Agenda a Chofnodion

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Hybrid

Cyswllt: Emma Wilkins - Uned Busnes y Cyngor  07385401935

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

46.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Gynghorwyr, yn unol â gofynion Cod Ymddygiad y Cyngor.

 

Nodwch:

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, datganodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Bevan y buddiant personol canlynol mewn perthynas ag eitem 2 ar yr agenda: "Yn unol â'r gollyngiad sydd wedi'i roi i fi gan y Pwyllgor Safonau ar 27 Tachwedd 2020, mae gennyf ollyngiad i siarad a phleidleisio ar bob mater yn ymwneud â'r Gr?p Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant, heblaw am unrhyw faterion penodol sy'n effeithio'n uniongyrchol ar fy merch, sy'n gweithio i'r Cyngor yn y Gr?p Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant fel y Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer Mynediad a Galluogi.”

 

47.

Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol pdf icon PDF 378 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant sy'n cyflwyno'r drafft cyntaf o Adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae hyn yn rhoi cyfle i drafod yr adroddiad cyn i'r cynnwys gael ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant ei adroddiad i'r Aelodau. Mae'r adroddiad yn nodi cyflawniad Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor y llynedd, gan amlygu'r cyfeiriad a'r blaenoriaethau a osodwyd ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

Rhoddwyd trosolwg i'r Aelodau o'r gwaith a wnaed, a oedd hefyd yn adlewyrchu ar y cynnydd a wnaed yn erbyn y blaenoriaethau a nodwyd yn yr adroddiad blynyddol blaenorol. Hysbyswyd yr Aelodau bod yr adroddiad yn wahanol i adroddiadau blaenorol i'r graddau ei fod hefyd yn cynnwys pennod benodol yn nodi ymateb y gwasanaethau i bandemig Covid-19 yn ystod y flwyddyn gyfan. Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Cyfadran at yr amgylchiadau heriol y mae pawb yn eu hwynebu a'r effaith aruthrol pandemig Covid ar staff ac ar y gallu i ddarparu'r gwasanaeth.

 

Fe wnaeth yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau i Oedolion a'r Gymraeg longyfarch y Cyfarwyddwr Cyfadran ar ei Adroddiad Blynyddol cyntaf fel Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol a myfyrio ar ddigwyddiadau pwysig y flwyddyn flaenorol yn sgil pandemig Covid, a'r effeithiau ar staff a defnyddwyr y gwasanaeth.  Gwnaeth yr Aelod o'r Cabinet sylwadau ar yr heriau a wynebwyd a sut llwyddwyd i ddarparu gwasanaethau yn barhaus trwy'r pandemig, gan nodi ei fod yn dyst i ymroddiad, ymrwymiad ac ymdrechion staff, nid yn unig yn y gwasanaethau cymdeithasol ond ar draws y Cyngor cyfan.

Parhaodd yr Aelod o'r Cabinet trwy drafod gweledigaethau'r gwasanaeth ar gyfer y dyfodol a'r angen am ymgysylltiad cyhoeddus wrth helpu i lunio'r gwasanaethau hyn i sicrhau eu bod yn addas at y diben.

 

Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Plant a Phobl Ifainc yr adroddiad a manteisiodd ar y cyfle i gyfeirio at waith y gwasanaethau ieuenctid a'u dull rhagweithiol o ddarparu gwasanaethau i bobl ifainc y Fwrdeistref Sirol, gan gyfeirio at y ffaith bod y cynnig ar gael i bawb a oedd ei angen wedi'i gynnal ar-lein o fewn 72 awr i'r cyhoeddiad am gyfnod clo.

 

Adleisiodd yr Arweinydd sylwadau'r Aelod o'r Cabinet, gan ddiolch i staff a nodi'r pwysau aruthrol a oedd yn wynebu’r sector gofal cymdeithasol.

 

Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:

 

1.     Cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol Rhondda Cynon Taf, sydd wedi'i atodi fel Atodiad 1 yr adroddiad.

 

48.

