Agenda a Chofnodion

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Hybrid

Cyswllt: Emma Wilkins - Uned Busnes y Cyngor  07385401935

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

65.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr eitem mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, roedd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Norris wedi datgan y buddiant personol canlynol mewn perthynas ag eitem 6 ar yr agenda - Dull Gweithredu'r Cyngor o Fynd i'r Afael â Chartrefi Gwag, sydd wedi'i nodi yn y Strategaeth Cartrefi Gwag ar gyfer 2018-2021:- "Rydw i wedi cyflwyno cais i Gynllun Grantiau Cartrefi Gwag Tasglu'r Cymoedd".

 

 

66.

Cofnodion pdf icon PDF 360 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 21 a 23 Medi 2021 yn rhai cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd Cabinet a gafodd eu cynnal ar 21 a 23 Medi yn rhai cywir, yn amodol ar gynnwys ymddiheuriad ffurfiol gan y Cynghorydd Norris mewn perthynas â'r cyfarfod a gafodd ei gynnal ar 23 Medi.

 

67.

Deddf Gamblo 2005 - Datganiad o Egwyddor (Polisi Lleol) 2022 - 2025 pdf icon PDF 264 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr, Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a Gwasanaethau'r Gymuned sy'n nodi'r Datganiad o Egwyddor diwygiedig, o dan ddarpariaethau'r Ddeddf Gamblo 2005 ar gyfer y cyfnod rhwng 2022 a 2025 yn unol â gofynion statudol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned ei adroddiad i Aelodau. Mae'r adroddiad yn trafod y Datganiad o Egwyddor diwygiedig, o dan ddarpariaethau Deddf Gamblo 2005 (h.y. y datganiad polisi lleol ar gyfer rheoli gweithgareddau gamblo o fewn ffiniau Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf), ar gyfer 2019-2021 yn unol â gofynion statudol.

 

Mae yna ofyniad statudol i adolygu'r Datganiad o Egwyddor bob tair blynedd ac felly roedd y datganiad cyfredol yn destun adolygiad. Dywedodd y Cyfarwyddwr fod y Datganiad o Egwyddor cyfredol (2019-2022) yn parhau i fod yn addas at y diben, yn gyffredinol. Fodd bynnag, mae'r datganiad wedi'i adolygu er mwyn ystyried newid i ddeddfwriaeth ac arfer gorau.

 

Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau Cryfach, Lles a Gwasanaethau Diwylliannol am yr adroddiad a'r adolygiad y mae angen ei gyflawni, gan nodi'r diwygiadau bach sydd wedi'u hawgrymu ar gyfer yr egwyddorion, fel a nodwyd yn yr adroddiad sydd wedi'i gyflwyno i'r Aelodau (4.6). Mae'r rhain yn cryfhau'r trefniadau diogelu ar gyfer plant, ac roedd yr Aelod wedi croesawu'r rhain.

 

Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:

 

1.    Yn dilyn trafodaeth yngl?n â Deddf Gamblo 2005 - Datganiad o Egwyddor (Polisi Lleol) 2022 - 2025, penderfynwyd cymeradwyo'r Datganiad o Egwyddor er mwyn i'r Cyngor ei fabwysiadu yn unol â gofynion statudol.

 

 

 

68.

THEATRAU RHCT: Perfformiadau dros y Nadolig 2021 pdf icon PDF 260 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned yn cynnig i'r Cabinet gynnal dangosiad o gynnig Nadolig 2021 Theatrau RhCT, sef 'Aladdin', yn Theatr y Colisëwm a Theatr y Parc a'r Dâr a chodi tâl am docyn, o ganlyniad i'r newid yn Lefel Rhybudd Covid.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a Gwasanaethau Cymuned ei adroddiad i'r Aelodau. Roedd yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddangos perfformiad y Nadolig Theatrau RhCT 2021, sef 'Aladdin', ar ffurf ddigidol yn Theatr y Colisëwm a Theatr y Parc a'r Dâr yn sgil y newid i gyfyngiadau covid. Bydd y perfformiad yn cael ei ddangos am ddim.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr y byddai'r cynnig yn darparu profiad Nadoligaidd i'r teulu cyfan, gan geisio cyfleu'r naws Nadoligaidd sydd fel arfer yn cael ei chynnig.  Cafodd Aelodau gwybod am fanylion y cynnig, sef dangos perfformiad 'Aladdin', ym mis Rhagfyr 2021 ym mhob un o Theatrau'r Cyngor. Bydd tocynnau ar gael am ddim i sicrhau bod cyfle teg i drigolion a phlant sydd efallai heb fynediad i gyfarpar digidol fwynhau'r cynnig Nadoligaidd yma.

