Agenda a Chofnodion

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy CF40 2XX

Cyswllt: Hannah Williams - Uned Busnes y Cyngor - Gwasanaethau Llywodraethol  01443 424062

Eitemau
Rhif eitem

8.

Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Cofnodion:

Daeth ymddiheuriadau am golli'r cyfarfod oddi wrth Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol M. Webber, J. Rosser ac E. Stephens.

 

9.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw.

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.

 

10.

Cofnodion pdf icon PDF 100 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg a gynhaliwyd ar 10 Hydref, 2018.

 

Cofnodion:

PENDERFYNODD Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg gymeradwyo cofnodion y cyfarfod, a gafodd ei gynnal ar 10 Hydref 2018, yn rhai cywir.

 

11.

Campau Dŵr Cyfrwng Cymraeg

Derbyn cyflwyniad gan Mr Jonathan Phillips, y Swyddog Datblygu Campau D?r, mewn perthynas â'r cynnydd cadarnhaol sy'n cael ei wneud o ran cyflwyno Campau D?r Cyfrwng Cymraeg. Mae hyn yn ofyniad yng Nghynllun Gweithredu 5 mlynedd y Cyngor i hyrwyddo'r Gymraeg yn Rhondda Cynon Taf.

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Swyddog Datblygu Campau D?r gyflwyniad i Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg yngl?n â chynnydd cadarnhaol y gwaith o gynnal Campau D?r Cyfrwng Cymraeg, yn enwedig mewn perthynas â gwersi nofio yn Gymraeg.

 

Yn unol â Safon 84, eglurodd y Swyddog fod angen i gwrs sydd ar agor i aelodau'r cyhoedd gael ei gynnig ar yr un lefel yn Gymraeg ac yn Saesneg. Cyn hyn, roedd y Cyngor yn darparu gwersi nofio drwy'r Urdd, ond doedden nhw ddim yn cydymffurfio'n llawn â'r Safonau. Roedd yr Aelodau yn falch o glywed bod trafodaethau blaenorol y Gr?p, yn ogystal ag ymholiadau gan rieni, wedi arwain at wneud cynnydd cadarnhaol o ran y ddarpariaeth. Mae hyn yn golygu bod y gwersi nofio sy'n cael eu cynnal yn Gymraeg o'r un safon â'r gwersi nofio sy'n cael eu cynnal yn Saesneg. 

 

Gyda chymorth cyflwyniad fideo a lluniau, dangosodd y Swyddog Datblygu Campau D?r fod cynllun gweithredu wedi'i lunio mewn partneriaeth â'r Swyddog Cydymffurfio – Y Gymraeg er mwyn bodloni'r Safonau'n llwyddiannus. Roedd hi'n galonogol clywed bod y gwasanaeth yn canolbwyntio ar brofiadau cwsmeriaid a bod 50 o bobl ifainc wedi bod yn cael gwersi nofio drwy gyfrwng y Gymraeg ers mis Medi 2018. Dysgodd yr Aelodau fod y 'porth i rieni', y mae modd i bob rhiant/cynhaliwr ei ddefnyddio i gadw golwg ar gyflawniadau a chynnydd ei blentyn, bellach ar gael yn ddwyieithog er mwyn sicrhau bod pob cwsmer yn cael yr un profiad, waeth beth fo'i ddewis iaith.

