Agenda a Chofnodion

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Hybrid

Cyswllt: Emma Wilkins - Council Business Unit  07385401935

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

55.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr eitem mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.

 

 

56.

Rhaglen Foderneiddio Ysgolion yr 21ain Ganrif - Diweddariad Band B pdf icon PDF 299 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant yn rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf â'r Aelodau am Raglen Amlinellol Strategol Ysgolion yr 21ain Ganrif ddiwygiedig y Cyngor, a gymeradwywyd mewn egwyddor yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru.

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant yr wybodaeth ddiweddaraf â'r Aelodau am Raglen Amlinellol Strategol Ysgolion yr 21ain Ganrif ddiwygiedig y Cyngor, a gymeradwywyd mewn egwyddor yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru.

 

Rhoddwyd trosolwg i'r aelodau o'r prosiectau a ddygwyd ymlaen, gan gynnwys:

·       Cwblhau Ysgol Gynradd Hirwaun

·       Parhau â'r gwaith yn YGG Aberdâr, sy'n gwneud cynnydd da;

·       Parhau â'r gwaith yn Ysgol Gyfun Rhydywaun, sy'n gwneud cynnydd da;

·       Dechrau ar gyfnod ymgynghori (cynllunio) ar gyfer ysgol Gymraeg newydd yn Rhydfelen;

·       Mae gwaith dylunio manwl bron wedi'i gwblhau ar gyfer 3 ysgol gynradd newydd a ariennir trwy'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol, sef Ysgol Gynradd Pont-y-Clun, Ysgol Gynradd Penygawsi ac Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref;

·       Mae gwaith sefydlu 2 ysgol pob oed yn mynd rhagddo ym Mhontypridd a'r Ddraenen-wen;

·       Mae'r adeilad newydd ar gyfer addysgu'r 6ed a'r gwelliannau eraill i Ysgol Gyfun Bryncelynnog wrthi'n cael eu dylunio

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr fod y cynnydd sylweddol yng nghyllid Ysgolion yr 21ain Ganrif ar gyfer Rhondda Cynon Taf yn gyfle cyffrous i ragor o ddisgyblion a chymunedau elwa ar gyfleusterau addysgol a chymunedol gwell.  Dywedwyd wrth yr Aelodau bod y rhaglen yn caniatáu i ragor o ddisgyblion gael eu haddysgu yn Gymraeg a'i fod yn sicrhau bod modd i ddisgyblion mwy agored i niwed fanteisio ar gyfleusterau Ysgolion yr  21ain Ganrif.

 

Nodwyd y byddai'r Rhaglen yn darparu cyfleoedd cyffrous ar gyfer agenda 'ysgolion sy'n canolbwyntio ar y gymuned', gan roi ysgolion wrth galon y gymuned a chaniatáu i'r Cyngor barhau i gyflawni ei nod uchelgeisiol o wneud pob ysgol yn ysgol wych. 

 

Cyfeiriodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant am y cynnig cyffrous gyda’r buddsoddiad yn nodi mai cyfanswm y rhaglen wreiddiol oedd £167 miliwn - ac mai cyfanswm y Rhaglen newydd yw £252 miliwn. Dyma gynnydd sylweddol a alluogodd i £85 miliwn arall gael ei fuddsoddi yn ysgolion Rhondda Cynon Taf. 

 

Pwysleisiodd yr Aelod o'r Cabinet fod y rhaglen yn creu cyfalaf a buddsoddiad ychwanegol ac nad oedd yn arwain at gau cyfleusterau.

 

Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu, a Thai y newyddion a siaradodd am yr angen dirfawr am welliannau mewn rhai adeiladau ysgol, er enghraifft ysgol Pen-rhys, gan holi'r Cyfarwyddwr am amserlenni. Ymatebodd y Cyfarwyddwr y byddai'r rhaglen yn para am 5 mlynedd.

 

Ar y pwynt yma yn y cyfarfod, siaradodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G. Caple am yr eitem.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd ei bod hi'n braf gweld y buddsoddiad ar gyfer y dyfodol yn cael ei gynnig, a fyddai'n caniatáu i bobl ifainc yr Awdurdod fanteisio ar y cyfleusterau gorau, sef yr hyn maen nhw'n ei haeddu.

 

Dywedodd yr Arweinydd mai hwn oedd y buddsoddiad mwyaf erioed mewn ysgolion, a chroesawodd y buddsoddiad ar draws y Fwrdeistref Sirol.

