Agenda a Chofnodion

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Emma Wilkins - Uned Busnes y Cyngor  07385406118

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Gynghorwyr, yn unol â gofynion Cod Ymddygiad y Cyngor.

 

Nodwch:

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud:

 

·       Cyhoeddodd y Dirprwy Arweinydd y buddiannau personol canlynol yn Eitem 6 yr agenda - Trafod Swyddi Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd: ''Rwyf ar Gorff Llywodraethu Ysgol Heol-y-Celyn y cyfeirir ati yn yr adroddiad” ac yn Eitem 8 yr agenda - Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif - Cynigion i Ad-drefnu Ysgolion Cynradd, Ysgolion Uwchradd a Darpariaeth Chweched Dosbarth yn Ardal Ehangach Pontypridd: “Mae Ysgol Cardinal Newman o fewn fy ward a chyfeirir ati yn yr adroddiad”;

·       Cyhoeddodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu, a Thai y buddiant personol canlynol yn Eitem 6 yr agenda - Trafod Swyddi Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd: 'Rydw i ar Gorff Llywodraethu Ysgol Gynradd Tylorstown y cyfeirir ato yn yr adroddiad';

·       Cyhoeddodd yr Aelod o’r Cabinet ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol y buddiant personol canlynol yn Eitem 6 yr agenda - Trafod Swyddi Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd: 'Fi yw Cadeirydd Corff Llywodraethu YGG Abercynon, y cyfeirir ati yn yr adroddiad',

·       Cyhoeddodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant y buddiant personol canlynol yn Eitem 6 yr agenda - Trafod Swyddi Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd: 'Rydw i ar Gorff Llywodraethu Ysgol Gynradd Trealaw, y cyfeirir ati yn yr adroddiad';

·       Cyhoeddodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion a'r Iaith Gymraeg y buddiant personol canlynol yn Eitem 6 yr agenda - Trafod Swyddi Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd: 'Rwyf ar Gorff Llywodraethu Ysgol Gynradd Llanharan, y cyfeirir ati yn yr adroddiad'; a

·       Cyhoeddodd Aelod o’r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden, a Gwasanaethau Treftadaeth y buddiant personol canlynol yn Eitem 8 yr agenda - Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif - Cynigion i Ad-drefnu Ysgolion Cynradd, Ysgolion Uwchradd a Darpariaeth Chweched Dosbarth yn Ardal Ehangach Pontypridd: 'Rwy'n cael fy nghyflogi gan Goleg y Cymoedd, y cyfeirir ato yn yr Asesiad Effaith”.

 

 

2.

Cofnodion pdf icon PDF 163 KB

Derbyn cofnodion o gyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 29 Ebrill 2021 yn rhai cywir.

 

Cofnodion:

PENDERFYNODD y Cabinet gymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Ebrill 2021 yn rhai cywir.

 

3.

Cynllun Dirprwyo'r Arweinydd

Derbyn Cynllun Dirprwyo'r Arweinydd ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021-22, yn dilyn y diwygiadau a gafodd eu hadrodd yn ystod Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi er Gwybodaeth Gynllun Dirprwyo'r Arweinydd ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021/22, yn dilyn y newidiadau a adroddwyd i 26ain Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor.

 

4.

Rhaglen Waith Y Cabinet pdf icon PDF 125 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am y rhestr arfaethedig o faterion y mae angen i'r Cabinet eu hystyried yn ystod Blwyddyn 2021-22 y Cyngor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu raglen waith ddrafft ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021-22 i'r Aelodau, a oedd yn rhestru'r materion y mae angen i'r Cabinet eu hystyried. 

 

Cafodd yr Aelodau eu cyfeirio at Atodiad 1 yr adroddiad a dywedwyd wrthyn nhw bod y rhaglen yn ddogfen fyw fel bydd modd ychwanegu neu ddileu adroddiadau yn ystod y flwyddyn. Atgoffodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth yr Aelodau, mewn ymateb i ofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, y cytunwyd yn y CCB diwethaf y byddai manylion pellach yn cael eu darparu yn Rhaglen Waith y Cabinet yn y dyfodol. Bwriad hyn yw caniatáu digon o gyfle i ymgynghori a rhag-graffu ac, o'r herwydd, mae cyfansoddiad y Cyngor wedi'i ddiwygio i adlewyrchu'r newidiadau hynny.

