Agenda

Cyswllt: Marc Jones - Swyddog Gwasanaethau Democrataidd  01443 424099

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

 

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

2.

COFNODION pdf icon PDF 123 KB

Derbyn cofnodion o gyfarfod blaenorol y Pwyllgor Penodiadau a gafodd ei gynnal ar 21 Ionawr 2020.

 

3.

TRAFOD CADARNHAU'R CYNNIG ISOD YN BENDERFYNIAD

“Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”

4.

LLUNIO RHESTR FER AR GYFER SWYDD CYFARWYDDWR CYFADRAN - CYFADRAN Y GWASANAETHAU CYMUNED A GWASANAETHAU I BLANT

Llunio Rhestr Fer Ar Gyfer Swydd Cyfarwyddwr CyfadranCyfadran Y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau I Blant