 

Aeth y swyddog ymlaen i gyfeirio at yr heriau canlynol:

·       Staffio - y broblem wrth ddod o hyd i athrawon;

·       Cost - llogi'r pwll a chostau hyfforddiant; ac

·       Amser yn y pwll

 

Er gwaetha'r heriau, soniodd y swyddog am y camau gweithredu canlynol, sydd wedi'u rhoi ar waith er mwyn gwneud rhagor o gynnydd mewn perthynas â'r ddarpariaeth:

·       Trosglwyddo'r drefn ar gyfer Canolfan Hamdden Rhondda i'r Gwasanaeth Hamdden am Oes. Caiff gwersi nofio eu cynnal drwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd ond dydyn nhw ddim yn cyfateb â'r gwersi Saesneg;

·       Llunio cynllun ar gyfer Cwm Cynon, ond mae hyn yn amodol ar y cynnydd posibl yn y galw mewn mannau eraill;

·       Cyflwyno sesiynau i fabanod a phlant bach;

·       Cynyddu nifer y lleoedd drwy gynnal rhagor o wersi;

·       Hysbysebu'n well gan ddefnyddio Facebook;

·       Datblygu gweithlu'r Cyngor er mwyn gwneud y cynllun yn fwy cynaliadwy ac ymarferol o safbwynt ariannol;

·       Cwrdd â'r Urdd er mwyn adolygu'r cynnydd;

·       Yr angen i dargedu siaradwyr Cymraeg sy'n awyddus i weithio ym maes hamdden neu fod yn athrawon nofio, er mwyn buddsoddi mewn cynaliadwyedd hirdymor;

·       Yr angen i dargedu grwpiau fel Cynorthwywyr Cynnal Dysgu, pobl ifainc sy'n gadael yr ysgol a phobl sydd wedi ymddeol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddog am ei gyflwyniad cynhwysfawr, gan nodi'r cynnydd cadarnhaol y mae'r Awdurdod Lleol wedi'i wneud er mwyn bodloni Safonau'r Gymraeg. Diolchodd y Gr?p Llywio i swyddogion y Gwasanaethau Hamdden, yn ogystal â'r Swyddog Cydymffurfio – Y Gymraeg, am ddangos gwaith  ...  view the full Cofnodion text for item 11.

12.

Adroddiad Blynyddol - Cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg pdf icon PDF 169 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Materion Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned, sy'n rhoi cyfle i'r Gr?p Llywio drafod Adroddiad Blynyddol mewn perthynas â Chydymffurfio â Safonau'r Gymraeg ar gyfer 2018/19.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Cymraeg Adroddiad Cydymffurfio Safonau'r Gymraeg 2018 – 2019 i Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg, a oedd yn rhoi manylion am y drydedd flwyddyn o weithredu'r safonau, ynghyd â manylion am y cynnydd yn erbyn Safonau 52, 58 a 64. Cafodd y rhain eu gohirio hyd at 31 Mawrth 2018 yn y gorffennol.

 

Cafodd Aelodau'r Gr?p llywio eu cyfeirio at Atodiad 1 o'r adroddiad, sy'n amlinellu'r gwaith mae'r Cyngor wedi'i wneud i gydymffurfio â nifer fawr o safonau sydd wedi cael eu gosod gan Gomisiynydd y Gymraeg.

 

Esboniodd y swyddog bod dyletswydd statudol ar y Cyngor i gyhoeddi adroddiad blynyddol a'i ddosbarthu i'r cyhoedd. Yn ogystal â chynnwys y safonau; roedd yr adroddiad wedi'i wneud yn fwy tryloyw trwy amlinellu:

(1)  nifer y cwynion a gafodd eu derbyn yn ystod y flwyddyn sy'n ymwneud â chydymffurfiaeth y Cyngor â'r canlynol: (i) darparu gwasanaethau (ii) llunio polisïau (iii) safonau gweithredu yr oedd o dan ddyletswydd i gydymffurfio â nhw;

(2)  nifer y staff sy’n meddu ar sgiliau Cymraeg ar ddiwedd y flwyddyn dan sylw;

(3)  nifer y staff a gymerodd ran yn y cyrsiau hyfforddiant Cymraeg a gafodd eu cynnig yn ystod y flwyddyn dan sylw;

(4)  canran y staff a gymerodd ran mewn cyrsiau hyfforddiant Cymraeg a gafodd eu cynnig yn ystod y flwyddyn dan sylw;

(5)  nifer y swyddi newydd a gwag a gafodd eu hysbysebu yn ystod y flwyddyn lle - (i) roedd sgiliau Cymraeg yn hanfodol, (ii) roedd hi'n ofynnol dysgu sgiliau Cymraeg ar ôl dechrau yn y swydd, (iii) roedd sgiliau Cymraeg yn ddymunol, neu (iv) doedd dim angen sgiliau Cymraeg yn ystod y flwyddyn dan sylw.