 

Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau Cryfach, Lles a Gwasanaethau Diwylliannol y cynnig a'r cyfle i deuluoedd fwynhau'r cynhyrchiad am ddim. Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet yngl?n â'r cyfnod heriol y mae Gwasanaeth y Celfyddydau a'r Gwasanaethau Diwylliannol wedi'i wynebu yn sgil y pandemig, a'r sefyllfa gadarnhaol y mae'r cyfle'n ei chynnig, gan sicrhau diogelwch y cyhoedd.

 

Pwysleisiodd yr Arweinydd sylwadau'r Aelod o'r Cabinet gan nodi'r holl weithgareddau y mae pobl ifainc a'u teuluoedd wedi'u colli yn sgil y pandemig, a sefyllfa gadarnhaol y mae'r cynnig yn ei darparu o ran cynnig perfformiad y mae modd i deuluoedd ei fwynhau.

 

Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:

 

1.    Cymeradwyo'r cynnig i ddangos perfformiad y Nadolig Theatrau RhCT, sef 'Aladdin', ar ffurf profiad sinematig yn Theatr y Colisëwm a Theatr y Parc a'r Dâr ym mis Rhagfyr 2021. Bydd tocynnau ar gael am ddim.

 

69.

Prosiect Tirwedd Fyw pdf icon PDF 354 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned yn diweddaru'r Cabinet ar y cynnydd gyda'r Prosiect Tirwedd Fyw a gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer datblygu'r Prosiect yn y dyfodol i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth.

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a Gwasanaethau Cymuned ddiweddariad i'r Aelodau mewn perthynas â'r cynnydd sydd wedi'i wneud ar Brosiect Tirwedd Fyw, gan geisio cymeradwyaeth i ddatblygu'r Prosiect ymhellach er mwyn mynd i'r afael ag argyfyngau newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth.

 

Cafodd yr Aelodau gwybod bod y Prosiect wedi nodi rhaglenni gwaith allweddol mewn 29 lleoliad posibl, a fyddai o fudd sylweddol i'r Cyngor wrth hyrwyddo ardaloedd bioamrywiaeth Rhondda Cynon Taf. Gofynnodd y Cyfarwyddwr bod y Cabinet yn trafod bwrw ymlaen â chyflwyno ceisiadau cyllid allanol sy'n ymwneud â'r cynllun Peilot a chyflawni cam Peilot y prosiect, fel sydd wedi'i nodi yn yr adroddiad.

Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau Cryfach, Lles a Gwasanaethau Diwylliannol wedi diolch i Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd am eu trafodaethau yngl?n â'r prosiect yma yn ystod y misoedd diwethaf, gan ddweud bod yr Awdurdod yn gyfoethog o ran y cyfleoedd bioamrywiaeth sydd ganddo, fel sydd wedi'i nodi yn y 29 safle allweddol sydd yn yr adroddiad.  Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet y datblygiadau sydd wedi'u gwneud mewn perthynas â'r prosiect, gan gyfeirio at y digwyddiadau tywydd garw a welwyd ledled y Fwrdeistref Sirol a sut y byddai rhai o'r cynigion yn helpu gyda threfniadau rheoli d?r ledled y dirwedd.

 

Siaradodd y Dirprwy Arweinydd am yr agenda newid yn yr hinsawdd sy'n cael ei flaenoriaethu gan y Cyngor a chyfeiriodd at bwysigrwydd ymgysylltu â'r sector gwirfoddol i fwrw ymlaen â'r agenda hwn.