ADOLYGU'R GORCHYMYN DIOGELU MANNAU CYHOEDDUS MEWN PERTHYNAS Â SYLWEDDAU MEDDWOL (GAN GYNNWYS ALCOHOL) YN RHCT pdf icon PDF 320 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr - Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned sy'n gofyn i'r Cabinet gymeradwyo Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus newydd i Rondda Cynon Taf. Mae hyn yn ogystal â rhoi gwybod i'r Aelodau am ganlyniadau'r ymarfer ymgynghori cyhoeddus i adolygu Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus 2018 a chadarnhau cefnogaeth y cyhoedd a rhanddeiliaid ar gyfer Gorchymyn newydd sy'n rheoli ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ymwneud â sylweddau meddwol yn Rhondda Cynon Taf.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr, Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a Gwasanaethau'r Gymuned drosolwg i'r Aelodau o'r adroddiad ger eu bron sy'n gofyn i'r Cabinet gymeradwyo Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus newydd i Rondda Cynon Taf. Yn ogystal â hynny, rhannodd y Cyfarwyddwr ganlyniadau'r ymarfer ymgynghori cyhoeddus i adolygu Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus 2018 a chadarnhau cefnogaeth y cyhoedd a rhanddeiliaid ar gyfer Gorchymyn newydd sy'n rheoli ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ymwneud â sylweddau meddwol yn Rhondda Cynon Taf, ac yn cynnwys dau barth gwaharddedig penodol i reoli defnydd sylweddau meddwol (gan gynnwys alcohol) yng nghanol trefi Pontypridd ac Aberdâr. 

 

Darparodd y Cyfarwyddwr y rhesymeg ar gyfer y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus newydd gan gynghori bod angen trafod y cynigion yn rhan o ystod eang o fesurau i fynd i'r afael â phroblemau cymhleth fel ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yfed ar y stryd.  Ychwanegodd fod y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus yn offeryn defnyddiol ond nid yw'n ddigon i ddatrys yr holl broblemau. 

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau fod gan y Cyngor gysylltiadau partneriaeth cryf a sefydledig â Heddlu De Cymru ac asiantaethau cymorth eraill a'r bwriad yw parhau i gryfhau'r perthnasoedd hyn i sicrhau eu bod yn defnyddio'r adnoddau mwyaf priodol sydd ar gael i fynd i'r afael ag achosion unigol o ymddygiad o'r fath.

 

Cyfeiriwyd yr Aelodau at y data yn yr adroddiad a oedd yn cefnogi'r rhesymeg dros fynd â'r penderfyniadau ymlaen ac amlygwyd manylion yr ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd mewn perthynas â'r cynigion i'r Aelodau hefyd.

 

Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol y cynigion a'r sylwadau yn yr ymgynghoriad cyhoeddus mewn perthynas ag ychwanegu Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus newydd a chyfeiriodd at y data yn yr adroddiad a oedd yn cefnogi'r farn yma.  Yn ogystal, croesawodd yr Aelod y cyfle i adolygu Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus 2018.

 

Gwnaeth Aelod o'r Cabinet sylwadau ar yr angen i fusnesau ymddiried yn y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus a bod angen i fusnesau rhoi gwybod am faterion sy'n codi. Gwnaeth sylwadau ar y rhwystredigaethau a brofir weithiau gyda'r gweithdrefnau adrodd cyfredol a soniodd am wasanaeth e-bost newydd yr heddlu, gan ddweud bod angen ei hyrwyddo ymhellach.

 

Gyda chytundeb yr Arweinydd, anerchodd y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol J Brencher y pwyllgor ar yr eitem yma, gan groesawu cyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus.

 

Gwnaeth y Dirprwy Arweinydd sylwadau ynghylch cefnogaeth y cyhoedd a'r angen i gryfhau'r trefniadau adrodd a siaradodd am bwysigrwydd y trefniadau partneriaeth gyda'r heddlu, a oedd yn rhan greiddiol o lwyddiant y cynllun. Cyfeiriodd y Dirprwy Arweinydd hefyd at ddefnyddio Ardal Gwella Busnes Pontypridd i gynorthwyo i fynd i'r afael â phroblemau yng nghanol y dref.

 

Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:

 

1.     Nodi canfyddiadau'r adolygiad y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus a sefydlwyd yn 2018 ynghyd ag adborth y cyhoedd a rhanddeiliaid allweddol mewn perthynas â sefydlu Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus i gynnwys gwaharddiadau a gofynion i reoli ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig ag alcohol a sylweddau meddwol.

 

2.     Cymeradwyo Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus newydd ar gyfer y Fwrdeistref Sirol gyfan i reoli alcohol  ...  view the full Cofnodion text for item 48.

49.

ADRODDIAD MONITRO BLYNYDDOL YR ARDOLL SEILWAITH CYMUNEDOL pdf icon PDF 184 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu, sy'n ceisio cymeradwyaeth y Cabinet mewn perthynas â chynnwys Adroddiad Monitro Blynyddol yr Ardoll Seilwaith Cymunedol a'r newidiadau arfaethedig i Restr Rheoliad 123. Mae'r adroddiad hefyd yn rhoi gwybod i'r Cabinet am y camau cyn y cam craffu sydd wedi'u cyflawni gan y Pwyllgor Craffu - Cyllid a Chyflawniad mewn perthynas â'r Ardoll Seilwaith Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu yr adroddiad i'r Aelodau, a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth i gynnwys Adroddiad Monitro Blynyddol yr Ardoll Seilwaith Cymunedol a diwygio Rheoliad 123.