 

Hysbysodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth yr Aelodau y byddai cynnwys y Rhaglen Waith yn cefnogi trafodaethau rhwng Cadeiryddion Craffu ac Aelodau'r Cabinet mewn sesiynau ymgysylltu yn y dyfodol ac, o ganlyniad, yn helpu i lunio Rhaglenni Gwaith y Pwyllgorau Craffu yn y dyfodol.

 

Nododd y Dirprwy Arweinydd gynnwys y rhaglen waith ddrafft a nododd fod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn mynnu bod yn rhaid i wybodaeth am benderfyniadau gweithredol sydd ar ddod fod ar gael i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, er mwyn sicrhau bod y Pwyllgorau yn meddu ar yr holl wybodaeth berthnasol i ymgymryd â nhw a chynllunio eu gwaith yn well. Cydnabu'r Dirprwy Arweinydd y byddai datblygu Rhaglen Waith gywir a chadarn ar gyfer y Cabinet yn cryfhau trefniadau Llywodraethu cadarn yr Awdurdod Lleol ymhellach.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Rhaglen Waith ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021-22 (gan addasu'n briodol ar ôl yr angen) a chael yr wybodaeth ddiweddaraf bob 3 mis.

 

 

5.

Gwariant yn ymwneud â Covid-19 pdf icon PDF 166 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol, sy'n cyflwyno crynodeb o'r gwariant nad oedd wedi'i gytundebu ond a oedd yn angenrheidiol er mwyn hwyluso cymorth hanfodol a phrydlon mewn perthynas â chyfrifoldebau corfforaethol y Cyngor i'w drigolion a'i weithlu, wrth fynd i'r afael â'r peryglon sy'n gysylltiedig â'r pandemig Covid-19.

 

 

Cofnodion:

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol, sy'n cyflwyno crynodeb o'r gwariant nad oedd wedi'i gytundebu ond a oedd yn angenrheidiol er mwyn hwyluso cymorth hanfodol a phrydlon mewn perthynas â chyfrifoldebau corfforaethol y Cyngor i'w drigolion a'i weithlu, wrth fynd i'r afael â'r peryglon sy'n gysylltiedig â'r pandemig Covid-19.

 

Cyfeiriodd y swyddog at yr opsiynau a oedd ar gael i sefydliadau sector cyhoeddus ym mis Mawrth 2020, o dan Reoliad 32 (2) (c) o dan Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015, i gynorthwyo gyda'r ymateb i'r achosion o COVID-19. Tynnwyd sylw aelodau at Adran 5 yr adroddiad, a oedd yn manylu ar y ffordd y rhoddodd y Cyngor Reoliad 32 ar waith. Pwysleisiodd y swyddog mai'r flaenoriaeth allweddol oedd sicrhau bod gan yr holl staff rheng flaen (staff y Cyngor a staff sy'n gweithio i wasanaethau a gomisiynwyd gan y Cyngor) gyfarpar diogelu personol digonol a oedd yn bodloni'r safonau diogelwch gofynnol i ddiogelu ei thrigolion.

 

Roedd yr Arweinydd yn hapus i nodi'r adroddiad a manteisiodd ar y cyfle i ddiolch i'r swyddogion am y gwaith a wnaed trwy gydol y pandemig a siaradodd am wiriadau trylwyr o'r cyfarpar diogelu personol i sicrhau bod y safonau'n cael eu bodloni er diogelwch staff a thrigolion.

 

Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Corfforaethol yn falch o nodi, er gwaethaf brys y sefyllfa, bod swyddogion wedi cadw cofnodion cyfoes ac yn nodi bod diwydrwydd dyladwy yn cael ei gyflawni i sicrhau bod manyleb y cynnyrch a thystysgrifau cydymffurfio yn cael eu cyflawni. Roedd yr Aelod o'r Cabinet hefyd yn falch o nodi bod mwyafrif helaeth y contractau wedi'u cyflawni, naill ai gan gwmnïau sydd wedi'u lleoli yn RhCT neu'r rhanbarthau cyfagos, a oedd yn cefnogi'r economi leol. Ar ôl gorffen, adleisiodd yr Aelod o'r Cabinet ddiolch yr Arweinydd i swyddogion a chanmolodd staff a busnesau rhanbarthol am eu harloesedd ac am ymateb i'r her.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.       Nodi bod yr holl gamau caffael y manylwyd arnynt yn yr adroddiad wedi'u cymryd i sicrhau diogelwch a lles ein staff rheng flaen;

2.       Cydnabod, lle bynnag y bo hynny'n bosibl, bod cyflenwad priodol ar gael ac y gellir ei gludo (opsiwn i'w gasglu) o fewn amserlenni tynn iawn weithiau, a bod y Cyngor wedi ymdrechu i ymgysylltu â busnesau lleol i gyflawni ei ofynion cyflenwi.

