Agenda a Chofnodion

Agenda a Chofnodion

Cyswllt: Julia Nicholls - Democratic Services  01443 424098

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

64.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gynghorwyr Bwrdeistref y Sir Sera Evans, A S Fox, M Fidler Jones, G Holmes, G Hopkins, P Howe, J James AS, W Jones, S Pickering, S M Powell, S Rees-Owen, J Rosser, E Stephens a M Tegg.

 

65.

Datganiad o Fuddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â gofynion Cod Ymddygiad y Cyngor

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agenda y mae eu buddiant yn ymwneud ag e a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 

  1. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant personol sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, datganodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol P Jarman y buddiant personol canlynol mewn perthynas â'r eitem ganlynol ar yr agenda:

 

Eitem agenda 6 - Gostyngiadau Treth y Cyngor

 

Eitem agenda 9 - Adolygu Rheoliadau, Ymwybyddiaeth A GORFODI Deddfwriaeth Llifogydd a D?r

 

"Yr hawl i siarad a phleidleisio ar bob mater tra bod proses pennu Cyllideb 2021-2022 yn mynd rhagddi ac yn cael ei mabwysiadu, a hynny fel Arweinydd yr Wrthblaid".

 

66.

Cyhoeddiadau

Cofnodion:

Munud o ddistawrwydd

 

Cafwyd munud o dawelwch, dan arweiniad Arweinydd y Cyngor, er cof am yr Aelod Seneddol Syr David Amess a lofruddiwyd yn ddiweddar ac er cof am y 116 o blant a 28 o oedolion a fu farw yn nhrychineb Aberfan 55 mlynedd yn ôl.

 

 

Cyhoeddiadau

 

Roedd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S A Bradwick yn dymuno llongyfarch fferyllfa Sheppard's, Abercwmboi, Aberdâr am gael ei enwebu am ddwy Wobr, Gwobr Ymarfer Fferylliaeth Gymunedol Annibynnol y Flwyddyn a'r Wobr Rhagoriaeth Cyflwyno Hunanofal mewn Fferylliaeth Gymunedol. Enwebwyd y practis ar gyfer y gwobrau yma yn sgil ymroddiad ac ymrwymiad ei staff yn ystod y pandemig. Roedd yn cystadlu yn erbyn 500 o enwebiadau i gyrraedd y 3 olaf. Mae'r enwebiadau'n cydnabod gwaith caled y staff a'r cymorth a gynigwyd i'r gymuned yn ystod cyfnod anodd iawn a dymunai'r Cynghorydd Bradwick ddiolch i'r aelodau staff Katherine Sweet, Katherine Whatberts, Anna Matthews a'r Cynghorydd Tina Williams am barhau i wneud hynny. Gofynnodd i'r Maer anfon llythyr i'w llongyfarch.

 

Roedd y Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol P Jarman yn dymuno llongyfarch meibion un o breswylwyr ei ward, yr Awyr-Lefftenant Steve Jones sydd ar hyn o bryd yn gwasanaethu yn Ynysoedd y Falklands ac sydd wedi ennill Gwobr Gyswllt WallyMarriot Cymdeithas yr Awyrlu Brenhinol am ei waith gyda chyn-filwyr yn ystod y Pandemig. Mae'r wobr yn cydnabod ei waith, ei ymrwymiad a'i ymroddiad i gefnogi cyn-filwyr. Cyhoeddwyd bod yr Awyr-Lefftenant Steve Jones yn gaffaeliad mawr i'r gwasanaeth ac yn llwyr haeddu'r wobr. Roedd y Cynghorydd Jarman hefyd yn gobeithio y byddai'r Maer yn anfon llythyr i longyfarch yr Awyr-Lefftenant Steve Jones.

 

Cyhoeddodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Lewis fod Hope Rescue yn Llanharan wedi'i gydnabod gan Wobrau PawPrints 2021 yr RSPCA, a hynny ar ôl cyflawni Gwobr Efydd yn y categori Cytiau C?n. Mae PawPrints yn cael ei redeg gan yr RSPCA i gydnabod awdurdodau lleol, cymdeithasau tai, cynllunwyr wrth gefn a sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus sy'n mynd y tu hwnt i ofynion sylfaenol neu statudol i sicrhau safonau lles uwch i anifeiliaid yn y gwasanaethau y maen nhw'n eu darparu. Mae ennill Gwobr PawPrints eleni yn enwedig yn gyflawniad enfawr.

