Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy CF40 2XX

Cyswllt: Sarah Handy - Council Business Unit, Democratic Services  07385401942

Eitemau
Rhif eitem

8.

Croeso a Chyflwyniadau

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg a gofynnwyd i'r Swyddogion ac i'r Aelodau gyflwyno eu hunain.

 

9.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Daeth ymddiheuriadau am golli'r cyfarfod oddi wrth Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol J Rosser ac L Hooper.

 

10.

Datganiad o Fuddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw.

 

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau mewn perthynas â'r Agenda.

 

 

11.

Cofnodion pdf icon PDF 320 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg a gynhaliwyd ar 19 Gorffennaf, 2021.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Gorffennaf 2021 yn rhai cywir.

 

12.

Diweddariad ynghylch Eisteddfod Genedlaethol RhCT

Cofnodion:

Gyda chymorth cyflwyniad PowerPoint, rhannodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am Eisteddfod 2024, fydd yn cael ei chynnal yn Rhondda Cynon Taf. Darparodd wybodaeth gefndirol am yr Eisteddfod, gan dynnu sylw mai hi yw'r ?yl ddiwylliannol fwyaf i'w chynnal yn Ewrop gan ddenu dros 175,000 o ymwelwyr yn flynyddol. Amlinellodd nodau’r Eisteddfod heddiw i ddathlu iaith a diwylliant Cymru drwy gynnal achlysur bywiog a chroesawgar. Amlinellodd y Prif Weithredwr bwysigrwydd cael dylanwadau lleol ar yr Eisteddfod a'r cyfle i ardal Rhondda Cynon Taf roi ei stamp ei hun ar yr achlysur. Tynnodd sylw at bwysigrwydd gweithio gyda'r Awdurdod Lleol i sicrhau bod pob cymuned yn cael ei chynnwys ac i gyflawni'r deilliannau a ddymunir wrth annog trigolion lleol ac ymwelwyr i ddod i'r Eisteddfod. Rhannodd fanylion gyda'r Aelodau am saith gwaddol posibl yr Eisteddfod, sef gwaddol cymunedol, diwylliannol, ieithyddol, economaidd, digidol, cynhwysol a gwaddol gwirfoddolwyr. 

 

Parhaodd Pennaeth Cyfathrebu'r Eisteddfod â'r cyflwyniad gan amlinellu i Aelodau fanylion Prosiect Cymunedol yr Eisteddfod gan gynnwys croesawu Swyddog Prosiect ymroddedig o Rondda Cynon Taf. Rhannodd fanylion y cynllun strategol i greu fforwm cymunedol a gweithio gyda grwpiau yn yr ardal leol i roi blas o'r Eisteddfod. Rhoddwyd manylion y 2 gam o waith i'r Aelodau yn amlinellu'r camau a gymerir i ymgysylltu â grwpiau ledled y sir.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Eisteddfod am ddarparu cyflwyniad mor fanwl i'r Gr?p a nododd fod yr Eisteddfod yn gyfle gwych i ardal RhCT. Fe wnaeth y Cadeirydd ganmol gwaddol posibl yr Eisteddfod a chyfeiriodd at ei daith ei hun yn dysgu Cymraeg, gan fynegi iddo gael ei ysbrydoli gan yr Eisteddfod.

 

Canmolodd y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu y cyflwyniad a nododd, er bod y pandemig wedi effeithio ar yr Eisteddfod, roedd yn sicr y byddai'n parhau i fod yn llwyddiant ysgubol ac yn gyfle gwych i'r Fwrdeistref Sirol.

 

Parhaodd y drafodaeth a phwysleisiodd un Aelod yr angen i wneud yr Eisteddfod mor gynhwysol ac amrywiol â phosibl. Nododd yr Aelod y bu buddsoddiad sylweddol mewn ysgolion yn RhCT ac y bydd pobl ifainc yn arwain yr Eisteddfod. Nododd yr Aelod bod cyfrifoldeb ar bobl ifainc i annog y cenedlaethau h?n i gymryd rhan a chrybwyll gwaddol yr Eisteddfod i'r holl genedlaethau, sy'n elfen bwysig iawn i'n cymunedau ni.

 

Nododd Aelod arall bwysigrwydd denu pobl nad ydyn nhw'n siarad Cymraeg i gymryd rhan yn yr Eisteddfod a chanmolodd waith y Fforymau Cyfathrebu wrth gyflawni hyn.

 

Cynigiodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Ysgolion yr 21ain Ganrif a Materion Trawsnewid ei bod ar gael i gynnig unrhyw gymorth i’r Eisteddfod mewn perthynas ag ysgolion yn y Fwrdeistref Sirol a nodi’r cyfleoedd cyffrous sy'n cael eu creu yn sgil yr Eisteddfod. Cytunodd y Cadeirydd, a nododd bwysigrwydd cael ysgolion nad ydyn nhw'n rhai Cymraeg i gymryd rhan yn yr Eisteddfod hefyd.