 

Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:

 

1.     Nodi bod y buddsoddiad yn y Rhaglen Amlinellol Strategol gymeradwy wedi cynyddu'n sylweddol o £167 miliwn i £252 miliwn, sef cynnydd o £ 85 miliwn.

 

2.     Derbyn adroddiadau pellach wrth i'r prosiect ddatblygu a symud ymlaen trwy brosesau  ...  view the full Cofnodion text for item 56.

57.

Adolygiad o Ddarpariaeth Ysgolion Arbennig Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf pdf icon PDF 410 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant yn rhoi manylion i'r Cabinet am adolygiad o Ddarpariaeth Ysgol Arbennig Cyngor Rhondda Cynon Taf.

 

Cofnodion:

Darparodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant yr Aelodau gyda gwybodaeth wedi'i diweddaru yn dilyn yr adroddiad a gyflwynwyd i'r Cabinet ym mis Chwefror 2021 lle cytunodd y Cabinet gwaith cwmpasu ychwanegol yn cael ei wneud gan gynnwys astudiaethau dichonoldeb, lle bo hynny'n briodol, i lywio cynigion posibl ar gyfer newid yn narpariaeth ysgol arbennig y Cyngor.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau, o ystyried y newidiadau sylweddol a gynlluniwyd yng Nghymru mewn perthynas â'r ddarpariaeth statudol sy'n ofynnol i ddiwallu anghenion disgyblion wrth weithredu deddfwriaeth newydd, adeiladu ysgol arbennig newydd, a chreu capasiti pellach yn narpariaeth gyfredol yr Awdurdod, y byddai'n sicrhau bod y Cyngor yn cyflawni ei rwymedigaethau statudol yn llwyddiannus.

 

Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant yr adroddiad a'r cyfleoedd a fyddai'n mynd i'r afael â'r galw yn ysgol arbennig y Cyngor ac yn darparu ar gyfer y cynnydd mewn disgyblion. Cyfeiriodd yr Aelod o'r Cabinet at y pwysau sy'n wynebu ysgolion arbennig a dywedodd y byddai'r cynnig yn cynyddu nifer yr ysgolion arbennig o bedair i bump, a fyddai'n diwallu anghenion y disgyblion. 

 

Ar y pwynt hwn o'r cyfarfod a gyda chaniatâd yr Arweinydd, siaradodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol P Jarman ar yr eitem hon.

 

Gwnaeth y Dirprwy Arweinydd sylwadau ar y pwysau o fewn ysgolion arbennig a'r angen i gynyddu cyfalaf ychwanegol, gan nodi y byddai'r cynnig yn lleddfu pwysau o'r fath.

 

Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:

 

1.    Nodi cynnwys yr adroddiad.

 

2.    Cydnabod y pwysau ar ysgolion arbennig y Cyngor a'r angen am fuddsoddiad sylweddol i gynyddu capasiti a rheoli'r galw cynyddol.

 

3.    Nodi bod buddsoddiad wedi'i gynnwys yn Rhaglen Amlinellol Strategol Ysgolion yr 21ain Ganrif y Cyngor i fuddsoddi mewn ysgol arbennig newydd ym Mwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (RhCT).

 

4.    Derbyn adroddiadau pellach wrth i'r cynnig ddatblygu a symud ymlaen yn unol â Chod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru, a phrosesau cymeradwyo statudol Ysgolion a Cholegau 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru.

 

 

58.

DIWEDDARIAD AR REOLIADAU LLYWODRAETH CYMRU I SEFYDLU CYDBWYLLGORAU CORFFORAETHOL A'R NEWIDIADAU I'R CYDBWYLLGOR PRIFDDINAS-RANBARTH CAERDYDD pdf icon PDF 472 KB

Derbyn adroddiad y Prif Weithredwr yn rhoi diweddariad i'r Aelodau ar gyflwyno Cydbwyllgorau Corfforaethol yn unol â darpariaeth Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) (Cymru) 2021.

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Weithredwr drosolwg i'r Aelodau o'i adroddiad a oedd yn nodi'r wybodaeth ddiweddaraf am y Cyd-bwyllgorau Corfforaethol (CJCs).