 

 

6.

Trafod Swyddi Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd - Adborth pdf icon PDF 200 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant, sy'n trafod effaith y posibilrwydd o ymestyn y cynllun Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd sydd ar waith mewn chwe ysgol uwchradd/ysgol pob oed i fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â phresenoldeb

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant adroddiad sy'n trafod effaith y posibilrwydd o ymestyn y cynllun Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd sydd ar waith mewn chwe ysgol uwchradd/ysgol pob oed ar hyn o bryd i fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud ag ymgysylltu ag addysg.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr, yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet ar 13 Chwefror 2020 i ariannu cynllun peilot mewn chwe ysgol uwchradd/po boed, fod rôl y Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd wedi bod yn amhrisiadwy ac wedi cefnogi gwelliant mewn nifer o feysydd allweddol fel presenoldeb a lles dysgwr a theuluoedd. Dywedodd y Cyfarwyddwr, oherwydd pandemig Covid-19, ei bod yn anodd caffael data mewn perthynas ag effaith y rôl ar bresenoldeb ac felly ni ofynnwyd am gyflwyno'r rôl yn llawn, ond roedd y Cyfarwyddwr yn teimlo y byddai'n fuddiol ystyried effaith y rolau yn rhai o'r lleoliadau cynradd gyda disgyblion o ardaloedd amddifadedd uchel sydd â phresenoldeb hanesyddol isel.

 

Yn seiliedig ar system raddio/sgorio syml o'r rheiny sydd â'r ganran uchaf o ddisgyblion sy'n byw yn yr 20% uchaf o gymunedau difreintiedig fel y'u nodwyd ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, a'u presenoldeb cyffredinol yn y flwyddyn academaidd gyflawn ddiwethaf yn 2018/19 , cynigiodd y Cyfarwyddwr y dylid cynnwys yr ysgolion cynradd canlynol yn y cynllun peilot:

·       Ysgol Gynradd Pont-y-gwaith;

  • Ysgol Gynradd Pen-y-waun;
  • Ysgol Gynradd Gymuned Perthcelyn;
  • Ysgol Gynradd Trealaw;
  • Ysgol Gynradd Gymuned y Maerdy;
  • Ysgol Gynradd Pen-rhys;
  • Ysgol Gynradd Pontrhondda;
  • Ysgol Gynradd Tref-y-rhyg;
  • Ysgol Gynradd Tylorstown;
  • Ysgol Gynradd Heol y Celyn;
  • Ysgol Gynradd Pengeulan;
  • Ysgol Gynradd Pen-pych;
  • Ysgol Gynradd Penrhiw-ceiber;

 

Manteisiodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant ar y cyfle i ddiolch i'r swyddogion am yr adroddiad manwl. Roedd yr Aelod o'r Cabinet yn falch o'r fenter a chydnabu, er gwaethaf yr anallu i fesur gwelliannau mewn presenoldeb oherwydd y pandemig, nododd pob un o'r chwe ysgol uwchradd rywfaint o welliant o ran presenoldeb ac ennyn diddordeb disgyblion.

 

Roedd yr Aelod o'r Cabinet yn cefnogi'r rhesymeg y manylwyd arni yn yr adroddiad a nododd fod angen parhau â'r rolau yn y sector uwchradd, er mwyn gwella lefelau presenoldeb ac i gefnogi lles. Gan gyfeirio at Atodiad 2 yr adroddiad, roedd yr Aelod o'r Cabinet o'r farn bod cyfiawnhad dros dreialu'r rolau mewn ysgolion cynradd, yn enwedig yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, lle mae'r pandemig wedi cael effaith sylweddol ar bresenoldeb.

 

Roedd y Dirprwy Arweinydd yn cefnogi'r cynigion a holodd pryd y byddai'r ysgolion ychwanegol yn cael gwybod am y peilot yn amodol ar gymeradwyaeth y Cabinet. Dywedodd y Cyfarwyddwr wrth y Cabinet y cysylltwyd â'r ysgolion a chytunwyd ar yr arian cyfatebol mewn egwyddor, hyd nes y byddai'r Cabinet yn penderfynu.

