Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Hybrid

Cyswllt: Emma Wilkins - Council Business Unit  07385401935

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

36.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Gynghorwyr, yn unol â gofynion Cod Ymddygiad y Cyngor.

 

Nodwch:

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant personol canlynol eu gwneud yngl?n â'r agenda:

         Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Norris - Eitem ar yr Agenda “Rwy'n Aelod o Fwrdd gwirfoddol Ymddiriedolaeth Pentref Cambrian, sy'n cael ei grybwyll yn yr adroddiad”

         Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Hopkins - Eitem 6 yr agenda “Rwy'n byw ar ffordd heb ei mabwysiadu”

 

37.

Cofnodion pdf icon PDF 556 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 20 Gorffennaf 2021 yn rhai cywir.

 

Cofnodion:

Cafodd cofnodion cyfarfod 20 Gorffennaf 2021 eu cymeradwyo'n rhai cywir.

 

38.

Rhaglen Waith Y Cabinet pdf icon PDF 158 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am y rhestr arfaethedig o faterion y mae angen i'r Cabinet eu hystyried yn ystod Blwyddyn 2021-22 y Cyngor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu raglen waith ddrafft ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021-22 i'r Aelodau, a oedd yn rhestru'r materion y mae angen i'r Cabinet eu hystyried.  

 

Cafodd yr Aelodau eu cyfeirio at Atodiad 1 yr adroddiad a dywedwyd wrthyn nhw bod y rhaglen yn ddogfen fyw fel bydd modd ychwanegu neu ddileu adroddiadau yn ystod y flwyddyn. Atgoffodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth yr Aelodau, mewn ymateb i ofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, y cytunwyd yn 26ain Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor y byddai manylion pellach yn cael eu darparu yn Rhaglen Waith y Cabinet yn y dyfodol. Bwriad hyn yw caniatáu digon o gyfle i ymgynghori ac i gynnal y gwaith cyn y cam craffu ac, o'r herwydd, mae cyfansoddiad y Cyngor wedi'i ddiwygio i adlewyrchu'r newidiadau hynny.

 

Hysbysodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth yr Aelodau y byddai cynnwys y Rhaglen Waith yn cefnogi trafodaethau rhwng Cadeiryddion Craffu ac Aelodau'r Cabinet mewn sesiynau ymgysylltu yn y dyfodol ac, o ganlyniad, yn helpu i lunio Rhaglenni Gwaith y Pwyllgorau Craffu yn y dyfodol.

 

Nododd y Dirprwy Arweinydd gynnwys y rhaglen waith ddrafft a nododd fod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn mynnu bod yn rhaid i wybodaeth am benderfyniadau gweithredol sydd ar ddod fod ar gael i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, er mwyn sicrhau bod y Pwyllgorau yn meddu ar yr holl wybodaeth berthnasol i ymgymryd â nhw a chynllunio eu gwaith yn well. Cydnabu'r Dirprwy Arweinydd y byddai datblygu Rhaglen Waith gywir a chadarn ar gyfer y Cabinet yn cryfhau trefniadau Llywodraethu cadarn yr Awdurdod Lleol ymhellach.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Rhaglen Waith ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021-22 (gan addasu'n briodol ar ôl yr angen) a chael yr wybodaeth ddiweddaraf bob 3 mis.

39.

Bwrdd Rhianta Corfforaethol – Adroddiad Blynyddol pdf icon PDF 365 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu sy'n cyflwyno Adroddiad Blynyddol 2020-2021 y Bwrdd Rhianta Corfforaethol i'r Aelodau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhannodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Rhianta Corfforaethol ar gyfer 2020 - 2021 â'r Aelodau, a amlinellodd waith y Bwrdd trwy gydol Blwyddyn y Cyngor.  Dywedwyd wrth yr Aelodau bod yr adroddiad hefyd yn cynnwys y meysydd blaenoriaeth y byddai'r Bwrdd yn eu trafod yn y dyfodol er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn gwella'r gwasanaethau mae'n eu darparu i blant a phobl ifainc sy'n derbyn gofal.

 

Manteisiodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Plant a Phobl Ifainc a Chadeirydd y Bwrdd ar y cyfle i ddiolch i holl Aelodau'r Bwrdd am eu gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf, fel yr adlewyrchir yn yr adroddiad a'r gwaith cadarnhaol a ddatblygwyd yn y gwasanaeth er budd y plant a'r bobl ifainc sy'n derbyn gofal. Cofnododd hefyd ei diolch i'r staff yn y gwasanaeth am barhau i gyflawni yn ystod y pandemig.

