Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy, CF40 2XX

Cyswllt: Emma Wilkins - Uned Busnes y Cyngor  07385086169

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

96.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â'r Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, datganodd y Cynghorydd R Bevan fuddiant personol yn eitem 3 gan fod ganddo aelod o'r teulu sy'n gweithio i'r Awdurdod.  Cadarnhaodd ei fod wedi cael caniatâd gan y Pwyllgor Safonau i drafod y materion

97.

Cofnodion pdf icon PDF 219 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr 2021 yn rhai cywir.

 

Cofnodion:

PENDERFYNODD y Cabinet gymeradwyo cofnodion y cyfarfod, a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr 2021, yn rhai cywir.

98.

CYLLIDEB REFENIW'R CYNGOR AR GYFER 2022/23 pdf icon PDF 216 KB

 

Trafod papur trafod Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol mewn perthynas â Setliad Llywodraeth Leol 2022/2023 a chanlyniadau cam 1 o ymgynghoriad y gyllideb, i gynorthwyo gyda'i drafodaethau wrth lunio'r strategaeth cyllideb refeniw ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/23.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol yr adroddiad i'r Cabinet.  Dywedodd fod yn rhaid i'r gyllideb refeniw ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2023 gael ei llunio yn unol â'r “Gyllideb a'r Fframwaith Polisi” (sy'n gynwysedig yng Nghyfansoddiad y Cyngor).   O dan y trefniadau yma, mater i “Brif Swyddogion priodol” y Cyngor yw adrodd i'r Cabinet, ac wedyn dylai'r Cabinet argymell cyllideb i'r Cyngor. 

 

O ystyried y pwysau ariannol parhaus sydd ar y Cyngor, mae'r Cyfarwyddwr yn dal i fod o'r farn y dylai'r Cyngor gadw lleiafswm o £10 miliwn ym Malans y Gronfa Gyffredinol.   Yn rhan o'i strategaeth barhaus, mae'r Cyngor wedi parhau i nodi a chyflawni arbedion yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol sy'n golygu ein bod ni wedi gallu cynyddu lefel y cyllid pontio sydd ar gael. Y sefyllfa ddiweddaraf yw bod y gronfa yma bellach wedi cynyddu i £4.607 miliwn.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr fod Archwilio Cymru yn parhau i bwysleisio bod rhaid i ni barhau i fod yn ddisgybledig ar yr adeg dyngedfennol yma, os ydyn ni eisiau cynnal ein hamcan tymor hir o ran gwella gwasanaethau allweddol yn barhaus, ond mae hyn yn dod yn fwyfwy anodd ei gyflawni yn sgil pwysau ariannol aruthrol o'r fath.

 

Hysbyswyd yr Aelodau mai'r cynnydd cyffredinol yng nghyllid y Grant Cynnal Refeniw (RSG) ac Ardrethi Annomestig (NDR) ar gyfer 2022/23 ledled Cymru gyfan, ar ôl addasu ar gyfer trosglwyddiadau, yw 9.4% (+£437M). Mae'r setliad ar gyfer Rhondda Cynon Taf yn gynnydd o 8.4%. 

 

Er gwaethaf y setliad mwy cadarnhaol gan LlC ar gyfer 2022/23, dywedodd y Cyfarwyddwr fod hyn yn dilyn cyfnod parhaus o ostyngiadau gwirioneddol i'n lefelau cyllido, yn ogystal â gwaith adfer yn dilyn difrod storm a'r pandemig. Mae angen i ni benderfynu ar gyllideb gytbwys ar gyfer y flwyddyn nesaf yn sgil y sefyllfa yma.

 

Nododd fod cymorth Llywodraeth Cymru i ariannu costau sy’n deillio o ganlyniad uniongyrchol i’r pandemig wedi parhau drwy gydol blwyddyn ariannol 2021/22, a hynny drwy’r Gronfa Galedi. Mae LlC wedi datgan nad ydw'n bwriadu parhau i ddarparu cymorth ychwanegol o’r fath yn y dyfodol ac y bydd yn rhaid i Gynghorau reoli’r goblygiadau yma drwy’r adnoddau ychwanegol a ddarperir yn y setliad. Bydd y Cyngor yn monitro'r goblygiadau ariannol yn agos wrth edrych tua'r dyfodol, gan ddefnyddio unrhyw hyblygrwydd a roddir o fewn ei gronfeydd wrth gefn i drosglwyddo unrhyw gostau ychwanegol parhaol i'r gyllideb sylfaenol yn y tymor canolig.