 

Nododd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau i Blant fod diffyg presenoldeb yn aml yn gysylltiedig â theuluoedd agored i niwed a phwysleisiodd bwysigrwydd y rôl wrth fynd i'r afael â'r gwahanol sefyllfaoedd a brofir gan deuluoedd, a allai wedyn effeithio ar bresenoldeb a lles.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Nodi'r wybodaeth oedd wedi ei chynnwys yn yr adroddiad;

2.    Cytuno i  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif - Cynigion i Wella'r Ddarpariaeth Addysg yn Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn-Y-Forwyn pdf icon PDF 141 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant, sy'n rhannu deilliannau'r ymgynghoriad mewn perthynas â'r cynigion i gynnal newidiadau a reoleiddir yn Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn-y-Forwyn (“YGG Llyn-y-Forwyn”) trwy symud yr ysgol i adeilad newydd ar safle newydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant wybod am ganlyniadau'r ymgynghoriad mewn perthynas â'r cynigion i gynnal newidiadau a reoleiddir yn Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn-y-Forwyn (“YGG Llyn-y-Forwyn”) trwy symud yr ysgol i adeilad newydd ar safle newydd.

 

Gan gyfeirio at Atodiad 1, a oedd yn manylu ar ymatebion yr ymgynghoriad, dywedodd y Cyfarwyddwr fod 70 o'r 72 ymateb a dderbyniwyd yn cytuno â'r cynnig. Roedd 1 ymatebydd yn anghytuno â'r cynigion, a'r ymatebydd arall yn ansicr.

 

Roedd yr Aelod o'r Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant yn falch o gefnogi'r argymhellion ac roedd yn falch o nodi'r adroddiad cadarnhaol gan Estyn a'r ymateb calonogol i'r ymgynghoriad. Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet y byddai symud ymlaen â'r cynigion yn cynyddu capasiti ac yn gwella ansawdd addysg cyfrwng Cymraeg yn y Fwrdeistref Sirol.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Nodi'r wybodaeth a gynhwysir yn yr Adroddiad Ymgynghori atodedig, sy'n cynnwys crynodeb o'r ohebiaeth a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad, gan gynnwys yr ymateb llawn gan Estyn, yr adborth a gafwyd o'r arolwg ar-lein, a nodiadau o'r cyfarfodydd a gynhaliwyd; a

2.    Symud y cynigion ymlaen i gam nesaf y broses ymgynghori trwy gyhoeddi Hysbysiad Statudol priodol a fydd yn sbarduno dechrau'r Cyfnod Gwrthwynebu.

 

 

8.

Rhaglen Ysgolion Yr 21ain Ganrif - Cynigion i Aildrefnu Ysgolion Cynradd, Ysgolion Uwchradd a'r Ddarpariaeth Chweched Dosbarth yn Ardal Ehangach Pontypridd pdf icon PDF 154 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant, sy'n rhannu'r newyddion diweddaraf mewn perthynas â'r cynigion i aildrefnu ysgolion yn ardal ehangach Pontypridd. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Dros Dro ar gyfer Ysgolion yr 21ain Ganrif a Thrawsnewid ddiweddariad i Aelodau'r Cabinet ar y cynigion i ad-drefnu ysgolion yn ardal Ehangach Pontypridd.

 

Soniodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Dros Dro am y cynigion a ganlyn:

 

·       Newid yr ystod oedran o ddisgyblion y mae modd eu derbyn i Ysgol Gyfun y Cardinal Newman Eglwys Gatholig Rhufain, o 11-19 oed i 11-16 oed, gan arwain at ddileu'r ddarpariaeth chweched dosbarth;

·       Cau Ysgol Uwchradd Pontypridd ac Ysgol Gynradd Cilfynydd a chreu ysgol pob oed 3-16 newydd ar safle presennol Ysgol Uwchradd Pontypridd. Fydd dim darpariaeth chweched dosbarth yn yr ysgol yma;

·       Cau Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen ac Ysgol Gynradd y Ddraenen Wen a chreu ysgol pob oed 3-16 newydd ar safle presennol Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen ac Ysgol Gynradd y Ddraenen Wen, gyda dosbarth arbenigol ADY dynodedig yr Awdurdod Lleol wedi'i leoli yn Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen, yn ogystal â throsglwyddo disgyblion sy'n derbyn addysg trwy gyfrwng y Saesneg yn Ysgol Gynradd Heol y Celyn i'r ysgol newydd. Fydd dim darpariaeth chweched dosbarth yn yr ysgol yma;