 

67.

Cofnodion pdf icon PDF 732 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Cyngor, a gynhaliwyd ar 29 Medi 2021, yn rhai cywir.

 

Cofnodion:

PENDERFYNODD y Cyngor gymeradwyo cofnodion y cyfarfod, a gynhaliwyd ar 25 Medi, 2021, yn rhai cywir.

 

68.

Cwestiynau gan yr Aelodau pdf icon PDF 436 KB

Derbyn cwestiynau'r Aelodau yn unol â Rheol 9.2 o Weithdrefn y Cyngor.

 

(Nodwch: Caniateir hyd at 20 munud ar gyfer cwestiynau.)

 

Cofnodion:

Cwestiynau gan yr Aelodau

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau y derbyniwyd ymddiheuriadau o absenoldeb gan yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Rosser, yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau i Oedolion a’r Gymraeg, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Hopkins a Chadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A S Fox ac felly byddai ymatebion ysgrifenedig mewn perthynas â chwestiynau 4, 7, 8 a 10 yn cael eu rhannu â'r holl Aelodau yn dilyn y cyfarfod.

 

Gofynnwyd i'r Aelodau nodi hefyd na fydd cwestiynau 5 a 18 yn codi yn sgil ymddiheuriadau gan Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol S M Powell a P Howe.

 

 

1.   Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Yeo i Arweinydd y Cyngor – Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan:

 

“A all Arweinydd y Cyngor wneud datganiad ar y cynlluniau i ddatblygu Coridor Trafnidiaeth y Gogledd Orllewin?”

 

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan:

 

Dywedodd yr Arweinydd fod cam cychwynnol y gwaith wedi'i gomisiynu gan Drafnidiaeth Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Cyngor Dinas Caerdydd a Llywodraeth Cymru a bod astudiaeth drafnidiaeth ar Goridor y Gogledd Orllewin wedi'i lunio, gyda'r gobaith o geisio gwella cysylltedd teithio rhwng cymunedau yn RhCT a gogledd orllewin Caerdydd.

 

Amlygodd yr Arweinydd rai o'r cynlluniau penodol sydd wedi'u nodi i wella cysylltiadau cerdded, beicio a thrafnidiaeth ar hyd y Coridor erbyn 2025, er enghraifft, cynyddu nifer y gwasanaethau ar Linell y Ddinas i o leiaf bedwar trên yr awr rhwng Caerdydd Canolog a Radur gyda gorsaf newydd ym Melin Trelái, gwelliannau i orsaf reilffordd Ystad Ddiwydiannol Trefforest a gwasanaeth parcio a theithio gyda bysiau strategol ger Cyffordd 33 yr M4. Mae'r pecynnau hyn o fesurau yn cynrychioli ffordd fwy teg o deithio.

 

Cwestiwn Ategol gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Yeo:

 

Rwy'n croesawu prosiect Llwybr Trafnidiaeth Beddau. Pa fath o fanteision mae'r Arweinydd yn credu bydd y cynllun yn ehangach yn eu cynnig?

 

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan:

 

Dywedodd yr Arweinydd ei fod yn brosiect sylweddol a fydd yn cynnig llawer o fanteision i'r trigolion lleol a'r rhai sy'n cymudo ar hyd yr A4119 sy'n llawn tagfeydd, a'i fod yn gobeithio y byddai'n dod â phecyn o fesurau a fyddai'n cynnig dewis arall cynaliadwy yn lle'r rhwydwaith ffyrdd sy'n dod dan bwysau cynyddol.

 

 

2.   Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol E George i Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan:

 

“A all Arweinydd y Cyngor amlinellu pa drafodaethau sydd wrthi'n cael eu cynnal trwy'r Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru neu'n uniongyrchol trwy RhCT mewn perthynas â setliad cyllideb y flwyddyn nesaf?”

 

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan:

 

Dywedodd yr Arweinydd fod pob un o 22 Arweinydd y Cynghorau yn cwrdd yn rheolaidd â'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans, ac roedd yr Arweinydd wedi cyfarfod â'r is-gr?p Cyllid a Llywodraeth Cymru yn ddiweddar. Mae'r trafodaethau wedi bod yn gadarnhaol hyd yn hyn. Dywedodd y bydd Llywodraeth Cymru yn gweld cynnydd sylweddol yn eu  ...  view the full Cofnodion text for item 68.