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod costau Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor (CTRS) yn effeithio ar yr incwm net a gynhyrchir drwy unrhyw gynnydd yn Nhreth y Cyngor.  Bydd cynnydd 1% yn Nhreth y Cyngor yn cynhyrchu incwm ychwanegol i'r Cyngor sydd werth £1.195 miliwn (ar lefel sylfaen drethu 2022/23), ond bydd hefyd yn costio £0.253 miliwn ar gyfer gofynion ychwanegol o ran Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor. Mae'n dilyn, felly, bydd cynnydd o 1% yn cynhyrchu incwm net ychwanegol sydd werth £0.942 miliwn, neu, mewn geiriau eraill, bydd 21% o unrhyw gynnydd yn Nhreth y  ...  view the full Cofnodion text for item 98.

99.

BWRIAD I DDIDDYMU'R CYNLLUN DATBLYGU LLEOL PRESENNOL A PHARATOI CYNLLUN DATBLYGU LLEOL DIWYGIEDIG NEWYDD pdf icon PDF 364 KB

Trafod papur trafod y Cyfarwyddwr Ffyniant a Datblygu ar gynnydd y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu yr adroddiad i'r Aelodau, a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Diwygiedig. Dywedodd fod yr adroddiad yn nodi, er bod gwaith sylweddol wedi'i wneud, nad yw'r Cyngor wedi gallu bodloni'r Cytundeb Cyflenwi ffurfiol. Aeth ymlaen i ddweud bod yr adroddiad yn nodi'r ffordd fwyaf priodol o gydymffurfio â'n dyletswydd statudol i lunio Cynllun Datblygu ar gyfer Rhondda Cynon Taf.

 

Aeth y Cyfarwyddwr ymlaen i ddweud bod gwaith sylweddol wedi'i wneud ar baratoi'r CDLl Diwygiedig drwy gydol y pandemig Covid. Serch hynny, oherwydd y cyfyngiadau a osododd hyn ar y gallu i ymgysylltu’n llawn â’r cyhoedd a chomisiynu’r cyngor ymgynghorol angenrheidiol, ynghyd â materion allanol eraill sydd wedi codi; nid yw elfennau allweddol o waith paratoi’r CDLl Diwygiedig Newydd wedi’u cwblhau o fewn yr amserlen y cytunwyd arni’n ffurfiol

 

Ar ôl ystyried yr holl opsiynau, ac mewn ymgynghoriad â Llywodraeth Cymru, cynigir ein bod ni'n rhoi’r gorau i weithio ar y CDLl Diwygiedig 2020–2030 presennol. Yn ei le, byddwn yn dechrau llunio CDLl Diwygiedig Newydd, a fydd ar waith am gyfnod hwy, sef 2022–2037. Byddai hyn yn caniatáu i Gynllun Datblygu gael ei baratoi ar gyfer Rhondda Cynon Taf sy'n ymateb yn llawn i'r materion allweddol sy'n ein hwynebu nawr, gyda Newid yn yr Hinsawdd a lleihau carbon yn greiddiol iddo, yn ogystal â dull gweithredu llawn a strategol o ran cynnal y Fwrdeistref Sirol ar ôl y pandemig ac ar ôl Brexit.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr, yn nhermau cynllunio technegol, fod pryder amlwg mewn perthynas ag un o'r tri 'Phrawf Cadernid' y bydd yr Arolygydd Cynllunio yn eu defnyddio i gytuno ar y CDLl Diwygiedig. Mae hwn yn ystyried a yw'r Arolygydd yn hyderus y gellir gweithredu a chyflawni'r CDLl Diwygiedig yn y cyfnod byr hwn h.y. ei holl nodau, amcanion, strategaethau, a datblygiad yr holl safleoedd a neilltuwyd. Ystyrir felly mai’r opsiwn mwyaf priodol fyddai rhoi’r gorau i lunio CDLl Diwygiedig 2020–2030 a dechrau CDLl Diwygiedig ar gyfer 2022-2037.

