Agenda a Chofnodion

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy CF40 2XX

Cyswllt: Marc Jones - Swyddog Gwasanaethau Democrataidd  01443 424102

Eitemau
Rhif eitem

7.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Daeth ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol M. Diamond ac A. Morgan.

 

8.

CROESO

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r Pwyllgor Penodiadau.

9.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

 

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.   Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.

 

10.

COFNODION pdf icon PDF 148 KB

Derbyn cofnodion o gyfarfod blaenorol y Pwyllgor Penodiadau a gafodd ei gynnal ar 19 Chwefror 2019.

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD  cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gafodd ei gynnal ar  19eg Chwefror 2019 yn adlewyrchiad cywir o'r cyfarfod.

 

11.

TRAFOD CADARNHAU'R CYNNIG ISOD YN BENDERFYNIAD

“Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”

 

12.

TRAFOD CYD-ADRODDIAD Y PRIF WEITHREDWR A'R CYFARWYDDWR MATERION ADNODDAU DYNOL, SY'N CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol ei adroddiad ar y cyd â Chyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant, sy'n cynnwys gwybodaeth eithriedig.

 

Yn dilyn cyhoeddi dyddiad ymddeol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau i Blant, cafodd yr Aelodau wybod fod y Prif Weithredwr, Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant, y Dirprwy Brif Weithredwr a'r Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol wedi cynnal adolygiad i weld a fydd galw am swydd Cyfarwyddwr Gwasanaethau i Blant ar gyfer y dyfodol. Daethon nhw i'r casgliad fod angen disodli'r swydd gan ei bod yn cael ei hystyried yn rôl allweddol.

 

Cafodd yr Aelodau wybod am y ffordd ymlaen a awgrymwyd ac roedd gofyn iddyn nhw gytuno ar yr argymhellion a nodwyd ym mhwyntiau 2.1 a 2.2 yr adroddiad.

 

Tynnodd y Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol sylw at y ffaith bod nifer o Benaethiaid Gwasanaeth sydd wedi cymryd rhan mewn cyrsiau datblygu sgiliau rheoli yn rhan o strategaeth ddatblygu gweithlu'r Cyngor, ac efallai y byddai modd i un ohonyn nhw gyflawni swydd Cyfarwyddwr Gwasanaethau i Blant.

 

Gan fod y swydd yn rôl allweddol yn y Cyngor, roedd yr Aelodau o'r farn nad oedden nhw am eithrio ymgeiswyr allanol rhag ymgeisio, a gofynnon nhw a oes modd hysbysebu'r swydd yn allanol.    

 

Mewn ymateb, nododd y Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol y gellid hysbysebu'r swydd yn allanol a byddai staff mewnol hefyd yn cael cyfle i wneud cais.

 

Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:

 

(1)  y byddai swydd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau i Blant yn cael ei hysbysebu'n allanol.

(2)  byddai diweddariad mewn perthynas â cheisiadau a dderbynnir yn cael ei ddarparu i'r Aelodau yn dilyn y broses ymgeisio.