 

Aeth y swyddog ymlaen i amlinellu'r datblygiadau allweddol y mae'r Cyngor wedi'u rhoi ar waith yn ystod y flwyddyn:

a)    Cyflwyno Hyfforddiant Lefel 1 yn y Gymraeg i bob aelod o staff newydd a benodir;

b)    Darparu hyfforddiant yn y Gymraeg i 455 o aelodau o staff (Mawrth 2019) ar bob lefel gyda rhagor o hyfforddiant Cymraeg yn nhymor yr Hydref 2018 ar gyfer lleoliadau Blynyddoedd Cynnar a'r Gwasanaeth Cymorth i Deuluoedd;

c)     Penodi Uwch Gyfieithwyr gan ganiatáu gwasanaeth mwy effeithlon, gyda chymorth penodol ar gyfer y Gwasanaethau Democrataidd a Swyddfa'r Cabinet;

d)    Darparu gwasanaethau cyfieithu ar y pryd ar gyfer pob pwyllgor sy'n gwneud penderfyniadau e.e. Pwyllgorau Craffu a Rheoleiddio;

e)    Cyflwynwyd cwestiwn newydd i'w ddefnyddio ar gyfer pob ymgynghoriad ar newid gwasanaeth er mwyn asesu'r effaith y bydd unrhyw newid yn ei gael ar y Gymraeg neu siaradwyr Cymraeg;

f)      Adolygiad parhaus o dudalennau'r Wefan, gan ddileu unrhyw dudalennau nad oedd yn cydymffurfio

 

Cafodd yr Aelodau eu cyfeirio at Adran 5.2, lle roedd nifer o feysydd i'w gwella wedi'u nodi. Cafwyd trafodaeth yngl?n â'r capasiti i ateb y galw cynyddol am diwtora Cymraeg Lefel 1 a'r angen parhaus i gynyddu nifer y staff sy'n siarad Cymraeg. Aeth y Gr?p ymlaen i gael trafodaeth hir am bwysigrwydd nodi'r Gymraeg fel nodwedd 'hanfodol' ar ddisgrifiadau swyddi'r Awdurdod Lleol. Nododd yr  ...  view the full Cofnodion text for item 12.

13.

Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Comisiynydd y Gymraeg pdf icon PDF 93 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Materion Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned, sy'n rhoi diweddariad i Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg yngl?n ag ymateb y Cyngor i Restr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru a gafodd ei chyhoeddi gan Gomisiynydd y Gymraeg ym mis Gorffennaf 2018.

 

Cofnodion:

Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cymraeg ragor o wybodaeth i Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg am y Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru a gafodd ei chyhoeddi gan Gomisiynydd y Gymraeg ym mis Gorffennaf 2018, a chyfrifoldebau'r Cyngor mewn perthynas â hyn.

 

Aeth y Swyddog ati i atgoffa'r Aelodau o'r drafodaeth hir yngl?n â'r materion cymhleth o ran mabwysiadu Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol y Comisiynodd a gafwyd yng nghyfarfod y Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg ar 10 Hydref 2018.  Yn ystod y cyfarfod, cytunodd yr Aelodau (gyda chytundeb Aelodau'r Cabinet) y byddai Cadeirydd y Gr?p yn gofyn am gadarnhâd ysgrifenedig gan Gomisiynydd y Gymraeg o'r rhesymeg y tu ôl i'r rhestr cyn cynnal unrhyw ymgynghoriad â chymunedau lleol.

