Agenda a Chofnodion

Agenda a Chofnodion

Cyswllt: Julia Nicholls - Democratic Services  01443 424098

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

130.

Croeso ac Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y rhai a oedd yn bresennol i gyfarfod hybrid y Cyngor a derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol A. Davies-Jones, L. de Vet, H. Fychan, G. Hughes, D. Grehan, G. Hopkins, J. James, M. Fidler Jones, K. Jones a S. Rees-Owen.

 

Roedd y Cynghorwyr a’r swyddogion canlynol yn bresennol yn Siambr y Cyngor:

Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol A. Morgan, M. Webber, R. Bevan, A. Crimmings, G. Caple, W. Lewis, C. Leyshon, M. Norris, S. Bradwick, J. Harries, G. Thomas, G. Jones, M. Powell, L. Walker, E. Stephens.

 

Mr C. Bradshaw, Prif Weithredwr, Mr B. Davies, Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol, Mr A. Wilkins, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol, Mr C. Hanagan, Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, Mr R. Evans, Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol a Mr S. Gale, Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.

 

131.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â'r Cod Ymddygiad.

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agenda y mae eu buddiant yn ymwneud ag e a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 

  1. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant personol sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud yngl?n â'r agenda a chafodd datganiadau o fuddiant eu gwneud yngl?n ag eitemau 12 ac 19 ar yr agenda yn ddiweddarach yn y cyfarfod (Cofnod 142):

 

 

Eitemau 11-15 ar yr agenda

Y Cynghorydd P. Jarman

Personol – "Gollyngiad i siarad a phleidleisio ar bob mater tra bod proses pennu Cyllideb 2021-22 yn mynd rhagddi ac yn cael ei mabwysiadu, a hynny fel Arweinydd yr Wrthblaid".

Y Cynghorydd M. Powell

Personol – "Rwyf wedi cael gollyngiad gan y Pwyllgor Safonau i siarad a phleidleisio ar bob mater sy'n ymwneud â'r gyllideb bresennol ac arfaethedig ar gyfer 2022-23, gan y byddai pob un o'r eitemau hynny'n adlewyrchu addasiad i'r gyllideb ac mae fy ngwraig yn gweithio i'r Awdurdod Lleol."

Eitem 17B ar yr agenda – Rhybudd o Gynnig

Y Cynghorydd A. Fox

Personol – “Mae aelod o'm teulu yn gweithio i gymdeithas dai yn RhCT”.

Y Cynghorydd W. Lewis

Personol – “Rydw i'n gweithio i Gymdeithas Dai.”

 

Eitem 16 ar yr agenda – Rhaglen Gyfalaf Cymunedau Dysgu Cynaliadwy (Ysgolion yr 21ain Ganrif yn flaenorol) – Ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd yn Rhydfelen

 

Y Cynghorydd A. Forey

Personol – “Mae fy merch yn gweithio i'r Awdurdod Lleol ym maes addysg.”

Y Cynghorydd M. Webber

Personol – “Rydw i'n Llywodraethwr yn yr ysgol sydd wedi'i nodi yn yr adroddiad.”

Y Cynghorydd M. Powell

Personol – “Rydw i'n Llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Coedpenmaen, Ysgol Babanod Trallwn ac Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen”.

Eitem 10 ar yr agendaCynllun Datblygu Lleol Diwygiedig 2022-2037

Y Cynghorydd W. Lewis

Personol – “Mae'r adroddiad yn cyfeirio at y Gymdeithas Dai rydw i'n gweithio iddi.”

Eitem 7 ar yr agenda Cwestiwn 6 yr Aelodau

Y Cynghorydd S. Powell

“Mae fy ngwraig yn gweithio yn Ysgol Gynradd Tonysguboriau, rydw i hefyd yn Llywodraethwr yno ac mae'r ysgol yn fy ward”.

Eitem 12 ar yr agenda – Penderfyniad Treth y Cyngor

Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd – "Byddwn ni'n cofnodi datganiad personol cyffredinol ar gyfer yr Aelodau hynny sy'n Aelodau o Gyngor Tref neu Gyngor Cymuned."

Y Cynghorydd G. Thomas – Personol – “Rydw i'n Aelod o Banel Heddlu a Throseddu De Cymru.”

Y Cynghorydd R. Lewis – Personol – “Rydw i'n Aelod o Banel Heddlu a Throseddu De Cymru.”

Y Cynghorydd M. Powell – Personol – “Rydw i'n Aelod o Gyngor Tref Pontypridd.”

Y Cynghorydd S. Belzak – Personol – “Rydw i'n Aelod o Gyngor Tref Pontypridd.”

 

Eitem 19 ar yr agenda Trefniant Ariannu ar gyfer Gwaith Seilwaith Trafnidiaeth (Rheilffyrdd)

 

Y Cynghorydd J. Brencher – Personol – "Mae fy mab yn Gyfarwyddwr Trafnidiaeth Cymru".

 

Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol, ar ran holl Swyddogion y Cyngor a oedd yn bresennol, mewn perthynas ag Eitem 9 ar yr agenda – Datganiad 2022/23 y Cyngor ar Bolisi Cyflogau

 

“Nid yw datganiad y Cyngor ar Bolisi Cyflogau yn cael unrhyw effaith ar delerau ac amodau presennol sy'n berthnasol i weithwyr unigol. Yn syml  ...  view the full Cofnodion text for item 131.

132.

Cofnodion pdf icon PDF 567 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar y 9 Chwefror 2022 yn rhai cywir

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNODD y Cyngor gymeradwyo cofnodion y cyfarfod hybrid, a gynhaliwyd ar 9 Chwefror 2022, yn rhai cywir.

 

133.

Cyhoeddiadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y cyhoeddiadau canlynol eu gwneud:

 

 

Derbyniodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd y deisebau canlynol:

 

Ø  Y Cynghorydd J. Williams – Ar ran trigolion mewn perthynas â threfniant trwyddedau parcio ar Stryd Grawen, Porth.

