Agenda a Chofnodion

Agenda a Chofnodion

Cyswllt: Julia Nicholls - Democratic Services  01443 424098

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

104.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol A Davies-Jones, J Davies, M Fidler Jones, G Jones, G Hopkins, K Morgan, S Pickering, S Powell, S Rees-Owen, W Owen a M Tegg.

 

105.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â'r Côd Ymddygiad.

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agenda y mae eu buddiant yn ymwneud ag e a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 

  1. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant personol sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant personol canlynol eu gwneud yngl?n â'r agenda:

 

 

Eitem 4 ar yr Agenda – Siaradwr Cyhoeddus

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Powell – “Mae Parc Ynysangharad yn fy ward, ac rydw i wedi bod yn galw am barc sglefrio ar gyfer y parc”.

 

Eitem 8 ar yr Agenda - Cyllideb Refeniw 2022/23 - Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol P Jarman - "Rwyf wedi cael gollyngiad gan y Pwyllgor Safonau i siarad a phleidleisio ar faterion yn ymwneud â’r gyllideb bresennol a'r gyllideb arfaethedig ar gyfer 2022/23.

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Powell – “Mae fy ngwraig i'n gweithio i'r awdurdod”.

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Harries – “Mae fy Nhad yn cael ei gyflogi gan yr awdurdod lleol”.

 

Cafodd datganiad o fuddiant personol pellach ei wneud nes ymlaen yn y cyfarfod (gweler Cofnod Rhif 113) gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol L Walker – “Rwy’n datgan buddiant gan fy mod i'n aelod o Gyngor Cymuned Llanilltud Faerdref”

 

 

Eitem 8 ar yr Agenda - Adroddiad Blynyddol Cronfa Deddf yr Eglwys yng Nghymru 2020/21

 

Datganodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Bevan fuddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu – “Fi yw'r Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am weinyddu'r gronfa".

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Norris - "Rwyf yn aelod o fwrdd gr?p cymunedol, Ymddiriedolaeth Pentref Cambrian. Mae sôn amdano yn yr adroddiad"

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Lewis – “Cyfeirir at Ymddiriedolaeth Amgueddfa Cwm Cynon yn yr adroddiad, rydw i hefyd yn aelod o Gr?p Cyfeillion yr Amgueddfa”.

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Crimmings – “Rwy’n ymddiriedolwr i Gr?p Cyfeillion Parc Aberdâr, sydd wedi derbyn cyllid yn rhan o Ddeddf yr Eglwys yng Nghymru”.

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Rees – "Rwy'n Ymddiriedolwr i Gr?p Cyfeillion Parc Aberdâr, rydw i hefyd yn aelod o Gr?p Cyfeillion Amgueddfa Aberdâr".

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G R Davies –“Rwyf yn Ysgrifennydd Blaen-cwm yn Nhreherbert ac rwyf hefyd ar bwyllgor Clwb Tenis Cwm Rhondda, sydd wedi derbyn arian o’r gronfa”.

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Barton – “Rwy’n ymddiriedolwr ar Lyfrgell Cymuned Beddau a Th?-nant sydd wedi derbyn grant gan Ddeddf yr Eglwys yng Nghymru yn y gorffennol”

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Cullwick – “Rwy’n aelod o’r Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru”

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Bradwick – “Fi yw Ysgrifennydd Cymdeithas Rhandiroedd Maes-y-ffynnon yn Aberdâr, roedden ni wedi derbyn arian yn rhan o Ddeddf yr Eglwys yng Nghymru ychydig flynyddoedd yn ôl”.

 

 

Eitem 12 ar yr agenda - Gweithgor Trosolwg a Chraffu – Datblygu seilwaith trafnidiaeth ar gyfer y dyfodol yn Rhondda Cynon Taf

 

Cafodd datganiad o fuddiant personol pellach ei wneud nes ymlaen yn y cyfarfod (gweler Cofnod Rhif 117) gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol J James – “Rwyf wedi bod yn gweithio gyda Chymdeithas Twnnel Cwm Rhondda yn rhan o fy nyletswyddau yn y Senedd”

 

Eitem 8 ar yr Agenda – Rhybudd o Gynnig (B)

 

Cafwyd datganiad o fuddiant  ...  view the full Cofnodion text for item 105.

106.

Cyhoeddiadau

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd J Bonetto yn drist o gyhoeddi bod ei chyfnod hi fel Maer yn dod i ben a dywedodd y byddai gwybodaeth am ei helusennau a'r arian a godwyd yn cael ei chyhoeddi'n fuan. Mae hi'n edrych ymlaen at ymgymryd â'i rôl newydd fel Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant, gan adeiladu ar y gwaith gwella a buddsoddi a gyflawnwyd gan y Cynghorydd Rosser. Dymunodd y Cynghorydd Bonetto ddiolch i'r Arweinydd am roi'r cyfle iddi ymgymryd â'r swydd hon.

