Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy CF40 2XX

Cyswllt: Emma Wilkins - Council Business Unit, Democratic Services  01443 424099

Eitemau
Rhif eitem

8.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw.

 

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant

yngl?n â'r agenda.

 

9.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

Cofnodion:

Cafodd ymddiheuriadau am absenoldeb eu derbyn oddi wrth Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol J James ac E Stephens.

 

10.

Cofnodion pdf icon PDF 113 KB

Derbyn cofnodion o gyfarfod Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg a gynhaliwyd ar 9 Hydref, 2019.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau cofnodion o gyfarfod

Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg a gynhaliwyd ar 9 Hydref, 2019.

 

11.

GWASANAETHAU CYMRAEG - ADRODDIAD CYNNYDD AR STRATEGAETH HYBU'R GYMRAEG A'R CYNLLUN GWEITHREDU pdf icon PDF 139 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned, sy'n darparu trosolwg i'r Aelodau o gyflawniad y Cyngor yng nghyd-destun Cynllun Gweithredu Strategaeth Hybu'r Gymraeg

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau'r Gymuned drosolwg i Aelodau o gyflawniad y Cyngor yng nghyd-destun Cynllun Gweithredu Strategaeth Hybu'r Gymraeg, a gafodd ei chymeradwyo ar 25 Ionawr 2017.

 

Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa eu bod hi'n ofynnol i'r Cyngor baratoi Strategaeth Bum Mlynedd i hwyluso a hybu'r Gymraeg yn y sir o dan Safon 145 yr Hysbysiad Cydymffurfio sydd wedi'i gyhoeddi dan adran 44 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth ei bod hi'n briodol i Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg ystyried cynnydd y cynllun a'i gymharu â'r targedau a'r camau sydd wedi'u nodi gan fod y Cynllun Gweithredu bron â chyrraedd terfyn ei flwyddyn olaf yn unol â'r amserlen, ac y dylid cytuno ar unrhyw gamau pellach sydd eu hangen i sicrhau bod y cynllun yn parhau â'r amcanion sydd wedi'u nodi ar gyfer y cyfnod 2021-2026.

 

Cyfeiriwyd yr aelodau at adran 5 yr adroddiad a oedd yn trafod y sefyllfa bresennol a’r cynnydd mewn perthynas â'r cynllun. Nodwyd bod effaith Covid-19 yn golygu bod cynnydd, yn ddealladwy, wedi bod yn gyfyngedig yn ystod 2020-2021 a bod meysydd gwasanaeth yn canolbwyntio ar addasu’n gyflym i ddarparu'u gwasanaethau. Serch hynny, mae peth cynnydd da wedi'i wneud mewn perthynas â nifer o'r camau yn 2020-2021.

 

Fe wnaeth y Cadeirydd gydnabod y cyflawniadau cadarnhaol a wnaed mewn perthynas â'r cynllun dros y 5 mlynedd diwethaf a soniodd am fuddion defnyddio ymgynghorydd annibynnol i gynorthwyo wrth asesu'r amcanion a gyflawnwyd a ddatblygu'r cynllun nesaf.

 

Croesawodd yr Is-gadeirydd yr adroddiad cynnydd a'r gwaith a gyflawnwyd yn enwedig yn ystod blwyddyn anodd oherwydd y pandemig. Gwnaeth yr Aelod sylw ynghylch ymgysylltu ag ymgynghorydd annibynnol i gynorthwyo gyda chanfod meysydd i'w datblygu ymhellach wrth symud ymlaen.

 

Cytunodd ES, o Menter Iaith, fod llawer o waith da wedi datblygu dros y 5 mlynedd a chytuno â'r angen am adolygydd annibynnol.

 

Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:

 

1.     nodi'r wybodaeth oedd wedi ei chynnwys yn yr adroddiad;

2.     Argymell cymeradwyo parhau â'r Cynllun Gweithredu cyfredol hyd nes bod Cynllun Gweithredu newydd yn cael ei gymeradwyo i gwmpasu'r cyfnod 2021-2026.