 

Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:

 

1.    Yn dilyn trafodaeth yngl?n â'r cynnydd sydd wedi'i wneud mewn perthynas â Phrosiect Tirwedd Fyw a'r gwaith sydd wedi'i nodi yn yr adroddiad er mwyn gwella cefn gwlad a chynefinoedd naturiol Rhondda Cynon Taf, penderfynodd y Cabinet gymeradwyo'r rhestr a'r 29 safle a nodwyd gan y Prosiect Tirwedd Fyw a'r trefniadau cyllid cysylltiedig.

 

70.

Dull Gweithredu'r Cyngor o Fynd i'r Afael â Chartrefi Gwag, fel sydd wedi'i nodi yn y Strategaeth Cartrefi Gwag ar gyfer y cyfnod 2018-2021 pdf icon PDF 425 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu yn diweddaru'r Aelodau am y cynnydd a wnaed wrth roi dull gweithredu'r Cyngor o Fynd i'r Afael a Chartrefi Gwag, a nodir yn y Strategaeth Cartrefi Gwag ar gyfer y cyfnod 2018-2021, ar waith.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu adroddiad oedd yn diweddaru'r Aelodau am y cynnydd sydd wedi'i wneud o ran gweithredu dull y Cyngor mewn perthynas â chartrefi gwag, a nodwyd yn y Strategaeth Cartrefi Gwag ar gyfer y cyfnod 2018-2021.

 

Cafodd yr Aelodau gwybod bod cynnydd da wedi'i wneud mewn perthynas â gweithredu'r strategaeth, er gwaethaf pandemig covid, a chlywodd yr Aelodau drosolwg o'r gwaith sydd wedi'i gyflawni.  Dywedodd y Cyfarwyddwr fod dull y Cyngor mewn perthynas ag adfer eiddo gwag yn cael effaith gadarnhaol ar nifer yr eiddo gwag ledled y fwrdeistref. Mae 1,144 o ymyraethau wedi'u cyflawni yn ystod y 2 flynedd diwethaf, sy'n uwch na'r targed dros dro o 400 y flwyddyn. Tynnwyd sylw at y ffaith bod 501 eiddo wedi'u hadfer yn rhan o'r strategaeth.

 

Daeth y Cyfarwyddwr i ben drwy roi gwybod bod Strategaeth Cartrefi Gwag RhCT yn dod i ben, byddai ymestyn cyfnod y strategaeth gyfredol yn caniatáu peth amser i ddatblygu strategaeth newydd er mwyn ei gweithredu ym mis Ebrill 2022.

 

Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu, a Thai yn gadarnhaol am y deilliannau a nodwyd yn rhan o'r strategaeth a'r nifer fawr o eiddo gwag sydd wedi'u hadfer.

 

Roedd yr Arweinydd wedi diolch i'r Swyddogion sydd ynghlwm â'r gwaith o weithredu'r strategaeth am eu gwaith caled, gan siarad am bwysigrwydd y cyllid grant sydd wedi'i sicrhau er mwyn helpu gyda'r broses o ddatblygu prosiectau a mentrau sy'n rhan o'r strategaeth.

 

Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:

 

1.    Nodi'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn yr adroddiad, a'r cynnydd sydd wedi'i wneud wrth adfer eiddo gwag yn unol â Strategaeth Cartrefi Gwag RhCT.

2.    Cytuno bod Strategaeth Cartrefi Gwag gyfredol RhCT yn cael ei hymestyn i fis Mawrth 2022, gan ddatblygu strategaeth newydd er mwyn ei gweithredu ym mis Ebrill 2022.

 

(D.S. Ar ddiwedd yr eitem yma, gadawodd yr Arweinydd y cyfarfod.)

 

 

71.

Adroddiad ar Gyflawniad Corfforaethol y Cyngor ar gyfer 2021/22 (Drafft) pdf icon PDF 630 KB

Derbyn adroddiad gan y Prif Weithredwr, sy'n amlinellu Adroddiad Cyflawniad Corfforaethol Rhondda Cynon Taf, sy'n nodi'r cynnydd yn 2020/21 a'r cynlluniau ar gyfer 2021/22 mewn perthynas â blaenoriaethau strategol y Cyngor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyflawniad  Adroddiad Cyflawniad Corfforaethol drafft y Cyngor i'r Aelodau, sy'n cynnwys manylion cynnydd ar gyfer 2020/21 a chynlluniau ar gyfer 2021/22 o ran blaenoriaethau strategol y Cyngor.  Cafodd yr Aelodau wybod bod yr adroddiad hefyd yn nodi sut mae'r Adroddiad yma'n galluogi'r Cyngor i fodloni ei ofynion adrodd statudol. 