 

Cymeradwyodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Datblygu Menter a Thai yr adroddiad.  Dywedodd fod Gr?p Llywio'r CDLl Diwygiedig wedi'i sefydlu a'i fod wedi cyfarfod yn gynharach yn y bore. Dywedodd ei bod hi'n amlwg bod COVID-19 wedi effeithio ar dargedau ac amseroedd cyflawni, yn enwedig y broses ymgynghori gyhoeddus ac ymgysylltu ag ymgynghorwyr.  Nododd fod angen i ni nawr adolygu’r sefyllfa i symud ymlaen i lunio CDLl newydd i fynd â ni hyd at 2037.

 

Ar y pwynt hwn o’r cyfarfod, a chyda chaniatâd yr Arweinydd, anerchodd y Cynghorydd P Jarman y Pwyllgor ynghylch yr eitem yma – cyfeiriodd at Gr?p Llywio’r CDLl Diwygiedig yr oedd hi hefyd yn aelod ohono ac roedd yn falch o’r gwaith hyd yn hyn. Dywedodd eu bod yn brofiadol o ran polisïau cynllunio.  Nododd y bydd y Cytundeb Cyflawni Drafft yn cael ei adrodd i'r Cyngor llawn ym mis Mawrth ac y byddai'n cadw sylwadau tan hynny ac yn cyfrannu at y ddadl

 

Ar ôl trafod yr adroddiad, PENDERFYNWYD  ...  view the full Cofnodion text for item 99.

100.

STRATEGAETH ATAL AR GYFER PLANT SY'N DERBYN GOFAL pdf icon PDF 590 KB

Trafod papur trafod Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant o ran y strategaeth atal ar gyfer plant sy'n derbyn gofal.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau i Blant, yr adroddiad i'r Cabinet a oedd yn rhoi gwybodaeth am y strategaeth atal ar gyfer plant sy'n derbyn gofal. Mae’r adroddiad yn cynnwys amlinelliad o’r gwasanaethau y bwriedir eu datblygu i wella ein harlwy i deuluoedd, a’r adnoddau sydd eu hangen i wneud hynny’n bosibl.

 

Cytunodd yr Aelod  o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau i Blant fod cefnogi teuluoedd yn flaenoriaeth i CBSRhCT a bydd angen gwasanaethau ychwanegol i gyflawni'r flaenoriaeth hon. Roedd yn falch bod nifer y plant sy'n derbyn gofal yn gostwng yn raddol a bod yr Awdurdod yn datblygu gwasanaethau gwell.  Dywedodd fod hyn yn arbennig o bwysig i rieni sydd wedi cael profiad o dderbyn gofal eu hunain. 

 

Ychwanegodd yr Arweinydd bod pwysau ar y gwasanaeth i gadw teuluoedd gyda'i gilydd a braf oedd gweld hynny'n digwydd.  Ar ôl mynychu nifer o gyfarfodydd gyda’r Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau i Blant, dysgodd fod astudiaethau wedi datgelu mai’r canlyniad gorau i blentyn yw darparu cymorth Ymyrraeth Gynnar a’i gefnogi i aros o fewn ei deulu. 

 

Ar y pwynt hwn o'r cyfarfod, a chyda chaniatâd yr Arweinydd, anerchodd y Cynghorydd P Jarman y Pwyllgor ynghylch yr eitem - Hysbysodd yr Aelodau y bydd y Strategaeth yn ffocws i'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol trawsbleidiol a sicrhaodd nad oedd gwleidyddiaeth bleidiol yn ystyriaeth pan ddaw’n fater o ddiogelu plant agored i niwed. Roedd hi'n falch o ddysgu am yr wybodaeth yn yr adroddiad, yn ogystal â'i ddiben, sef gwneud gwahaniaeth a helpu i gadw teuluoedd gyda'i gilydd.

 

Ar ôl trafod yr adroddiad, PENDERFYNWYD:

 

  1. Nodi'r wybodaeth sydd yn yr adroddiad hwn a rhoi cymeradwyaeth ffurfiol i weithredu'r buddsoddiad arfaethedig a datblygu'r gwasanaeth

 

Nodi’r cynnig bod y Cyngor yn arwyddo’r Siarter ar gyfer rhieni sydd mewn gofal ac yn gadael gofal, a fydd yn cael ei ystyried mewn cyfarfod dilynol o'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol.