 

Atgoffwyd yr Aelodau y darparwyd ar gyfer ffurfio Cyd-bwyllgorau Corfforaethol  yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) gan ychwanegu y byddai Cyd-bwyllgorau Corfforaethol dros amser yn newid tirwedd a llywodraethu rhai o swyddogaethau lles economaidd, cynllunio strategol a chludiant strategol a gyflawnir ar hyn o bryd gan y cynghorau cyfansoddol sy'n ffurfio'r Cyd-bwyllgor Corfforaethol  ar draws Rhanbarth De Ddwyrain Cymru neu Lywodraeth Cymru neu gorff cyhoeddus arall a noddir gan Lywodraeth Cymru.  Nodwyd bod Llywodraeth Cymru yn gobeithio ei fod yn gweithredu fel catalydd i ddatblygu a gweithredu trefniadau cydweithredol ar draws llywodraeth leol, lle mae cynllunio a darparu rhanbarthol yn gwneud synnwyr, gan eu defnyddio fel ffordd o sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i bobl Cymru trwy gynnal atebolrwydd ddemocrataidd lleol, lleihau cymlethdodau a gwneud y defnydd gorau o adnoddau.

 

Aeth y Prif Weithredwr ymlaen i ddweud bod Cabinet ar y Cyd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn Ne Ddwyrain Cymru wedi ceisio bod yn rhagweithiol a chytuno i drosglwyddo'r swyddogaethau o dan gytundeb y Fargen Ddinesig, a gymeradwywyd yn flaenorol gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a'r deg cyngor ym mis Mawrth 2016, i Gyd-bwyllgor Corfforaethol De Ddwyrain Cymru ar 28 Chwefror 2022. Dyma'r dyddiad y daw'r swyddogaethau lles economaidd, cynllunio strategol a chludiant i fodolaeth ar gyfer y Cyd-bwyllgor Corfforaethol newydd.

 

Diolchodd yr Arweinydd i'r Prif Weithredwr am y diweddariad a chynghorodd y byddai diweddariadau mewn perthynas â Cyd-bwyllgorau Corfforaethol yn dod gerbron y Cabinet a'r Cyngor.  Siaradodd yr Arweinydd yn gadarnhaol am fanteision gweithio ar y cyd, yn enwedig trwy drefniadau'r Fargen Ddinesig, a chyfeiriodd at y nifer o brosiectau cadarnhaol a gyflawnwyd trwy waith o'r fath.

 

Ar y pwynt hwn yn y cyfarfod, a gyda chaniatâd yr Arweinydd, anerchodd  Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol P Jarman y Cabinet ar yr eitem hon.  Mewn ymateb i rai o sylwadau'r Cynghorydd Jarman mewn perthynas â'r Fargen Ddinesig, dywedodd y Prif Weithredwr fod buddion y trefniadau yn sylweddol uwch na'r hyn y gellid fod wedi'i gyflawni heb drefniadau gweithio o'r fath, gan gyfeirio at brosiectau fel Zipworld.

 

Adleisiodd yr Arweinydd y sylwadau hyn mewn perthynas â chydweithio a rhoddodd sicrwydd na fyddai Cyd-bwyllgorau Corfforaethol yn cael eu ffurfio oni bai bod hynny yn gweithio'n dda i'r Awdurdod.

 

Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:

 

1.    Nodi'r rheoliadau newydd sydd wedi sefydlu Cyd-bwyllgor Corfforaethol De Ddwyrain Cymru a datblygu'r swyddogaethau canlynol yn y dyfodol ar draws y rhanbarth o 1 Mawrth 2022; (1) lles economaidd, (2) cynllunio datblygu strategol, a (3) datblygu polisïau trafnidiaeth;

 

2.    Nodi penderfyniad Cydbwyllgor Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ar 20 Rhagfyr 2021 i drosglwyddo ei swyddogaethau presennol, sydd yn bennaf mewn perthynas â chytundeb y Fargen Ddinesig fel yr ymrwymwyd iddo gan y deg cyngor yn Ne Ddwyrain Cymru ym mis Mawrth 2016, i Gydbwyllgor Corfforaethol De Ddwyrain Cymru ar 28 Chwefror 2022. Mae trosglwyddo'r Fargen Ddinesig o'r Cyd-bwyllgor presennol i'r Cyd-bwyllgor Corfforaethol newydd, yn golygu bod modd i'r broses fod yn ddidrafferth, sy'n cynnwys  ...  view the full Cofnodion text for item 58.

59.

Adroddiad Blynyddol Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg 2020/2021 pdf icon PDF 268 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant sy'n cynnwys Adroddiad Blynyddol 2020/2021 Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant Adroddiad Blynyddol Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg i'r Cabinet, a ddangosodd ei effeithiolrwydd wrth arfer ei swyddogaethau yn y flwyddyn ariannol flaenorol.