·       Cau Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Siôn Norton ac Ysgol Gynradd Heol y Celyn ac agor ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd ar safle presennol Ysgol Gynradd Heol y Celyn.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Dros Dro yr Aelodau at Adran 4 yr adroddiad, a thrafododd y newidiadau a oedd wedi digwydd ers i'r Cabinet roi cymeradwyaeth ym mis Gorffennaf 2019. Esboniwyd, yn dilyn oedi, bod gwaith i symud y cynigion yn eu blaenau wedi ailddechrau a bod ymarfer ail-raglennu wedi'i gynnal, a'i ganlyniad oedd y byddai'r dyddiad gweithredu ar gyfer y 3 chynnig a gafodd gymeradwyaeth y Cabinet yn cael ei ohirio tan fis Medi 2024.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant ei bod yn anffodus bod yr Adolygiad Barnwrol wedi gohirio cynnydd y cyfleusterau newydd. Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet fod y Cyngor yn gyfrifol am ddarparu safonau addysgol uchel a darpariaeth addysg gynradd, uwchradd a chweched dosbarth effeithlon sy'n gwasanaethu'r gymuned leol, ac a gyflawnir trwy sicrhau bod yr ysgolion cywir, o'r maint cywir, yn y lleoliad cywir, ac yn addas ar gyfer dysgwr yr 21ain Ganrif.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu wrth y Cabinet, pe bai'r adroddiad yn cael ei gymeradwyo, y gofynnir am gytundeb gan y Llywydd i eithrio'r adroddiad o'r cyfnod galw i mewn 3 diwrnod gwaith, er mwyn caniatáu ar gyfer cwblhau a chyflwyno'r Achosion Busnes Amlinellol i Lywodraeth Cymru erbyn Gorffennaf 2021, ar gyfer cam nesaf y cyllid ar gyfer Rhaglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Nodi'r wybodaeth oedd wedi ei chynnwys yn yr adroddiad;

2.    Nodi effaith yr Adolygiad Barnwrol ar y rhaglen a'r costau;

3.    Gohirio dyddiad gweithredu'r cynigion ym mhob ysgol, ac eithrio Ysgol Gyfun Gatholig Cardinal Newman, hyd at fis Medi 2024; a

4.    Nodi y bydd Achosion Busnes Amlinellol ar gyfer pob un o'r prosiectau yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w hystyried ym mis Gorffennaf  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Ymgynghoriad Teithio Llesol: Canlyniadau'r Ymgynghoriad pdf icon PDF 135 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Cyfadran Ffyniant, Datblygu a Gwasanaethau Rheng Flaen, sy'n trafod canlyniadau ymgynghoriad teithio llesol a gafodd ei gynnal ar-lein ychydig fisoedd yn ôl, ar y cyd â Llywodraeth Cymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau'r Rheng Flaen fanylion i'r Aelodau am ganlyniad ymarfer ymgynghori teithio llesol ar-lein a gynhaliodd y Cyngor ychydig fisoedd ynghynt, mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau fod lefel ymateb y cyhoedd i ymarfer ymgynghori teithio llesol ar-lein y Cyngor yn galonogol iawn. Amlygwyd y diddordeb sy'n bodoli ymhlith preswylwyr i wella cyfleusterau cerdded a beicio a/neu gael gwared ar y rhwystrau a all achosi anawsterau iddynt ac atal siwrneiau cerdded a beicio ychwanegol rhag cael eu gwneud. Parhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth trwy ddweud, yn ogystal â diweddaru’r Map Rhwydwaith Integredig/Map Rhwydwaith Teithio Llesol, lle bo’n briodol, a/neu anfon manylion y sylwadau a dderbyniwyd gan randdeiliaid at bartïon eraill yn ôl yr angen, y bwriedir i’r Cyngor barhau i gynnal yr ymarfer ymgynghori teithio llesol statudol, fel yr adroddwyd yn flaenorol, yn ddiweddarach eleni.

 

Gwnaeth yr Aelod o’r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden, a Gwasanaethau Treftadaeth sylwadau ar yr adroddiad a'r gwahaniaeth rhwng y llwybrau llesol a llwybrau hamdden, a gwnaeth sylwadau ar nifer yr ymatebion a gafwyd yn ymwneud â'r llwybrau hamdden yn ogystal â'r sylwadau a dderbyniwyd mewn perthynas â Hawliau Tramwy. Ychwanegodd y byddai'r sylwadau'n cael eu trosglwyddo i'r gwasanaethau perthnasol i'w hystyried.