Ø  Y Cynghorydd A. Cox – Galw ar y Cyngor i arfer ei bwerau a deddfwriaeth i adnewyddu adeiladau gwag, megis Gwesty Porth (310 o lofnodion).

Ø  Y Cynghorydd E. Webster – Parcio a Thraffig yn Nhreorci

Ø  Y Cynghorydd J. Davies – Ar ran trigolion Heol Tyle-celyn, Pen-y-graig, mewn perthynas â mesurau gostegu traffig.  

Ø  Y Cynghorydd M. Powell – Ar ran trigolion Pontypridd mewn perthynas â pharc sglefrio.

 

 

 

Ø  Cyhoeddodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol T. Williams farwolaeth Mr Brian Fear, gan gyfeirio at ei waith elusennol a'i natur anhunanol ac estynodd ei chydymdeimladau i'w deulu.

 

Ø  Roedd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol P. Jarman hefyd yn dymuno estyn cydymdeimladau i deulu a ffrindiau Mr Fear, wrth iddi adrodd ei gyflawniadau ym maes pêl-droed.

 

 

134.

Rwsia'n Goresgyn Wcráin

Rhoi cyfle i aelodau drafod cymorth ymarferol y mae modd i gymunedau a busnesau Rhondda Cynon Taf ei roi i ddinasyddion Wcráin.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Er mwyn rhoi cyfle i Aelodau drafod cymorth ymarferol gan gymunedau a busnesau Rhondda Cynon Taf i ddinasyddion Wcráin, rhoddodd yr Arweinydd yr wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y byddai Llywodraeth Leol yng Nghymru yn ei wneud i gefnogi. Dywedodd nad oedd y Llywodraeth Ganolog wedi rhoi llawer o wybodaeth yn uniongyrchol i Awdurdodau Lleol hyd yn hyn.

 

Nododd yr Arweinydd fod ymateb y gymuned wedi bod yn enfawr. Mae miliynau o bunnoedd wedi cael eu codi hyd yn hyn, ac mae nwyddau wedi cael eu casglu yn lleol. Dywedodd fod y broses o gludo nwyddau i ddinasyddion Wcráin yn mynd yn fwyfwy anodd. Ei obaith oedd y byddai modd i gymunedau helpu mewn ffyrdd eraill unwaith y byddai rhagor o wybodaeth yn dod i law o ran trigolion yn dychwelyd i Wcráin.

 

Galwodd yr Arweinydd am gefnogaeth drawsbleidiol ar gyfer y cynnig canlynol:

 

“Mae'r Cyngor yma'n cofnodi'i undod â dinasyddion Wcráin.

Mae'r Cyngor yma'n addo gwneud popeth o fewn ei allu i gefnogi dinasyddion Wcráin sydd wedi gorfod ffoi o'u gwlad eu hunain, a hynny o ganlyniad i Rwsia'n goresgyn, drwy gymryd rhan ym mhob menter a arweinir gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i roi lloches. Mae hyn yn cynnwys ymrwymo i gymryd rhan yn 'rhaglen noddi' Llywodraeth y DU sy'n ceisio galluogi sefydliadau'r sector cyhoeddus i ddarparu cymorth ymarferol tymor hir i ffoaduriaid Wcráin.

Rydyn ni wedi ymrwymo i groesawu teuluoedd o Wcráin, gyda chysylltiadau â theulu yn y DU a heb gysylltiadau, ac i'w galluogi nhw i fanteisio ar gymorth gan unigolion, busnesau, elusennau a grwpiau cymunedol wrth iddyn nhw gyrraedd Cymru a Rhondda Cynon Taf.

Mae'r Cyngor yma'n ymrwymo i flaenoriaethu a thargedu cymorth holl wasanaethau'r Cyngor ar gyfer unrhyw bobl o Wcráin sydd am ymgartrefu yn Rhondda Cynon Taf.” 

Penderfynodd y Cyngor gefnogi'r cynnig uchod. Gofynnwyd cwestiwn ynghylch y potensial i'r Cyngor wneud cyfraniad corfforaethol at yr achos ar gyfer dinasyddion Wcráin a fyddai'n cynrychioli ewyllys da a haelioni trigolion RhCT.

 

PENDERFYNWYD dirprwyo'r mater i Swyddogion, gan drafod gydag Arweinwyr y Grwpiau, i gytuno ar y trefniant a'i gymeradwyo, yn amodol ar y Cyngor yn meddu ar y pwerau i wneud hynny.

 

135.

Cydnabyddiaeth a Diolch

Derbyn cydnabyddiaeth a diolch i’r Aelodau hynny nad ydynt yn sefyll i gael eu hail-ethol yn Etholiadau Llywodraeth Leol 5 Mai 2022.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Arweinwyr y Grwpiau gydnabyddiaeth a diolch i’r Aelodau hynny nad ydynt yn sefyll i gael eu hailethol yn Etholiadau Llywodraeth Leol ar 5 Mai 2022, sef:

 

Gr?p Llafur: Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol M. Forey, J. Rosser, G. Thomas, R. Turner, L. M. Adams, M. Griffiths, L. De Vet, M. Tegg (wedi ymddiswyddo'n barod), E. George, J. Harries, M. Fidler Jones, S. Powell, A. Davies-Jones, A. Calvert a S. Pickering.

 

Gr?p Plaid Cymru: Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol G. R. Davies, E. Griffiths, M. Weaver, J. Cullwick, H. Fychan AS, E. Stephens ac A. Chapman.

 

Gr?p y Ceidwadwyr: Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J. James AS

 

136.