 

Cyhoeddodd y Cynghorydd S Bradwick y byddai’n dringo Pen Y Fan yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth ar gyfer yr elusen ac i gefnogi’r achos teilwng hwn.

 

Cyhoeddodd y Cynghorydd P Jarman farwolaeth cyn Brif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Cwm Cynon, Mr Tony Bessent Roberts OBE a thalodd deyrnged iddo trwy rannu rhai o’i lwyddiannau niferus megis derbyn rôl sydd ddim yn rôl cyfarwyddwr a chydnabod ei rôl yn rhan o hanes y T?r. Roedd y Cynghorydd Jarman yn dymuno anfon ei chydymdeimlad at ei deulu.

 

Roedd y Cynghorydd Sheryl Evans yn dymuno dweud diolch arbennig i garfanau casglu'r Cyngor a gwirfoddolwyr sy'n casglu sbwriel ar ran ei hetholwyr.

 

107.

Cofnodion pdf icon PDF 318 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfodydd y Cyngor a gynhaliwyd ar 24 Tachwedd 2021 (cyfarfod 5pm) a 15 Rhagfyr 2021 yn rhai cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNODD y Cyngor gymeradwyo cofnodion y cyfarfod rhithwir a gynhaliwyd ar 24 Tachwedd 2021 am 5pm a chofnodion y cyfarfod hybrid a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr 2021 yn rhai cywir.

 

108.

Cwestiynau gan y Cyhoedd pdf icon PDF 181 KB

Derbyn cwestiynau gan y cyhoedd yn unol â Rheolau Gweithdrefn Cyfarfodydd Cyngor Llywodraeth Agored.

 

Cofnodion:

Cafodd yr Aelodau wybod y byddai ymateb ysgrifenedig oddi wrth yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Gwasanaethau Treftadaeth, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Crimmings, yn cael ei ddarparu i Mr Marshman, a gyflwynodd y cwestiwn gan y cyhoedd.

 

109.

Datganiadau

Yn unol â Rheol 2 o Weithdrefn Llywodraethu Agored Cyfarfodydd y Cyngor, derbyn datganiadau gan Arweinydd y Cyngor a/neu Gynghorwyr sy'n Aelodau Portffolio o'r Cabinet:

 

 

Cofnodion:

Fel sydd eisoes wedi'i gyhoeddi, dywedodd yr Arweinydd y byddai'r newidiadau i Aelodaeth y Cabinet o dan Gynllun Dirprwyo'r Arweinydd yn dod i rym o 20 Ionawr 2022. Roedd yr Arweinydd yn falch o gyhoeddi y byddai'r Cynghorydd J Bonetto a'r Cynghorydd G Caple yn ymuno â'i Gabinet. Talodd deyrnged i'r Cynghorwyr G Hopkins a J Rosser am eu gwaith caled a'u hymroddiad i'r Cabinet a dymunodd bob dymuniad da i'r Cynghorydd Rosser gyda'i hymddeoliad yn dilyn ei chyhoeddiad.

 

Roedd yr Arweinydd wedi cydnabod y gwaith caled y mae'r Cynghorydd Rosser wedi'i wneud mewn perthynas â buddsoddiadau i wasanaethau addysg megis cynlluniau Ysgolion yr 21 Ganrif, ymgysylltu â phartneriaid eraill dros gyfnod o 7 blynedd a'r gwaith y mae'r Cynghorydd Hopkins wedi'i wneud o ran chwarae rôl allweddol wrth drawsnewid y gwasanaethau cymdeithasol ac arwain ar ddatblygu Gofal Ychwanegol yn RhCT, y buddsoddiad mwyaf ers sbel hir, yn ogystal â'r gefnogaeth y mae ef wedi'i rhoi i staff, rheolwyr a defnyddwyr y gwasanaethau gofal cymdeithasol drwy gydol y pandemig (fel y mae'r Cynghorydd Rosser wedi'i wneud).

 

Cyhoeddodd yr Arweinydd y bydd Cynllun Dirprwyo'r Arweinydd yn cael ei ddiweddaru a'i rannu â'r holl Aelodau maes o law.

 

110.

Cwestiynau gan yr Aelodau pdf icon PDF 542 KB

Derbyn cwestiynau'r Aelodau yn unol â Rheol 9.2 o Weithdrefn y Cyngor.

 

(Nodwch: Caniateir hyd at 20 munud ar gyfer cwestiynau.)