 

Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet am y gyfradd ymateb gadarnhaol i'r ymgynghoriad, gyda 695 o ymatebion wedi dod i law, er iddo hefyd wneud sylwadau am y nifer siomedig o bobl ifainc a ymatebodd a'r angen i wneud rhagor i ymgysylltu â nhw. Gwnaeth yr Aelod o'r Cabinet sylwadau am y cyfle i ddefnyddio 'Dewch i Siarad RhCT' a allai gynorthwyo yn y dyfodol gydag ymgysylltiad o'r fath. Gorffennodd yr Aelod o'r Cabinet trwy drafod y diweddariadau sydd i'w cyflwyno o ran mapiau teithio'r rhwydwaith a'r pethau cadarnhaol wrth symud ymlaen mewn perthynas â theithio llesol ledled yr Awdurdod.

 

Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:

 

1.                       Nodi'r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod roedd yr ymgynghoriad teithio llesol ar-lein yn fyw.

2.                       Nodi ymateb y Cyngor i'r sylwadau a dderbyniwyd.

3.                       Nodi'r cam nesaf i'w gymryd yn rhan o'r broses ymgynghori barhaus ar gyfer teithio llesol. 

 

 

10.

Astudiaeth Drafnidiaeth - Coridor Gogledd-orllewin Caerdydd: Y newyddion diweddaraf pdf icon PDF 99 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Rheng Flaen, sy'n rhoi diweddariad am waith ymchwil ar drafnidiaeth a fydd yn nodi'r opsiynau tymor byr a hirdymor gorau o ran cludiant cyhoeddus i wella mynediad o RhCT i Ogledd-orllewin Caerdydd, a thua canol y ddinas.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu wrth yr Aelodau fod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu wedi cynnal ymarfer rhag-graffu ar yr astudiaeth Drafnidiaeth yn ei gyfarfod ar 15 Mehefin, a dosbarthwyd nodyn manwl o sylwadau'r Aelodau cyn cyfarfod y Cabinet i gynorthwyo Aelodau gyda'u trafodaethau.

 

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Rheng Flaen, adroddiad amlinellol sy'n rhoi diweddariad am opsiynau tymor byr a hirdymor gorau o ran cludiant cyhoeddus i wella mynediad o RhCT i Ogledd-orllewin Caerdydd, a thua canol y ddinas.

 

Clywodd yr Aelodau fod yr astudiaeth drafnidiaeth a'r broses Achos Busnes cysylltiedig wedi tynnu sylw at fanteision dull 'cydgysylltiedig' o ddatblygu ystod o opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, a bydd llawer ohonynt yn croesi'r ffin rhwng y ddwy ardal. Tynnodd yr adroddiad sylw hefyd at bwysigrwydd sicrhau gwell cysylltedd i/o ganol Caerdydd a rhwng cyrchfannau lleol a rhanbarthol mewn mannau eraill.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod y prosiect o arwyddocâd rhanbarthol a bod ganddo'r potensial i ddenu cannoedd o filiynau o bunnoedd o arian i'r ardal. Os cânt eu gwireddu, byddai'r opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus yma'n trawsnewid arferion teithio ac yn darparu trafnidiaeth ddiogel, ddibynadwy, cyfleus a chynaliadwy. Yn ogystal â hwyluso trafnidiaeth o Rhondda Cynon Taf i Gaerdydd, gallai hefyd annog teithio i ddod i mewn i Rondda Cynon Taf, yn enwedig mewn cysylltiad â'r datblygiadau newydd yng nghanol Tonysguboriau. Mae'n bosibl y gallai'r buddion economaidd ehangach ymestyn tua'r gogledd i ardaloedd Cwm Rhondda a Gilfach-goch gan y bydd creu swyddi newydd yn Nhonysguboriau a gostyngiad arfaethedig mewn amseroedd teithio i / o Gaerdydd yn cynnig gwell mynediad i swyddi newydd i drigolion yn y cymunedau hyn, yn ogystal â chyfleoedd hyfforddi a dysgu.

 

Gorffennodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth ei adroddiad trwy nodi mai'r camau nesaf fyddai'r broses Cam 2 WelTAG a fyddai'n cael ei defnyddio i lywio'r argymhellion terfynol. Fodd bynnag, dylid nodi y byddai angen datblygu cynllun trafnidiaeth arfaethedig ar gyfer coridor Gogledd Orllewin Caerdydd - Tonysguboriau/Llantrisant ymhellach cyn y gellid penderfynu ar unrhyw un o'r opsiynau buddsoddi mewn trafnidiaeth ar gyfer gwasanaethu'r ardal hon, lle mae datblygiadau sylweddol ar y gweill.