Datganiadau

Yn unol â Rheol 2 o Weithdrefn Llywodraethu Agored Cyfarfodydd y Cyngor, derbyn datganiadau gan Arweinydd y Cyngor a/neu Gynghorwyr sy'n Aelodau Portffolio o'r Cabinet:

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe wnaeth Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan, ddatganiad mewn perthynas â phecyn buddsoddi sylweddol gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i'r argyfwng costau byw. Nododd fod y manylion wrthi'n cael eu cadarnhau a byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet yn ystod yr wythnosau nesaf. Cafodd yr Aelodau wybod bod y pecyn yn cael ei alw'n 'ad-daliad Treth y Cyngor' gan ddefnyddio bandiau Treth y Cyngor A-D er mwyn pennu pwy sy'n gymwys. Cyfanswm y pecyn i RCT fydd tua £15/16 miliwn a bydd yr arian yn cael ei dalu i drigolion cyn gynted ag sy'n bosibl.

 

137.

Cwestiynau gan yr Aelodau pdf icon PDF 437 KB

Derbyn cwestiynau'r Aelodau yn unol â Rheol 9.2 o Weithdrefn y Cyngor.

 

(Nodwch: Caniateir hyd at 20 munud ar gyfer cwestiynau.)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu y bydd cwestiwn 5 yn cael ei hepgor o ganlyniad i absenoldeb Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S. Pickering

1. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol G. Holmes i’r Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G. Caple:

“A wnaiff yr Aelod o'r Cabinet ddatganiad ar yr oedi o ran rhyddhau cleifion o'r ysbyty ac amlinellu pa waith y mae'r Cyngor yn ei wneud i helpu gyda hyn?”

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol Caple:

Ymatebodd y Cynghorydd Caple drwy nodi bod Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion yn parhau i hwyluso'r broses o ryddhau cleifion o'r adran damweiniau ac achosion brys trwy'r gwasanaeth Cadw'n Iach Gartref, sef 10 claf yr wythnos ar gyfartaledd. Mae hyn yn cyfateb i gyfartaledd o 23 claf yr wythnos os ydych chi'n cyfuno'r nifer yma â'r nifer o gleifion sy'n cael eu rhyddhau gan y garfan un pwynt mynediad a'r garfan achosion rhyddhau o'r ysbyty cymhleth. Ychwanegodd fod cyfarfodydd rheolaidd yn cael eu cynnal gyda'r Bwrdd Iechyd i archwilio prosesau rhyddhau cleifion mwy effeithiol ac adolygiadau achosion unigol. Er mwyn cefnogi parhad busnes, mae adran y Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion wedi paratoi ei gweithlu i roi cymorth allweddol.

Rhoddodd y Cynghorydd Caple wybod bod system mewngymorth o staff sy'n gweithio yn y gymuned wedi cael ei rhoi ar waith i gyflymu'r broses o ryddhau cleifion, hynny yw y rheiny sy'n gallu gadael ond sy'n aros am asesiadau neu gymorth pellach y mae modd eu darparu yn y gymuned, gan sicrhau bod pobl yn ddiogel ac yn cael gofal da gartref. Er bod hon yn broses gymhleth, mae'r holl sgiliau a meysydd megis therapyddion, cydlynwyr rhyddhau o'r ysbyty, therapyddion galwedigaethol, ymatebwyr symudol yn cael eu defnyddio i sicrhau bod y system yma mor gyflym ac effeithiol â phosibl.

Cwestiwn ategol gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol G. Holmes:

“Fyddai'r broblem gydag oedi o ran trosglwyddo llawer yn waeth ar gyfer ein cydweithwyr ym maes iechyd, gan waethygu'r heriau o ran capasiti y mae ein gwasanaethau iechyd yn eu hwynebu, gan gynnwys y gwasanaethau ambiwlans, oni bai am y dull rhagweithiol wedi'i fabwysiadu gan y Cyngor yma a Llywodraeth Leol yn gyffredinol?”

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol Caple:

Cytunodd y Cynghorydd Caple â sylwadau'r Cynghorydd Holmes a dywedodd y byddai'r Cyngor yn parhau i archwilio modelau gwahanol o ddarparu gwasanaeth ac i weithio gyda phartneriaid, yn enwedig y GIG, o ran arwain gwaith trawsnewid gwasanaethau drwy ddefnyddio mesurau atal ac ymyrryd. Mae'n bosibl y bydd hyn yn arwain at drosglwyddo rhai gwasanaethau i Lywodraeth Leol os bydd hynny o fudd i'r gwasanaeth. Yn y cyfamser, bydd y Cyngor yn parhau i weithio i gefnogi nifer uwch o bobl sydd ag anghenion mwy cymhleth gartref ac yn y gymuned yn ystod oriau gweithredu ychwanegol y gwasanaeth Cadw'n Iach Gartref. Bydd hefyd yn cefnogi'r derbyniadau osgoadwy i'r ysbyty a derbyniadau i'r ysbyty.

Roedd y Cynghorydd Caple yn dymuno cydnabod a gwerthfawrogi'n fawr waith caled ac ymrwymiad  ...  view the full Cofnodion text for item 137.

138.

Rhaglen Waith Y Cyngor 2021/22

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu mai dyma fyddai cyfarfod olaf y Cyngor, yn amodol ar anghenion busnes, gan y byddai'r cyfnod cyn yr etholiadau'n dechrau ar 24 Mawrth 2022. Rhoddodd wybod mai cyfarfod nesaf y Cyngor fyddai Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor ar 25 Mai 2022.

139.

Penodi Aelodau Lleyg ychwanegol ar gyfer y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio pdf icon PDF 375 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ei adroddiad i roi gwybod i'r Cyngor am benodi Aelodau Lleyg i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio'n ddiweddar. Mae hynny er mwyn sicrhau cydymffurfiad â'r gofyniad deddfwriaethol wedi'i nodi yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau Cymru 2021, sef rhaid i o leiaf traean o'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fod yn Aelodau Lleyg.