 

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan Gynghorydd G Jones a chafodd yr Aelodau wybod na fyddai cwestiwn 6 yn cael ei gyflwyno i Gadeirydd y Pwyllgor Craffu ar faterion Cyllid a Chyflawniad.

 

 

1. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Edwards i Arweinydd y Cyngor – Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan:

 

“All yr Arweinydd roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith gwella sy'n cael ei gyflawni ar geuffosydd Ynys-hir, yn enwedig ger Teras y Waun?”

 

Ymateb gan yr Arweinydd:

 

Dywedodd yr Arweinydd, yn dilyn arolwg o'r geuffos, y cwrs d?r agored a'r llinellau cwlfer caeedig, fod difrod sylweddol uwchlaw Trem y Faner. Cafodd gwaith leinio strwythurol gwerth dros £110,000 ei gwblhau yn ystod Haf 2021. Gosodwyd tyllau archwilio ychwanegol hefyd. Dechreuodd y gwaith ar y ddau gwrs d?r uwchlaw Teras y Waun ar ddiwedd yr Hydref ond bu oedi gyda'r gwaith oherwydd tywydd garw. Cadarnhaodd yr Arweinydd y byddai’r gwaith wedi’i gwblhau erbyn mis Mawrth 2022. Mae rhaglen gyfredol yn dangos buddsoddiad gwerth rhwng £175,000-£200,000 i ddatrys y problemau yn yr ardal. Mae'r rhaglen wedi'i hariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru yn dilyn Storm Dennis.

 

Nid oedd unrhyw gwestiwn ategol.

 

2. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol L. Walker i'r Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J. Rosser:

 

“All yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant amlinellu’r cynnydd sydd wedi’i wneud mewn perthynas â'r safle arfaethedig ar gyfer yr Ysgol Arbennig newydd yn RhCT a pha gamau sydd wedi’u cymryd, os o gwbl, o ran materion cyllid a'r broses adeiladu gan ystyried problemau capasiti parhaus mewn ysgolion arbennig? ”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Rosser

 

Dywedodd y Cynghorydd Rosser mai hwn fyddai ei chwestiwn olaf fel Aelod o'r Cabinet ac mae hi'n falch o'i gwaith buddsoddi mewn perthynas â chyfleusterau ysgolion arbennig a sicrhau cyllid ar gyfer datblygu safle ysgol newydd. Mae Rhaglen Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif y Cyngor wedi cael ei chymeradwyo gan Lywodraeth Cymru. Mae ysgol arbennig newydd wedi'i chynnwys yn rhan o'r rhaglen yma, mae cyllid hefyd wedi'i gynnwys yn rhan o'r buddsoddiad yn amodol ar gymeradwyo'r achos busnes angenrheidiol a'r broses graffu gan Lywodraeth Cymru. Cadarnhaodd y Cynghorydd Rosser fod y Cyngor bellach wedi cyrraedd y cam dichonoldeb, mae'r cynnydd yn unol ag amserlenni'r rhaglen Band B gyfredol.

 

Cwestiwn Ategol gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol L Walker

 

“All yr Aelod o'r Cabinet roi unrhyw wybodaeth o ran amserlenni a pha ymgynghoriadau sydd wedi’u cynnal gyda staff yr ysgol yngl?n â’r adeilad newydd hwn?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd J Rosser:

 

Dywedodd y Cynghorydd Rosser fod Swyddogion o fewn y Gyfarwyddiaeth Addysg yn rheoli’r galw am leoedd ysgol, yn unol â’r Cod Derbyniadau Ysgol 2013 a Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg Cymru 2018 a bod Swyddogion yn gweithio’n agos gyda’r holl Benaethiaid yn hyn o beth. Mae prosiectau i gynyddu nifer yr adeiladau ar y gweill mewn dwy ysgol, Ysgol Hen Felin ac Ysgol T? Coch a chwblhawyd addasiadau mewnol yn ddiweddar  ...  view the full Cofnodion text for item 110.

111.

Rhaglen Waith Y Cyngor 2021-2022

Cofnodion:

Cadarnhaodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu nad oedd unrhyw newidiadau i Raglen Waith y Cyngor 2021/22 sydd eisoes wedi'i mabwysiadu a'i chyhoeddi.  Bydd manylion y trefniadau ar gyfer Dadl Flynyddol yr Arweinydd yn cael eu rhannu cyn y cyfarfod a dywedodd y byddai cyfarfod y Cyngor ar 2 Mawrth 2022 yn cael ei ddileu o'r calendr.

 

112.