 

Gwnaeth Arweinydd y Cyngor sylwadau am y darn mawr o waith a gynhwysir yn yr astudiaeth drafnidiaeth a'r cyfleoedd sydd ynddi i wella cymunedau o fewn RhCT. Soniodd yr Arweinydd am y prosiectau hirdymor a'r angen i gynllunio ar gyfer y degawd nesaf.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.    Cydnabod canlyniad Astudiaeth Drafnidiaeth Coridor Gogledd-orllewin Caerdydd hyd yma;

2.    Nodi'r cam nesaf wrth fwrw ymlaen â'r astudiaeth - Cam 2 WelTAG.

 

 

11.

Cronfa Lefelu Llywodraeth y DU - Cyfleoedd yn Rhondda Cynon Taf pdf icon PDF 172 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu, sy'n rhoi crynodeb i'r Cabinet o Gronfa Lefelu Llywodraeth y DU a'r cyfleoedd a'r amserlenni prosiect posibl ar gyfer datblygu, arfarnu a chyflwyno ceisiadau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu grynodeb i'r Cabinet o Gronfa Lefelu Llywodraeth y DU a'r cyfleoedd a'r amserlenni prosiect posibl ar gyfer datblygu, arfarnu a chyflwyno ceisiadau.

 

Clywodd yr Aelodau am y dull 3 cham tuag at asesu a gwneud penderfyniadau a chyfeiriwyd yr Aelodau at adran 5 o'r adroddiad a oedd yn amlinellu'r prosiectau arfaethedig.

 

Gwnaeth yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu a Chynllunio sylwadau am y swm sylweddol o arian sydd ynghlwm â'r pedwar cynllun, a chydnabod y cynlluniau ledled y Fwrdeistref Sirol. Soniodd yr Aelod o'r Cabinet am yr amserlenni tynn mewn perthynas â'r gronfa a'r angen i wariant gael ei ddefnyddio yn ystod y flwyddyn ariannol. Gwnaeth sylwadau hefyd am yr arfer gwaith da o ddangos llwybrau ar gyfer cynlluniau datblygu yn y dyfodol a manteisiodd ar y cyfle i ddiolch i'r swyddogion am y gwaith dan sylw.

 

Gwnaeth yr Arweinydd sylwadau am y cyfleoedd i'r Fwrdeistref Sirol pe bai'n llwyddo i sicrhau'r cyllid a sut roedd yr Awdurdod yn haeddu cael ei gydnabod am y cyllid oherwydd y lefel uchel o amddifadedd yn y Fwrdeistref Sirol, effaith y llifogydd a'r effaith mewn perthynas â Covid-19.

 

PENDERFYNWYD:

1.    Cytuno i ddatblygu pecyn cais prosiect i'w gyflwyno fel y nodir yn adran 5 yr adroddiad.

 

(DS. Oherwydd yr amserlenni mewn perthynas â'r cyllid, dywedwyd y byddai'r penderfyniad yn cael ei ddwyn ymlaen fel un sydd wedi'i eithrio rhag gweithdrefnau galw i mewn, yn amodol ar gytundeb y Llywydd.)

 

12.

Y Swyddfa Gartref - Ehangu'r Cynllun Gwasgaru Ceiswyr Lloches pdf icon PDF 129 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned sy'n gofyn am gefnogaeth ar gyfer cyfranogiad y Cyngor yng Nghynllun Ehangach Gwasgaru Ceiswyr Lloches y Swyddfa Gartref.

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Pennaeth Diogelwch y Cyhoedd a Thai Cymunedol Dros Dro fanylion i'r Aelodau am Ehangu'r Cynllun Gwasgaru Ceiswyr Lloches, a chyfranogiad y Cyngor wrth iddo wneud ymrwymiad ymarferol a dyngarol i gynorthwyo rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed sy'n ffoi rhag gwrthdaro yn eu mamwlad. Ychwanegodd y Swyddog fod cryfder gwaith partneriaeth yn Rhondda Cynon Taf, ynghyd â chefnogaeth y cymunedau lleol wedi bod yn rhan annatod o lwyddiant y Cynllun Ailsefydlu Pobl Agored i Niwed a'r Cynllun Ailsefydlu Plant Agored i Niwed. Byddai bod yn rhan o Ehangu'r Cynllun Gwasgaru Ceiswyr Lloches yn rhoi cyfle i adeiladu ar y llwyddiant hwn.