101.

TRAWSNEWID GWASANAETHAU'R BLYNYDDOEDD CYNNAR YN RHCT pdf icon PDF 392 KB

Trafod papur trafod Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant ar y cynnydd sydd wedi'i wneud ledled rhanbarth Cwm Taf Morgannwg o ran darparu system y blynyddoedd cynnar integredig yn rhan o Raglen Trawsnewid y Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru a thrawsnewid gwasanaethau'r Blynyddoedd Cynnar yn RhCT.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cymuned, Llesiant a Gwydnwch yr adroddiad i’r Aelodau, gan amlinellu’r cynnydd a wnaed ar draws rhanbarth Cwm Taf Morgannwg tuag at ddarparu system blynyddoedd cynnar integredig fel rhan o Raglen Trawsnewid y Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru a thrawsnewid gwasanaethau’r Blynyddoedd Cynnar yn RhCT.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau mai uchelgais Rhaglen Trawsnewid y Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru yw gwireddu’r weledigaeth a nodir “i greu system wirioneddol gydgysylltiedig ac ymatebol sy’n rhoi anghenion unigryw pob plentyn wrth ei chalon”. Mae hyn yn golygu bod pob gwasanaeth y daw teuluoedd a phlant ifanc i gysylltiad ag ef yn glir ynghylch y ffordd orau o gefnogi datblygiad plant yn yr ystyr ehangaf. Bydd yn targedu rhieni cyn gynted â phosibl ac yn cynnal cymorth lle bo angen. Mae buddsoddi yn y blynyddoedd cynnar yn fuddsoddiad yn economi a gweithlu’r dyfodol

 

Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau i Blant, diolch i gontract newydd gyda'r gwasanaethau Iechyd, mai ni bellach yw'r unig Awdurdod yng Nghymru i gynnig amserlen gynyddol o asesiadau sgrinio Sgiliau ar gyfer pob plentyn 20 mis oed.  Bydd hyn yn gymorth i nodi lle mae angen cymorth cynnar ac ymyrraeth, a bydd o fudd i CBSRhCT wrth symud ymlaen. Nododd hefyd fod y gwerthusiad allanol wedi gallu dangos tystiolaeth bod teuluoedd sy'n elwa ar ymyrraeth gynnar na fyddai wedi bod yn gymwys yn flaenorol.

 

Ar ôl trafod yr adroddiad, PENDERFYNWYD:

 

  1. Nodi'r cynnydd rhanbarthol a wnaed ers mis Gorffennaf 2017 o ran darparu Rhaglen Trawsnewid y Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru.

 

  1. Nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud yn RhCT ers mis Gorffennaf 2019 o ran darparu gwasanaethau Blynyddoedd Cynnar wedi’u trawsnewid yn RhCT, a chanfyddiadau gwerthusiad allanol Cam 1 o’r model cyflawni newydd sy’n cael ei dreialu.

 

Sylwch fod yr adroddiad hwn wedi bod yn destun rhag-graffiad gan y Pwyllgor Craffu ar faterion Plant a Phobl Ifainc ar 8 Rhagfyr 2021 ac mae'r sylwadau a wnaed gan Aelodau'r Pwyllgor wedi'u nodi yn adran 10.7 o'r adroddiad hwn.

102.

CANLLAWIAU NEWYDD I GYNHALWYR DI-DÂL YN Y GWEITHLE pdf icon PDF 916 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gofal a Chymorth i Oedolion yr adroddiad i'r Aelodau i ofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i'r canllawiau staff sydd wedi'u cynllunio'n benodol i hysbysu cynhalwyr di-dâl yng ngweithlu'r Cyngor am y cymorth sydd ar gael iddynt helpu i reoli a chydbwyso cyfrifoldebau gwaith a gofalu, ac i egluro'r cymorth hwn yn ffurfiol i reolwyr. Mae'r adroddiad hefyd yn cyflwyno'r achos busnes i'r Cabinet dros gyflwyno cyfnod newydd o absenoldeb i weithwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu di-dâl