 

Adleisiodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau i Oedolion a'r Gymraeg y sylwadau a wnaed ac fel Is-gadeirydd y Bwrdd, talodd deyrnged i'r Cadeirydd am ei stiwardiaeth yn ystod y flwyddyn.

 

PENDERFYNWYD:

1.    Nodi Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Rhianta Corfforaethol ar gyfer 2020/21

 

40.

Adolygu Rheoliadau, Ymwybyddiaeth a Gorfodi Deddfwriaeth Llifogydd a Dŵr pdf icon PDF 706 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Cyfadran – Ffyniant, Datblygu a Gwasanaethau Rheng-flaen sy'n rhoi gwybod i'r Aelodau am yr adolygiad o reoliadau, ymwybyddiaeth a gorfodi deddfwriaeth llifogydd a d?r yn y Cyngor yn dilyn Storm Dennis.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Priffyrdd a Gwasanaethau Rheng Flaen drosolwg o'i adroddiad a rhannodd fanylion am yr adolygiad yn trafod rheoleiddio, ymwybyddiaeth a gorfodi deddfwriaeth llifogydd a d?r i'w gynnal gan y Cyngor yn dilyn Storm Dennis.

 

Manteisiodd y Cyfarwyddwr ar y cyfle i gynghori Aelodau ymhellach mewn perthynas â sefydlu Carfan Ymwybyddiaeth a Gorfodi Llifogydd arbennig a chyflwyno mwy o reoleiddio trwy ddeddfu Is-ddeddfau Draenio Tir o dan A66 Deddf Draenio Tir 1991.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau bod Strategaeth Genedlaethol Risg Llifogydd Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2020 yn sbarduno'r gofyniad o dan Adran 10 Deddf Rheoli Llifogydd a D?r 2010 i'r Cyngor fel Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol i adolygu'r Strategaeth Rheoli Risg Llifogydd Lleol. Amlygwyd felly y cyfle i osod strategaeth gynaliadwy i reoli risg llifogydd, meithrin gwytnwch a hwyluso gwaith addasu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. 

 

Byddai mabwysiadu'r is-ddeddfau a chreu'r garfan orfodi a'r swyddog cymorth ac ymwybyddiaeth llifogydd hefyd yn helpu i amddiffyn yr asedau sydd gan y Cyngor, yn atal risgiau newydd rhag cael eu creu, yn adeiladu gwytnwch o fewn cymunedau ac yn y pen draw yn helpu cymunedau i addasu i'r sgil effaith penodol yma o newid yn yr hinsawdd. Yn ogystal, bydd y datblygiadau yma'n darparu gwybodaeth werthfawr i fwydo'r Adolygiad i Strategaeth Risg Llifogydd Lleol i ddarparu strategaeth gadarn i reoli'r risg gynyddol o lifogydd yn sgil newid yn yr hinsawdd.

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at yr adroddiad a gyflwynwyd i'r Cabinet ym mis Rhagfyr 2020 a'r argymhellion a ddaeth yn ei sgil, gan gyfeirio at yr angen am swyddog gorfodi a chyfeirio'n benodol at gyrsiau d?r ar dir preifat a'r angen i godi ymwybyddiaeth o fewn cymunedau a gwneud cymunedau'n fwy gwydn i atal llifogydd.

 

Gwnaeth y Dirprwy Arweinydd sylwadau ar lifogydd blaenorol yn ei ward a chyfeiriodd at y gefnogaeth a ddarparwyd gan Gymdeithas Tai Newydd, a ddarparodd lefel uchel o ddiogelwch i'w thrigolion a'r ddyletswydd a osodwyd ar landlordiaid i'w tenantiaid.

 

Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden, a Gwasanaethau Treftadaeth y syniad o sefydlu carfan gorfodi a'r angen i'r Cyngor weithio gyda chymunedau i sicrhau bod cymunedau'n gweithio'n rhagweithiol yn hytrach nag yn ymatebol i unrhyw lifogydd.

