweddariad presennol.  Mae modd ariannu'r goblygiad ar gyfer rhan o'r flwyddyn ariannol hon (6 mis, £0.500miliwn) gan ddefnyddio adnoddau untro sydd ar gael.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD:

 

1. Cytuno i gyflwyno ychwanegiad ar gyfer gweithio ar benwythnosau yn seiliedig ar daliad 1/3; a

 

2.  Bod y newid yma'n cael ei roi ar waith o 1 Hydref 2022.

 

32.

Materion Brys

Trafod unrhyw faterion sydd, yn ôl doethineb y Cadeirydd, yn faterion brys yng ngoleuni amgylchiadau arbennig.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Llywydd y byddai adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ynghylch 'Newidiadau i Aelodaeth' yn cael ei drafod fel mater o frys.

 

33.

Newid Aelodaeth Pwyllgorau pdf icon PDF 154 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethua Democrataidd a Chfathrebu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu wybod am newid i gynrychiolaeth Llafur ar y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a'r Pwyllgor Trwyddedu, a gofynnodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth am enwebiadau ar gyfer rôl Is-gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer Blwyddyn 2022/23 y Cyngor.

 

 

Ar ôl trafod yr adroddiad, PENDERFYNWYD:

 

1. Bydd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Hopkins yn ymuno a'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu yn lle Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol D H Williams;

 

2. Bydd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Stacey yn ymuno â'r Pwyllgor Trwyddedu yn lle Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol D H Williams; a

 

3. Bydd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Stacey yn cael ei benodi'n Is-gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer Blwyddyn 2022-2023 y Cyngor.