 

Aeth y Pennaeth Gofal a Chymorth i Oedolion ymlaen i ddweud bod yr adroddiad wedi'i ddatblygu ar y cyd â gweithgor RhCT yn cynnwys cynrychiolwyr o'r garfan Datblygu Pobl, y garfan Amrywiaeth, AD a Gwasanaethau i Oedolion er mwyn cwmpasu'r posibilrwydd o gyflwyno cymorth mwy penodol i gynhalwyr di-dâl o fewn gweithlu RhCT

 

Mewn ymateb i ganfyddiadau'r arolwg, mae'r gweithgor wedi paratoi Canllawiau i Gynhalwyr sy'n Gweithio (Atodiad 1). Mae’r canllawiau’n awgrymu mân addasiadau y gellid eu hystyried yn y gweithle i gefnogi cynhalwyr di-dâl

 

Yn ddiweddar, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei bwriad i gyflwyno absenoldeb di-dâl i gynhalwyr fel hawl statudol, a chynigir bod Cabinet RhCT yn cydnabod yr effaith sylweddol y gall cyfrifoldebau gofalu ei chael ar weithwyr ac yn cymeradwyo’r argymhelliad i ategu’r trefniadau absenoldeb presennol sydd eisoes ar waith i gynnwys mynediad at 5 diwrnod o wyliau â thâl y flwyddyn i gefnogi’n benodol y digwyddiadau canlynol fel y’u nodir yn natganiad cyhoeddedig Llywodraeth y DU ar absenoldeb cynhalwyr.

 

Ymhellach i'r ddarpariaeth arfaethedig ar gyfer cynhalwyr sy'n gweithio yn y Cyngor mae'r gweithgor hefyd yn argymell bod y Cabinet yn cymeradwyo'r ymgais i fynd ar drywydd aelodaeth ymbarél o 'Cyflogwyr i Gynhalwyr', a reolir gan Carers UK, sydd â'r nod o “sicrhau bod gan gyflogwyr y gefnogaeth i gadw a rheoli gweithwyr gyda chyfrifoldebau gofalu”.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd ei bod yn falch o weld y cynigion oedd ger eu bron a chlywed bod mwy a mwy o Awdurdodau Lleol yn meithrin agwedd debyg yn hyn o beth.  Mae cynhalwyr di-dâl yng Ngweithlu'r Cyngor yn chwarae rhan arwyddocaol yn eu Cymunedau ac yn y gymdeithas ac mae'n bwysig ein bod yn cyfeirio staff at y cymorth sydd ar gael iddynt.

 

Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion yn falch o weld y gydnabyddiaeth i’r cynhalwyr di-dâl yn y gweithlu sydd wedi darparu gofal hanfodol i’r rhai mwyaf agored i niwed yn ystod y pandemig a thu hwnt. 

 

Dywedodd yr Arweinydd fod LlC wedi buddsoddi llawer o adnoddau yn hyn gan ei fod yn ymwybodol o'r pwysau yn y maes hwn, ac os nad oes modd ddarparu'r gefnogaeth hon bydd yn ychwanegu pwysau pellach ar wasanaethau bregus eraill.  Ychwanegodd po fwyaf y gallwn ei wneud i gefnogi cynhalwyr, y gorau oll.

 

Yn dilyn trafod, PENDERFYNWYD:

 

  1. Cymeradwyo’r Canllawiau i Gynhalwyr sy’n Gweithio (Atodiad 1) a chefnogi ei weithrediad.

 

  1. Cymeradwyo trefniadau absenoldeb â thâl penodol ychwanegol ar gyfer cynhalwyr di-dâl o fewn y gweithlu hyd at 5 diwrnod y flwyddyn.

 

Yn cymeradwyo dilyn  ...  view the full Cofnodion text for item 102.

103.

DIWEDDARIAD AR Y CYD-BWYLLGOR CORFFORAETHOL pdf icon PDF 284 KB

Trafod papur trafod y Prif Weithredwr ar gyflwyno Cyd-bwyllgorau Corfforaethol fel sydd wedi'i nodi yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad yn rhoi diweddariad i'r Aelodau ar gyflwyno Cydbwyllgorau Corfforaethol yn unol â darpariaeth Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) (Cymru) 2021.