 

Canmolodd Cynrychiolydd Menter Iaith, Einir Siôn, gyflwyniad yr Eisteddfod a nododd ddau bwynt. Yn gyntaf, fe wnaeth gynnig cefnogaeth y Menter Iaith a nodi gwaith gwych y Fforymau Cyfathrebu a'r newidiadau cadarnhaol a  ...  view the full Cofnodion text for item 12.

13.

ASESIAD O STRATEGAETH HYBU'R GYMRAEG pdf icon PDF 152 KB

Derbyn a thrafod asesiad o gyflawniad y Cyngor yn unol â Strategaeth Hybu'r Gymraeg.

 

 

Cofnodion:

Darparwyd asesiad o gyflawniad y Cyngor yn erbyn y Strategaeth Hybu'r Gymraeg i'r Aelodau, fel sy'n ofynnol o dan Safon 146 yr Hysbysiad Cydymffurfiaeth a roddwyd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf o dan Adran 44 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

 

Yn dilyn y trosolwg yma, rhoddodd Nia Davies o NICO gyflwyniad i Aelodau'r Gr?p Llywio yn ymwneud ag adolygiad o'r strategaeth 5 mlynedd. Hysbyswyd yr Aelodau bod y 3 phrif neges o'r adolygiad yn cynnwys pwysigrwydd trosglwyddo'r iaith, Meithrin/Meithrinfeydd a llwybrau ôl-16. Mae argymhellion yr adolygiad yn cynnwys y dylai'r cynllun 5 mlynedd ymateb i Gyfrifiad 2021, edrych ar y cyfleoedd sy'n codi o'r fforwm iaith a chan bartneriaid a rennir a mesur deilliannau ac edrych ar Eisteddfod Genedlaethol 2024 a'r gwersi sy'n dod i'r amlwg.

 

Yn dilyn y cyflwyniad, diolchodd y Cadeirydd i swyddogion am ddarparu trosolwg mor fanwl i'r Gr?p Llywio a nododd fod y Gr?p Llywio wedi cael y dasg o sicrhau bod y Cyngor yn cydymffurfio â'i dargedau.

 

Bu trafodaethau a nododd Cynrychiolydd Menter Iaith, Einir Siôn, fod y broses o hyrwyddo'r strategaeth wedi bod yn adeiladol iawn a'n bod ni i gyd yn gallu dysgu gwersi o'r broses. Nodwyd bod yr adolygiad yn rhoi cyfle i ni edrych ar berthnasoedd â phartneriaid ac i gynnwys hyn yn ein strategaeth ar gyfer y dyfodol. Nododd y Cynrychiolydd Menter Iaith bwysigrwydd defnyddio'r iaith Gymraeg ymhlith y maes ôl-16 a phwysigrwydd defnyddio gwirfoddolwyr i helpu gyda'r galw yma. Nododd y Cynrychiolydd hefyd bwysigrwydd datblygu gwasanaethau a chreu partneriaethau i barhau y tu hwnt i'r Eisteddfod Genedlaethol.

 

Parhaodd y trafodaethau a nododd Aelod fod y blaenoriaethau yn y cynllun 5 mlynedd yn cyd-fynd â'r weledigaeth genedlaethol a nododd y cyfleoedd yn ein cymunedau i gynyddu ein siaradwyr Cymraeg.

 

Roedd y Rheolwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Cymraeg yn dymuno cofnodi ei ddiolch i Einir Siôn fel partner wrth ddatblygu'r strategaeth 5 mlynedd. Adleisiodd y Cadeirydd y teimladau hyn.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad ac asesiad Strategaeth Hybu'r Gymraeg.

 

 

14.

Materion Brys

Trafod unrhyw faterion sydd, yn ôl doethineb y Cadeirydd, yn faterion brys yng ngoleuni amgylchiadau arbennig.

 

Cofnodion:

Hysbysodd y Cadeirydd y Gr?p Llywio y bydd Cynrychiolydd Menter Iaith, Einir Siôn, yn gadael ei swydd ac mai hwn oedd ei chyfarfod olaf gyda'r Gr?p Llywio. Roedd y Cadeirydd yn dymuno cofnodi ei ddiolch i Einir Siôn am fod yn gymorth aruthrol i'r Gr?p. Roedd y Cadeirydd yn dymuno llongyfarch Einir Siôn ar ei swydd newydd a dymuno pob llwyddiant iddi yn y dyfodol. Adleisiodd aelodau’r Gr?p Llywio’r teimladau hyn.

 

15.

Dyddiad y cyfarfod nesaf

Nodi dyddiad cyfarfod nesaf Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg, sef 8 Rhagfyr 2021.

 

Cofnodion:

Nododd y Cadeirydd mai dyddiad y cyfarfod nesaf fydd 8 Rhagfyr 2021.