3.     Argymell cymeradwyo gofyn am wasanaeth ymgynghorydd annibynnol i asesu i ba raddau y mae amcanion y Strategaeth 5 Mlynedd wedi'u cyflawni trwy roi Cynllun Gweithredu 2016-2021 ar waith; ac i gynghori ar ddatblygu Cynllun Gweithredu newydd ar gyfer y 5 mlynedd nesaf.

 

 

12.

ADRODDIAD CYDYMFFURFIO Â SAFONAU'R GYMRAEG 2020-2021 - I'W GYFLWYNO I GOMISIYNYDD Y GYMRAEG pdf icon PDF 199 KB

Derbyn rhaglen waith ddrafft Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg i'r Aelodau wneud sylwadau arno.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Mae Rheolwr Gwasanaeth y Gwasanaethau Cymraeg yn darparu copi o Adroddiad Cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg 2020 - 2021 i'r Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg. Mae'r adroddiad yn amlinellu'r ffordd mae'r Cyngor wedi cydymffurfio â'r:

 

·       Safonau Darparu Gwasanaethau roedd y Cyngor o dan ddyletswydd i gydymffurfio â nhw yn ystod y flwyddyn dan sylw;

 

·       Safonau Llunio Polisïau roedd y Cyngor o dan ddyletswydd i gydymffurfio â nhw yn ystod y flwyddyn dan sylw;

 

·       Safonau Gweithredol roedd y Cyngor o dan ddyletswydd i gydymffurfio â nhw yn ystod y flwyddyn dan sylw.

 

Cyfeiriwyd yr aelodau at yr Adroddiad Monitro Blynyddol yn Atodiad 1 yr adroddiad sy'n disgrifio'n fanwl y gwaith a wnaed gan y Cyngor dros y flwyddyn i sicrhau cydymffurfiaeth â Safonau'r Gymraeg. Cynghorwyd bod y gwaith a wnaed gan adrannau yn y gorffennol wedi'i gofnodi'n bennaf trwy Hunanwerthusiadau Gwasanaeth ac wedi'i gyhoeddi fel atodiad i'r adroddiad. Ond oherwydd pandemig Covid-19, penderfynwyd atal Hunanwerthusiadau Gwasanaeth ar gyfer y flwyddyn 2020 - 2021 er mwyn i feysydd gwasanaeth ymateb i anghenion trigolion yn ystod pandemig Covid-19. Yn ogystal â hynny, ataliodd Comisiynydd y Gymraeg ymchwiliad i ddiffyg cydymffurfio rhwng 1 Ebrill 2020 a 1 Awst 2020 i gydnabod yr addasiadau o ran darparu gwasanaeth yr oedd angen i gyrff sector cyhoeddus eu rhoi ar waith yng ngoleuni'r pandemig.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth y bu llwyddiannau nodedig o ran cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg serch y pandemig a dylid llongyfarch meysydd gwasanaeth am eu hymdrechion parhaus yn ystod y pandemig. Rhannodd y Swyddog drosolwg o'r llwyddiannau.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Rheolwr Gwasanaeth am yr adroddiad a chroesawodd y cynnydd a'r gwaith da. Soniodd am bwysigrwydd datblygu sgiliau Cymraeg staff o fewn yr Awdurdod a'u cefnogi. Cyfeiriodd y Cadeirydd at bwysigrwydd ystyried yr heriau sydd wedi'u hamlinellu yn adran 5.2 yr adroddiad wrth drafod cynllun 5 mlynedd y Cyngor.

 

Manteisiodd yr Is-gadeirydd ar y cyfle i siarad am lwyddiannau nodedig yr adroddiad.

 

Dywedodd ES, Menter Iaith fod y Cyngor mewn lle da a diolchodd i'r swyddogion am y gwaith a gyflawnwyd.