 

Gyda chytundeb yr Arweinydd, anerchodd y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol P Jarman y Pwyllgor ar yr adeg yma yn y cyfarfod. Ymatebodd yr Arweinydd iddi gan gynghori, gyda chytundeb yr Aelodau, y gellid darparu sesiwn wybodaeth i Aelodau mewn perthynas â'r is-ddeddfau cyn cyflwyno adroddiad i'r Cyngor ar ddiwedd y mis.

 

Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:

1.       Creu carfan gorfodi a'r swydd fel y nodir yn Adran 4.3 ac Adran 7 yr adroddiad.

2.       Creu swydd Swyddog Cymorth ac Ymwybyddiaeth Llifogydd fel y nodir yn Adran 4.4 yr adroddiad

3.       Bod swyddogion yn cychwyn y broses ar gyfer mabwysiadu'r is-ddeddfau draenio ac yn cyfeirio'r mater at y Cyngor i'w drafod, gyda sesiwn wybodaeth yn cael ei darparu i'r holl Aelodau cyn cyfarfod y Cyngor.

4.       Nodi'r cynnig i adolygu goblygiadau ymarferol y gwaith gweithredu  ...  view the full Cofnodion text for item 40.

41.

Ffyrdd Heb eu Mabwysiadu pdf icon PDF 139 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Cyfadran – Ffyniant, Datblygu a Gwasanaethau Rheng-flaen sy'n cynnig rhaglen beilot i gynnal gwaith ar strydoedd preifat.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Rheng Flaen drosolwg o'i adroddiad a gynigiodd raglen beilot o waith i strydoedd preifat nad yw'r Cyngor yn credu eu bod yn cyrraedd safonau'r Cyngor o ran gwaith carthffos, lefelau, gosod palmantau, arwyneb y ffordd, fflagio, sianeli, goleuo a gwelliannau. Dywedwyd wrth yr Aelodau bod oddeutu 190km o strydoedd preifat wedi'u nodi ar draws RhCT ynghyd â nifer anhysbys o strydoedd preifat anhysbys. Mae mwy na 90% o strydoedd preifat wedi'u nodi.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau fod Llywodraeth Cymru wedi dyrannu cyllid i brosiect peilot i gynorthwyo cynghorau i wneud gwaith i ddod â strydoedd preifat i safon addas ac i'w mabwysiadu fel priffyrdd y gellir eu cynnal ar draul y cyhoedd.  Rhannwyd i'r Cyngor gyflwyno cynnig llwyddiannus am £157,000 o gyllid i wneud gwaith ar stryd breifat yn Belle Vue, a gofynnodd y Cyfarwyddwr am gymeradwyaeth y Cyngor i symud ymlaen â gwaith ar stryd breifat yn Belle Vue, Trecynon gan ddefnyddio cyllid grant Llywodraeth Cymru.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at ei ran ar un o weithgorau Llywodraeth Cymru yn edrych ar faterion o'r fath gan ei fod yn broblem ledled Cymru.  Cyfeiriodd yr Arweinydd at y cyllid gan Lywodraeth Cymru a'r ardal a awgrymwyd ar gyfer y buddsoddi yn Belle Vue a chyfeiriodd hefyd at y 6 ardal a nodwyd gan y Cyngor ar gyfer y rhaglen beilot.  Gwnaeth yr Arweinydd sylwadau am yr ymateb cadarnhaol i waith ymgysylltu gyda'r cyhoedd.

 

Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Gwasanaethau Treftadaeth y rhaglen beilot a’r cyllid a gafwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

Yna, anerchodd y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol P Jarman y Pwyllgor.

 

Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:

 

1.    Nodi a chymeradwyo'r strydoedd sydd wedi'u rhestru i fod yn rhan o'r prosiect peilot yn Atodiad A yr adroddiad.

 

2.    Penderfynu nad yw'r gwaith carthffosiaeth, lefelau, palmentydd, arwyneb y ffordd, gwaith fflagio, sianeli na golau stryd ar y strydoedd sydd wedi'u rhestru yn Atodiad A yn cyrraedd safon yr Awdurdod.

 

3.    Cyfarwyddo'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Rheng Flaen i baratoi cynlluniau, amcangyfrifon a dosraniadau dros dro a chyflwyno'r rhain i'w cymeradwyo mewn adroddiad yn y dyfodol i Gyfarwyddwr Cyfadran - Ffyniant, Datblygu, a Gwasanaethau Rheng Flaen i'w hystyried a'u cymeradwyo ar y cyd â deiliad y portffolio.