 

Yn ôl y swyddog, mewn ymateb i lythyr gan Gadeirydd Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg, gofynnodd swyddfa Comisiynydd y Gymraeg i'r Cyngor ohirio unrhyw broses ymgynghori gan fod angen ailystyried yr argymhellion sydd wedi'u hamlinellu yn y rhestr mewn perthynas â RhCT. O ganlyniad i hynny, dysgodd yr Aelodau fod Cadeirydd Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg wedi ysgrifennu at y Comisiynydd ers hynny yn gofyn a fyddai modd diwygio'r Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol er mwyn adlewyrchu'r rhestr ddwyieithog o enwau lleoedd sy'n cael ei defnyddio gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar hyn o bryd.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddog am yr adroddiad a nododd fod angen diwygio'r rhestr er mwyn adlewyrchu'r enwau sy'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd, a hynny gan nad yw Comisiynydd y Gymraeg wedi llwyddo i ddarparu'r rhesymeg y tu ôl i'r newidiadau.

 

Dywedodd un Aelod fod anghysondebau mewn perthynas â'r ddogfen o hyd, gan nodi y dylai'r fersiwn Saesneg o "Pont-y-gwaith" gael ei nodi fel "Pontygwaith".

 

Roedd yr Aelodau'n falch o nodi bod rhestr gyhoeddedig y Comisiynydd wedi'i haddasu yn unol â chais y Cadeirydd, ond gofynnon nhw gwestiynau yngl?n â'r arbenigwyr a'u hawl i benderfynu ar ffurf ysgrifenedig pob enw lle. Rhoddodd yr Aelodau gydnabyddiaeth i'r materion cymhleth sy'n ymwneud â diwygio enwau lleoedd a chytunon nhw fod angen cael adborth gan drigolion a fyddai'n cael eu heffeithio gan unrhyw newidiadau o'r fath yn y dyfodol.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD:

a)    Cydnabod penderfyniad yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Cymuned i Oedolion a'r Gymraeg mewn perthynas â'r rhestr;

b)    Nodi sefyllfa bresennol y Cyngor o ran rhestr arfaethedig Comisiynydd y Gymraeg o Enwau Lleoedd Safonol.

 

14.

Ymgyrchoedd ar y Cyfryngau Cymdeithasol yn 2019-2020 pdf icon PDF 131 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Materion Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned sy'n darparu gwybodaeth i Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg yngl?n â'r cynllun arfaethedig i hyrwyddo achlysuron lleol a chenedlaethol Cymraeg/dwyieithog gwahanol ar y cyfryngau cymdeithasol bob chwarter. Byddai hyn yn rhan o Gynllun Gweithredu 5 mlynedd y Cyngor i hyrwyddo'r Gymraeg yn Rhondda Cynon Taf.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Cymuned, wybodaeth i Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg yngl?n â'r cynllun arfaethedig i hyrwyddo achlysuron lleol a chenedlaethol Cymraeg/dwyieithog ar y cyfryngau cymdeithasol bob chwarter. Byddai hyn yn rhan o Gynllun Gweithredu 5 mlynedd y Cyngor i hyrwyddo'r Gymraeg yn Rhondda Cynon Taf.

 