 

Nododd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod Pwyllgor Penodiadau'r Cyngor wedi bod yn unfrydol o ran penderfynu penodi Mr Melvyn Jehu a Mr Julius Roszkowski. Trwy gydol ei adroddiad, ceisiodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth gadarnhad penderfyniad y Pwyllgor. Bydd yr Aelodau Lleyg yn cael eu penodi am dymor yn y swydd tan yr Etholiadau Llywodraeth Leol arferol nesaf (wedi'u trefnu ar gyfer mis Mai 2027 ar hyn o bryd).

 

Ar ôl trafod yr adroddiad, PENDERFYNWYD:

 

 

1.  Nodi'r trefniadau sydd yn yr adroddiad, sy'n ymwneud â phenodi Aelodau Lleyg newydd i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio am dymor yn y swydd sy'n cychwyn o ddechrau Blwyddyn 2022/23 y Cyngor tan yr Etholiadau Llywodraeth Leol arferol nesaf; a

 

2.  Cadarnhau penderfyniad y Pwyllgor Penodiadau mewn perthynas â phenodi

Mr Melvyn Jehu a Mr Julius Roszkowski'n Aelodau Lleyg i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

 

140.

Datganiad 2022/23 y Cyngor ar Bolisi Cyflogau pdf icon PDF 502 KB

Derbyn Adroddiad ar y Cyd Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol ag Adran 38(1) o Ddeddf Lleoliaeth 2011, rhoddodd y Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol wybodaeth i'r Aelodau am Ddatganiad 2022/23 y Cyngor ar Bolisi Cyflogau.

 

Ar ôl trafodaeth, ymatebodd y Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol i gwestiwn mewn perthynas â phroses ailraddio'r Cyngor ar gyfer staff. Nododd fod trafodaethau priodol wedi cael eu cynnal gyda'r Undebau Llafur a rhoddwyd gwybod iddyn nhw ddefnyddio'r Polisi Ailraddio y cytunwyd arno ac adolygu'r disgrifiadau swyddi dan sylw.

 

PENDERFYNODD yr Aelodau gymeradwyo'r Datganiad ar Bolisi Cyflogau, sef Atodiad A yr adroddiad. 

141.

Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig 2022-2037 pdf icon PDF 507 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu ei adroddiad i'r Aelodau, a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddyn nhw am gynnydd Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Diwygiedig 2020-2030. Nododd y Cyfarwyddwr ei fod wedi ceisio cymeradwyaeth statudol angenrheidiol y Cyngor i atal gwaith paratoi Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig presennol 2020-2030 a dechrau paratoi CDLl diwygiedig newydd ar gyfer 2022-2037, a hynny gan nad yw'r Cyngor wedi bodloni'r Cytundeb Cyflawni ffurfiol y cytunwyd arno'n flaenorol.

 

Tynnodd y Cyfarwyddwr sylw Aelodau at dabl un yn yr adroddiad sy'n crynhoi amserlen y CDLl diwygiedig newydd a nododd fod manylion y diwygiadau wedi'u rhoi i'r Cabinet ac i Aelodau trawsbleidiol Gr?p Llywio'r CDLl diwygiedig.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD:

 

1. Cymeradwyo dod â gwaith paratoi Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig 2020-2030 i ben.

 

2.  Cymeradwyo'r cynnig i ddechrau ar Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig newydd gyda chyfnod estynedig (2022-2037).

 

3.  Cymeradwyo'r Cytundeb Cyflawni sy'n nodi'r Cynllun Cyfranogiad Cymunedol ac amserlen ar gyfer paratoi'r CDLl diwygiedig newydd arfaethedig ar gyfer 2022-2037. Dyma Atodiad 1 yr adroddiad yma.

 

4.  Cymeradwyo'r broses i swyddogion geisio cytundeb angenrheidiol Llywodraeth Cymru i ddechrau'n ffurfiol ar waith paratoi CDLl Diwygiedig 2022-2037 yn unol â'r Cytundeb Cyflawni.

 

142.

Strategaeth Cyllideb Refeniw 2022/23 pdf icon PDF 527 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol ei adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth am y setliad llywodraeth leol terfynol ar gyfer 2022/23 ac yn nodi argymhellion y Cabinet mewn perthynas â Chyllideb Refeniw'r Cyngor a lefel Treth y Cyngor ar gyfer y flwyddyn sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2023.

 

Nododd y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol fod dau gam yr ymgynghoriad wedi'u cynnal, gyda'r ail gam yn canolbwyntio'n benodol ar y strategaeth gyllideb arfaethedig. Nododd y Cyfarwyddwr i'r ymgynghoriad gael ei gynnal rhwng 28 Ionawr 2022 a 13 Chwefror 2022 a bod yr adborth a ddaeth i law yn rhan o'r broses ymgynghori, ynghyd ag adborth y Pwyllgor Craffu – Cyllid a Chyflawniad, Fforwm Cyllideb Ysgolion a'r Cydbwyllgor Ymgynghori, wedi'i atodi i'r adroddiad.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol wybod i'r setliad

llywodraeth leol terfynol ddod i law ar 1 Mawrth 2022.  Ar ôl ystyried

y gofyniad cyllideb diweddaraf a'r cynnydd dros dro o 8.4% yn y setliad,

yn ogystal â sylfaen drethu ddiweddaraf y Cyngor, y bwlch oedd yn weddill yn y  

gyllideb oedd £0.229 miliwn. 

 

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol gynigion y strategaeth gyllideb a thynnodd sylw Aelodau at dabl 1 yn adran 10 o'r adroddiad. Roedd crynodeb o'r goblygiadau, gan gynnwys y gostyngiad arfaethedig yn lefel y cynnydd yn Nhreth y Cyngor a chyflawni arbedion effeithlonrwydd. Mae modd gwrthbwyso'r bwlch sy'n weddill yn y gyllideb, sef £963,000, trwy ddyrannu o'r gronfa cyllid pontio wrth gefn sydd eisoes wedi'i hailgyflenwi, sef £4.6 miliwn. Mae hyn yn arwain at gyllideb gytbwys ar gyfer y flwyddyn nesaf, sef £566.792 miliwn.