 

Nododd fod Swyddogion Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a’r Corff Atebol wedi bod yn rhoi’r holl gamau cyfreithiol, cyfrifyddu ac ymarferol ar waith i sicrhau y gellir creu’r Cydbwyllgor newydd ar 28 Chwefror 2022. Fodd bynnag, mae wedi dod yn amlwg na fydd y risgiau a’r materion penodol a amlygwyd yn wreiddiol gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd gyda Llywodraeth Cymru yn cael eu datrys yn ddigonol i gefnogi trosglwyddo Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i’r Cydbwyllgor erbyn dyddiad gosod cyllideb y Cydbwyllgor ar 31 Ionawr 2022. Mae hyn yn bennaf oherwydd nad yw'r materion y mae angen eu datrys, sef statws A.33 (TAW), wedi'u hystyried gan LlC wrth osod y Rheoliadau. O ganlyniad mae arnom angen cymeradwyaeth Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) a Thrysorlys Ei Mawrhydi (HMT) i gymeradwyo'r statws trethiant cywir.

 

Yn ogystal, mae materion pellach wedi codi mewn perthynas â Threth Gorfforaeth. Mae hwn yn fater cymhleth nad yw'r Rheoliadau wedi rhoi sylw iddo hyd yma; a gallai fod â goblygiadau sylweddol i fodel gweithredu Prifddinas-Ranbarth Caerdydd oni bai yr eir i'r afael â'r mater yn yr un modd trwy gais i HMT am ollyngiadau perthnasol. Mae gwaith ar y gweill i fynd i'r afael â hyn, gyda Prifddinas-Ranbarth Caerdydd  yn cefnogi cais achos busnes LlC i CThEM am y gollyngiadau perthnasol.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod hwn yn gam i'r cyfeiriad cywir ar gyfer cydweithio a llunio trefniadau, cyn belled â bod y newid yn ddi-dor i drigolion gyda gwasanaethau'n parhau i gael eu darparu, yna byddai hyn yn gadarnhaol.  Nododd ei bod yn bwysig bod yr Awdurdodau Lleol yn penderfynu pa wasanaethau fydd yn cael eu darparu drwy'r Cydbwyllgorau a bod penderfyniad lleol ar wasanaethau sydd angen gwahanol anghenion mewn ardaloedd Awdurdodau Lleol gwahanol.  Mynegodd ei bryderon y gallai rhai datblygiadau y tu allan i drefi gael effaith andwyol ar ganol trefi felly byddai angen cydweithio agosach ag Awdurdodau Lleol ar gyfer hyn.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd y bydd trefniadau Craffu yn allweddol i'r Cydbwyllgorau i gynnwys ymgysylltiad ehangach Aelodau a Chymunedau i fesur eu heffaith.  Dywedodd fod CBSRhCT eisoes wedi cefnogi newid sylweddol yn nhrefniadau craffu presennol Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

 

Ar y pwynt hwn o'r cyfarfod, a chyda chaniatâd yr Arweinydd, anerchodd y Cynghorydd P Jarman yr aelodau ar yr eitem.  Dywedodd er nad yw'n cefnogi Cyd-bwyllgorau Corfforaethol, ar ôl craffu ar y ddeddfwriaeth, derbyniodd eu bod yn fodel o Lywodraethu Rhanbarthol.  Holodd pam nad yw materion a diweddariadau wedi dod gerbron y Cyngor Llawn i bob aelod gael diweddariad ar faterion a bod angen bod yn agored ac yn atebol.

Dywedodd hefyd ei bod yn siomedig nad yw Llywodraeth Cymru wedi negodi gyda Llywodraeth y DU cyn gweithredu'r Cyd-bwyllgorau Corfforaethol ar faterion trethiant. 

 

Cytunodd yr Arweinydd â'r sylwadau ynghylch y materion trethiant.  Ychwanegodd y ceisiwyd cyngor cyfreithiol annibynnol a bod Cabinet Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi gwneud popeth o fewn eu  ...  view the full Cofnodion text for item 103.

104.