Archwilio Cymru – Crynodeb Archwilio Blynyddol 2021 (Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf) pdf icon PDF 272 KB

Derbyn adroddiad Archwilio Cymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Archwilio Cyflawniad, Archwilio Cymru, Grynodeb Archwilio Blynyddol RhCT ar gyfer 2020/21 a chadarnhaodd fod Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio'r Cyngor wedi trafod y mater.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Archwilio Cyflawniad at feysydd gwaith eraill a gafodd eu cwblhau gan Archwilio Cymru wrth ymateb i bandemig Covid-19. Mae'r rhain yn cynnwys y Gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu yng Nghymru, cyflenwad Cyfarpar Diogelu Personol ac adroddiad ynghylch cyflwyno rhaglen frechu Covid-19 yng Nghymru. Mae'r cynlluniau adfer ar draws yr awdurdodau lleol, sydd wedi'u cynnwys yn yr adroddiad, wedi arwain at gyfarfodydd rheolaidd gyda swyddogion i ddeall eu hymatebion a bydd eu cynlluniau adfer unigol yn fater parhaus. I gloi, rhoddwyd trosolwg o waith parhaus a gwaith arfaethedig Archwilio Cymru ar gyfer y dyfodol, megis astudiaeth genedlaethol ar gyfer lleihau allyriadau carbon, adfywio canol trefi ac adolygiad o faterion llywodraethu lefel uchel sy'n ymwneud â Phartneriaeth Iechyd Cwm Taf Morgannwg.

 

Wrth ymateb i ymholiad yngl?n â data cymharol mewn perthynas â chronfeydd ariannol wrth gefn y mae modd eu defnyddio sydd gan awdurdodau lleol eraill, cadarnhawyd y byddai Archwilio Cymru yn casglu ac yn darparu'r data hwn ar ôl y cyfarfod.

 

Yn dilyn trafodaeth mewn perthynas ag Adroddiad Crynodeb Archwilio Blynyddol RhCT ar gyfer 2020/21,  PENDERFYNWYD nodi'r wybodaeth sydd yn yr adroddiad.

 

113.

Cyllideb Refeniw 2022/23 - Setliad Llywodraeth Leol Arfaethedig pdf icon PDF 298 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhannodd y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol wybodaeth mewn perthynas â'r Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro ar gyfer 2022/23 a gyhoeddwyd ar 21 Rhagfyr 2021 gan gyfeirio at ei adroddiad a chyflwyno sylwadau cychwynnol ar effaith debygol y setliad dros dro ar ddarparu gwasanaethau'r Cyngor.

 

Rhannodd y Cyfarwyddwr y prif benawdau data o'r setliad â'r Aelodau fel sydd wedi'u nodi yn adran 4. Rhoddodd wybod am y cynnydd gwerth 9.4% (+£437M) ledled Cymru a bod disgwyl i adnoddau'r Cyngor yma gynyddu i 8.4% Mae lefelau setliad dangosol dros dro hefyd wedi'u cynnwys ar gyfer y 2 flynedd ddilynol ar gyfradd o 3.5% a 2.4% yn y drefn honno, sy'n awgrymu bod cyfnod mwy heriol o'n blaenau. Mae nifer o drosglwyddiadau i'r setliad hefyd wedi'u nodi yn adran 4 yn ogystal â gostyngiad gwerth £2.165miliwn o ran cyllid cyfalaf y Cyngor.

 

Mae'r setliad yn fwy cadarnhaol na'r hyn a gafodd ei gynllunio yn rhan o gynllun ariannol tymor canolig diweddaraf y Cyngor ac mae hefyd yn adlewyrchu sylfaen costau a phwysau cynyddol sylweddol ar wasanaethau'r Cyngor. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi dod â’r Gronfa Galedi i ben. Mae'r gronfa yma’n ad-dalu llywodraeth leol am gostau a cholledion incwm o ganlyniad i’r pandemig. Mae'r rhagamcanion yn nodi y bydd y cymorth gan y gronfa eleni'n cyfateb i £30miliwn. Bydd rhywfaint o'r cyllid yma ar gyfer risgiau ariannol allweddol y mae angen eu rheoli yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf a thu hwnt.

 

Mae’r gofynion cynyddol o ran y gyllideb wedi’u nodi ac mae'r rhain yn cynnwys cyllid i dalu am gynnydd mewn nifer o feysydd megis cyfraniadau YG cyflogwyr sy’n gysylltiedig ag Ardoll Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth y DU, talu’r Cyflog Byw Sylfaenol sydd wedi cynyddu o £9.50 i £9.90 yr awr i ddarparwyr gofal cymdeithasol ledled RhCT, costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg, chwyddiant ar draws y Cyngor a’r pwysau ar y gadwyn gyflenwi gan gynnwys costau gweithwyr, costau parhaus sy’n ymwneud â'r pandemig e.e. gwasanaethau gwastraff a chostau lleoliadau arbenigol y sector gofal cymdeithasol. Mae pob un o'r rhain wedi’u nodi yn nhabl 2 yr adroddiad, gan gyfateb i gynnydd net gwerth £11.7miliwn yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr fod effaith gyfunol y setliad dros dro a'r gofynion cyllideb sylfaenol wedi'u diweddaru wedi'u nodi yn Nhabl 3, yn erbyn bwlch yn y gyllideb o £9.2M adeg y cam cynllunio ariannol tymor canolig, gan dybio y byddai setliad o 4%. Mae'r gofyniad ychwanegol o ran y gyllideb, ar ôl eu gosod yn erbyn yr adnoddau ychwanegol a ddarparwyd ar lefel y setliad dros dro yn arwain at fwlch yn y gyllideb gwerth £229,000.