 

I grynhoi, rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod bod angen i'r Cyngor reoli unrhyw oblygiadau parhaus o ran costau o ganlyniad i'r pandemig gan na fydd Cronfa Caledi Llywodraeth Cymru ar gael y flwyddyn nesaf. Bydd angen i'r Cyngor wneud hynny drwy ddefnyddio'i gyllideb sylfaenol ac unrhyw gronfeydd wrth gefn sydd ar gael i bontio unrhyw oblygiadau ychwanegol parhaol o ran cost i'r gyllideb sylfaenol dros y tymor canolig.

 

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD:

 

 1. Nodi'r datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol (Rebecca Evans AS) a'r tabl ar setliad llywodraeth leol terfynol 2022/2023, yn Atodiad 1 i'r adroddiad;

 

2. Nodi'r goblygiadau i'r Cyngor a'r bwlch sy'n weddill yn y gyllideb fel sydd wedi'i nodi yn adran 5;

 

 3. Cytuno ar gynnydd o 1.00% yn Nhreth y Cyngor ar gyfer 2022/23;

 

 4. Cytuno ar y cynnydd yng Nghyllideb Grynswth yr Ysgolion fel sydd wedi'i nodi yn adran 8;

 

5. Cytuno ar gynigion y strategaeth gyllideb fel sydd wedi'u nodi ym mharagraffau 10.3(a) i 10.3(i);

 

 6. Cytuno i ddefnyddio'r 'Gronfa Gweddnewid Gwasanaeth a Chynllunio Ariannol Tymor Canolig Wrth Gefn' fel arian pontio, sef cyfanswm o £0.963 miliwn ar gyfer 2022/23;

 

7. Cymeradwyo Tablau 3 a 4 yn Adran 13 yr adroddiad yn sail ar gyfer dyrannu adnoddau i Gyllidebau Ysgolion Unigol, i Wasanaethau eraill y Cyngor, ac i fodloni gofynion ariannu corfforaethol y Cyngor; a

 

8. Cytuno ar gyllideb gyffredinol y Cyngor ar gyfer 2022/23  ...  view the full Cofnodion text for item 142.

143.

Penderfyniad Treth y Cyngor 2022/2023 pdf icon PDF 330 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod bod yr adroddiad yma'n nodi'r penderfyniad ffurfiol angenrheidiol i bennu lefel Treth y Cyngor y flwyddyn nesaf, gan gynnwys lefelau praeseptau Cynghorau Cymuned a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, a hynny ar ôl cytuno ar gyllideb refeniw y Cyngor Bwrdeistref Sirol ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2023, a'r cynnydd o 1.00% yn Nhreth y Cyngor.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod i'r Cyngor llawn am gadernid y gyllideb a digonolrwydd y cronfeydd wrth gefn, fel sydd wedi'i nodi ym mharagraff 9 yr adroddiad. Trwy wneud hynny, ailddatganodd na fydd Cronfa Caledi Llywodraeth Cymru yn parhau, gan nodi bod y Cyngor eisoes yn cynnwys cyfraniad o £0.5 miliwn at gronfeydd wrth gefn y gronfa gyffredinol yn y gyllideb sylfaenol er mwyn ailgyflenwi lefelau i'r lefel isafswm o £10 miliwn dros y tymor canolig.

 

Ar ôl trafod yr adroddiad, PENDERFYNWYD:

 

1. Nodi lefel y praesept gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar gyfer De Cymru;

 

2. Nodi lefel Praeseptau y Cyngor Cymuned, fel sydd wedi'i nodi yn Atodiad 1;

 

3.  Pasio'r penderfyniadau ffurfiol Treth y Cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dod i ben ar 31 Mawrth, 2023, fel sydd i'w gweld yn Atodiad 2;

 

4. Nodi fy sylwadau am gadernid yr amcangyfrifon a digonolrwydd cronfeydd ariannol arfaethedig a nodir ym mharagraff 9.2.

 

(Noder: Yn ystod y drafodaeth, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud:

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G. Thomas – "Rwy'n aelod o Banel Heddlu a Throseddu De Cymru"

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R. Lewis – "Rwy'n aelod o Banel Heddlu a Throseddu De Cymru"

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M. Powell – “Rwy'n aelod o Gyngor Tref Pontypridd”

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S. Belzak – “Rwy'n aelod o Gyngor Tref Pontypridd”

(Nododd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu y byddai datganiad cyffredinol o fuddiannau personol yn cael ei gofnodi ar gyfer aelodau o Gynghorau Tref a Chynghorau Cymuned).

 

(Nodwch: Roedd Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol L. Hooper, S. Trask a S. Belzak yn dymuno cofnodi eu bod wedi pleidleisio yn erbyn yr argymhellion)

 

144.

Rhaglen Gyfalaf 2022/23 - 2024/25 pdf icon PDF 343 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol Raglen Gyfalaf arfaethedig y Cyngor ar gyfer 2022/23 i 2024/25, ar ôl derbyn y setliad llywodraeth leol terfynol ar gyfer 2022/23.