69.

Rhaglen Waith Y Cyngor 2021/2022

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ddiweddariad ynghylch Rhaglen Waith y Cyngor a fabwysiadwyd ac a gyhoeddwyd ar gyfer 2021/22 gan gynghori bod Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig 2020-2030 wedi'i ohirio tan gyfarfod y Cyngor ym mis Ionawr 2022.  Bydd adroddiad Rhyddid y Fwrdeistref hefyd yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor ei drafod y mis nesaf. Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn dod i gyfarfod y Cyngor ym mis Tachwedd. Bydd y cyfarfod yn dechrau am 4pm i ddarparu ar gyfer yr eitem yma.

 

70.

Gostyngiadau Treth y Cyngor pdf icon PDF 135 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol

 

Cofnodion:

Trwy ei adroddiad rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol gyfle i'r Aelodau adolygu lefel y gostyngiad Treth y Cyngor ar gyfer dosbarthiadau rhagnodedig o anheddau yn y Fwrdeistref Sirol ac adolygu, diwygio neu ailddatgan y lefel a ragnodwyd. 

 

Cyfeiriwyd yr Aelodau at adran 4 yr adroddiad a oedd yn amlinellu gofynion y Cyngor mewn perthynas â darpariaeth gostyngiad Treth y Cyngor, gyda'r Cyfarwyddwr yn dweud bod gan y Cyngor ddisgresiwn i ddyfarnu gostyngiad o hyd at 50% mewn perthynas â dau ddosbarth o anheddau rhagnodedig (a ddisgrifir fel arfer fel ail gartrefi a chartrefi gwyliau). Hynny yw, Dosbarth A a Dosbarth B. Cafodd yr Aelodau gyngor pellach fod y Cyngor wedi penderfynu o'r blaen i beidio â chaniatáu gostyngiad mewn perthynas ag eiddo Dosbarth A, B a C. I gloi, dywedodd y Cyfarwyddwr fod y Cyngor yn cynnig peidio â gwneud unrhyw newidiadau i'w drefniadau cyfredol.

 

Dywedodd yr Arweinydd y byddai adolygiad yn cael ei gynnal gan y

Pwyllgor Craffu priodol mewn perthynas â lefel y gostyngiad ar gyfer

dosbarthiadau rhagnodedig o anheddau, sef eiddo gwag tymor hir ac ail gartrefi,

a oedd wedi'i groesawu.  

 

Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd y Cyfarwyddwr, bod nifer yr anheddau gwag tymor hir yn RhCT wedi gostwng 19% ers dileu'r gostyngiad eiddo gwag ar 1 Ebrill 2018.

 

Ar ôl trafodaeth, PENDERFYNWYD cytuno i barhau ag unrhyw ostyngiad Treth y Cyngor mewn perthynas ag eiddo Dosbarth A, B ac C.

 

71.

Adroddiad ar Gyflawniad Corfforaethol y Cyngor ar gyfer 2021/22 (Drafft) pdf icon PDF 632 KB

Derbyn adroddiad y Prif Weithredwr.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Cyflawniad Gwasanaethau a'u Gwella ddrafft o Adroddiad Cyflawniad Corfforaethol Rhondda Cynon Taf, sy'n nodi'r cynnydd yn 2020/21 a'r cynlluniau ar gyfer 2021/22 mewn perthynas â blaenoriaethau strategol y Cyngor.  Mae hefyd yn nodi sut mae'r Adroddiad Cyflawniad Corfforaethol yn cyflawni'r ddyletswydd gyfreithiol ar y Cyngor, fel gyda phob Cyngor yng Nghymru, i gyhoeddi amcanion, cymryd pob cam rhesymol i gyflawni'r amcanion hynny a llunio adroddiad blynyddol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod yr Adroddiad Cyflawniad Corfforaethol yn adroddiad cytbwys sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac wedi'i osod yng nghyd-destun yr heriau digynsail a gyflwynwyd gan bandemig Covid 19 a'r adferiad ers Storm Dennis. Ychwanegodd fod yr wybodaeth yn cynnwys ystod o ffynonellau, gwybodaeth am wasanaeth, adroddiadau gan reoleiddwyr allanol a rhoddwyd sylw allweddol i adroddiad cyflawniad diwedd blwyddyn 2020/21 y Cyngor a adroddwyd i'r Cabinet ac a gafodd ei graffu gan y Pwyllgor Craffu – Cyllid a Chyflawniad ym mis Gorffennaf 2021.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod y Cabinet, yn ei gyfarfod ar 18 Hydref 2021, wedi argymell y dylai'r Cyngor gymeradwyo'r Adroddiad Cyflawniad Corfforaethol. Yn ddibynnol ar drafodaeth y Cyngor, bydd y cynlluniau gweithredu y cytunwyd arnyn nhw ar gyfer y tair blaenoriaeth Pobl, Lle a Ffyniant yn rhan o'r Adroddiad Cyflawniad Chwarterol a fydd yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet ac yn cael ei graffu gan y Pwyllgor Craffu ar faterion Cyllid a Chyflawniad yn ystod y flwyddyn. Mae gan reoleiddwyr allanol y Cyngor, Archwilio Cymru, ddyletswydd statudol i archwilio'r Adroddiad Cyflawniad Corfforaethol a fydd yn cael ei adrodd yn ffurfiol i'r Cyngor maes o law.