 

4.    Nodi a chymeradwyo'r gwaith arfaethedig a'r amcangyfrif ar gyfer Belle Vue, Trecynon fel y dangosir yn Atodiad B yr adroddiad. 

 

5.    Fydd perchnogion yr eiddo ar y ffyrdd ddim yn gyfrifol am dalu unrhyw gostau

42.

RHAGLEN YSGOLION YR 21AIN GANRIF – CYNNIG I WELLA'R DDARPARIAETH ADDYSG YN YSGOL GYNRADD GYMRAEG LLYN Y FORWYN pdf icon PDF 293 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant, sy'n rhannu deilliannau cyhoeddi Hysbysiad Statudol yn ddiweddar o ran y cynnig i gynnal newidiadau a reoleiddir yn Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn trwy symud yr ysgol i adeilad newydd ar safle newydd.

 

 

Cofnodion:

Adroddodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth Ysgolion yr 21ain Ganrif a Thrawsnewid am ddeilliant cyhoeddi'r Hysbysiad Statudol diweddar ynghylch y cynnig i gynnal newidiadau a reoleiddir yn Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn trwy symud yr ysgol i adeilad newydd ar safle newydd.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau, yn dilyn cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 17 Mehefin 2021, y penderfynwyd symud ymlaen i gam nesaf y broses statudol a chyhoeddi'r Hysbysiad Statudol angenrheidiol. Cyhoeddwyd yr Hysbysiad Statudol ar 25 Mehefin 2021, gan ddechrau'r Cyfnod Gwrthwynebu.  Roedd yr hysbysiad yn para am gyfnod o 28 diwrnod a dywedwyd wrth yr Aelodau na chyflwynwyd unrhyw wrthwynebiadau na sylwadau yn ystod y cyfnod.

 

Gwnaeth yr Aelod o'r Cabinet dros Addysg a Chynhwysiant sylwadau ar y cynllun uchelgeisiol sy'n cael ei ddatblygu a'r angen i drawsnewid yr ysgol i sicrhau'r addysg orau i bobl ifainc y Fwrdeistref Sirol. Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet am yr ymateb cadarnhaol i'r cynllun. Cafodd hyn ei bwysleisio ymhellach gan na dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau yn ystod y cyfnod gwrthwynebiadau.

 

Croesawodd y Dirprwy Arweinydd y buddsoddiad pellach yn yr ysgolion yn y Fwrdeistref Sirol. Mynegodd yr Arweinydd ei fod yntau'n croesawu'r buddsoddiad hefyd.

 

Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:

1.    Nodi na dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau, na sylwadau mewn ymateb i gyhoeddiad yr hysbysiad statudol i weithredu'r cynnig yma.

 

2.    Gweithredu'r cynnig heb unrhyw newidiadau.

 

3.    Derbyn adroddiadau pellach wrth i'r prosiect ddatblygu a symud ymlaen trwy brosesau cymeradwyo Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru.

 

43.

DYNODI TIR YNG NGHWM CLYDACH, TONYPANDY A ELWIR AR HYN O BRYD YN BARC CEFN GWLAD CWM CLYDACH YN BARC GWLEDIG pdf icon PDF 322 KB

Derbyn adroddiad ar y cyd Cyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor a'r Cyfarwyddwr - Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a Gwasanaethau Cymuned, sy'n gofyn i Aelodau awdurdodi dynodi tir a elwir ar hyn o bryd yn Barc Cefn Gwlad Cwm Clydach yng Nghwm Clydach, Tonypandy (Cwm Rhondda Fawr) yn Barc Gwledig yn unol â darpariaethau Deddf Cefn Gwlad 1968.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor ei adroddiad i'r Aelodau yn gofyn am awdurdod i ddynodi tir a elwir ar hyn o bryd yn 'Barc Cefn Gwlad Cwm Clydach' yng Nghwm Clydach, Tonypandy (Cwm Rhondda Fawr) yn Barc Gwledig yn unol â darpariaethau Deddf Cefn Gwlad 1968.  Dywedwyd wrth yr Aelodau am y rhesymeg dros y cynnig. 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr wrth y Cabinet y byddai ei ddynodi'n Barc Gwledig yn caniatáu i'r Cyngor godi arwyddion Cyrchfan Twristiaeth, nodi statws penodol yr ardal a hyrwyddo'r ardal i ymwelwyr. Byddai'r Gwasanaeth Twristiaeth yn hyrwyddo'r lleoliad yn rhan o gynnig ehangach i ymwelwyr y parc, a fyddai'n cyfrannu at y thema 'gweithgareddau awyr agored' a nodwyd yn Strategaeth Dwristiaeth y Cyngor.  Byddai dynodi'r tir yn Barc Gwledig hefyd yn caniatáu i'r Cyngor a'i bartneriaid wneud cais am arian grant allanol i wella'r cyfleoedd i drigolion ac ymwelwyr a gwella iechyd a lles y bobl sy'n defnyddio'r Parc Gwledig.

