Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Julia Nicholls - Democratic Services  01443 424098

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

81.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol H Boggis, J Edwards, E George, E Griffiths, G Hughes, J James AS, R Lewis, M Powell, SM Powell, M Tegg a R Turner.

 

82.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â gofynion Cod Ymddygiad y Cyngor

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agenda y mae eu buddiant yn ymwneud ag e a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant personol sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud yngl?n â'r agenda:

 

Eitem 6 - Cronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf 2020/21 – Datganiad o Gyfrifon ac Adroddiad Archwilio Allanol

 

Eitem 7 - Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) - Cytundeb Rhyng-awdurdod

 

Ø  Y Cynghorydd A Crimmings - “Rydw i'n talu arian i Gynllun Pensiwn yr Awdurdod Lleol yn rhan o fy lwfans gyda'r Cyngor a thrwy gynllun pensiwn Coleg y Cymoedd"

 

Ø  Y Cynghorydd A Roberts –Rydw i a fy mab, sy'n gweithio i'r Awdurdod, yn aelodau o gynllun pensiwn yr awdurdod lleol "

 

Ø  Y Cynghorydd D Owen-Jones - “Rwy'n aelod o Gynllun Pensiwn yr Awdurdod Lleol ”

 

Ø  Y Cynghorydd S Bradwick - "Fi yw cadeirydd Bwrdd Pensiwn Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Mae gan Gyngor RhCT gytundeb lefel gwasanaeth gyda'r Gwasanaeth Tân ac Achub i ddarparu'r gwasanaeth yma ar gyfer pensiynau ein diffoddwyr tân"

 

Ø  Y Cynghorydd S Bradwick - "Mae gen i bensiwn RhCT ac rydw i yn talu i mewn i'r cynllun pensiwn fel Aelod Etholedig"

 

Ø  Y Cynghorydd L Jones - “Rydw i'n aelod o Gynllun Pensiwn yr Awdurdod Lleol ”

 

Ø  Y Cynghorydd G Caple "Rydw i'n derbyn pensiwn yn rhan o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ac rydw i hefyd yn Aelod o Bwyllgor y Gronfa Bensiwn

 

Ø  Y Cynghorydd D R Bevan - “"Mae gen i ddau aelod o'r teulu, un yn derbyn pensiwn y cyngor ac un sy'n derbyn y Cynllun Pensiwn yr Awdurdod Lleol. Rydw i'n derbyn Cynllun Pensiwn yr Awdurdod Lleol”

 

Eitem 8 ar yr Agenda – Rhybudd o Gynnig

 

Ø  Y Cynghorydd L M Adams - “Mae pedwar aelod o fy nheulu yn gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog”

 

 

83.

Cyhoeddiadau

Cofnodion:

Ø  Cyhoeddodd y Cynghorydd AS Fox (ar ran yr Aelod Lleol, y Cynghorydd R Williams) fod dau gr?p ym Mhenrhiwceibr, sef Pwll Padlo Gerddi Lee ac Eglwys Sant Winifred wedi derbyn gwobr Uchel Siryf Morgannwg. Mae'r ddau wedi cael eu cydnabod am eu gwaith yn y gymuned ac allgymorth a'r prosiectau y maen nhw wedi'u cyflawni (yn enwedig yn ystod cyfnod covid). Mae'r prosiectau yma wedi gwella bywydau nifer o deuluoedd. Mae rhai o'r prosiectau'n cynnwys, mynd i'r afael â llwgu yn ystod y gwyliau, mynd i'r afael â thlodi misglwyf, cefnogi grwpiau mamau newydd a chynnal sesiynau celf a chrefft wythnosol i blant. Maen nhw wedi darparu cymorth amhrisiadwy i dros 50 o deuluoedd bob wythnos gyda hanfodion bwyd yn ystod covid. Gofynnodd y Cynghorydd Fox bod y Maer yn anfon llythyr i longyfarch y grwpiau.

