Agenda a Chofnodion drafft

Agenda a Chofnodion drafft

Lleoliad: Council Chamber, The Pavilions, Cambrian Park, Clydach Vale, Tonypandy, CF40 2XX

Cyswllt: Emma Wilkins - Uned Busnes Rheoleiddiol a Gweithredol  01443 424110

Eitemau
Rhif eitem

1.

CROESO AC YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau newydd i'r Pwyllgor a chafodd ei nodi bod y Cynghorydd S. Evans wedi ymddiheuro am ei habsenoldeb.

 

2.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Côd Ymddygiad.

 

Noder:

 

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.   Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i fuddiant personol sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â'r Cod Ymddygiad, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.

 

3.

Cofnodion pdf icon PDF 41 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod diwethaf a gafodd ei gynnal ar 8 Mawrth, 2018.

 

Cofnodion:

PENDERFYNODD yr Aelodau i gymeradwyo cofnod y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Mawrth, 2018 yn gofnod cywir o'r cyfarfod.

 

4.

GWAITH AILDDATBLYGU DYFFRYN TAF - PONT DROED ARFAETHEDIG PARC COFFA YNYSANGHARAD pdf icon PDF 124 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Materion Cynllunio ac Adfywio sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor Cabinet am y bont droed arfaethedig o safle hen ganolfan siopa Dyffryn Taf dros Afon Taf i Barc Coffa Ynysangharad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Dylunio Corfforaethol a Chynnal a Chadw ddiweddariad ar y gwaith o Ailddatblygu Dyffryn Taf. Cyfeiriodd yn benodol at y bont droed arfaethedig yng nghornel gogledd gorllewinol y parc a chanol y dref.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y byddai'r mynediad newydd yn cynnig gwell mynediad i gerddwyr rhwng canol y dref a'r parc a llwybr cylchol i gerddwyr rhwng y ddwy ardal allweddol.

 

Cafodd yr Aelodau eu hysbysu am y datblygiadau ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor a dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth am y dull arfaethedig o weithredu a'r camau nesaf mewn perthynas â'r datblygiadau a'r parc.  Cafodd yr Aelodau eu hysbysu ynghylch dymchwel yr hen floc ystafelloedd newid a thorri conwydd sydd wedi gordyfu yn yr ardal honno, fel sy'n cael ei amlinellu yn atodiad 1 yr adroddiad. Byddai hyn o gymorth gydag adeiladu'r bont a byddai'n gwella ymddangosiad yr ardal a gwneud rhagor o ddefnydd o ben gogleddol y parc.  Cafodd yr Aelodau hefyd fanylion am goed eraill yn y parc sy'n debygol o angen cael eu torri, fel sy'n cael ei amlinellu yn Atodiad 2 yr adroddiad.  Diweddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth ei adroddiad drwy sôn wrth Aelodau am gerrig milltir y rhaglen yn y dyfodol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am yr adroddiad a gwnaeth sylwadau am yr argymhellion. Gofynnodd i gynllun ail-blannu gael ei weithredu er mwyn lliniaru colli coed. Atebodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y byddai'n gweithredu hyn. Gwnaeth y Cadeirydd sylwadau am ymholiadau diweddar ar y cyfryngau cymdeithasol. Eglurodd na fyddai cyfleusterau parcio ceir yn y parc.

 

Siaradodd Aelodau eraill y Pwyllgor ar y cynigion. Gofynnodd yr Aelodau os byddai'r coed yn y rhodfa goed a'r rhes o Blanwydd Llundain, sy'n nodi ochr gogledd gorllewinol y parc, yn cael eu cadw fel nodweddion allweddol o'r parc.  Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth nad oedd y coed yma wedi'u cynnwys o fewn y coed oedd i gael eu torri. Serch hynny, efallai byddai angen torri rhai canghennau er mwyn amddiffyn y coed ac i alluogi mynediad  i beiriannau ar gyfer y gwaith adeiladu.

 

Yn dilyn trafodaethau, cadarnhaodd yr Aelodau eu bod yn hapus i gefnogi'r cynigion a PHENDERFYNWYD:

1.    Nodi'r cynnydd diweddar sydd wedi ei wneud ac ardystio'r dull sy'n cael ei nodi ym mharagraffau 6.1 i 6.4 yr adroddiad.

 

 

5.