 

Gwnaeth yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Corfforaethol sylwadau cadarnhaol ar y cynnig a'r effaith gadarnhaol y byddai hyn yn ei chael ar ardal leol Cwm Clydach a chodi ymwybyddiaeth ymhellach o ardaloedd cefn gwlad y Fwrdeistref Sirol. Roedd yr Aelod yn gobeithio y byddai'r dynodiad yma'n arwain at ddenu cyllid i'r ardal.

 

Gwnaeth y Dirprwy Arweinydd sylwadau ar y nodweddion ym mharc gwledig Cwm Clydach a soniodd am y gwelliannau y byddai'r dynodiad yma'n ei gynnig i'r nodweddion cadarnhaol sydd eisoes yn bodoli.

 

Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:

1.    Cymeradwyo dynodi darn o dir a elwir ar hyn o bryd yn Barc Cefn Gwlad Cwm Clydach, yn mesur oddeutu 67.2 ha / 166 erw yng Nghwm Clydach, Tonypandy yn 'Barc Gwledig Cwm Clydach' yn unol â darpariaethau Deddf Cefn Gwlad 1968

 

44.

Cynllun Corfforaethol y Cyngor – Blaenoriaethau Buddsoddi pdf icon PDF 406 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol sy'n nodi'r sefyllfa o ran cyfle'r Cabinet i gynnig bod y Cyngor yn buddsoddi ymhellach yn ei feysydd â blaenoriaeth, yn unol â'r Cynllun Corfforaethol, "Gwneud Gwahaniaeth" 2020-2024.

 

Cofnodion:

Cyfeiriodd Cyfarwyddwr Materion Cyllid a Digidol at ei adroddiad sy'n nodi'r sefyllfa o ran cyfle'r Cabinet i gynnig bod y Cyngor yn buddsoddi ymhellach yn ei feysydd o flaenoriaeth, yn unol â'r Cynllun Corfforaethol, "Gwneud Gwahaniaeth" 2020-2024. 

 

Soniodd y Cyfarwyddwr am bwysigrwydd buddsoddi mewn meysydd sy'n cefnogi blaenoriaeth allweddol yn y Cynllun Corfforaethol, sydd wedi'i gydnabod eisoes gan y Cyngor, a'r adnoddau ychwanegol o £123 miliwn, ar ben dyraniadau arferol y Rhaglen Gyfalaf sydd wedi'i fuddsoddi ers Hydref 2015.  Esboniodd fod adroddiad arfaethedig y Cyngor yn cynnig parhau i fuddsoddi £6.5 miliwn arall mewn blaenoriaethau allweddol drwy ddefnyddio adnoddau presennol sydd eisoes wedi'u neilltuo ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith.

 

Siaradodd yr Arweinydd am y buddsoddiad pwysig yn y seilwaith a'r priffyrdd a siaradodd am y rhaglen ariannu a oedd wedi parhau ochr yn ochr â'r buddsoddiad yr oedd ei angen ar gyfer atgyweiriadau yn dilyn Storm Dennis. Soniodd yr Arweinydd am yr anghyfleustra a brofir weithiau wrth wneud atgyweiriadau a gwaith yn sgil buddsoddiad o'r fath ond soniodd hefyd am y buddion tymor hir.

 

Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Corfforaethol y £6.5 miliwn ychwanegol a soniodd am y buddsoddiadau a oedd eisoes i'w gweld ledled y Fwrdeistref Sirol.

 

Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:

1.    Cynnig y trefniadau buddsoddi ac ariannu ychwanegol fel y'u nodwyd yn Atodiad A yr adroddiad cafodd ei gyflwyno i'r Cyngor yn ei gyfarfod ar 29 Medi 2021

 

45.