 

Ø  Roedd y Cynghorydd W Jones yn dymuno llongyfarch Capel Blaen-cwm ar gyflawni Baner Werdd Cadwch Gymru'n Daclus ar gyfer eu gardd gymunedol. Mae'r gr?p hefyd yn cynnal Banc Bwyd o'r Eglwys a'r caffi 'Pay as You Feel' sy'n rhoi cyfle i drigolion sy'n dalu beth maen nhw'n gallu'i dalu ar gyfer y bwyd. Roedd y Cynghorydd Jones hefyd am longyfarch y Cynghorydd G Davies a'i wraig sy'n rhedeg y caffi.

 

Ø  Cyhoeddodd y Cynghorydd GR Davies 'fod sesiynau Therapi Coetir wythnosol 'Croeso i'n Coedwig' wedi derbyn Gwobr NHS Forest 2021 yn rhan o gategori Defnydd Arloesol o Fannau Gwyrdd gan Weithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol. Cafodd Therapi Coetir ei sefydlu 3 blynedd yn ôl yn rhan o raglen ‘Byddwch yn Heini RhCT' a phrosiect 'Creu eich Lle' y Gronfa Loteri. Mae'r cynllun wedi mynd o nerth i nerth a bellach yn gynaliadwy ac yn denu nifer o gyfranogwyr a gwirfoddolwyr ac yn croesawu pobl newydd. Prif gydran y sesiynau yw ymlacio trwy ymgymryd ag ymwybyddiaeth ofalgar ym myd natur. Gofynnodd y Cynghorydd G R Davies a fyddai modd anfon llythyr gan y Maer i longyfarch y gr?p ar ei gyflawniadau.

 

 

84.

Cofnodion pdf icon PDF 324 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Cyngor, a gynhaliwyd ar 20 Hydref 2021, yn rhai cywir.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Hydref, 2021 yn rhai cywir.

 

85.

Datganiadau

Yn unol â Rheol 2 o Weithdrefn Llywodraethu Agored Cyfarfodydd y Cyngor, derbyn datganiadau gan Arweinydd y Cyngor a/neu Gynghorwyr sy'n Aelodau Portffolio o'r Cabinet:

 

 

 

Cofnodion:

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod y Cyflog Byw Gwirioneddol wedi'i ymestyn i gynnwys darparwyr gofal cymdeithasol i oedolion y sector annibynnol sy'n darparu gofal preswyl a nyrsio i bobl h?n, darpariaeth byw â chymorth, gofal ychwanegol a gofal cartref a chynorthwywyr personol sy'n darparu gofal a chymorth trwy daliadau uniongyrchol, a hynny yn dilyn penderfyniad gan y Cabinet. Ychwanegodd fod y Cyngor eisoes wedi cymryd camau i gyflwyno'r Cyflog Byw Gwirioneddol ar gyfer gwasanaethau gofal cartref a ddarperir gan y sector annibynnol yn rhan o drefniadau cytundeb fframwaith y Cyngor yn ogystal â'i staff mewnol ei hun.

 

Yn sgil gweithredu'r Cyflog Byw Gwirioneddol o 1 Rhagfyr 2021, fydd dim un gweithiwr sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol Cyngor RhCT yn ennill llai na £9.50 yr awr. Bydd hyn yn cynyddu i £9.90 yr awr o 1 Ebrill 2022. Cadarnhaodd yr Arweinydd fod y Cyngor am weithredu'r gyfradd fesul awr uwch honno'n gynt a bydd diweddariad pellach yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet a'r Cyngor yn y Flwyddyn Newydd i gadarnhau'r dyddiad gweithredu.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod trafodaethau yn parhau gyda Llywodraeth Cymru

ynghylch y Cyflog Byw Gwirioneddol, i sicrhau gweithlu cynaliadwy ar gyfer

maes gofal a chymorth yn y cartref a gofal preswyl a nyrsio. Bydd cyflwyno'r

Cyflog Byw Gwirioneddol ym mhob rhan o'r gweithlu hwn yn cynorthwyo gyda'r

broses recriwtio a'r heriau y mae'r maes yn eu hwynebu o ran recriwtio, o fewn

yr Awdurdod Lleol a ledled Cymru.

 

 

86.

Cwestiynau Gan y Cynghorwyr

Cofnodion:

Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Williams i'r Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau i Blant, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol C Leyshon: -

 

“A wnaiff yr Aelod o'r Cabinet roi datganiad mewn perthynas ag Apêl Siôn Corn eleni ac egluro pa rôl y mae modd i'r Aelodau ei chwarae wrth gefnogi’r fenter?”