 

Hysbyswyd yr Aelodau, er bod angen dau welliant i'r Rhestr Rheoliad 123 sydd wedi'i ddiweddaru gan y Cyngor (yn dilyn trafodaeth gan y Cabinet ar 17 Tachwedd 2020) bod cwmpas eang y Rhestr yn aros yr un fath, gan gynnig prosiectau trafnidiaeth ac addysg sy'n cefnogi ac yn lliniaru'r twf a ragwelir trwy'r Cynllun Datblygu Lleol y Cyngor.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr at y gwaith cyn-graffu a wnaed gan y Pwyllgor Craffu – Cyllid a Chyflawniad i gynorthwyo'r Cabinet yn eu trafodaethau.

 

Gwnaeth yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu, a Thai sylwadau ar y dderbynneb Ardoll Seilwaith Cymunedol is na'r blaenorol, yn sgil effaith pandemig Covid.  Diolchodd yr Aelod o'r Cabinet i Aelodau'r Pwyllgor Craffu – Cyllid a Chyflawniad a hefyd Aelodau'r Pwyllgor Cyd-gysylltu â'r Gymuned a siaradodd am bwysigrwydd gwaith y Pwyllgor Cyd-gysylltu â'r Gymuned wrth gefnogi Cynghorau Tref a Chymuned i ddatblygu eu rhestr 123 eu hunain i arddangos eu gwariant i'r cyhoedd.

 

Adleisiodd y Dirprwy Arweinydd sylwadau'r Aelod o'r Cabinet a myfyrio ei bod hi'n bwysig i Gynghorau Tref a Chymuned gymryd agwedd ragweithiol tuag at ddatblygu rhestr 123.

 

Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:

 

(1)   Adroddiad Monitro Blynyddol yr Ardoll Seilwaith Cymunedol fel y mae wedi'i atodi yn Atodiad A.

 

(2)   Mae Rhestr Rheoliad 123 wedi'i atodi fel Atodiad B yr Adroddiad ac i'w chyhoeddi ar wefan y Cyngor am gyfnod o 28 o ddiwrnodau ar gyfer ymgynghori, fel y nodwyd ym mharagraff 5.9 yr adroddiad.

 

(3)   Cymeradwyo mabwysiadu'r Rhestr Rheoliad 123 os nad oes sylwadau yn ei wrthwynebu yn dod i law.

 

50.

Strategaeth Dwristiaeth RhCT pdf icon PDF 189 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu sy'n gofyn i'r Cabinet gymeradwyo ffurfioli Strategaeth Dwristiaeth ddrafft RhCT.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu y Strategaeth Dwristiaeth ddrafft RhCT i'r Aelodau. Mae'r strategaeth yn amlygu blaenoriaethau allweddol sy'n gysylltiedig â thwristiaeth. Cyfeiriwyd yr Aelodau at yr ymarfer ymgynghori cyhoeddus a gynhaliwyd ar ddrafft Strategaeth Dwristiaeth RhCT, gan nodi bod y bobl a wnaeth ymateb, ar y cyfan, yn gefnogol i'r Strategaeth a'i chynnwys, ac yn croesawu'r cynigion.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau bod y Strategaeth Dwristiaeth RhCT ddrafft wedi'i diweddaru i gynnwys mân ddiwygiadau (a ddaeth yn sgil sylwadau a gyflwynwyd yn ystod yr ymgynghoriad a chan y Pwyllgor Craffu – Cyllid a Chyflawniad).

 

Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu, a Thai yr adroddiad a chyfeiriodd at bwysigrwydd annog twristiaeth gan gydnabod effeithiau cadarnhaol y pandemig a'r neges i aros gartref mewn perthynas â thwristiaeth. Cyfeiriodd yr Aelod o'r Cabinet at y £179 miliwn mae'r diwydiant twristiaeth yn ei gyfrannu at economi RhCT a gwnaeth sylwadau hefyd ar y buddion o ran cyflogaeth.

 

Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet am yr adborth ymgynghori cadarnhaol a dyfodol disglair y diwydiant twristiaeth yn y Fwrdeistref Sirol.

 

Siaradodd y Dirprwy Arweinydd am yr ystod amrywiol o weithgareddau ledled y Fwrdeistref Sirol a'r angen i barhau i fuddsoddi yn y diwydiant twristiaeth i wella'r cyfleusterau i bawb.

 

Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:

 

1.     Ar ôl trafod yr ymatebion i'r ymarfer ymgynghori cyhoeddus gafodd ei gynnal mewn perthynas â drafft Strategaeth Dwristiaeth RhCT nad oes angen unrhyw newidiadau pellach i'r cynigion, ac eithrio'r rhai a fabwysiadwyd eisoes yn y Strategaeth.