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau bod adroddiad drafft 2021/22 wedi'i baratoi yn ystod pandemig Covid-19 ac mae'r cynnwys wedi'i herio a'i adolygu gan Swyddogion. Esboniodd y Rheolwr Cyflawniad fod yr adroddiad yn dangos y cynnydd cadarnhaol a wnaed dros y flwyddyn ddiwethaf yng nghyd-destun yr heriau byd-eang, cenedlaethol a rhanbarthol yn 2020/21, a'i fod yn rhoi cynlluniau uchelgeisiol a chlir ar waith o fewn y Cyngor ar gyfer 2021/22.

 

Cytunodd y Dirprwy Arweinydd fod yr adroddiad yn adlewyrchiad cywir o safbwynt y Cyngor a'i fod yn darparu gwybodaeth am ddarpariaeth holl wasanaethau'r Cyngor ac yn nodi pa mor dda roedd y Cyngor yn diwallu anghenion preswylwyr a defnyddwyr y gwasanaethau ledled y Fwrdeistref Sirol.  Nododd y Dirprwy Arweinydd yr heriau sy'n wynebu'r Cyngor mewn perthynas â phandemig Covid a'r tywydd eithafol. Mae'r rhain wedi'u hadlewyrchu yn yr Adroddiad Cyflawniad.

 

Diolchodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Corfforaethol i swyddogion am yr adroddiad cynhwysfawr, a nododd ei fod yn adlewyrchu'r anawsterau a gafwyd dros y 12 mis diwethaf ond dangosodd hefyd y gwelliannau a gyflawnwyd yn ystod y cyfnodau anodd hynny.

 

Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:

 

1.    Cymeradwyo Adroddiad Cyflawniad drafft y Cyngor (Atodiad 1 yr Adroddiad) ac argymell bod y Cyngor llawn yn ei gymeradwyo ar 20 Hydref 2021.

 

72.

YMGYSYLLTU MEWN PERTHYNAS Â CHYLLIDEB Y CYNGOR 2022/23 pdf icon PDF 262 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, sy'n rhoi gwybod i'r Cabinet am y dull o ymgysylltu ac ymgynghori â thrigolion yngl?n â gosod cyllideb 2022/23.

 

Cofnodion:

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu wrth y Cabinet am y dull arfaethedig o ymgysylltu ac ymgynghori â thrigolion mewn perthynas â phroses gosod cyllideb 2022/23. Y gobaith yw ceisio rhoi cyfle i breswylwyr rannu adborth â'r Cabinet ar y broses gosod cyllideb mewn ffyrdd gwahanol.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau am y dull arfaethedig a ystyriwyd a fyddai'n cael ei ddatblygu ar draws 2 gam.  Bydd y cam cyntaf yn digwydd yn ystod hydref 2021 a byddai'n anelu at gasglu barn ar flaenoriaethau buddsoddi, lefelau Treth y Cyngor ac arbedion effeithlonrwydd.  Bydd Cam 2 yn digwydd yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd ac yn rhoi cyfle i'r Cyngor ymgysylltu â thrigolion ar y strategaeth ddrafft a gynigiwyd gan y Cabinet.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod y dyddiadau penodol yn dibynnu ar ddyddiadau rhyddhau Setliad Llywodraeth Cymru.

 

Siaradodd y Dirprwy Arweinydd am bwysigrwydd ymgysylltu â'r cyhoedd mewn perthynas â chyllideb y Cyngor a siaradodd am yr opsiynau sydd ar gael i ymgysylltu, gan gynnwys gwneud hynny ar-lein ac wyneb yn wyneb.