 

 

Ar ôl trafod yr adroddiad, PENDERFYNWYD:

 

1.  Sylwi ar fanylion setliad llywodraeth leol terfynol 2022/23 ar gyfer gwariant cyfalaf, yn Atodiad 1;

 

2.   Cytuno ar y broses ailddyrannu arfaethedig o adnoddau presennol, a dyrannu adnoddau newydd, fel y nodir ym mharagraff 5;

 

3.  Cytuno i ddyrannu'r cyllid wedi'i nodi yn yr adroddiad ar gyfer y blaenoriaethau buddsoddi fel y nodir ym mharagraff 6.2;

 

4.    Cytuno ar y rhaglen tair blynedd ‘graidd’ arfaethedig, yn Atodiad 2;

 

5.  Cytuno ar y Rhaglen Gyfalaf tair blynedd arfaethedig gyfan, yn Atodiad 3 (a) i (e), sy'n cynnwys y cyllid nad yw'n gyllid craidd:

 

·       Benthyca darbodus i gefnogi Cynlluniau Cymunedau Dysgu Cynaliadwy (Ysgolion yr 21ain Ganrif yn flaenorol) a Chynlluniau Gwella Priffyrdd;

·       Grantiau cyfalaf ar gyfer cynlluniau penodol;

·       Cyfraniadau trydydd parti;

·       Adnoddau ychwanegol y Cyngor a gafodd eu dyrannu'n flaenorol i gefnogi cynlluniau sy'n bodoli eisoes a blaenoriaethau buddsoddi'r Cynllun Corfforaethol; 

·       Blaenoriaethau buddsoddi sydd wedi'u nodi ym mharagraff 6.2.

 

(Noder: Roedd Aelodau Gr?p Annibynnol RhCT yn dymuno cofnodi eu bod wedi pleidleisio yn erbyn y mater:

Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol M. Powell, L. Walker, P. Howe, W. Jones ac W. Owen.

Roedd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S. Belzak hefyd yn dymuno cofnodi ei fod wedi pleidleisio yn erbyn y mater).

 

145.

Strategaeth Reoli'r Trysorlys pdf icon PDF 467 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

 

 

 

 

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol ei adroddiad er mwyn nodi:

 

·        Strategaeth Rheoli'r Trysorlys y Cyngor ar gyfer 2022/23;

·        Strategaeth Fuddsoddi ar gyfer 2022/23;

·        Dangosyddion y Trysorlys ar gyfer 2021/22 (gwirioneddol hyd yma) a 2022/23, 2023/24 a 2024/25; a

·        Datganiad Polisi Darpariaeth Isafswm Refeniw.

 

 Ar ôl trafod yr adroddiad, ymatebodd y Cyfarwyddwr Cyllid a  Gwasanaethau Digidol i gwestiwn am waith Rheoli'r Trysorlys a buddsoddi'r Cyngor a chysylltiadau â Rwsia. Nododd fod y Cyngor yn benthyca o'r Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus (PWLB) (Llywodraeth y DU) a bod ei fuddsoddiadau gyda sefydliadau wedi'u cymeradwyo gan Lywodraeth y DU a'r swyddfa rheoli dyledion.  Dywedodd fod datganiad ar wefan y Gronfa Bensiwn yn nodi sefyllfa'r gronfa bensiwn sy'n adlewyrchu sefyllfa cronfeydd Pensiwn Cymru gyfan (a gafodd ei hadrodd i Bwyllgor y Gronfa Bensiwn hefyd).

 

PENDERFYNWYD:

 

 

1. Cymeradwyo'r Strategaeth Rheoli'r Trysorlys, Strategaeth Fuddsoddi, Dangosyddion y Trysorlys, a Datganiad Polisi Darpariaeth Isafswm Refeniw fel y nodir yn yr adroddiad;

 

2.   Cymeradwyo'r Cymalau Rheoli'r Trysorlys diweddaraf (Atodiad 1).

 

 

 

 

 

 

 

 

 

146.

Adroddiad Strategaeth Gyfalaf 2022/23 pdf icon PDF 400 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol sy'n rhoi trosolwg o sut mae gwariant cyfalaf, ariannu cyfalaf a gwaith rheoli'r trysorlys yn cyfrannu at ddarparu gwasanaethau'r Cyngor, ynghyd â throsolwg o'r risg gysylltiedig, sut y caiff hynny ei reoli a'r goblygiadau o ran cynaliadwyedd ariannol yn y dyfodol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr y byddai'r adroddiad yma ac adroddiad Rheoli'r Trysorlys y Cyngor yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor Craffu – Cyllid a Chyflawniad.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r adroddiad Strategaeth Gyfalaf sy'n ymgorffori'r Dangosyddion Darbodus.

 

147.

Rhaglen Gyfalaf Cymunedau Dysgu Cynaliadwy (Ysgolion yr 21ain Ganrif Gynt) – Ysgol Gynradd Gymraeg Newydd yn Rhydfelen pdf icon PDF 247 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol ei adroddiad a geisiodd gymeradwyaeth y Cyngor:

 

·     Ar gyfer buddsoddiad cyfalaf o £14.183 miliwn ar gyfer ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd yn Rhydfelen;

·     I ariannu'r prosiect trwy grant cyfalaf Band B Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru (Ysgolion yr 21ain Ganrif yn flaenorol) ac i ariannu cyfraniad y Cyngor trwy fenthyca, gan ddefnyddio ei bwerau o dan y Cod Darbodus.

 

Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:

 

1. Cytuno i gynnwys ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd yn Rhydfelen yn y rhaglen gyfalaf am gyfanswm o £14.183 miliwn;

 

2. Cytuno y caiff y gost gyfalaf net i'r Cyngor, sef £4.964 miliwn, ei ariannu trwy fenthyca, gan ddefnyddio pwerau'r Cyngor o dan y Cod Darbodus, a chynnwys y gost refeniw flynyddol, sef £0.195 miliwn, yng Nghynllun Ariannol Tymor Canolig y Cyngor.

148.