 

PENDERFYNWYD:

1.     Nodi cynnwys yr adroddiad;

2.     Cymeradwyo'r adroddiad i'w gyhoeddi ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a chymeradwyo'r gwaith o sicrhau ei fod ar gael ym mhob un o swyddfeydd yr awdurdod sydd ar agor i'r cyhoedd erbyn 30 Mehefin 2021 fan bellaf, fel bod modd i'r cyhoedd ei weld;

3.     Cymeradwyo'r trefniadau ar gyfer rhoi gwybod i'r cyhoedd bod yr adroddiad blynyddol wedi cael ei gyhoeddi.

 

13.

CYNLLUN STRATEGOL CYMRAEG MEWN ADDYSG – DIWEDDARIAD BLYNYDDOL 2020 pdf icon PDF 139 KB

Derbyn adroddiad ar y cyd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant a'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu sy'n rhoi trosolwg i'r Aelodau o Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (WESP) y Cyngor a gyflwynwyd ac y cytunwyd arno yng nghyfarfod y Cabinet ar 28 Ionawr 2021.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe wnaeth Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant roi trosolwg i Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg o Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (WESP) y Cyngor, a gafodd ei gyflwyno a'i gytuno yng nghyfarfod y Cabinet ar 28 Ionawr 2021.

 

Rhannwyd trosolwg byr gyda'r aelodau o'r sefyllfa bresennol mewn perthynas â'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg gan gynnwys manylion capasiti dros ben, gwariant ar addysg cyfrwng Cymraeg yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mân waith cyfalaf arfaethedig yn ogystal â manylion pob un o'r saith deilliant sy'n nodi sut mae disgwyl i Awdurdodau Lleol wella addysg cyfrwng Cymraeg ac addysg am y Gymraeg yn yr ardal.

 

Fe wnaeth y Cyfarwyddwr wneud sylw am gynnydd y Cyngor a sut mae'n gweithio mewn partneriaeth i gyflawni'r cynllun er mwyn sicrhau nad yw'n gorffwys ar ei fri. Dywedwyd wrth yr aelodau am gyfarfod cynllunio mewn perthynas â'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg sydd wedi'i drefnu ac sy'n gyfle i feddwl yn greadigol a chreu ffordd o weithio i gyrraedd y targedau newydd yn y dyfodol.

 

Dywedodd yr Is-gadeirydd fod y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg wedi'i drafod yng nghyfarfod diweddar y Pwyllgor Craffu – Plant a Phobl Ifainc yn ogystal â'r Cabinet. Soniodd am y newidiadau cadarnhaol y sylwyd arnyn nhw o fewn addysg cyfrwng Cymraeg ers ffurfio'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg cyfredol. Soniodd yr Is-gadeirydd am bwysigrwydd nodi ansawdd ac argaeledd cynyddol darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer y blynyddoedd cynnar, sy'n ddechreubwynt i ddisgyblion barhau â'u haddysg yn Gymraeg. Gorffennodd yr Is-gadeirydd trwy roi sylwadau ar y meysydd y mae angen mynd i’r afael â hwy yn y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yn y dyfodol a’r cyfleoedd o fewn y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg i ddarparu'r cyfleoedd dysgu gorau i blant a phobl ifainc RhCT.

 

Croesawodd y Cadeirydd y diweddariad a siaradodd am ansawdd da'r cyfleusterau sydd ar gael yn dilyn buddsoddiad a'r dewis sydd ar gael i'r bobl ifainc a'u rhieni. Cyfeiriodd y Cadeirydd at bwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth, gan fod gan bawb ran i'w chwarae wrth greu uchelgais i oedolion ifainc y dyfodol.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu wrth yr Aelodau y byddai'r Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg a Gweithgor y Pwyllgor Craffu – Plant a Phobl Ifainc yn rhan o lunio'r strategaeth cyn ei chyflwyno i'r cabinet yn rhan o ddatblygu'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg newydd.