 

Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:

 

1.    Cefnogi dull ar-lein o ymgynghori ar gyllideb 2022/23 y Cyngor, gan ddefnyddio gwefan newydd Dewch i Siarad y Cyngor ynghyd ag ailgyflwyno achlysuron wyneb yn wyneb yn y gymuned. Cytunwyd bydd y Cyngor, yn rhan o'r dull a awgrymir, yn parhau i ddarparu dulliau amgen o ymgysylltu ar gyfer y rhai sydd â llai o fynediad neu heb fynediad i'r rhyngrwyd a'r rhai y mae'n well gyda nhw ymgysylltu trwy ddulliau traddodiadol.

 

2.    Cefnogi gofynion statudol y Cyngor parthed ymgynghori ar y Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor, a chaiff lefelau Treth y Cyngor eu bodloni trwy'r dull arfaethedig.

 

3.    Cefnogi'r broses ymgynghori ar y gyllideb sy'n digwydd yn ystod hydref 2021, gyda'r dyddiadau i'w cadarnhau yn dilyn eglurhad o amserlenni setliad cyllideb Llywodraeth Cymru.

 

4.    Awdurdodi'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu i gynllunio'r llinell amser ymgysylltu angenrheidiol unwaith y bydd manylion y Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro yn hysbys, a hynny drwy ymgynghori â'r Aelod o’r Cabinet priodol a'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol.

 

 

73.

Diweddariad ar Gymorth Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant i Ysgolion ac Unedau Atgyfeirio Disgyblion er mwyn Ymateb i Covid-19 pdf icon PDF 345 KB

Derbyn adroddiad gan Gyfarwyddwr Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant yn darparu trosolwg i'r Cabinet o gynnydd Cyngor Rhondda Cynon Taf mewn perthynas â'r argymhellion yn adroddiad Estyn, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2021.

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant drosolwg i'r Aelodau o'r cynnydd mae'r awdurdod wedi'i wneud mewn perthynas ag argymhellion o'r adroddiad thematig trosfwaol Estyn a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2021, a oedd yn cynnwys adolygiad thematig o arfer ar draws pob un o'r 22 awdurdod lleol ledled Cymru.

 

Rhoddwyd diweddariadau cynnydd cadarnhaol i'r Aelodau mewn perthynas â phob un o'r 5 thema a nodwyd gan Estyn a dywedodd y Cyfarwyddwr y byddai'r awdurdod yn parhau i weithio mewn partneriaeth agos â'r Gwasanaeth Gwella Ysgolion rhanbarthol a'i holl ysgolion i sicrhau bod cynnydd cryf yn cael ei wneud yn erbyn yr holl argymhellion a nodwyd gan Estyn yn yr adroddiad thematig.

 

Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant yr adroddiad a'r adborth calonogol a ddarparwyd trwy'r cyfarfodydd ymgysylltu a rhoi sylwadau ar y cynnydd cadarnhaol a wnaed yn erbyn yr argymhellion.

 

Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:

 

1.    Nodi'r adroddiad, yn dilyn trafod llythyr Estyn ar waith y Cyngor o ran helpu ysgolion i ddarparu darpariaeth o ansawdd yn ystod 2020-21.

 

 

74.

Cynllun Dirprwyo'r Arweinydd

Nodi'r newidiadau sydd i'w cyflwyno i Gynllun Dirprwyo'r Arweinydd:

 

Newid Aelodaeth - Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd (y Cynghorydd J Barton i gymryd lle'r Cynghorydd M Webber. Y Cynghorydd A Crimmings i ymgymryd â rôl Is-gadeirydd y Gr?p Llywio.)

 

Diweddariad am fanylion swyddog - Dileu swydd y Cyfarwyddwr Cyfadran - Ffyniant, Datblygu a Gwasanaethau Rheng Flaen yn dilyn ymddeoliad N. Wheeler.

 

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ddiweddariad i'r Aelodau mewn perthynas â'r newidiadau diweddar gan yr Arweinydd i'r Cynllun Dirprwyo, a oedd yn cynnwys newid aelodaeth Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd a rhai diweddariadau gweinyddol i'r cynllun i adlewyrchu'r newidiadau o fewn Uwch Arweinwyr y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD nodi'r diweddariad.