 

Yn dilyn ei grynodeb, dywedodd y Cyfarwyddwr y byddai'r Cabinet yn mynd ati i drafod ei strategaeth gyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn nesaf, gan gynnwys unrhyw arbedion effeithlonrwydd, lefelau Treth y Cyngor, adnoddau ar gyfer ysgolion a gwasanaethau eraill y Cyngor. Bydd trefniadau cynllunio ariannol tymor canolig y Cyngor yn parhau i fod yr  ...  view the full Cofnodion text for item 113.

114.

Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor pdf icon PDF 511 KB

Trafod adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol ei adroddiad a oedd yn nodi'r angen i fynd ati i drafod yn flynyddol a ddylid adolygu neu ddisodli Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor cyfredol y Cyngor (“CTRS”) a'r angen i fabwysiadu cynllun erbyn 31 Ionawr 2022.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr nad oes unrhyw newidiadau arfaethedig i'r cynllun a'r gostyngiadau lleol cyfredol; ac mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru eu rheoliadau i adlewyrchu'r cyfraddau uwchraddio mewn perthynas â'r newidiadau ehangach a chenedlaethol o ran budd-daliadau.  Cafodd y rheoliadau wedi'u diwygio eu trafod a’u cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ddoe.

 

Ar ôl trafod yr adroddiad, PENDERFYNWYD:

 

1. Nodi a gweithredu darpariaethau'r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig ac unrhyw newidiadau sydd i'w gwneud i'r rheoliadau hynny oherwydd y Rheoliadau Diwygio fel Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor lleol y Cyngor ar gyfer 2022/23, yn unol â'r gostyngiadau lleol y gall y Cyngor eu gweithredu;

2. Nodi canlyniad y broses ymgynghori a gynhaliodd y Cyngor ar y gostyngiadau lleol sy'n berthnasol i'r Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor ar gyfer 2022/23; a

3. Cadarnhau'r disgresiwn sy'n berthnasol ar gyfer Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor lleol y Cyngor ar gyfer 2022/23, fel sydd wedi'i nodi ym mharagraff 5.3 (Tabl 2) yr adroddiad.

 

115.

Adroddiad Blynyddol Cronfa Deddf Eglwys Cymru 2020/21 pdf icon PDF 79 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn ei adroddiad, ceisiodd y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol sêl bendith Cynghorwyr mewn perthynas â Datganiad o Gyfrifon Cronfa Deddf yr Eglwys yng Nghymru ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ar 31 Mawrth, 2021; a PHENDERFYNWYD:

 

 

1.  Cymeradwyo a nodi Adroddiad Blynyddol Cronfa Deddf yr Eglwys yng Nghymru a Datganiadau Ariannol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020/2021 (Atodiad 1);

 

2.  Cymeradwyo a nodi'r Llythyr o Gynrychiolaeth mewn perthynas â Chronfa Deddf yr Eglwys yng Nghymru (Atodiad 2 yr adroddiad); a

3.  Trafod adroddiad yr Archwiliwr Allanol (Atodiad 3).

 

116.

Penderfyniadau Brys o dan Swyddogaethau Gweithredol pdf icon PDF 163 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu.

 

Cofnodion:

Yn unol â Rheolau Gweithdrefn Trosolwg a Chraffu 17.2(a), cyflwynodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu drosolwg o'r Penderfyniadau Brys a gyflwynwyd gan Bwyllgor y Cabinet a Phenderfyniadau Dirprwyedig Swyddog Allweddol Brys a gyflwynwyd y tu allan i Bwyllgor y Cabinet yn ystod y cyfnod Hydref - Rhagfyr 2021.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD nodi'r wybodaeth

sydd wedi'i chynnwys yn yr adroddiad.

 

117.