 

Cyfeiriodd yr Aelod o’r Cabinet ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol at y record falch o gefnogaeth gan y Cyngor gan ychwanegu ei bod yn briodol i'r Awdurdod gymryd rhan yn y cynllun. Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet am bwysigrwydd gwahaniaethu rhwng y 'parth gwasgaru' (dispersal zone) a'r 'cynllun gwasgaru' (dispersal scheme). Gwnaeth yr Aelod o'r Cabinet sylwadau am y gwaith traws-sefydliadol gyda'r gwasanaeth Iechyd, addysg a darparwyr eraill i sicrhau bod unigolion yn cael cefnogaeth briodol er mwyn eu galluogi i ymgartrefu yn y fwrdeistref sirol.

 

Siaradodd y dirprwy Arweinydd am bwysigrwydd y gefnogaeth sydd ar gael yn y cymunedau i gefnogi unigolion o fewn y cynllun, gan gyfeirio at yr eglwys, grwpiau cymunedol a gwirfoddol a'r Aelod lleol.

 

PENDERFYNWYD:

1.    Cymeradwyo cymryd rhan yn Ehangu'r Cynllun Gwasgaru Ceiswyr Lloches yn y Fwrdeistref Sirol, gan adeiladu ar y profiad cadarnhaol a'r hyn a ddysgwyd o gyflawni'r Cynllun Ailsefydlu Pobl Agored i Niwed a'r Cynllun Ailsefydlu Plant Agored i Niwed.

2.    Cytuno y gall y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned ddechrau trafodaethau gyda'r Swyddfa Gartref, WSMP a Clearsprings Ready Homes i benderfynu faint o unigolion/teuluoedd y gellir eu cefnogi yn Rhondda Cynon Taf.

 

13.

Prosiectau Blaenoriaeth Arfaethedig ar gyfer Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU pdf icon PDF 174 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau'r Gymuned, sy'n ceisio cymeradwyaeth i gyflwyno ceisiadau prosiect blaenoriaeth arfaethedig i'r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, er mwyn derbyn cyllid o dan Gronfa Gwydnwch Cymunedol y DU a'u darparu'n llawn erbyn 31 Mawrth 2022.

Cofnodion:

 

Gyda chytundeb yr Arweinydd fel Cadeirydd y cyfarfod, ac yn unol â darpariaeth Adran 100 (b) 4 (B) o Ddeddf Llywodraeth Leol, 1972, trafodwyd y Prosiectau Blaenoriaeth Arfaethedig ar gyfer adroddiad Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU yn fater brys oherwydd amgylchiadau arbennig.

 

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth Safonau Masnach a Chofrestrydd drosolwg manwl o'r adroddiad i'r Aelodau, gan ganolbwyntio ar y prosiectau a nodwyd i'w cyflwyno i'r cynllun i'w gymeradwyo gan y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (MHCLG), yn amodol ar gytundeb y Cabinet.

 

Diolchodd yr Aelod o’r Cabinet ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol i'r swyddogion am y gwaith dan sylw o ran y gronfa a rhoddodd sylwadau pellach am y ceisiadau prosiect a gyflwynwyd gerbron yr Aelodau. Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet fod y prosiectau a nodwyd yn cyd-fynd â blaenoriaethau corfforaethol y Cyngor. Ychwanegodd fod llawer o brosiectau nodedig a gafodd eu cydnabod, er bod dim modd dwyn pob un ymlaen, yn anffodus. Dywedodd hefyd nad oedd unrhyw sicrwydd y byddai'r prosiectau hynny a gyflwynwyd yn cael eu cymeradwyo gan y cynllun.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.    Adolygu'r prosiectau blaenoriaeth, wedi'u crynhoi yn 4.6.1 - 4.6.8 o'r adroddiad

 

2.    Cymeradwyo'r un prosiectau ar gyfer eu cyflwyno i Lywodraeth y DU trwy'r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol; a

 

3.    Cydnabod nad yw cyflwyno cais yn golygu y bydd y prosiect yn derbyn cyllid gan Lywodraeth y DU.

 

 

(D.S. Oherwydd yr amserlenni ar gyfer cyflwyno'r prosiectau i Lywodraeth y DU, nodwyd y byddai'r penderfyniad wedi'i eithrio rhag gweithdrefnau galw i mewn, yn amodol ar gytundeb y Llywydd.)