 

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan:

 

Dywedodd y Cynghorydd C Leyshon fod Apêl Siôn Corn, a drefnir gan y Cyngor, yn apêl hirsefydlog sy'n cefnogi teuluoedd sy'n hysbys i'r Gwasanaethau i Blant ond sydd ddim yn derbyn gofal. Pan fydd y Cyngor yn gweithio'n benodol gydag un plentyn mewn teulu a bod brodyr a chwiorydd eraill yn y cartref, byddan nhw hefyd yn derbyn cymorth. Ychwanegodd y Cynghorydd Leyshon fod llwyddiant yr Apêl yn dibynnu ar haelioni’r cyhoedd, busnesau lleol, yn ogystal ag Aelodau Etholedig a staff y Cyngor.

Roedd y Cynghorydd Leyshon wedi cydnabod fod eleni yn arbennig o heriol i deuluoedd gyda’r cynnydd Credyd Cynhwysol yn dod i ben ynghyd â chostau cynyddol ynni a thanwydd. Roedd y Cynghorydd wedi diolch i'r Aelodau am eu cymorth a oedd wedi sicrhau bod cannoedd o blant yn cael anrheg ar Ddydd Nadolig. Dywedodd y Cynghorydd Leyshon fod modd i Aelodau gynorthwyo trwy hyrwyddo'r apêl yn eu wardiau gan ddefnyddio'u cyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol ac annog trigolion a busnesau lleol i gymryd rhan yn yr apêl trwy addo prynu anrheg i blentyn neu berson ifanc.

Nid oedd unrhyw gwestiwn atodol.

Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Forey i'r Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu a Thai, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol, D. R. Bevan:

 

“Sut mae'r Cyngor yn cefnogi canol ein trefi i adfer yn dilyn pandemig COVID-19, yn y dyfodol agos a'r hir dymor?

 

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol D.R.Bevan:

 

Cyhoeddodd y Cynghorydd D R Bevan y bydd ystod o fentrau a mesurau a gyflwynwyd yn parhau ac yn cael eu datblygu yn y dyfodol megis y £460,000 o gymorth grant sydd ar gael i helpu busnesau i addasu i amodau masnachu newydd, gan gynnwys mannau awyr agored, gyda chymorth LlC. Derbyniodd dros 80 o fusnesau’r cymorth yma, gan gynnwys busnesau mewn canol trefi llai megis Abercynon a Threherbert.

 

Dywedodd y Cynghorydd D R Bevan fod Cronfa Buddsoddi mewn Mentrau'r Cyngor hefyd wedi cael ei addasu i sicrhau ei fod yn fwy hyblyg i fusnesau fanteisio arni yn ystod cyfnod adfer yn dilyn Covid.  Lansiwyd cynllun cymorth grant newydd i fusnesau gwerth £35miliwn i help gyda'r broses adfer yn dilyn Covid ledled Cymru ddoe ac fe fydd yn cael ei ddarparu gan y Cyngor. Ychwanegodd fod gwaith gydag AGB RhCT a'r Siambrau Masnach, gan gynnwys ymgyrch farchnata Siopa'n Lleol, yn rhoi cyfle i bob un o'n trefi allweddol, Pontypridd, Treorci ac Aberdâr, farchnata eu busnesau lleol eu hunain.

 

Esboniodd y Cynghorydd Bevan fod cyfres o brosiectau yn cael ei datblygu ar gyfer eiddo canol y dref yn ogystal â mentrau i gynyddu nifer yr ymwelwyr a  ...  view the full Cofnodion text for item 86.

87.

Rhaglen Waith Y Cyngor 2021/22

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ddiweddariad ar y rhaglen waith y mae'r Cyngor wedi'i mabwysiadu/chyhoeddi gan roi gwybod y bydd cyfarfod nesaf y Cyngor yn cael ei gynnal ar 15 Rhagfyr gan weithredu dull hybrid. Ychwanegodd y bydd hyfforddiant ar gael i'r holl Aelodau yn rhan o 'sesiynau drws agored' a fydd yn cael eu cynnal yn Siambr y Cyngor. Bydd dwy eitem yn cael eu hystyried yng nghyfarfod nesaf y Cyngor:

 

Ø  Adduned Amrywiaeth RhCT (drafft)

Ø  Dau Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2020/21 (Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a'r Pwyllgor Archwilio)

 

88.

Cronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf 2020/21 – Datganiad o Gyfrifon ac Adroddiad Archwilio Allanol pdf icon PDF 1 MB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Mr M Jones, Archwilio Cymru, yr adroddiad mewn perthynas â Datganiad o Gyfrifon Cronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf ar gyfer 2020-21 gan nodi bod yr adroddiad llawn a'r atodiadau cysylltiedig ynghlwm er gwybodaeth. Roedd Mr Jones yn dymuno nodi nad oedd llawer o wybodaeth i'w chyflwyno a doedd dim newidiadau i'w rhannu gyda'r Cyngor. Aeth ymlaen i ychwanegu bod hyn yn dyst i effeithlonrwydd carfanau Cyllid Cyngor RhCT.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol fod y cyfrifon wedi'u paratoi mewn modd priodol erbyn dechrau Gorffennaf 2021 ac wedi llwyddo yn y broses archwilio. Nid yw unrhyw ddatganiad ariannol wedi cael ei effeithio ac mae gwerth y gronfa ychydig yn llai na £4.5biliwn. Rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod bod gan y Cyngor, ac yntau'n gweithredu fel awdurdod gweinyddu'r gronfa, drefniadau llywodraethu cadarn ar waith, gan gynnwys Pwyllgor y Gronfa Bensiwn a Bwrdd Pensiynau RhCT.

 

Arôl trafod yr adroddiad, PENDERFYNWYD:

 

 

(a) Cymeradwyo a nodi Datganiad o Gyfrifon Cronfa Bensiynau Rhondda Cynon Taf (Atodiad 1), a'r Llythyr Cynrychiolaeth cysylltiedig (Atodiad 2); a

 

(b) Nodi deilliant cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu a gafodd ei gynnal ar 12 Gorffennaf 2021 yn unol â gofynion Mesur Llywodraeth Leol (paragraff 8.2).

 

 

89.

Partneriaeth Pensiynau Cymru (PPC) - Cytundeb Rhyng-awdurdod pdf icon PDF 221 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrthgyflwyno ei adroddiad, nododd y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau

Digidolfanylion y diwygiadau arfaethedig i Gytundeb Rhyng-Awdurdod

PartneriaethPensiwn Cymru.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr fod y Cyngor wedi cytuno i sefydlu Trefniadau

CydgyfrannuBuddsoddiadau Partneriaeth Pensiwn Cymru yn 2017. Mae'r rhain wedi'u llywodraethu gan Gytundeb Rhyng-awdurdod (IAA) a phroses benderfynu yn rhan o Gydbwyllgor Llywodraethu (JGC). Ychwanegodd fod pob un o'r wyth Cronfa Bensiwn yng Nghymru yn rhan o'r cydweithrediad hwn a oedd yn ymateb i ofynion cronni gorfodol Llywodraeth y DU ar gyfer buddsoddiadau'r gronfa bensiwn. Ers sefydlu'r bartneriaeth bensiwn, mae 68% o fuddsoddiadau cyfanredol Cronfa Bensiwn Cymru (gwerth £14.6biliwn) wedi'u trosglwyddo i is-gronfeydd Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr y cynigir bod y cytundeb rhyng-awdurdod bellach yn cael ei ddiweddaru i ganiatáu cyfraniadau pellach o ddosbarthiadau asedau buddsoddi ac i alluogi penodi aelod cyfetholedig heb hawl pleidleisio i fod yn rhan o'r Cydbwyllgor Llywodraethu, yn ogystal â mân ddiweddariadau eraill i adlewyrchu'r trefniadau gweithio.

 

Yndilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD nodi a chytuno ar y diwygiadau arfaethedig fel y'u nodir ym mharagraff 5 yn yr adroddiad ac yn Atodiad 1.

 

 

90.

Adroddiad Canol Blwyddyn Cylch Rheoli’r Trysorlys 2020-21 pdf icon PDF 443 KB

Trafod adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol.