PARC COFFA YNYSANGHARAD - RHAGLEN PARCIAU I BOBL CRONFA DREFTADAETH Y LOTERI pdf icon PDF 134 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd sy'n rhoi'r hynt hyd yn hyn i'r Aelodau mewn perthynas â pharatoi cais i raglen 'Parciau i Bobl' Cronfa Dreftadaeth y Loteri ar gyfer Parc Coffa Ynysangharad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn dilyn trosolwg byr o'r adroddiad gan Bennaeth Materion Hamdden, Parciau a Chefn Gwlad, rhoddodd Reolwr Datblygu Cyfleusterau Hamdden a Pharciau ddiweddariad i'r Aelodau ar y cynnydd sydd wedi cael ei wneud hyd yma wrth ddatblygu cais Parciau i Bobl Cronfa Dreftadaeth y Loteri ar gyfer Parc Coffa Ynysangharad.

 

Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa o'r cais Cam 1 llwyddianus a fyddai'n cefnogi paratoi cais Cam 2 a fyddai'n cael ei gyflwyno yn ystod mis Awst 2019.  Dywedodd y Rheolwr fod elfennau craidd y prosiect yn cynnwys datblygu cyfleuster hyfforddi garddwriaethol, adnewyddu'r bandstand a'r ardd isel yn y parc, yn ogystal â gwneud gwelliannau i'r ardal o greigiau ffug.  Byddai gwelliannau pellach yn cael eu gwneud o ran mynediad a dehongliad ledled y parc.

 

Cyfeiriodd y Swyddog yr Aelodau at adran 5.1 o'r adroddiad sy'n amlinellu'r cynnydd sydd wedi cael ei wneud mewn perthynas â datblygu'r cais gan gynnwys penodi'r Rheolwr Prosiect ar gyfer y cyfnod datblygu, datblygu cynllun gweithgaredd, gan ganolbwyntio ar gyflwyno gweithgareddau ymgysylltu ar gyfer teuluoedd, cyfleoedd gwirfoddoli a datblygu 'Cyfeillion y Gr?p'.  Hefyd, rhoddwyd gwybod i'r Aelodau am y cysylltiadau sydd wedi cael eu gwneud gyda Learning Curve RhCT ac Ysgol Uwchradd Pontypridd.

 

Rhoddodd Rheolwr Datblygu Cyfleusterau Hamdden a Pharciau fanylion am nifer yr ymwelwyr i'r parc am gyfnod o 12 mis. Dywedodd fod 680,000 o bobl wedi defnyddio'r parc rhwng mis Ebrill 2017 a mis Mawrth 2018.  Dywedodd y Rheolwr am y manteision posibl o drefnu i'r Aelodau ymweld â'r Parc a'r cyfle i gwrdd â'r Bartneriaeth Amgylcheddol i drafod rhaglen Cronfa Dreftadaeth y Loteri.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddog am yr adroddiad a gwnaeth sylwadau ar benodiad y Rheolwr Prosiect a phwysigrwydd yr ymgynghoriad. Mae angen cynnal yr ymgynghoriad yn ystod misoedd yr haf gyda'r cyhoedd a gyda sefydliadau eraill.  Croesawodd y Cadeirydd yr ymweliad arfaethedig. Siaradodd hefyd am y manteision y byddai rhaglen Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn eu cyflwyno i ysgolion a chenedlaethau'r Fwrdeistref Sirol yn y dyfodol gyda datblygiad y Cyfleuster Hyfforddi Garddwriaeth. Gofynnodd y Cadeirydd pa ddatblygiadau sydd wedi cael eu gweithredu gyda'r ysgolion hyd yn hyn. Soniodd y Rheolwr Datblygu Cyfleusterau Hamdden a Pharciau am y gwaith cadarnhaol sydd wedi cael ei wneud gydag Ysgol Uwchradd Pontypridd a'r posibilrwydd o weithio gydag ysgolion uwchradd eraill yn y dyfodol.  Cafodd yr Aelodau eu hysbysu bod ymgais wedi cael ei wneud i ennyn diddordeb ysgolion cynradd yn y cyfleuster hefyd. Cafodd manylion hefyd eu rhoi am y cysylltiadau gyda Learning Curve.

 

Gofynnodd yr Aelodau am ddatblygiad Gr?p 'Cyfeillion' a chadarnhaodd swyddogion y bydden nhw'n datblygu'r gr?p trwy edrych ar fodelau llwyddiannus eraill ar draws yr Awdurdod.

 

Ar ôl trafod, PENDERFYNODD y Pwyllgor:

 

 

 

1.    Nodi'r cynnydd a wnaed hyd yma a chefnogi'r gwaith prosiect cyfredol er mwyn paratoi cais cam 2 'Parciau i Bobl' ar gyfer Parc Coffa Ynysangharad i'w gyflwyno yn ystod mis Awst 2019.

 

2.    Bod ymddiriedolwyr y parc yn cwrdd â swyddogion o'r Bartneriaeth Amgylcheddol.