 

Rhoddwyd crynodeb i'r Aelodau o gyflawniadau allweddol y Bwrdd a'r ffocws ar weithgaredd beirniadol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig, oherwydd y pandemig.

 

Diolchodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau i Oedolion a'r Gymraeg i'r Bwrdd am y gwaith a wnaed a siaradodd am yr heriau enfawr a ddaeth o dan y faner ddiogelu.  Cyfeiriodd yr Aelod o'r Cabinet at y modelau cyflenwi newydd a gyflwynwyd gan gynnwys llwyfannau technoleg newydd ac asesu risgiau gyda phartneriaid. 

 

Diolchodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau i Blant i'r staff dan sylw am eu gwaith caled.

 

Yn dilyn trafod, PENDERFYNWYD:

 

1.    Nodi a chymeradwyo cynnwys Adroddiad Blynyddol Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg ar gyfer 2020/2021.

 

 

60.

Adroddiadau Blynyddol ar weithdrefnau rhoi sylwadau, canmol a chwyno pdf icon PDF 314 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant sy'n rhoi crynodeb i'r Cabinet o'r trefnau gweithredu ac effeithiolrwydd gweithdrefnau cwyno Gwasanaethau Cymdeithasol Statudol y Cyngor rhwng 1 Ebrill 2020 a 31 Mawrth 2021.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant drosolwg i'r Cabinet o weithrediad ac effeithiolrwydd gweithdrefn gwynion Gwasanaethau Cymdeithasol statudol y Cyngor rhwng 1 Ebrill 2020 a 31 Mawrth 2021, a oedd yn cynnwys gwybodaeth am gefndir gweithdrefn gwynion statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol, gwybodaeth am wersi a ddysgwyd o gwynion a data perfformiad ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion a Phlant, ynghyd â chyflawniadau ar gyfer 2020/21 a datblygiadau yn y dyfodol.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet ar faterion Gwasanaethau i Oedolion a'r Gymraeg i'r Rheolwr Adborth, Ymgysylltu a Chwynion Cwsmeriaid am y gwaith caled a wneir yn gyson wrth ddelio â'r holl sylwadau a dderbynnir.  Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet at y dystiolaeth glir o'r gweithdrefnau cadarn sydd ar waith ac roedd yn falch o nodi'r gostyngiad sylweddol yn y cwynion a dderbyniwyd, yn dilyn blwyddyn heriol.

 

Adleisiodd yr Arweinydd sylwadau'r Aelod o'r Cabinet a siaradodd am sut y defnyddiodd y Cyngor y sylwadau a dderbyniwyd i wella ymhellach ar y gwasanaethau a'r ddarpariaeth a ddarperir.

 

Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau i Blant ar y modd proffesiynol yr oedd y gwasanaeth yn delio â'r gynrychiolaeth a dderbyniwyd.

 

Yn dilyn trafod, PENDERFYNWYD:

 

1.    Nodi cynnwys adroddiad Cwynion Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol (wedi'i atodi fel Atodiad 1 yr adroddiad)

2.    Nodi'r gwaith sy wedi'i wneud gan Garfan Cwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

61.

Gwasanaethau Rheng Flaen; Rhaglen Gyfalaf Atodol Y Priffyrdd, Trafnidiaeth A Chynlluniau Strategol 2021/22 pdf icon PDF 176 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Cyfadran Ffyniant, Datblygu, a Gwasanaethau Rheng-flaen yn nodi'r rhaglen gyfalaf fanwl ar gyfer y cyllid ychwanegol a ddyrennir i gynnal rhwydwaith Priffyrdd a Thrafnidiaeth y Cyngor.         

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Rheng Flaen yr Aelodau at ei adroddiad a nododd y rhaglen gyfalaf fanwl ar gyfer y cyllid ychwanegol a ddyrannwyd i gynnal rhwydwaith priffyrdd a chludiant y Cyngor, ymhellach i benderfyniad y Cabinet ar 21 Medi 2021 i gytuno ar £1.5 miliwn ychwanegol o arian cyfalaf ar gyfer cynnal a chadw priffyrdd yn 2021/22, ac yn amodol ar ystyriaeth gadarnhaol gan y Cyngor ar 29 Medi.