 

Cofnodion:

Yn unol â gofynion Cod Ymarfer Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth mewn perthynas â Rheoli'r Trysorlys, rhoddodd y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol wybodaeth i'r Aelodau am waith Rheoli Trysorlys y Cyngor yn ystod chwe mis cyntaf 2021/22 yn ogystal â gwybodaeth am Ddangosyddion Darbodus a Thrysorlys yn ystod yr un cyfnod.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr y bu cynnydd yn y gofynion benthyca eleni er bod y benthyca mwy hirdymor wedi digwydd yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn.  Mae'r Cyngor yn parhau i fenthyg £150miliwn yn llai na'r disgwyl o'i gymharu â'r angen sylfaenol i fenthyca neu ofynion cyllido cyfalaf ac o ganlyniad i hynny mae o fewn y ffiniau gweithredol a'r terfyn sydd wedi'i awdurdodi. Rhoddodd wybod bod balansau arian parod cyfartalog am hanner cyntaf y flwyddyn ychydig dros £20miliwn gydag elw isel iawn ar fuddsoddiadau tymor byr. Mae hyn yn pwysleisio’r strategaeth gyfredol o ran lleihau balansau arian parod a chynnal y drefn o fenthyg llai o arian.

 

I gloi, dywedodd y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol fod y Cyngor wedi cydymffurfio â'r holl ddangosyddion a therfynau.

 

Ar ôl ystyried y mater, PENDERFYNWYD cymeradwyo cynnwys yr

 

91.

Enwebiadau ar gyfer Rhyddfraint y Fwrdeistref Sirol pdf icon PDF 135 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth ei adroddiad sy'n ceisio cynghori ac sy'n ceisio cymeradwyaeth yr Aelodau mewn perthynas ag argymhellion Gweithgor Rhyddid y Fwrdeistref, sy'n cael ei gadeirio gan y Maer, a oedd wedi cwrdd ar 10Mai 2021 ac 11 Hydref 2021.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod argymhellion gan Weithgor

Rhyddid y Fwrdeistref yn cynnwys cyflwyno Rhyddid y Fwrdeistref

i Mr Neil Jenkins i gydnabod ei gyfraniad rhagorol i rygbi a'r tîm Cenedlaethol ac i'r holl weithwyr allweddol i gydnabod eu hymdrechion yn ystod y pandemig. O ran yr ail argymhelliad, cynghorodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod y Gweithgor (sy'n cynnwys y Maer, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol) yn cynnig bod yr anrhydedd yn cael ei ddyfarnu yn ystod achlysur i'r cyhoedd a fydd yn cael ei gynnal am ddim, yn amodol ar gytundeb y Cyngor Llawn. Bydd yr achlysur yn cael ei drefnu ar gyfer Haf 2022 a bydd yr achlysur mor hygyrch â phosibl.

 

Yn dilyn trafodaeth PENDERFYNWYD cefnogi argymhelliad Gweithgor Rhyddfraint y Fwrdeistref i gyflwyno anrhydedd Rhyddfraint y Fwrdeistref Sirol i:

 

  1.  Neil Jenkins (cyn diwedd Blwyddyn y Cyngor 2021/22)

      2.         Gweithwyr Allweddol (yr achlysur hygyrch ac am ddim i'w drefnu yn ystod Blwyddyn nesaf y Cyngor, sef 2022/23)

 

92.

Deddf Gamblo 2005 - Datganiad o Egwyddor (Polisi Lleol) 2022 - 2025 pdf icon PDF 270 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a Gwasanaethau'r Gymuned.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned ei adroddiad i'r Aelodau, sy'n trafod y Datganiad o Egwyddor diwygiedig, o dan ddarpariaethau Deddf Gamblo 2005 (h.y. y datganiad polisi lleol ar gyfer rheoli gweithgareddau gamblo o fewn ffiniau Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf), ar gyfer 2022-2025 yn unol â gofynion statudol.

 

Ar ôl trafod yr adroddiad, PENDERFYNWYD:

 

  1. Cymeradwyo'r diwygiadau i'r polisi, a oedd wedi'u trafod a'u cymeradwyo gan y Pwyllgor Trwyddedu ar 14 Medi 2021 a'r Cabinet ar 18 Hydref 2021; a

 

  1. Mabwysiadu'r Datganiad o Egwyddor diwygiedig yn unol â'r gofynion statudol.

 

93.