ADNODDAU RHEOLI DIOGELWCH TOMENNYDD pdf icon PDF 261 KB

Trafod papur trafod y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Rheng Flaen sy'n ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i sefydlu Carfan Rheoli Diogelwch Tomenni bwrpasol yn rhan o Wasanaethau Rheng Flaen.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Rheng Flaen yr adroddiad i'r aelodau i ofyn am gymeradwyaeth i sefydlu Carfan Rheoli Diogelwch Tomennydd o fewn Gwasanaethau Rheng Flaen a fyddai'n canolbwyntio holl elfennau cyfredol diogelwch tomennydd gwastraff, gan gynnwys rheoleiddio, rheoli a chynnal a chadw i mewn i un Garfan Rheoli Diogelwch Tomennydd benodol.

 

Ers Storm Dennis, mae buddsoddiad cyfalaf mewn diogelwch tomennydd ynghyd â rhaglen fawr o waith cynnal a chadw tomennydd, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, wedi'i gyflawni gan Bennaeth Rheoli Asedau Seilwaith newydd y Cyngor, gan ddefnyddio cyfuniad o staff presennol, ymgynghorwyr, arbenigwyr ar secondiad a'r Awdurdod Glo. Mae hyn wedi galluogi Carfan Rheoli Perygl Llifogydd a Thomennydd i ganolbwyntio'n fwy penodol ar ofynion cynyddol Rheoli Perygl Llifogydd.

 

Nododd fod integreiddio agweddau diogelwch tomennydd o gyfrifoldebau'r Cyngor fel tirfeddiannwr gyda'i gyfrifoldebau o dan y “Ddeddf Awgrymiadau” yn darparu canolbwynt ar gyfer yr holl faterion diogelwch tomennydd ac yn galluogi sefydlu carfan ymroddedig i gyflawni'r dyletswyddau hyn yn effeithiol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr wrth yr Aelodau y bwriedir sefydlu Carfan Rheoli Diogelwch Tomennydd pwrpasol a fydd yn adrodd i Bennaeth Rheoli Asedau Isadeiledd y Cyngor o fewn Gwasanaethau Rheng Flaen.

 

Pan fydd yn cael ei sefydlu, bydd y garfan Perygl Llifogydd a Diogelwch Tomennydd presennol yn dod yn Garfan Rheoli Perygl Llifogydd gyda theitlau swyddi'n cael eu haddasu yn unol â hynny. Daeth i’r casgliad y byddai’r garfan arfaethedig yn cynnwys 6 swydd y manylwyd arnynt yn yr adroddiad gydag atodiad marchnad posib yn ofynnol i ddenu ymgeiswyr i’r swyddi.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod y carfanau diogelwch tomennydd glo pwrpasol yn adnodd y mae mawr ei angen o fewn yr Awdurdod. Rhagwelir y byddant yn gweithio ar rai o'r gwaith Cyfalaf sy'n dod ymlaen a hefyd gwaith adfer yn ardaloedd Tylorstown a Wattstown.  Telir y costau o gyllid Llywodraeth Cymru a'r Rhaglen Gyfalaf.  Ychwanegodd y bydd y ffordd newydd arfaethedig o weithio hefyd yn lleddfu'r pwysau ar y Garfan Rheoli Perygl Llifogydd

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet Menter Tai a Datblygu i'r swyddog a'i garfan am ddod â'r adroddiad ymlaen a dywedodd fod gwir angen y garfan yma gan ein bod yn wynebu nifer o bwysau hefyd yn deillio o Newid yn yr Hinsawdd, felly roedd yn hanfodol cynyddu ein harbenigedd yn y maes i sicrhau diogelwch y cyhoedd. 

 

Cytunodd y Dirprwy Arweinydd mai’r cynigion oedd y ffordd gywir ymlaen i roi sicrwydd diogelwch i’n preswylwyr.

