Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy CF40 2XX
Cyswllt: Julia Nicholls - Uwch Swyddog Gwasanaethau Democrataidd 01443 424098
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANT Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau o'r Pwyllgor yn unol â gofynion Cod Ymddygiad y Cyngor. Nodwch: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm y mae eu buddiant yn ymwneud ag e, a mynegi natur y buddiant personol hwnnw: a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
|
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Mehefin 2019 yn rhai cywir.
|
|
Trafod cadarnhau'r cynnig isod yn benderfyniad:- “Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd) yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf.”
|
|
Ystyried Yr Apêl Ganlynol:- Ystyried apêl K.P. o Adran Gwasanaethau Llyfrgell.
Nodwch: Bydd dogfennau mewn perthynas â'r mater yma yn cael eu dosbarthu ar wahân.
|