Rhybuddion o Gynigion

A.    Trafod y Rhybudd o Gynnig isod sydd wedi’i gyflwyno yn enwau'r Cynghorwyr L Hooper, S Trask a J James: 

 

“Mae nifer o unigolion a theuluoedd ledled Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn dyheu am fod yn berchen ar eu cartrefi eu hunain, ac mae'r Cyngor yn ymdrechu i'w helpu i wireddu'r freuddwyd yma.  

O ganlyniad i brisiau tai cynyddol a phrinder eiddo, mae gwireddu'r freuddwyd o fod yn berchen ar gartref yn ymddangos yn fwyfwy heriol i unigolion a theuluoedd. Un ffactor sydd wedi cyfrannu'n sylweddol at hyn yw tuedd gynyddol datblygwyr tai i gymryd rhan mewn arfer y cyfeirir ato'n gyffredin fel 'bancio tir', lle mae'r datblygwr yn llwyddo i sicrhau caniatâd cynllunio ond nad yw'n cyflawni'r datblygiad arfaethedig.  

Mae hwn yn fater sy'n effeithio ar y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd, ac mae'n berthnasol ar gyfer hyd at 4,517 eiddo a roddwyd caniatâd i'w hadeiladu yn y Fwrdeistref Sirol yma rhwng 2012/13 a 2019/20, ond sydd eto i'w hadeiladu.  

Er bod nifer o ffactorau a all esbonio pam na chaiff cais llwyddiannus i adeiladu eiddo ei ddwyn ymlaen, mae'n amlwg bod llawer iawn o'r achosion hyn o ganlyniad i'r arfer o 'fancio tir'.  

Yn ogystal ag atal llawer o'n preswylwyr rhag prynu eu cartrefi cyntaf, gall hyn hefyd gael effaith andwyol ar ymddiriedaeth preswylwyr yn y system gynllunio pan fydd datblygwyr yn 'bancio tir' ar safleoedd 'tir llwyd' - gan roi pwysau ar y Cynllun Datblygu Lleol i gynnig safleoedd newydd ar gyfer dyraniadau tai a allai fod yn llai addas ar gyfer datblygiad o'r fath.  

Felly, mae'r Cyngor yma'n penderfynu: 

- Y bydd Arweinydd y Cyngor yn ysgrifennu at Weinidog Newid Hinsawdd Cymru (y mae ei phortffolio yn cynnwys tai) yn gofyn bod Awdurdodau Lleol yng Nghymru yn cael y grym i godi taliadau treth y cyngor ar geisiadau anghyflawn sydd ddim wedi'u dwyn ymlaen ar ôl amserlen gytûn a bennwyd gan yr awdurdodau lleol. 

 - Gofyn i swyddogion y cyngor gyflwyno adroddiad i'r Cyngor Llawn yn y Flwyddyn Newydd, yn nodi pa gamau mae modd eu cymryd yn y tymor byr i leihau effaith yr arfer niweidiol yma.

 

***********************************************************************************************

 

 

A.    Trafod y Rhybudd o Gynnig isod sydd wedi’i gyflwyno yn enwau Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol G. Davies, P Jarman, E, Webster, D. Grehan, E. Stephens, L. Jones, J. Williams, A. Cox, S. Evans, A. Chapman, S. Rees-Owen, M. Weaver, J. Davies, J. Cullwick, K. Morgan, H. Fychan ac E. Griffiths.

 

Mae'r Cyngor yma'n mynegi pryder ynghylch polisi llywodraeth y DU i recriwtio pobl ifainc 16 oed i'r fyddin. Llywodraeth y DU yw'r unig wlad o fewn NATO ac Ewrop sy'n gwneud hyn.

Mae modd i'r polisi yma gael effaith niweidiol ar bobl ifainc 16 a 17 oed sydd wedi'u recriwtio.   Mae tystiolaeth yn dangos: -

1)     Eu bod ddwywaith yn fwy tebygol o gael eu lladd wrth eu gwaith na recriwtiaid h?n.

2)    Eu bod nhw'n fwy tebygol o ddioddef problem iechyd meddwl fel PTSD, ac iselder.

3)    Eu bod nhw'n fwy tebygol  ...  view the full Agenda text for item 93.