 

Rhoddwyd manylion i'r Aelodau o'r gwelliannau priffyrdd a nodwyd gan gynnwys ffyrdd cerbydau a gwelliannau i'r troedffyrdd a chyfeiriwyd yr Aelodau at atodiad 1 yr adroddiad a oedd yn manylu ymhellach ar y buddsoddiad i'w wneud.  Ychwanegodd y Cyfarwyddwr fod y Cyngor yn un o'r ychydig Gynghorau a oedd wedi parhau i wneud buddsoddiadau ystyrlon a sylweddol yn ei rwydwaith priffyrdd. 

 

Croesawodd yr Arweinydd yr adroddiad gerbron yr Aelodau a chyfeiriodd at y gwelliannau a gyflwynwyd eisoes gan y Cyngor gyda £1.304 miliwn o gynlluniau arfaethedig i'w hychwanegu at gerbydffyrdd, a fyddai'n cael eu hategu ymhellach gan £0.100 miliwn i gyflawni gwelliannau draenio trwy gydol y cyfnod.  Cyfeiriodd yr Arweinydd hefyd at y cynlluniau arfaethedig gwerth £0.096 miliwn mewn perthynas â llwybrau troed.

 

Gyda chaniatâd yr Arweinydd, anerchodd Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol P. Jarman y pwyllgor yngl?n â'r eitem yma.

 

Gwnaeth y Dirprwy Arweinydd sylwadau ar yr heriau sy'n wynebu'r holl Awdurdodau Lleol a chyfeiriodd at y buddsoddiad yr oedd y Cyngor wedi parhau i'w ddatblygu gan ganmol y gwasanaeth am y gwaith a gyflawnwyd a'r hyn mae'n dal i'w gyflawni.

 

Yn dilyn trafod, PENDERFYNWYD:

 

1.    Nodi a chymeradwyo'r Rhaglen Gyfalaf Atodol ar gyfer y Priffyrdd, Trafnidiaeth a Chynlluniau Strategol yn unol â'r manylion yn yr adroddiad.

 

2.    Nodi bod y dyraniadau presennol yn rhan o raglen gyfalaf 3 blynedd a chytuno i ddirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr y Gyfadran, mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor a'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol, ymestyn gweithgarwch i gyflawni prosiectau ychwanegol yn ystod y flwyddyn ariannol lle mae capasiti yn bodoli ar gyfer cyflwyno carlam yn unol â phwrpas y rhaglen ehangach, neu atal rhaglen/rhaglenni ac ailddyrannu cyllid i fanteisio i'r eithaf at y dull darparu.

 

 

62.

Gwella proses recriwtio'r Cyngor ar gyfer Cymuned y Lluoedd Arfog pdf icon PDF 387 KB

Derbyn adroddiad ar y cyd Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol a Chyfarwyddwr Gwasanaeth y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu yn rhoi nifer o opsiynau i'r Cabinet a allai wella proses recriwtio'r Cyngor er mwyn ei gwneud hi'n haws i Gymuned y Lluoedd Arfog a chyn-filwyr oresgyn rhwystrau i gyfleoedd gwaith mewn bywyd sifil.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyn adroddiad ar y cyd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, sy'n rhoi nifer o opsiynau i'r Cabinet a allai wella proses recriwtio'r Cyngor er mwyn ei gwneud hi'n haws i Gymuned y Lluoedd Arfog a chyn-filwyr oresgyn rhwystrau i gyfleoedd gwaith mewn bywyd sifil.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau mai'r prif gynnig oedd cyflwyno Cynllun Cyfweld Gwarantedig ar gyfer ymadawyr gwasanaeth, milwyr wrth gefn a chyn-filwyr y Lluoedd Arfog os ydynt yn cwrdd â'r meini prawf hanfodol ar gyfer swyddi gwag.

 

Cyfeiriodd y Dirprwy Arweinydd at hanes cadarnhaol yr Awdurdod o weithio gyda lluoedd Arfog a siaradodd am Gyfamod y Lluoedd Arfog a gwobr cydnabod aur.  Cyfeiriodd yr Aelod at y sgiliau trosglwyddadwy a oedd gan gyn-filwyr y gallai'r Cyngor elwa ohonynt.  Dywedwyd wrth y Cabinet fod Gweithgor y Lluoedd Arfog yn gefnogol iawn o'r cynigion.

 

Gyda chaniatâd yr Arweinydd, anerchodd Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol P. Jarman y pwyllgor yngl?n â'r eitem yma.