 

Talodd Arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol deyrnged i holl staff, staff rheng flaen, gweithwyr gofal cymdeithasol a phartneriaid fel Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg am eu gwaith yn ystod y pandemig Covid 19.

 

Yn dilyn trafodaethau, dywedodd yr Arweinydd fod pwyllgorau craffu’r Cyngor yn parhau i graffu ar ymateb parhaus y Cyngor i’r pandemig ac wrth symud ymlaen mae’n debygol y gofynnir iddo, fel Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ddarparu tystiolaeth i ymchwiliad Cymreig ac ymchwiliad y Deyrnas Unedig i’r pandemig ond pwysleisiodd na ddylai fwrw bai, dylai ganolbwyntio ar ddysgu gwersi.

 

Lle nodwyd hynny, cadarnhawyd y byddai gwybodaeth yn cael ei darparu i'r Aelodau yn dilyn y cyfarfod. Yn ogystal â'r ymholiadau eraill a godwyd, dywedodd y Prif Weithredwr fod adroddiad diweddar ynghylch prosiectau bioamrywiaeth y Cyngor wedi'i gyflwyno i'r Cabinet i hyrwyddo rheolaeth gynaliadwy ar adnoddau naturiol. Yn yr un modd, cyflwynir adroddiad yn flynyddol i'r Cabinet yn amlinellu nifer a natur y cwynion i'r Awdurdod Lleol. RhCT yw'r Awdurdod Lleol sy'n derbyn yr ail nifer isaf o gwynion fesul person.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo drafft yr Adroddiad Cyflawniad Corfforaethol fel y'i cymeradwywyd gan y Cabinet yn ei gyfarfod ar 18 Hydref 2021.

 

(Noder: Roedd yr Aelodau a oedd yn bresennol o Gr?p Annibynnol RhCT (Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol M Powell, L Walker, K Jones, W Owen) a Chynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Belzak yn dymuno cofnodi'u henwau'n rhai sy'n gwrthwynebu cymeradwyo drafft yr Adroddiad  ...  view the full Cofnodion text for item 71.

72.

Ymateb i Gynigion Cychwynnol Comisiwn Ffiniau i Gymru pdf icon PDF 242 KB

Derbyn adroddiad ar y cyd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ei adroddiad yn cynnwys cynigion cychwynnol Comisiwn Ffiniau i Gymru mewn perthynas â'r etholaethau seneddol newydd arfaethedig yng Nghymru, fel y cyfeiriwyd atyn nhw gan y Cyngor. Mae'r adroddiad yn seiliedig ar adborth y Cyngor ar ôl i'r Aelodau ei drafod, ar sail drawsbleidiol, trwy'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar 12 Hydref 2021.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y bydd y llythyr sy'n cynnwys yr adborth yn sail i ymateb ffurfiol y Cyngor i Gomisiwn Ffiniau i Gymru, oni bai fod unrhyw ychwanegiadau neu welliannau pellach.

 

Ar ôl trafod yr ymatebion, PENDERFYNWYD mabwysiadu'r sylwadau yn y llythyr drafft fel ymateb ffurfiol yr Awdurdod Lleol, yn amodol ar fewnosod y sylwadau a ganlyn:

 

"Gan fod Aberaman ar un adeg wedi bod yn rhan o Gyngor Dosbarth Trefol Aberdâr, roedd yr Aelodau'n teimlo'n gryf bod perthynas hanesyddol Aberaman (Gogledd a De) yn fwy cysylltiedig ag Aberdâr, yn hytrach na'r wardiau etholiadol o etholaeth gyfagos Cwm Cynon sydd wedi'u cynnig ar gyfer eu cyfuno â Phontypridd."