Gweithgor Trosolwg a Chraffu – Datblygu seilwaith trafnidiaeth ar gyfer y dyfodol yn Rhondda Cynon Taf pdf icon PDF 417 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ganfyddiadau ac argymhellion y Gweithgor Trosolwg a Chraffu a sefydlwyd i fynd i'r afael â 'Datblygu seilwaith trafnidiaeth ar gyfer y dyfodol yn Rhondda Cynon Taf' yn dilyn y Rhybudd o Gynnig a drafodwyd gan y Cyngor yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar yr  18 Medi 2019. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu wedi cymeradwyo'r adroddiad a'r argymhellion yn ystod ei gyfarfod ar 9 Rhagfyr 2021.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu fod cynnydd wedi’i arafu gan Bandemig Covid-19, yn dilyn y cyfarfod cyntaf yn 2019 a’i fod wedi gofyn am sylwadau gan Aelodau Lleol a rhanddeiliaid. Roedd Aelodau'r Gweithgor wedi cydnabod bod llawer wedi newid ledled y map trafnidiaeth integredig a'r cyfeiriad a gafodd ei osod gan Lywodraeth Cymru sydd wedi'i adlewyrchu yn yr adroddiad terfynol. I gloi, roedd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wedi diolch i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Rheng Flaen, am y cymorth a roddodd i'r Gweithgor Craffu.

 

Wrth ymateb i ymholiad ynghylch Moratoriwm Llywodraeth Cymru, dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu fod y Gweithgor, ar y cyfan, yn cytuno bod y cynlluniau ffyrdd yn parhau i fod yn bwysig os oes buddion economaidd.

 

Cadarnhaodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Rheng Flaen fod cynllun ailagor Twnnel Cwm Rhondda yn cael ei drafod ar hyn o bryd. Ychwanegodd y byddai adroddiad mewn perthynas ag ymestyn y rheilffordd o Dreherbert i Dynewydd yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet erbyn diwedd y flwyddyn ariannol yn rhan o astudiaeth ehangach sy'n canolbwyntio ar wella cysylltiadau trafnidiaeth â'r Cymoedd Canol. Roedd y Cyfarwyddwr hefyd wedi sôn bod panel wedi cael ei sefydlu i adolygu trefniadau adeiladu ffyrdd ledled Cymru yn sgil y moratoriwm a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. Bydd adroddiad yn cael ei gyhoeddi gan y dirprwy weinidog cyn bo hir. Bydd yr adroddiad yn amlinellu'r cynlluniau ffyrdd sydd wedi cwblhau'r broses Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru. Ychwanegodd na fyddai Ffordd Lliniaru Rhondda Fach yn cael ei chynnwys yn yr adolygiad hwnnw ond bydd yn rhan o'r CDLl fel enghraifft o gynllun credadwy (a bydd yn cael ei brofi unwaith eto fel bod modd ei gynnwys yn rhan o gynlluniau yn y dyfodol). I gloi, cadarnhaodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Rheng Flaen na fyddai tomen Tylorstown yn cael effaith negyddol ar Ffordd Lliniaru Rhondda Fach, bydd yr ymgynghoriad cyn ymgeisio yn cychwyn yn fuan a chyfrifoldeb yr awdurdod lleol fydd dangos bod y cynllun yn un hyfyw.

 

       Yn dilyn sylwadau ychwanegol gan Gadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ynghylch y materion a godwyd, PENDERFYNWYD nodi casgliadau ac argymhellion y Gweithgor Craffu fel y'u nodir ym mharagraff 6 ac fel y'u cadarnhawyd gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu.

 

(Nodwch: Cafwyd datganiad o fuddiant personol gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol J James – “Rwyf wedi bod yn gweithio gyda Chymdeithas Twnnel Cwm Rhondda yn rhan o’m dyletswyddau yn y Senedd”

 

 

118.

Rhybuddion o Gynigion

TrafodRhybudd o Gynnig sydd wedi’i gyflwyno yn enwau Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol A. Roberts, W. Lewis, L. M. Adams, J. Barton, D. R. Bevan, H. Boggis, J. Bonetto, S. Bradwick, J. Brencher, A. Calvert, G. Caple, A. Crimmings, A. Davies-Jones, L. De- Vet, J. Edwards, J. Elliott, S. Evans, M Griffiths, G. Jones, M. Fidler Jones, M. Forey, A. Fox, E. George, J. Harries, G. Holmes, G. Hopkins, R. Lewis,  C. Leyshon, A. Morgan, S. Morgans, M. A. Norris, D. Owen-Jones, S. Pickering, S. Powell, S. Rees, J. Rosser, G. Stacey, M. Tegg, G. Thomas, W. Treeby, R. K. Turner, M. Webber, D. Williams, R. Williams, T. Williams,  R. Yeo:

Mae'rCyngor hwn yn cydnabod ymdrechion Llywodraeth Cymru i helpu i fynd i'r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru, o ran darparu cymorth ariannol i aelwydydd incwm isel, a hefyd drwy amrywiaeth o welliannau effeithlonrwydd ynni cartref drwy'r fenter Cartrefi Clyd.