Soniodd y swyddog am b?er y cyfryngau cymdeithasol, gan nodi eu bod yn ddull cyflym a chost-effeithiol o ymgysylltu ag amrywiaeth eang o drigolion yn Rhondda Cynon Taf. Yn amodol ar gymeradwyaeth Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg, eglurodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y byddai pedwar achlysur yn cael eu cynnal yn seiliedig ar eu pwysigrwydd fel gwyliau cydnabyddedig yng Nghymru. Nodwyd y byddai'r ymgyrchoedd yn adlewyrchu ymrwymiad y Cyngor i wella cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg ar gyfryngau cymdeithasol, ac y byddai'r gwaith hyrwyddo yn cyd-fynd a pharatoadau'r Cyngor i gynnal Eisteddfod Genedlaethol lwyddiannus yn 2022. Yn ogystal â hynny, o ganlyniad i natur addysgiadol yr ymgyrchoedd, byddai'r Cyngor yn ymateb yn gadarnhaol i ddisgwyliad Llywodraeth Cymru i hyrwyddo'r adnoddau sydd eisoes wedi'u rhannu gyda ni i'w defnyddio ar y cyfryngau cymdeithasol.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth yr Aelodau at y pedwar prif achlysur sydd wedi'u hatodi i'r adroddiad. Eglurodd y byddai'r rhain yn cael eu cynnal yn ystod blwyddyn ariannol 2019/20 (un fesul chwarter) yn dilyn eu cymeradwyaeth:

1.     Eisteddfod yr Urdd - Chwarter 1

2.     Diwrnod Owain Glynd?r - Chwarter 2

3.     Diwrnod Shw’mae – Chwarter 3

4.     Dydd G?yl Dewi – Chwarter 4

 

Gan ddefnyddio'r Eisteddfod fel enghraifft, eglurodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y byddai hyn yn cyd-fynd â Chynllun Corfforaethol y Cyngor ac yn dangos ei ymrwymiad i hyrwyddo gwaith partneriaid, sy'n hanfodol er mwyn sicrhau llwyddiant y strategaeth 5 mlynedd. Byddai defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo'r achlysuron yn gyfle i annog ein holl drigolion i gymrwyd rhan, yn hytrach na dim ond y rheiny sy'n hyderus yn y Gymraeg.

 

Canmolodd un Aelod yr ymgyrchoedd ar gyfer Chwarter 1, 3 a 4, ond roedd e'n amheus am Ddiwrnod Owain Glynd?r, a ph'un a fyddai'r ymgyrch yn hybu cynnwys Cenedlgarol. Nododd y Cadeirydd y pryder yma, ond eglurodd fod y trigolion yn aml yn dysgu am hanes brenhinoedd a brenhinesau Lloegr heb glywed am hanes Cymru. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau'r Gymuned, fod nifer o ysgolion eisoes yn gwneud gwaith ar y pwnc a'i fod yn cael ei ddatblygu'n genedlaethol. Dywedodd y Swyddog wrth yr Aelod na fyddai'r ymgyrch yn cael ei defnyddio i hyrwyddo unrhyw fudiad gwleidyddol. Yn hytrach, y nod yw hyrwyddo rhan allweddol o hanes Cymru drwy sicrhau bod modd i bawb gael gafael ar y llyfrau perthnasol mewn llyfrgelloedd lleol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Materion Cyfathrebu, mai nod y pedwar achlysur uchod yw targedu diddordeb a gwybodaeth pobl am hanes Cymru yn hytrach na chydymffurfio â'r Safonau yn unig.

 

Cafwyd trafodaeth yngl?n â'r cyfle i gynnwys rhagor o ymgyrchoedd lleol yn y gwaith yma yn y dyfodol, a fyddai'n hybu diwylliant a threftadaeth. Awgrymodd  ...  view the full Cofnodion text for item 14.

15.

Materion Brys

Trafod unrhyw faterion eraill sydd, yn ôl doethineb y Cadeirydd, yn faterion brys yng ngoleuni amgylchiadau arbennig.

 

Cofnodion:

Siaradodd Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg am eu cyffro mewn perthynas ag Eisteddfod 2022, a fydd yn digwydd yn Rhondda Cynon Taf.

 

Manteisiodd y Fenter Iaith ar y cyfle i gynnig cymorth er mwyn codi ymwybyddiaeth ac ymgysylltu â'r Cyngor. Cadarnhawyd y byddai Gr?p Llywio Sirol yn cael ei sefydlu, a fyddai'n cynnwys Rhanddeiliaid.