Adroddiad Cyflawniad ac Adnoddau'r Cyngor (Ch1) pdf icon PDF 360 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol sy'n rhoi trosolwg o gyflawniad y Cyngor o ran materion ariannol a gweithredol.

 

Cofnodion:

Rhoddodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Cyllid a Gwella, drosolwg i'r Aelodau am gyflawniad y Cyngor dros dri mis cyntaf y flwyddyn ariannol hon (hyd at 30 Mehefin 2021), o ran materion ariannol a gweithredol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod yr adroddiad wedi'i lunio yng nghyd-destun pandemig Covid-19 a'i fod yn parhau i achosi heriau sylweddol wrth ddarparu Gwasanaethau'r Cyngor ochr yn ochr â chostau ychwanegol sylweddol a cholledion incwm sydd, hyd yma, wedi gweld y rhan fwyaf o achosion yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau fod sefyllfa cyllideb refeniw Chwarter 1 yn rhagamcanu gorwariant o £0.415 miliwn, a oedd yn amcanestyniad cynnar ar gyfer y flwyddyn lawn ac sy'n adlewyrchu effaith y newidiadau a ragwelir yn y galw hyd at ddiwedd y flwyddyn, gyda phwysau yn bennaf o fewn y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion a'r Gwasanaethau i Blant. Mae'n ystyried costau ychwanegol a cholledion incwm a ragwelir o ganlyniad uniongyrchol i bandemig Covid-19 (gan dybio eu bod yn cael eu hariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru).  Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y bydd gwaith yn parhau i fonitro sefyllfa ariannol y Cyngor, adnewyddu rhagolygon ariannol wrth i wybodaeth wedi'i diweddaru ddod ar gael a pharhau i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru i dynnu sylw at bwysigrwydd darparu cyllid ychwanegol i gefnogi goblygiadau ariannol Covid-19 a phwysau parhaus costau parhaol.

 

Roedd buddsoddiad cyfalaf ar 30 Mehefin 2019 yn £10.624 miliwn, gyda nifer o gynlluniau yn cael eu hail-broffilio yn ystod y chwarter i adlewyrchu newidiadau mewn costau yn ogystal â cheisiadau am grant allanol newydd sydd wedi'u cymeradwyo. Mae'r gwariant hyd yma yn cynrychioli parhad rhaglen fuddsoddi tymor hir sy'n cefnogi gwelliannau gweladwy i seilwaith ac asedau ledled y Fwrdeistref Sirol, a hynny gan ystyried gofynion diogelwch Covid-19.

 

O ran blaenoriaethau Cynllun Corfforaethol y Cyngor, sef 'Pobl, Lleoedd a Ffyniant', gwnaed cynnydd da ar y cyfan yn ystod tri mis cyntaf y flwyddyn.

 

Daeth y Cyfarwyddwr Gwasanaeth â'i adroddiad i ben drwy rannu'r trydydd diweddariad cynnydd parthed cyflwyno argymhellion i wella ymateb y Cyngor i dywydd garw, roedd y Cyngor mewn lle da, gyda chamau allweddol yn cael eu datblygu i ddangos cyfeiriad clir ar gyfer y dyfodol.

 

Diolchodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Corfforaethol i swyddogion am yr adroddiad a gwnaeth sylwadau ar y gorwariant a ragwelir a'r pwysau sy'n wynebu'r Cyngor mewn perthynas â'r gwasanaethau cymdeithasol a'r angen am gefnogaeth barhaus gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo i leddfu'r pwysau hyn.  Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet y buddsoddiad parhaus yn y rhaglen gyfalaf a'r gwaith parhaus a wnaed a oedd yn cyd-fynd â'r gwaith adfer sydd ei angen ar draws y Fwrdeistref Sirol yn dilyn y tywydd garw.  Talodd yr Aelod o'r Cabinet deyrnged i staff y Cyngor a siaradodd am y pwysau ychwanegol a roddir ar wasanaethau oherwydd y pandemig a allai fod wedi cael effaith ar y cynnydd bach yn lefelau salwch.

Parhaodd yr Aelod o'r Cabinet trwy ddarparu trosolwg manwl o waith cadarnhaol y Cyngor mewn ystod o wahanol wasanaethau a oedd  ...  view the full Cofnodion text for item 45.