Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Sarah Handy - Council Business Unit, Democratic Services  07385401942

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw.

 

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

 Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, datganodd y Cynghorydd Rhys Lewis y datganiad buddiant personol canlynol yn ymwneud â'r agenda, ac arhosodd yn y cyfarfod pan oedd yr Aelodau'n trafod yr eitem ac yn pleidleisio arno.

 

·       “Fi yw Cadeirydd y Llywodraethwyr yn Ysgol Gynradd Abercynon, ysgol y cyfeiriwyd ati yn adroddiad Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg”. 

 

 

2.

Cofnodion pdf icon PDF 112 KB

Derbyn cofnodion o gyfarfod Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg a gynhaliwyd ar 22 Ebrill 2021.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Ebrill 2021 yn rhai cywir.

 

3.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Daeth ymddiheuriadau am golli'r cyfarfod oddi wrth Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol  L. Hooper a J. Rosser.

 

4.

Croeso

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Lewis i'w gyfarfod cyntaf o'r Gr?p Llywio.

 

 

5.

DRAFFT Y CYNLLUN STRATEGOL CYMRAEG MEWN ADDYSG pdf icon PDF 2 MB

Trafod Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSGA/WESP)

 

Cofnodion:

Darparodd Rheolwr Uned Busnes y Cyngor

drosolwg o'r fframwaith adrodd ar gyfer Cynllun Strategol Drafft Cymraeg mewn Addysg y Cyngor, gan ddweud wrth yr Aelodau am y cyfle i wneud sylwadau ar y cynllun drafft a'r ymgynghoriad cysylltiedig, cyn i'r Cabinet ei drafod ar 20 Gorffennaf. Dywedwyd wrth yr aelodau mai'r bwriad oedd y byddai'r cynllun Drafft yn cael ei gyflwyno ymhellach i'r Gr?p Llywio, yn amodol ar benderfyniad y Cabinet, cyn i'r Cabinet ei drafod, a hynny fel bod modd i'r gweithgor helpu gyda phroses benderfynu gadarn.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Dros Dro ar faterion Ysgolion yr 21ain Ganrif a Thrawsnewidfanylion pellach i'r Aelodau mewn perthynas

â'r adroddiad.

 

Yn ogystal â'r targed i gynydducanran y dysgwyr blwyddyn un mewn addysg gyfrwng Gymraeg, cafodd yr Aelodau eu hatgoffa bod y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg

hefyd yn cynnwys saith deilliant neu faes sy'n nodi sut mae disgwyl i Awdurdodau Lleol

wella addysg Gymraeg yn eu hardal. Ein blaenoriaethau yw:

 

1.     Deilliant 1: Mwy o ddisgyblion Meithrin / tair oed yn derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg.

2.     Deilliant 2: Mwy o ddisgyblion dosbarth Derbyn / pump oed yn derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg.

3.     Deilliant 3: Mwy o blant yn parhau i wella eu sgiliau iaith Gymraeg wrth bontio o un Cyfnod o'u haddysg statudol i un arall.

4.     Deilliant 4: Mwy o ddisgyblion yn astudio ar gyfer cymwysterau wedi'u hasesu yn y Gymraeg (y pwnc) a phynciau trwy gyfrwng y Gymraeg.

5.     Deilliant 5: Mwy o gyfleoedd i ddisgyblion ddefnyddio'r Gymraeg mewn cyd-destunau gwahanol yn yr ysgol.

6.     Deilliant 6: Cynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.

7.     Deilliant 7: Cynyddu nifer y staff addysgu sy'n gallu addysgu'r Gymraeg ac addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Yn dilyn trosolwg manwl, cafwyd trafodaeth. Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am y trosolwg manwl a nododd fod y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg wedi bod yn benllanw gwaith manwl, caled gan Swyddogion, ar y cyd â gwaith ymgysylltu llwyddiannus â phartneriaid allanol. Roedd y Cadeirydd yn falch o weld y safbwynt tymor hwy a nododd y bydd adolygiadau rheolaidd yn cael eu cynnal dros y 10 mlynedd.

 

Diolchodd Aelod arall i'r swyddogion am roi diweddariad manwl a nododd, mewn perthynas â deilliant 5, ei bod hi'n bwysig bod disgyblion yn cael eu hannog i ddefnyddio'r Gymraeg y tu allan i'r ysgol ac yn y gymuned leol. Nododd yr Aelod yr her bwysig sydd o’n blaenau o ran sicrhau bod gyda'r disgyblion hyder i siarad Cymraeg mewn busnesau lleol a holodd sut roedd swyddogion yn bwriadu goresgyn yr her yma yn y dyfodol. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth - Gwasanaethau'r Gymraeg wrth yr Aelodau fod y strategaeth 5 mlynedd yn rhedeg ochr yn ochr â'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg a phwysleisiodd fod Llywodraeth Cymru yn awyddus i'r canlyniadau redeg ochr yn ochr â'i gilydd. Pwysleisiodd y Rheolwr Gwasanaeth eu bod ar hyn o bryd wrthi'n llunio cynllun 5 mlynedd newydd, a fydd yn barod  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Materion Brys

Trafod unrhyw faterion sydd, yn ôl doethineb y Cadeirydd, yn faterion brys yng ngoleuni amgylchiadau arbennig.

 

Cofnodion:

Doedd dim mater arall i'w drafod

7.

Dyddiad y cyfarfod nesaf

Nodi dyddiad cyfarfod nesaf Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg, sef 6 Hydref 2021.

 

Cofnodion:

Nododd y Cadeirydd mai dyddiad y cyfarfod nesaf fydd 19 Hydref 2021