 

 

73.

Adolygu Rheoliadau, Ymwybyddiaeth a Gorfodi Deddfwriaeth Llifogydd a Dŵr pdf icon PDF 707 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Rheng Flaen.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Cyfadran – Gwasanaethau Rheng Flaen adroddiad sy'n rhoi gwybod i'r Aelodau am yr adolygiad o reoliadau, ymwybyddiaeth a gorfodi deddfwriaeth llifogydd a d?r yn y Cyngor yn dilyn Storm Dennis. Cynghorodd yr adroddiad ymhellach am sefydlu carfan Ymwybyddiaeth a Gorfodi Llifogydd gwell yn dilyn cytundeb gan y Cabinet yn ei gyfarfod ar 21 Medi 2021 a chynigiodd fwy o reoleiddio trwy ddeddfu Is-ddeddfau Draenio Tir o dan Adran 66 o Ddeddf Draenio Tir 1991.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr yr Aelodau at argymhellion y Cabinet yn eu cyfanrwydd fel y nodir ym mhwynt 4.1.2 yr adroddiad ac o bwysigrwydd y Sesiwn Gwybodaeth i Aelodau a gynhaliwyd ar 28 Medi mewn perthynas â Rheoli Perygl Llifogydd ac Is-ddeddfau.

 

I gloi, esboniodd y Cyfarwyddwr sut mae'r is-ddeddfau cwrs d?r cyffredin wedi'u cynllunio fel model i awdurdodau lleol naill ai eu defnyddio yn eu fformat cyfredol yn eu cyfanrwyddneu i helpu i ddatblygu is-ddeddfau unigol a fydd yn cynorthwyo'r Awdurdod Lleol i reoli'r risg uwch o lifogydd.

 

Yn dilyn trafodaeth ac ymatebion i gwestiynau a godwyd, PENDERFYNWYD:

 

1.     Nodi'r argymhellion a gymeradwywyd gan y Cabinet yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Medi 2021 ac fel y nodir yn 4.1.2 o'r adroddiad;

 

   2.   Nodi bod sesiwn gwybodaeth i Aelodau mewn perthynas â mabwysiadu Is-ddeddfau Model o dan Ddeddf Draenio Tir 1991 ar 28 Medi 2021, a bod yr holl Aelodau wedi cael gwahoddiad i'r sesiwn; ac

 

3.    Awdurdodi Swyddogion i ddechrau'r broses o fabwysiadu'r Is-ddeddfau Draenio Tir Enghreifftiol yn ffurfiol fel y mae ynghlwm yn Atodiad 1 i'r adroddiad (ac fel yr argymhellwyd gan y Cabinet yn ei gyfarfod ar 21 Medi 2021) yn unol â Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012.

 

74.

Penodi Aelodau Lleyg ychwanegol ar gyfer y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio pdf icon PDF 393 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ei adroddiad i gynghori'r Cyngor o'r trefniadau mewn perthynas â phenodi Aelodau Lleyg i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, yn unol â darpariaethau perthnasol Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 sy'n dod i rym ym mis Mai 2022.

 

Gyda chyflwyno Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth bod angen bwrw ymlaen â diwygiadau pellach mewn perthynas ag aelodaeth a rôl y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Cyfeiriodd at y pwyntiau allweddol yn ei adroddiad.

 

Cyfeiriwyd yr Aelodau at adran 5 yr adroddiad a oedd yn nodi gofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 o ran aelodaeth a threfniadau cadeirio ar gyfer y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

 

Cynigiodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod trefn aelodaeth y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn cael ei adolygu a'i leihau i 9 ar gyfer 2022-2023 gyda 6 Aelod Etholedig a 3 pherson lleyg. Gofynnodd i'r Cyngor ystyried ymestyn tymor swydd yr Aelod Lleyg presennol ar y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio am gyfnod pellach, tan yr etholiadau Llywodraeth Leol cyffredin nesaf ym mis Mai 2022.