Rhybudd o Gynnig pdf icon PDF 221 KB

17A Trafod Rhybudd o Gynnig sydd wedi’i gyflwyno yn enwau Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol: W. Lewis, S. Evans, L. M. Adams, J. Barton, D. R. Bevan, H. Boggis, J. Bonetto, S. Bradwick, J. Brencher, A. Calvert, G. Caple, A. Crimmings, L. De- Vet, J. Edwards, J. Elliott, A. Fox, M Griffiths, G. Jones, M. Fidler Jones, M. Forey, E. George, J. Harries, G. Holmes, G. Hopkins, W. Lewis, R. Lewis, C. Leyshon, A. Morgan, S. Morgans, M. A. Norris, D. Owen-Jones, S. Pickering, S. Powell, S. Rees, A Roberts, J. Rosser, G. Stacey, G. Thomas, W. Treeby, R. K. Turner, M. Webber, D. Williams, R. Williams,  T. Williams, R. Yeo:

Mae’r Cyngor yma’n nodi ymrwymiad a gafodd ei wneud pan drafododd Llywodraeth y DU ymadael â’r Undeb Ewropeaidd i ddarparu cyllid sy’n cyfateb i’r hyn a ddarparwyd gan yr Undeb Ewropeaidd i ardaloedd lleol a derbyniodd y sicrwydd gan Weinidogion y DU na fyddai Cymru yn colli un geiniog o gyllid yr UE o ganlyniad i'r broses hon. 

Yn ôl canfyddiadau Pwyllgor Trysorlys trawsbleidiol diweddar T?'r Cyffredin mewn adroddiad ar Gyllideb ac Adolygiad o Wariant yr Hydref ym mis Hydref, bydd gostyngiad o 40% yng ngwerth y Gronfa Ffyniant Gyffredin fesul blwyddyn, o'i chymharu â chynlluniau ariannu yr UE y mae'n eu disodli.  Yn yr adroddiad, mynegwyd syndod bod “size of the Fund is being reduced to such an extent”.

I roi hyn yn ei gyd-destun, gwerth rhaglen Cronfa Strwythurol yr UE oedd £2.5 biliwn y flwyddyn a derbyniodd Cymru gyfran anghyfartal o'r cyllid hwn, sef tua £400 miliwn y flwyddyn, neu bedair gwaith yn fwy na chyfartaledd y DU fesul person. Ym mis Tachwedd, tynnodd Llywodraeth Cymru sylw at y ffaith bod y £46 miliwn y byddai Cymru yn ei dderbyn trwy'r Gronfa Adfywio Cymunedol – 'rhagflaenydd' y Gronfa Ffyniant Gyffredin – yn llawer llai na'r swm a gafodd ei addo, ac y byddai unrhyw swm sy'n llai na £375 miliwn o gyllid newydd y flwyddyn gan Lywodraeth y DU yn methu â diwallu'r ymrwymiad hwnnw.

Ar ben hynny, mae'r oedi mawr o ran sefydlu rhaglen Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU wedi arwain at roi unigolion agored i niwed mewn perygl o ddiweithdra hirdymor oherwydd y toriadau ac oedi.

Felly mae'r Cyngor hwn yn:

  • Cydnabod y cyfraniadau hanfodol a ddarparwyd gan Gronfeydd Strwythurol yr UE ar gyfer rhanbarth Gorllewin Cymru a'r Cymoedd yn benodol.

 

  • Galw ar Lywodraeth y DU i gywiro ei haddewid i ddisodli cyllid yr Undeb Ewropeaidd yn llawn.

Ac yn penderfynu:

  • Gofyn i Arweinydd y Cyngor ysgrifennu at Ganghellor y Trysorlys a'r Prif Weinidog i gyfleu barn y Cyngor hwn a gofyn iddyn nhw fynd i'r afael â'r gwahaniaeth yn y cyllid o dan y Gronfa Ffyniant Gyffredin ar unwaith.
  • Gofyn i’n Haelodau o’r Senedd ac Aelodau Seneddol lleol gefnogi’r hyn y mae’r Cyngor hwn yn galw amdano i fynd i’r afael â’r gwahaniaeth hwn yn y cyllid.
  • Gofyn i’r Cyngor rannu ymateb y Prif Weinidog gyda chynrychiolwyr y Cyngor hwn.

 

 

17B Trafod Rhybudd o  ...  view the full Agenda text for item 148.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

17A Trafod Rhybudd o Gynnig sydd wedi’i gyflwyno yn enwau Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol: W. Lewis, S. Evans, L. M. Adams, J. Barton, D. R. Bevan, H. Boggis, J. Bonetto, S. Bradwick, J. Brencher, A. Calvert, G. Caple, A. Crimmings, L. De- Vet, J. Edwards, J. Elliott, A. Fox, M Griffiths, G. Jones, M. Fidler Jones, M. Forey, E. George, J. Harries, G. Holmes, G. Hopkins, W. Lewis, R. Lewis, C. Leyshon, A. Morgan, S. Morgans, M. A. Norris, D. Owen-Jones, S. Pickering, S. Powell, S. Rees, A Roberts, J. Rosser, G. Stacey, G. Thomas, W. Treeby, R. K. Turner, M. Webber, D. Williams, R. Williams, T. Williams R. Yeo:

 

Mae’r Cyngor yma’n nodi ymrwymiad a gafodd ei wneud pan drafododd Llywodraeth y DU ymadael â’r Undeb Ewropeaidd i ddarparu cyllid sy’n cyfateb i’r hyn a ddarparwyd gan yr Undeb Ewropeaidd i ardaloedd lleol a derbyniodd y sicrwydd gan Weinidogion y DU na fyddai Cymru yn colli un geiniog o gyllid yr UE o ganlyniad i'r broses hon. 

Yn ôl canfyddiadau Pwyllgor Trysorlys trawsbleidiol diweddar T?'r Cyffredin mewn adroddiad ar Gyllideb ac Adolygiad o Wariant yr Hydref ym mis Hydref, bydd gostyngiad o 40% yng ngwerth y Gronfa Ffyniant Gyffredin fesul blwyddyn, o'i chymharu â chynlluniau ariannu yr UE y mae'n eu disodli.  Yn yr adroddiad, mynegwyd syndod bod “size of the Fund is being reduced to such an extent”.