Cofnodion:

Derbyniwyd y Rhybudd o Gynnig canlynol yn enwau'r Cynghorwyr L Hooper, S Trask a J James: 

 

“Mae nifer o unigolion a theuluoedd ledled Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn dyheu am fod yn berchen ar eu cartrefi eu hunain, ac mae'r Cyngor yn ymdrechu i'w helpu i wireddu'r freuddwyd yma.  

O ganlyniad i brisiau tai cynyddol a phrinder eiddo, mae gwireddu'r freuddwyd o fod yn berchen ar gartref yn ymddangos yn fwyfwy heriol i unigolion a theuluoedd. Un ffactor sydd wedi cyfrannu'n sylweddol at hyn yw tuedd gynyddol datblygwyr tai i gymryd rhan mewn arfer y cyfeirir ato'n gyffredin fel 'bancio tir', lle mae'r datblygwr yn llwyddo i sicrhau caniatâd cynllunio ond nad yw'n cyflawni'r datblygiad arfaethedig.  

Mae hwn yn fater sy'n effeithio ar y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd, ac mae'n berthnasol ar gyfer hyd at 4,517 eiddo a roddwyd caniatâd i'w hadeiladu yn y Fwrdeistref Sirol yma rhwng 2012/13 a 2019/20, ond sydd eto i'w hadeiladu.  

Er bod nifer o ffactorau a all esbonio pam na chaiff cais llwyddiannus i adeiladu eiddo ei ddwyn ymlaen, mae'n amlwg bod llawer iawn o'r achosion hyn o ganlyniad i'r arfer o 'fancio tir'.  

Yn ogystal ag atal llawer o'n preswylwyr rhag prynu eu cartrefi cyntaf, gall hyn hefyd gael effaith andwyol ar ymddiriedaeth preswylwyr yn y system gynllunio pan fydd datblygwyr yn 'bancio tir' ar safleoedd 'tir llwyd' - gan roi pwysau ar y Cynllun Datblygu Lleol i gynnig safleoedd newydd ar gyfer dyraniadau tai a allai fod yn llai addas ar gyfer datblygiad o'r fath.  

Felly, mae'r Cyngor yma'n penderfynu: 

- Y bydd Arweinydd y Cyngor yn ysgrifennu at Weinidog Newid Hinsawdd Cymru (y mae ei phortffolio yn cynnwys tai) yn gofyn bod Awdurdodau Lleol yng Nghymru yn cael y grym i godi taliadau treth y cyngor ar geisiadau anghyflawn sydd ddim wedi'u dwyn ymlaen ar ôl amserlen gytûn a bennwyd gan yr awdurdodau lleol. 

 - Gofyn i swyddogion y cyngor gyflwyno adroddiad i'r Cyngor Llawn yn y Flwyddyn Newydd, yn nodi pa gamau mae modd eu cymryd yn y tymor byr i leihau effaith yr arfer niweidiol yma.

Yn dilyn trafodaeth ar y mater, PENDERFYNWYD – peidio â mabwysiadu'r Rhybudd o Gynnig.

 

(Nodwch: Roedd yr Aelodau canlynol o'r Gr?p Ceidwadol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol Hooper a Chynghorydd y Fwrdeistref Sirol Trask, yn ogystal â'r Aelod Annibynnol Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Belzak yn dymuno bod y cofnodion yn nodi eu bod nhw wedi pleidleisio o blaid y Rhybudd o Gynnig).

 

11B                                        *********************************

 

Derbyniwyd y Rhybudd o Gynnig isod sydd yn enwau Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol G. Davies, P Jarman, E, Webster, D. Grehan, E. Stephens, L. Jones, J. Williams, A. Cox, S. Evans, A. Chapman, S. Rees-Owen, M. Weaver, J. Davies, J. Cullwick, K. Morgan, H. Fychan ac E. Griffiths.

 

"Mae'r Cyngor yma'n mynegi pryderon ynghylch polisi llywodraeth y DU i recriwtio pobl ifainc 16 oed i'r fyddin. Llywodraeth y DU yw'r unig wlad o fewn NATO ac Ewrop sy'n gwneud hyn.

Mae modd i'r polisi  ...  view the full Cofnodion text for item 93.