Ers 2009/10, mae dros 67,000 o gartrefi incwm is wedi elwa ar welliannau effeithlonrwydd ynni, gydag arbediad cyfartalog amcangyfrifedig o £300 ar eu biliau ynni gyda'r fantais ychwanegol o leihau allyriadau carbon.

Un elfen o raglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru yw cynllun Grant Nyth, sy’n cynnig ystod o gyngor diduedd am ddim a meini prawf i ymgeiswyr cymwys gael mynediad at becyn o welliannau effeithlonrwydd ynni cartref am ddim fel boeler newydd, gwres canolog neu inswleiddio, sy'n gallu gostwng biliau ynni a bod o fudd i iechyd a lles yr ymgeisydd.  

Mae gwaith ardderchog wedi'i wneud gan garfan Gwresogi ac Arbed y Cyngor, er gwaethaf pandemig COVID-19. RhCT oedd yr ardal uchaf ond un o ran atgyfeirio yn 2020-21 – roedd 9% o atgyfeiriadau i'r cynllun Nyth wedi dod oddi wrth drigolion RhCT. RhCT hefyd oedd yr ardal uchaf ond un o ran gosod offer yn llwyddiannus, â chanran o 12.5% Yn ystod 2021-2022 mae Adran Gwresogi ac Arbed y Cyngor wedi anfon 3,631 o lythyron uniongyrchol i ardaloedd strategol mewn partneriaeth â Nyth yn cynnig ymyriad wedi'i dargedu i helpu'r aelwydydd sydd ei angen i gael mynediad at gymorth Nyth.

Er gwaethaf y gwaith cadarnhaol hwn a wnaed yng Nghymru ac yn lleol yn RhCT, mae costau cynyddol ynni yn golygu bod mwy a mwy o aelwydydd yn mynd i dlodi tanwydd. 

Mae’rduedd hon yn bygwth y targedau a amlinellwyd yn strategaeth Trechu Tlodi Tanwydd 2021-2035 Llywodraeth Cymru. A Llywodraeth Cymru yn lansio ymgynghoriad yn ddiweddar ar lunio’r fersiwn nesaf o’r rhaglen Cartrefi Clyd, mae bellach yn amser da i archwilio dichonoldeb ehangu’r meini prawf ar gyfer ceisiadau ar gyfer cynllun Nyth.

Felly mae'r Cyngor hwn yn nodi:

  • Y gwaith da sydd wedi'i wneud yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru, ac ar lefel leol gan garfan Gwresogi ac Arbed y Cyngor wrth fynd i'r afael â thlodi tanwydd.

 

Ac yn penderfynu:

           Gofyn i Arweinydd y Cyngor ysgrifennu at Julie James, Aelod o'r Senedd, Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, er  ...  view the full Agenda text for item 118.

Cofnodion:

13A  Trafod Rhybudd o Gynnig sydd wedi’i gyflwyno yn enwau Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol A. Roberts, W. Lewis, L. M. Adams, J. Barton, D. R. Bevan, H. Boggis, J. Bonetto, S. Bradwick, J. Brencher, A. Calvert, G. Caple, A. Crimmings, A. Davies-Jones, L. De- Vet, J. Edwards, J. Elliott, S. Evans, M Griffiths, G. Jones, M. Fidler Jones, M. Forey, A. Fox, E. George, J. Harries, G. Holmes, G. Hopkins, R. Lewis,  C. Leyshon, A. Morgan, S. Morgans, M. A. Norris, D. Owen-Jones, S. Pickering, S. Powell, S. Rees, J. Rosser, G. Stacey, M. Tegg, G. Thomas, W. Treeby, R. K. Turner, M. Webber, D. Williams, R. Williams, T. Williams,  R. Yeo:

Mae'r Cyngor hwn yn cydnabod ymdrechion Llywodraeth Cymru i helpu i fynd i'r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru, o ran darparu cymorth ariannol i aelwydydd incwm isel, a hefyd drwy amrywiaeth o welliannau effeithlonrwydd ynni cartref drwy'r fenter Cartrefi Clyd.

Ers 2009/10, mae dros 67,000 o gartrefi incwm is wedi elwa ar welliannau effeithlonrwydd ynni, gydag arbediad cyfartalog amcangyfrifedig o £300 ar eu biliau ynni gyda'r fantais ychwanegol o leihau allyriadau carbon.