I roi hyn yn ei gyd-destun, gwerth rhaglen Cronfa Strwythurol yr UE oedd £2.5 biliwn y flwyddyn a derbyniodd Cymru gyfran anghyfartal o'r cyllid hwn, sef tua £400 miliwn y flwyddyn, neu bedair gwaith yn fwy na chyfartaledd y DU fesul person. Ym mis Tachwedd, tynnodd Llywodraeth Cymru sylw at y ffaith bod y £46 miliwn y byddai Cymru yn ei dderbyn trwy'r Gronfa Adfywio Cymunedol – 'rhagflaenydd' y Gronfa Ffyniant Gyffredin – yn llawer llai na'r swm a gafodd ei addo, ac y byddai unrhyw swm sy'n llai na £375 miliwn o gyllid newydd y flwyddyn gan Lywodraeth y DU yn methu â diwallu'r ymrwymiad hwnnw.

Ar ben hynny, mae'r oedi mawr o ran sefydlu rhaglen Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU wedi arwain at roi unigolion agored i niwed mewn perygl o ddiweithdra hirdymor oherwydd y toriadau ac oedi.

Felly mae'r Cyngor hwn yn:

  • Cydnabod y cyfraniadau hanfodol a ddarparwyd gan Gronfeydd Strwythurol yr UE ar gyfer rhanbarth Gorllewin Cymru a'r Cymoedd yn benodol.

 

  • Galw ar Lywodraeth y DU i gywiro ei haddewid i ddisodli cyllid yr Undeb Ewropeaidd yn llawn.

Ac yn penderfynu:

 

 

Yn y  ...  view the full Cofnodion text for item 148.

149.

Rheol Gweithdrefn 8 y Cyngor

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD parhau â'r cyfarfod yn unol â Rheol Gweithdrefn 8 y Cyngor, er mwyn trafod gweddill yr eitemau ar yr agenda a pharhau â busnes y Cyngor.

 

 

 

150.

Rhybudd o Gynnig

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

17B Trafod Rhybudd o Gynnig sydd wedi’i gyflwyno yn enwau Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol: R. Williams,  A. Fox, L. M. Adams, J. Barton, D. R. Bevan, H. Boggis, J. Bonetto, S. Bradwick, J. Brencher, A. Calvert, G. Caple, A. Crimmings, A. Davies-Jones, L. De- Vet, J. Edwards, J. Elliott, S. Evans, M Griffiths, G. Jones, M. Fidler Jones, M. Forey, E. George, J. Harries, G. Holmes, G. Hopkins, W. Lewis, R. Lewis, C. Leyshon, A. Morgan, S. Morgans, M. A. Norris, D. Owen-Jones, S. Pickering, S. Powell, S. Rees, A Roberts, J. Rosser, G. Stacey, G. Thomas, W. Treeby, R. K. Turner, M. Webber, D. Williams, T. Williams, R. Yeo:

Gall colli anwylyd fod yn un o'r profiadau mwyaf trawmatig a thrallodus i unigolyn, yn ogystal â'r baich ychwanegol posibl o ddelio â'r materion personol cysylltiedig.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn benodol, mae teuluoedd a ffrindiau sydd wedi colli anwyliaid wedi profi heriau pellach, heb eu tebyg yn sgil cyfyngiadau iechyd cyhoeddus a oedd mewn grym mewn perthynas ag angladdau ac achlysuron teuluol ar wahanol adegau wrth i'r wlad fynd i'r afael â phandemig y Coronafeirws.

Yn anffodus, gall yr heriau fod yn fwy yn achos teuluoedd a ffrindiau'r rheiny sydd wedi marw tra oedden nhw'n rhentu eiddo. Dim ond un wythnos y mae rhai cymdeithasau tai yn ei chynnig er mwyn clirio eiddo'r unigolyn sydd wedi marw.

Serch hynny, mae modd ymestyn yr amserlen hon yn unol â phwerau disgresiwn cymdeithasau tai a byddai hyn, heb os, yn lleihau'r straen a gofid ar deulu a ffrindiau'r unigolyn sydd wedi marw.

Mae'r Cyngor yma, felly, yn penderfynu:

  • Gofyn i Arweinydd y Cyngor ysgrifennu i Gymdeithasau Tai lleol yn Rhondda Cynon Taf i ofyn iddyn nhw ystyried arfer eu pwerau disgresiwn i roi o leiaf 2 wythnos yn dilyn angladd eu perthnasau, i glirio eiddo preswylydd sydd wedi marw yn ddiweddar.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD mabwysiadu'r Rhybudd o Gynnig.

 

(Nodwch: Datganodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J. Brencher fuddiant personol – “ Mae fy mab yn Gyfarwyddwr Trafnidiaeth Cymru”)

 

151.

Trafod cadarnhau'r cynnig isod yn benderfyniad

“Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod eitem 19, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

152.

Trefniant Ariannu ar gyfer Gwaith Seilwaith Trafnidiaeth (Rheilffyrdd)

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol sy'n nodi'r cyllid arfaethedig i'w ddarparu gan Lywodraeth Cymru i'r Cyngor ar gyfer gwaith seilwaith trafnidiaeth.

 

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol drosolwg o'i adroddiad i'r Aelodau a oedd yn cynnwys gwybodaeth eithriedig.

 

Ar ôl trafod yr adroddiad, PENDERFYNWYD:

 

1.  Cytuno ar egwyddorion y trefniant ariannu a derbyn y cynnig o gyllid fel sydd wedi'i nodi yn yr adroddiad (yn amodol ar ddod â'r materion ym mharagraff 4.10 i ben);

2.    Awdurdodi swyddogion i symud cytundebau cyfreithiol pellach angenrheidiol yn eu blaenau, eu trafod a'u cwblhau, gan sicrhau bod safbwynt y Cyngor yn cael ei amddiffyn yn llwyr; a

3.    Nodi a chytuno bod Dangosyddion Darbodus a Rheoli'r Trysorlys y Cyngor yn cael eu diweddaru i adlewyrchu'r trefniant.

 

(Nodwch: Roedd Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol L. Hooper a S. Trask yn dymuno cofnodi eu bod wedi pleidleisio yn erbyn yr argymhellion uchod).