Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy CF40 2XX
Cyswllt: Hannah Williams - Uned Busnes y Cyngor - Gwasanaethau Llywodraethol 01443 424062
Rhif | eitem |
---|---|
Croeso a chyflwyniadau Cofnodion: Manteisiodd y Cadeirydd ar y cyfle i groesawu Aelodau newydd i gyfarfod Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg.
|
|
Ymddiheuriadau dros Absenoldeb Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan E. Siôn, Menter Iaith
|
|
Datgan Buddiant Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.
Noder: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw. 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, datganodd y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol E. Stephens fuddiant personol yn Eitem 4 yr agenda - Gwasanaethau Cymraeg - Archwiliadau Mewnol o Gydymffurfiaeth. "Rwy'n adnabod y Swyddog Cydymffurfio a ymgymerodd â'r archwiliadau mewnol yn bersonol"
|
|
Cadarnhau cofnodion o gyfarfod Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg a gynhaliwyd ar 14 Mai 2018.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNODD Gr?p Llywio’r Cabinet ar faterion y Gymraeg gymeradwyo cofnodion y cyfarfod, a gafodd ei gynnal ar 28 Tachwedd 2018, yn rhai cywir.
|
|
Gwasanaethau Cymraeg - Archwiliadau Mewnol o Gydymffurfiaeth PDF 107 KB Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr, Iechyd y Cyhoedd, Diogelu a Gwasanaethau Cymuned sy'n rhoi gwybod i Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion y Gymraeg am y broses y mae Gwasanaethau Cymraeg wedi'i mabwysiadu ar gyfer archwilio cydymffurfiaeth adrannau â Safonau'r Gymraeg, gan amlygu meysydd lle mae achosion posibl o ddiffyg cydymffurfio a chynnig camau gweithredu i fynd i'r afael â hyn.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth Gwasanaethau yn y Gymuned amlinelliad i Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion y Gymraeg o'r broses y mae'r Gwasanaethau Cymraeg wedi'i mabwysiadu ar gyfer archwilio cydymffurfiaeth adrannau â Safonau'r Gymraeg, gan amlygu meysydd lle mae achosion posibl o ddiffyg cydymffurfio a chynnig camau gweithredu i fynd i'r afael â hyn.
Cafodd yr aelodau eu hatgoffa o ddyletswydd awdurdodau lleol i gydymffurfio â Safonau'r Gymraeg a'u dyletswydd i beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. Esboniodd y swyddog pe bai'r Cyngor yn destun ymchwiliad statudol gan Gomisiynydd y Gymraeg am achos o dorri'r Safonau mewn unrhyw ffordd, mae'n bosibl y bydd y broses yn cymryd hyd at 18 mis i'w chwblhau ac mae modd iddi arwain at dâl cosb o hyd at £5,000. Esboniodd fod swydd Swyddog Cydymffurfio wedi'i chreu oddi mewn i'r strwythur gwasanaeth newydd i osgoi sefyllfa fel hyn. Mae'r Swyddog Cydymffurfio yn cynnal archwiliadau mewnol rheolaidd i asesu lefel cydymffurfiaeth gwasanaethau'r Cyngor sy'n sicrhau bod modd nodi unrhyw achosion posibl o dorri safonau, neu unrhyw feysydd lle mae heriau penodol, a mynd i'r afael â nhw ar unwaith cyn i g?yn gael ei chyflwyno i Swyddfa'r Comisiynydd.
Cafodd yr aelodau eu cyfeirio at Atodiad 1 a 2 yr adroddiad, lle mae archwiliadau mewnol cyntaf y Swyddog Cydymffurfio o'r Adran Adnoddau Dynol a'r Gwasanaeth Llyfrgelloedd yn cael eu hamlinellu. Roedd yr aelodau'n falch o glywed bod cydymffurfiaeth wedi'i gyflawni mewn nifer o feysydd, ac yn cydnabod bod ymgorffori'r Safonau yn broses sy'n esblygu.
Wrth siarad am archwiliad y Gwasanaeth Llyfrgelloedd, dywedodd Pennaeth Gwasanaethau yn y Gymuned ei bod yn anodd monitro cydymffurfiaeth staff gan fod pedwar safle ar ddeg ar wahân. Serch hynny, roedd yn bleser dysgu bod Cymraeg Lefel 1 a hyfforddiant gloywi yn flaenoriaeth i staff rheng flaen, i'w helpu i feithrin hyder wrth ateb y ffôn i aelodau o'r cyhoedd sy'n siarad Cymraeg. Gofynnodd un Aelod a fyddai Comisiynydd y Gymraeg yn ystyried materion bach roedd y Swyddog Cydymffurfio wedi eu nodi, fel yr angen am stamp llyfr dwyieithog. Esboniodd y swyddog mai'r rheol yw trin y ddwy iaith yn deg ac o ganlyniad, rhaid gwneud hyd yn oed y newidiadau lleiaf er mwyn cydymffurfio.
Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddog am yr adroddiad a siaradodd yn gadarnhaol am ei gynnwys a'r cynnydd o safbwynt cydymffurfio o fewn yr awdurdod lleol. Gofynnodd y Cadeirydd a oedd modd gwneud ymarfer ffonio 'siopwr dirgel' yn fewnol i sicrhau bod pob aelod o staff yn teimlo'n hyderus wrth ateb eu ffonau yn ddwyieithog. Dywedodd y swyddog y byddai'r broses yn cael ei chynnal ym mis Ionawr, 2019 gyda chymorth Intern i sicrhau bod unrhyw faterion ffôn yn cael eu nodi a'u datrys cyn i Gomisiynydd y Gymraeg ddod o hyd i unrhyw achosion o dorri'r Safonau.