Soniodd ES, Menter Iaith, am y gwaith gwych mewn perthynas â darpariaeth iaith Gymraeg sy'n cael ei gyflawni ledled y sir a soniodd am y pethau cadarnhaol sy'n cael eu cydnabod yn y meithrinfeydd.  Mae hi'n croesawu bod yn rhan o'r broses wrth helpu i osod y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg nesaf a siaradodd am heriau cynllunio ar gyfer cynllun 10 mlynedd o'i gymharu â chynllun byr 4/5 mlynedd.  Cyfeiriodd ES at y ffaith bod dim cynnydd o ran yr iaith Gymraeg dros y 10 mlynedd diwethaf a holodd i swyddogion sut byddai'r cynllun newydd yn gwella'r sefyllfau yma.  Cytunodd  ...  view the full Cofnodion text for item 13.

14.

TROSOLWG O WAITH MENTER IAITH.

Derbyn trosolwg o waith Menter Iaith.

 

Cofnodion:

Rhoddodd ES, Menter Iaith Rhondda Cynon Taf gyflwyniad i'r gr?p llywio yn trafod rôl Menter Iaith, gan rannu manylion am fwriad a datganiad cenhadaeth yr elusen, sef sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn perthyn i bawb yn RhCT a'i bod yn iaith fyw o fewn y cymunedau. Dysgodd yr aelodau fod y sefydliad, oherwydd y pandemig, wedi addasu i weithio'n ddigidol. Soniodd ES am bwysigrwydd gwrando ar y cyhoedd i sicrhau ein bod yn cyflawni'r hyn sydd wir ei angen ac nid yr hyn sydd ei angen yn ein barn ni.

 

Dysgodd yr aelodau sut roedd y sefydliad yn gweithio i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg trwy ddarparu gwasanaethau fel gwasanaethau i blant oed cynradd, gwasanaethau celfyddydau addysgol a gwasanaethau ieuenctid.  Parhaodd ES trwy sôn am achlysuron yn y gymuned i hyrwyddo'r iaith ynghyd â hyrwyddo'r celfyddydau a diwylliant. Trafodwyd manylion am hyrwyddo'r Gymraeg o fewn cyflogaeth, hyfforddiant a chyfleoedd i wirfoddoli ynghyd â chefnogi lleoliadau, sefydliadau a datblygiadau seilwaith megis cefnogi canolfannau a phartneriaid. 

Rhannodd drosolwg o'r strwythur i'r gr?p gydag aelodau'n dysgu bod 37 aelod o staff yn gweithio i'r mudiad Menter Iaith, cyn cael gwybod am ganolfannau cefnogi ac achlysuron Menter Iaith, drwy sôn am ddatblygiadau gwych yn Clwb y Bont fel enghraifft.

 

Gorffennodd ES ei chyflwyniad trwy rannu sylwadau ar sut mae MI yn ceisio darparu gwasanaethau o'r ansawdd gorau posibl a phwysigrwydd gweithio ar y cyd er budd pawb yn y gymuned i ddatblygu a thyfu'r iaith Gymraeg.

Mae'r Cadeirydd yn diolch i ES am y cyflwyniad a gwaith Menter Iaith a siaradodd am bwysigrwydd myfyrio ar sut mae'r pandemig wedi effeithio ar dwf a datblygiad posibl yr iaith Gymraeg a'r ffocws wrth edrych tua'r dyfodol.  Cytunodd ES bod llawer wedi colli eu hyder wrth ddefnyddio'r iaith Gymraeg wrth iddynt weithio ar eu pennau eu hunain yn sgil gweithio ac addysgu gartref a chytunodd bod canolbwyntio ar anghenion y dyfodol yn hanfodol.

Yn dilyn ymholiad, cadarnhaodd ES fod pobl nad ydyn nhw'n siarad Cymraeg hefyd yn cael eu hannog i fynychu'r achlysuron sy'n derbyn cefnogaeth gan Menter Iaith i atal unrhyw rwystrau i unrhyw iaith a rhannodd fanylion am sut mae Menter Iaith yn hysbysebu'r achlysuron yma.  Dysgodd yr aelodau am yr heriau ariannol o gynnal achlysuron o'r fath.

 

Diolchodd y Cadeirydd unwaith eto i ES am waith Menter Iaith a'r gwaith parhaus gyda'r Cyngor er budd pawb.

 

CYTUNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.