Un elfen o raglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru yw cynllun Grant Nyth, sy’n cynnig ystod o gyngor diduedd am ddim a meini prawf i ymgeiswyr cymwys gael mynediad at becyn o welliannau effeithlonrwydd ynni cartref am ddim fel boeler newydd, gwres canolog neu inswleiddio, sy'n gallu gostwng biliau ynni a bod o fudd i iechyd a lles yr ymgeisydd.  

Mae gwaith ardderchog wedi'i wneud gan garfan Gwresogi ac Arbed y Cyngor, er gwaethaf pandemig COVID-19. RhCT oedd yr ardal uchaf ond un o ran atgyfeirio yn 2020-21 - roedd 9% o atgyfeiriadau i'r cynllun Nyth wedi dod oddi wrth drigolion RhCT. RhCT hefyd oedd yr ardal uchaf ond un o ran gosod offer yn llwyddiannus, â chanran o 12.5% Yn ystod 2021-2022 mae Adran Gwresogi ac Arbed y Cyngor wedi anfon 3,631 o lythyron uniongyrchol i ardaloedd strategol mewn partneriaeth â Nyth yn cynnig ymyriad wedi'i dargedu i helpu'r aelwydydd sydd ei angen i gael mynediad at gymorth Nyth.

Er gwaethaf y gwaith cadarnhaol hwn a wnaed yng Nghymru ac yn lleol yn RhCT, mae costau cynyddol ynni yn golygu bod mwy a mwy o aelwydydd yn mynd i dlodi tanwydd. 

Mae’r duedd hon yn bygwth y targedau a amlinellwyd yn strategaeth Trechu Tlodi Tanwydd 2021-2035 Llywodraeth Cymru. A Llywodraeth Cymru yn lansio ymgynghoriad yn ddiweddar ar lunio’r fersiwn nesaf o’r rhaglen Cartrefi Clyd, mae bellach yn amser da i archwilio dichonoldeb ehangu’r meini prawf ar gyfer ceisiadau ar gyfer cynllun Nyth.

Felly mae'r Cyngor hwn yn:

  • Cydnabod y gwaith da sydd wedi'i wneud yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru, ac ar lefel leol gan garfan Gwresogi ac Arbed y Cyngor wrth fynd i'r afael â thlodi tanwydd.

 

Ac yn penderfynu:

  • Gofyn i Arweinydd y Cyngor ysgrifennu at Julie James, Aelod o'r Senedd, Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, er mwyn gwneud y sylwadau angenrheidiol yngl?n ag ehangu meini prawf cymhwysedd y cynllun Nyth  ...  view the full Cofnodion text for item 118.

119.

Materion Brys

To consider any items which the Chair, by reason of special circumstances, is of the opinion should be considered as a matter ofurgency.

120.

Newid Aelodaeth pdf icon PDF 212 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr GwasanaethGwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu.

Cofnodion:

Yn dilyn newidiadau i gynllun dirprwyo'r Arweinydd, cyflwynodd y Cyfarwyddwr

Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ei adroddiad yn

gofyn bod y Cyngor yn ethol y penodiadau canlynol ar gyfer gweddill Blwyddyn

y Cyngor: Gofynnodd hefyd am awdurdod gan y Cyngor i wneud unrhyw

newidiadau ôl-ddilynol i gynrychiolaeth pwyllgor y Gr?p Llafur.

 

a)    Maer;

b)    Dirprwy Faer;

c)     Is-gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu;

d)    Cadeirydd y Pwyllgor Apeliadau / Apeliadau Gweithwyr / Apeliadau Prif Swyddogion   

 

 

a) PENDERFYNWYD – ethol Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W Treeby yn Ddirprwy Faer Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021-2022.

(Cyhoeddodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W Treeby mai Mr Paul Hammett fydd ei chymar ac y byddai manylion ei Chaplan dewisol yn cael eu cyhoeddi maes o law)

b) PENDERFYNWYD- ethol Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W Lewis yn Ddirprwy Faer Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021-2022.

(Rhoddodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W Lewis wybod y byddai manylion ei chymar yn cael eu cyhoeddi'n fuan)

c) PENDERFYNWYD –ethol Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Williams yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu am weddill Blwyddyn y Cyngor, 2021-2022.

d) PENDERFYNWYD –ethol Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Holmes yn Gadeirydd y Pwyllgor Apeliadau / Apeliadau Gweithwyr / Apeliadau Prif Swyddogion am weddill Blwyddyn y Cyngor, 2021-2022.

e) PENDERFYNWYD- Awdurdodi Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Gwasanaethau

Democrataidd a Chyfathrebu i benodi aelodau'r Gr?p Llafur i bwyllgorau'r

Cyngor sy'n galw am gydbwysedd gwleidyddol, ar ôl iddo dderbyn cadarnhad o

ddymuniadau'r gr?p gwleidyddol dan sylw.