 

Ar ôl trafod yr adroddiad, PENDERFYNWYD:

 

  1. Nodi'r trefniadau sydd wedi'u nodi yn yr adroddiad sy'n ymwneud â phenodi Aelod Lleyg newydd i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio am dymor yn y swydd sy'n cychwyn o ddechrau Blwyddyn 2022-23 y Cyngor tan yr Etholiadau Llywodraeth Leol arferol nesaf;

 

     2.    Cytuno, yn dilyn y broses recriwtio y manylir arni yn yr adroddiad, y dylid cyflwyno adroddiad pellach i'r Cyngor er mwyn derbyn argymhellion gan y Pwyllgor Penodiadau mewn perthynas â phenodi Aelodau Lleyg i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio;

 

     3.    Cytuno, am y rhesymau a nodir yn yr adroddiad, ymestyn tymor swydd yr Aelod Lleyg cyfredol a benodwyd i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, Mr Christopher Jones, tan yr Etholiadau Llywodraeth Leol cyffredin ym mis Mai 2022 (a drefnwyd ar hyn o bryd ar gyfer Mai 2027).

 

75.

Cyfarfodydd Hybrid - Adolygiad o'r Cynnydd hyd yma pdf icon PDF 437 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ei adroddiad i'r Aelodau am fanylion y cyfarfodydd a gynhaliwyd yn ystod Gorffennaf - Medi trwy drefniadau gweddarlledu hybrid a rhannu'r diweddaraf â'r Cyngor mewn perthynas â threfniadau gweithredu yn y dyfodol gyda chefnogaeth y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, yn dilyn trafodaethau'r Cyngor ac yn dilyn adolygiad gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd o gynnydd y cyfarfodydd hybrid hyd yma, mai'r bwriad oedd cyflwyno'r dull hybrid yn raddol gyda chyfres o sesiynau arddangos cyn pob cyfarfod. Byddai hyn yn sicrhau amserlen gyson o gyfarfodydd ac yn ystyried anghenion pob Pwyllgor unigol.

 

I gloi, cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth yr Aelodau at yr amserlen a nodwyd yn 6.6 yr adroddiad a oedd yn cynnwys cynnydd pwyllgorau craffu, rheoleiddio a llywodraethu.

 

Ar ôl trafod yr adroddiad, PENDERFYNWYD nodi'r cynnydd pellach a wnaed gyda'r dull o gyflwyno cyfarfodydd hybrid yn raddol sy'n cael ei grybwyll yn adran 3 yr adroddiad.

 

76.

Penderfyniadau Brys o dan Swyddogaethau Gweithredol pdf icon PDF 159 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu.

 

Cofnodion:

Yn unol â Rheolau Gweithdrefn Trosolwg a Chraffu 17.2(a), cyflwynodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu drosolwg o'r Penderfyniadau Brys a gyflwynwyd gan Bwyllgor y Cabinet a Phenderfyniadau Dirprwyedig Swyddog Allweddol Brys a gyflwynwyd y tu allan i Bwyllgor y Cabinet yn ystod y cyfnod Mehefin - Medi 2021

 

PENDERFYNWYD nodi'r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

 

77.

Rhybuddion o Gynigion

13A Rhybudd o Gynnig

Trafod y Rhybudd o Gynnig canlynol sydd wedi’i gyflwyno yn enwau Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol E Webster, K Morgan, P Jarman, S Evans, J Williams, A Cox, S Rees Owen, M Weaver, D Grehan, E Griffiths, H Fychan, E Stephens, L  Jones, G Davies, A Chapman, J Davies a J Cullwick:

"Bod y Cyngor yma'n ailystyried ei ddyletswydd o ran grymoedd gorfodi a'i ffordd o weithredu'r grymoedd hynny ar frys er mwyn sicrhau bod y strydoedd yn ddiogel ac yn hygyrch ac osgoi'r peryglon ynghlwm â thorri rheolau parcio yn ein cymunedau.

Mae tystiolaeth gynyddol yn dangos bod plant mewn perygl o ganlyniad i fodurwyr yn parcio'n anystyriol ar briffyrdd a lonydd ger ysgolion ledled y Sir. 

Mae tensiwn cynyddol yn ein cymunedau a rhwystredigaeth nad yw cyrff cyhoeddus, fel y Cyngor a'r heddlu, yn gwneud digon i amddiffyn ein plant rhag niwed, ac mae'r cymunedau sy'n cael eu heffeithio gan achosion o barcio peryglus ac anystyriol yn achosi tensiynau yn mynegi'r farn yma.