Canmolodd y Dirprwy Arweinydd yr adroddiad a'r camau a oedd wedi'u cymryd gan y Swyddog Cydymffurfio a dau faes gwasanaeth i gydymffurfio ymhellach â'r Safonau a oedd wedi'u gosod. Cydnabu'r Aelod y byddai meysydd ar gyfer gwella yn ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru PDF 113 KB Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr, Iechyd y Cyhoedd, Diogelu a Gwasanaethau Cymuned sy'n rhoi gwybodaeth i Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg am y Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru a gafodd ei chyhoeddi gan Gomisiynydd y Gymraeg ym mis Gorffennaf 2018, a chyfrifoldebau'r Cyngor mewn perthynas â hyn.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cymraeg wybodaeth i Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg am y Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru a gafodd ei chyhoeddi gan Gomisiynydd y Gymraeg ym mis Gorffennaf 2018, a chyfrifoldebau'r Cyngor mewn perthynas â hyn.
Dywedodd y swyddog, er bod awdurdodau lleol yn gyfrifol yn y pen draw am benderfynu ar ffurfiau'r enwau lleoedd maen nhw'n eu defnyddio, cyfrifoldeb Comisiynydd y Gymraeg yw rhoi cyngor ar ffurfiau safonol enwau lleoedd Cymraeg i unigolion a sefydliadau, ac i bwysleisio ymhellach bwysigrwydd mabwysiadu ffurfiau safonol ar gyfer gweinyddiaeth gyhoeddus, arwyddion, mapiau a pheiriannau chwilio ar-lein. O ganlyniad, Ysgrifennodd Comisiynydd y Gymraeg at Brif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ym mis Gorffennaf gan dynnu sylw at y Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru, a gafodd ei chyhoeddi ar wefan Comisiynydd y Gymraeg. Roedd y Comisiynydd wedi nodi y byddai'n dymuno i'r Cyngor fabwysiadu'r rhestr yma.
Esboniodd y swyddog fod Panel Safoni Enwau Lleoedd Comisiynydd y Gymraeg wedi ymgymryd â darn eang o waith a oedd yn ystyried ystyr, hanes ac etymoleg yr enwau lleoedd ac o ganlyniad, wedi sefydlu a chyhoeddi'r rhestr ar wefan y Comisiynydd.
Cafodd yr Aelodau wybod fod Comisiynydd y Gymraeg wedi argymell bod Cyngor RhCT yn mabwysiadu ffurf uniaith ar gyfer Llanhari, Treorci a Chwmdâr, gyda'r nod o roi'r gorau i ddefnyddio 'Llanharry', 'Treorchy' a 'Cwmdare' a'i bod yn bosibl y bydd argymhellion pellach yn cael eu cynnig yn y dyfodol.
Cymerodd y Cadeirydd y cyfle i ddiolch i'r swyddog am yr adroddiad manwl. Wrth siarad am gynigion Comisiynydd y Gymraeg, mynegodd y Cadeirydd bryderon ynghylch diffyg ymgynghori â thrigolion lleol a diffyg ymateb gan yr Aelodau Lleol.
Ailadroddodd y Dirprwy Arweinydd bryderon y Cadeirydd, gan bwysleisio pwysigrwydd derbyn adborth gan y bobl y mae modd i'r cynigion effeithio arnyn nhw, cyn mabwysiadu'r rhestr. Cyfeiriodd y Dirprwy Arweinydd y Gr?p Llywio at y rhestr ehangach o newidiadau mewn perthynas â RhCT a gan gyfeirio at ei ward ei hun, Rhydfelen, holodd y Dirprwy Arweinydd pam mae'r Rhestr yn cynnwys y ffurfiau Cymraeg amgen ar gyfer rhai trefi, ac a fyddai newid sillafu yn cael effaith ar ystyr hanesyddol yr ardal.
Yn eu tro, cymerodd rhai o'r Aelodau y cyfle i siarad am eu wardiau eu hunain a'r effaith y byddai unrhyw newidiadau yn ei chael ar y trigolion. Roedd yr Aelodau yn cytuno y dylid rhoi dewis i gymunedau RhCT pa un a yw'r Cyngor yn dewis mabwysiadu'r cynigion a bod angen ystyried tarddiad yr ardaloedd unigol.
Gan fod yr Aelodau'n unfryd, awgrymodd y Cadeirydd y byddai'n fuddiol ysgrifennu yn gyntaf at Gomisiynydd y Gymraeg i gael dealltwriaeth o resymeg y cynigion, gan gynnwys y rhestr ehangach mewn perthynas â RhCT, cyn ymgynghori â'r trigolion lleol. Dywedodd Cyfarwyddwr Materion Cyfathrebu a Phennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau Llywodraethol, pe bai Aelodau'n dymuno diwygio'r argymhellion, byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r cyfarfod priodol nesaf o'r Cabinet i ofyn am gymeradwyaeth i ysgrifennu at y Comisiynydd. Dywedodd y Cyfarwyddwr wrth y swyddogion ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Dyddiad y cyfarfod nesaf Nodi dyddiad cyfarfod nesaf Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg, sef dydd Mercher 3 Ebrill am 10am.
Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd y byddai cyfarfod nesaf Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg yn cael ei gynnal ddydd Mercher 3 Ebrill, 2019, ond byddai'r Aelodau'n cael gwybod mewn da bryd petai'n galw am gyfarfod yn gynt.
|