 

Manteisiodd yr Arweinydd ar y cyfle i ddiolch i'r Dirprwy Arweinydd am y gwaith a wnaeth mewn perthynas â'r lluoedd arfog a chyn-filwyr a chroesawodd y cynigion yn yr adroddiad.

 

Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:

 

1.    Nodi a chytuno i weithredu Cynllun Cyfweliad Gwarantedig ar gyfer ymadawyr gwasanaeth, cyn-filwyr a milwyr wrth gefn.

 

2.    Cytuno bod y Cyngor yn gweithio gyda'r Bartneriaeth Trosglwyddo Gyrfa, sef gwasanaeth recriwtio am ddim i sefydliadau sy'n chwilio am gyn-filwyr uchel eu cymhelliant a phrofiadol, sy'n gadael y Lluoedd Arfog.

 

3.    Cytuno bod y Cyngor yn gweithio gyda Forces Families Jobs, sef gwasanaeth recriwtio am ddim sy'n cefnogi aelodau Cymuned y Lluoedd Arfog i gael gwaith.

 

4.    Cytuno i gynnwys is-bennawd ar hysbysebion swyddi sy'n croesawu ceisiadau gan y gymuned filwrol.

 

 

63.

Trafod cadarnhau'r cynnig isod yn benderfyniad

“Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff *** o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:“Bod y cyfarfod yma yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff xx o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”

 

 

64.

Sefydliad Cyflog Byw - Talu Cyflog Byw I Weithwyr Darparwyr Gofal Cymdeithasol Y Sector Annibynnol A'r Rhai Sy'n Derbyn Taliad Uniongyrchol

Derbyn Adroddiad gan Gyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant, Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol a'r Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol sy'n cynnwys gwybodaeth eithriedig, sy'n gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i ymestyn y Cyflog Byw i ddarparwyr gofal cymdeithasol oedolion annibynnol yn Rhondda Cynon Taf; yn benodol, y rhai a gomisiynwyd (ac eithrio lleoliadau arbenigol) i ddarparu gofal preswyl a nyrsio i bobl h?n, byw â chymorth, gofal ychwanegol a gofal cartref a chynorthwywyr personol sy'n darparu gofal a chefnogaeth trwy daliadau uniongyrchol ar gyfer Gwasanaethau i Oedolion a Gwasanaethau i Blant, yng ngoleuni'r pwysau cynyddol a pharhaus ar ofal yn y cartref a gofal preswyl a'r angen i gefnogi'r gweithlu hanfodol hwn.

Cofnodion:

Darparodd Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant i adroddiad a oedd yn cynnwys gwybodaeth eithriedig.  Siaradodd y Cyfarwyddwr Cyfadran am y pwysau cynyddol a pharhaus ar ofal cartref a phreswyl ac mewn ymateb i'r argyfwng recriwtio a chadw mewn gofal a chefnogi'r angen i'r Cyngor sicrhau isafswm cyflog priodol ar gyfer gweithwyr gofal a oedd yn gam hanfodol tuag at gefnogi'r gweithlu hanfodol hwn.

 

Siaradodd Aelodau o’r Cabinet o blaid yr adroddiad a gyda chaniatâd yr Arweinydd, bu’r Cynghorydd Bwrdeistref Sirol hefyd yn annerch y Pwyllgor ar yr eitem hon.

 

Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:

 

1.    Ymrwymo'n ffurfiol i ddarparu cefnogaeth i ddarparwyr gofal cymdeithasol y sector annibynnol i sicrhau bod yr holl weithwyr gofal yn cael eu talu o leiaf y lefel Cyflog Byw Go Iawn, yn benodol, y rhai a gomisiynir (ac eithrio lleoliadau arbenigol) i ddarparu gofal preswyl a nyrsio i bobl h?n, byw â chymorth. , gofal ychwanegol a gofal cartref a chynorthwywyr personol sy'n darparu gofal a chefnogaeth trwy daliadau uniongyrchol am Wasanaethau Oedolion a Phlant; a

 

2.    Dirprwyo cyfrifoldeb i Gyfarwyddwr Cyfadran Gwasanaethau'r Gymuned a Gwasanaethau i Blant (mewn ymgynghoriad â'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol) i ymgysylltu â darparwyr a restrir uchod a gwneud y diwygiadau cytundebol angenrheidiol; a

 

3.    Ysgrifennu'n ffurfiol at Lywodraeth Cymru yn gofyn am sicrwydd bod cyllid craidd (cyllideb sylfaenol) yn cael ei ddarparu yn hyn o beth