Er mwyn mynd i'r afael â materion o'r fath, a hynny ar frys, mae'r Cyngor yma'n penderfynu

Cyfeirio'r mater at y pwyllgor craffu perthnasol, yn gofyni sefydlu gweithgor craffu ar frys a fydd yn nodi ystod o fesurau cynaliadwy ynghyd â chynigion i'w gweithredu i fynd i'r afael â'r mater, gan gynnwys (ond nid yn gyfyngedig i):

Cynnal adolygiad o'r hyn y gellir ei wneud i wella'r defnydd o bwerau cyfredol y Cyngor gan gynnwys defnyddio camerâu sefydlog cymeradwy mewn lleoliadau â phroblem a chynyddu patrolau.

Archwilio beth fyddai budd ymarfer gwybodaeth gyhoeddus yn atgoffa modurwyr i barcio'n gyfrifol bob amser.

Trafod galw ar Lywodraeth Cymru i greu deddfwriaeth ar gyfer troseddau traffig a nodwyd gan gamerâu cymeradwy fel ychwanegiad cadarnhaol at bwerau gorfodi cyfredol Cynghorau lleol

 

 

Cofnodion:

 

Cafodd y Rhybudd o Gynnig canlynol ei gyflwyno yn enwau Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol E Webster, K Morgan, P Jarman, S Evans, J Williams, A Cox, S Rees Owen, M Weaver, D Grehan, E Griffiths, H Fychan, E Stephens, L  Jones, G Davies, A Chapman, J Davies a J Cullwick:

Bod y Cyngor yma'n ailystyried ei ddyletswydd o ran grymoedd gorfodi a'i ffordd o weithredu'r grymoedd hynny ar frys er mwyn sicrhau bod y strydoedd yn ddiogel ac yn hygyrch ac osgoi'r peryglon ynghlwm â thorri rheolau parcio yn ein cymunedau.

Mae tystiolaeth gynyddol yn dangos bod plant mewn perygl o ganlyniad i fodurwyr yn parcio'n anystyriol ar briffyrdd a lonydd ger ysgolion ledled y Sir. 

Mae tensiwn cynyddol yn ein cymunedau a rhwystredigaeth nad yw cyrff cyhoeddus, fel y Cyngor a'r heddlu, yn gwneud digon i amddiffyn ein plant rhag niwed,

ac mae'r cymunedau sy'n cael eu heffeithio gan achosion o barcio peryglus ac anystyriol yn achosi tensiynau yn mynegi'r farn yma.

Er mwyn mynd i'r afael â materion o'r fath, a hynny ar frys, mae'r Cyngor yma'n penderfynu

Cyfeirio'r mater at y pwyllgor craffu perthnasol, yn gofyni sefydlu gweithgor craffu ar frys a fydd yn nodi ystod o fesurau cynaliadwy ynghyd â chynigion i'w gweithredu i fynd i'r afael â'r mater, gan gynnwys (ond nid yn gyfyngedig i):

Cynnal adolygiad o'r hyn y gellir ei wneud i wella'r defnydd o bwerau cyfredol y Cyngor gan gynnwys defnyddio camerâu sefydlog cymeradwy mewn lleoliadau â phroblem a chynyddu patrolau.

Archwilio beth fyddai budd ymarfer gwybodaeth gyhoeddus yn atgoffa modurwyr i barcio'n gyfrifol bob amser.

Trafod galw ar Lywodraeth Cymru i greu deddfwriaeth ar gyfer troseddau traffig a nodwyd gan gamerâu cymeradwy fel ychwanegiad cadarnhaol at bwerau gorfodi cyfredol Cynghorau lleol

Yn dilyn trafodaeth mewn perthynas â'r cynnig ac yn unol â Rheolau Gweithdrefn y Cyngor 12.7, PENDERFYNWYD peidio â mabwysiadu'r cynnig.

 

(Noder: Roedd yr Aelodau canlynol a oedd yn bresennol, yn dymuno cofnodi eu bod wedi pleidleisio o blaid y Rhybudd o Gynnig:

 

Gr?p Plaid Cymru - Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol A Cox, J Cullwick, G R Davies, H Fychan, D Grehan, E Griffiths, P Jarman, L Jones, K Morgan, M Weaver, E Webster a J Williams.

 

Gr?p Ceidwadol - Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol L Hooper a S Trask

 

Gr?p Annibynnol RhCT - Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol L Walker a K Jones

 

Y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol S. Belzak.)