 

Gyda chaniatâd yr Arweinydd, anerchodd Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol P. Jarman y pwyllgor yngl?n â'r eitem yma.  Dywedodd ei bod yn derbyn yn llwyr yr angen i wneud y mwyaf o'r cyllid gan Lywodraeth Cymru i gyflawni rhaglen waith gwerth miliynau o bunnoedd ynghyd ag amserlen o waith diogelwch blaenau a hefyd i geisio sefydlu canolfan ragoriaeth yn y dyfodol. Fodd bynnag, roedd y Cynghorydd Jarman yn bryderus ei fod wedi gadael y cyhoedd yn cwestiynu ai dim ond oherwydd prinder sgiliau y gellir cyflawni'r ganolfan ragoriaeth yn genedlaethol.  Gofynnodd felly a ragwelwyd a fyddai'r swyddi i greu'r garfan ddiogelwch tomennydd yn cael eu hysbysebu'n fewnol  ...  view the full Cofnodion text for item 104.

105.

Trafod cadarnhau’r cynnig isod yn benderfyniad:

“Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff  14 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf.”

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”

106.

CYNLLUN RHEOLI ASEDAU CORFFORAETHOL – Y DIWEDDARAF

 

Trafod papur trafod Cyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor ar y cynnydd wedi'i wneud yn erbyn themâu allweddol Cynllun Rheoli Asedau Corfforaethol 2018/23.

 

 

Cofnodion:

Yn dilyn trafod adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Eiddo'r Cyngor, sy'n cynnwys Gwybodaeth Eithriedig fel y diffinnir ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd), sef gwybodaeth yngl?n â materion ariannol unigolyn penodol (gan gynnwys yr awdurdod sy'n dal yr wybodaeth honno), PENDERFYNWYD: nodi cynnwys yr adroddiad

 

107.

SYLFAEN CYFLOG BYW GWIRIONEDDOL

Trafod papur trafod Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant; Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol ar weithredu'r cynnydd cynnar yn y Cyflog Byw Gwirioneddol ar gyfer darparwyr gofal cymdeithasol i oedolion y sector annibynnol yn Rhondda Cynon Taf ac unrhyw staff y Cyngor sydd wedi'u heffeithio gan y cynnydd, o 1 Chwefror 2022.

 

 

Cofnodion:

Yn dilyn ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant sy'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol, 1972 (fel y'i diwygiwyd), sef gwybodaeth sy'n ymwneud â materion ariannol unrhyw rai penodol (gan gynnwys yr awdurdod sy'n dal y wybodaeth honno), PENDERFYNWYD:

 

  1. Ymrwymo'n ffurfiol i weithredu'r cynnydd i'r Cyflog Byw Gwirioneddol ar gyfer yr holl weithwyr gofal a gyflogir yn allanol o 1 Chwefror 2022

 

  1. Cytuno bod y cynnydd blynyddol yn y Cyflog Byw Gwirioneddol ar gyfer unrhyw staff y Cyngor yr effeithir arnynt gan y cynnydd, yn cael ei weithredu am eleni o 1 Chwefror 2022; a
  2. Dirprwyo cyfrifoldeb i'r Cyfarwyddwr Cyfadran Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant (mewn ymgynghoriad â'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol) i ymgysylltu â darparwyr a gwneud y diwygiadau cytundebol angenrheidiol; a

 

Dirprwyo cyfrifoldeb i’r Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol i gymhwyso’r cynnydd yn y Cyflog Byw Gwirioneddol i’r holl staff sy’n gweithio i’r Cyngor y mae’r cynnydd yn effeithio arnynt.

108.

DILEU DYLEDION NAD OES MODD EU CASGLU

Trafod papur trafod Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol ar ddyledion nad oes modd eu casglu, a'r gofyniad i ddileu symiau penodol yn unol â meini prawf adolygu llym. 

 

 

Cofnodion:

Yn dilyn ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol sy'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol, 1972 (fel y'i diwygiwyd), sef gwybodaeth sy'n ymwneud â materion ariannol unrhyw rai penodol (gan gynnwys yr awdurdod sy'n dal y wybodaeth honno), PENDERFYNWYD:

 

Dileu'r cyfrifon sydd wedi'u nodi yn yr atodlen sydd wedi'i hatodi i'r Ddarpariaeth o Ddyledion sydd wedi'i chynnwys yng nghyfrifon y Cyngor (gan geisio taliad os daw rhagor o wybodaeth am unrhyw ddyled i'r amlwg). 

109.

Materion Brys

Trafod unrhyw faterion brys y mae'r Cadeirydd yn eu gweld yn briodol.

 

Cofnodion:

Dim