 

2.     Cymeradwyo drafft Strategaeth Dwristiaeth RhCT fel y ddogfen strategol swyddogol a fydd yn sail i flaenoriaethau ac ymdrechion twristiaeth y Cyngor.

 

51.

ADRODDIAD EFFAITH ADDASU TAI TRIVALLIS A DIWEDDARIAD YNGLŶN Â GWAITH PARTNERIAETH EHANGACH RHWNG RCT A TRIVALLIS I DDARPARU CARTREFI WEDI'U HADDASU I RAI O'N PRESWYLWYR SYDD FWYAF AGORED I NIWED pdf icon PDF 1 MB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu sy'n rhoi diweddariad i'r Aelodau am y dulliau arloesol y mae Trivallis wedi’u defnyddio i wario ei gyllideb addasiadau ar gyfer 2020/2021 yn sgil y pandemig Covid 19, a derbyn diweddariad yngl?n â'r gwaith partneriaeth ehangach rhwng RhCT a Trivallis.

 

Cofnodion:

Rhannodd Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu yr wybodaeth ddiweddaraf am ddulliau arloesol Trivallis o wario eu Cyllideb Addasiadau 2020/2021 yn ystod pandemig Covid 19. Tynnwyd sylw'r Aelodau at y gwaith partneriaeth ehangach rhwng RhCT a Trivallis i ddarparu cartrefi wedi'u haddasu ar gyfer rhai o drigolion mwyaf agored i niwed y Cyngor ar draws RhCT.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr at y modd yr oedd Trivallis wedi defnyddio tanwariant cyllideb addasiadau 2020/21, a grëwyd oherwydd cyfyngiadau Covid-19, mewn ffordd fwy hyblyg ac arloesol, drwy arbrofi gyda dulliau newydd o ddiwallu anghenion cymunedau RhCT.  Parhaodd y Cyfarwyddwr trwy ychwanegu bod y prosiectau a gyflawnwyd, y deilliannau a'r adborth gan rai o drigolion mwyaf agored i niwed Bwrdeistref Sirol RhCT wedi bod yn gadarnhaol iawn yn tystio i lwyddiant y ffordd yr oedd Trivallis wedi defnyddio'r gyllideb addasiadau a'r bartneriaeth barhaus rhwng y Cyngor a Trivallis er mwyn diwallu anghenion cymunedau. 

 

Diolchodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu, a Thai i Trivallis am yr addasiadau a gyflwynwyd a chyfeiriodd at y lluniau yn yr adroddiad a oedd yn dangos y buddsoddiad.

 

Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:

1.     Nodi bod Trivallis wedi defnyddio'r gyllideb addasiadau tai ar gyfer 2020/2021, yn dilyn cymeradwyaeth y Cyngor, mewn ffordd fwy hyblyg ac arloesol sydd wedi darparu eiddo wedi'u haddasu sydd wir eu hangen ar ein cymunedau.

 

2.     Cydnabod y gwaith partneriaeth ehangach rhwng RhCT a Trivallis i ddarparu cartrefi wedi'u haddasu ar gyfer rhai o'n preswylwyr mwyaf agored i niwed ar draws RhCT. 

 

3.     Er mwyn i Trivallis barhau i weithredu'r model cyflenwi yma, yn amodol ar gymeradwyaeth swyddogion, ar gyfer y gyllideb addasiadau tai ar gyfer 2021/2022, er mwyn darparu eiddo wedi'u haddasu ar gyfer ein cymunedau mewn ymateb i'r pandemig.

 

52.

Trafod cadarnhau'r cynnig isod yn benderfyniad

“Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff *** o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”

 

53.

Gwasanaethau Maethu - Lwfansau Rhieni Maeth

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant sy'n cynnwys gwybodaeth wedi'i heithrio sy'n rhoi gwybodaeth i'r Cabinet yngl?n â'r newidiadau arfaethedig i ffioedd a lwfansau rhieni maeth er mwyn sicrhau bod cysondeb a thegwch i rieni maeth yn RhCT, ac i ofyn i'r Cabinet gymeradwyo rhoi polisi newydd ar waith o ran ffioedd a lwfansau rhieni maeth.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant adroddiad eithriedig i'r Aelodau sy'n rhoi gwybodaeth i'r Cabinet yngl?n â'r newidiadau arfaethedig i ffioedd a lwfansau rhieni maeth er mwyn sicrhau bod cysondeb a thegwch i rieni maeth yn RhCT, gan ofyn i Aelodau'r Cabinet gymeradwyo rhoi polisi newydd ar waith o ran ffioedd a lwfansau rhieni maeth.

 

Yn ystod y trafodaethau, cofnododd yr Aelodau eu diolch i waith caled rhieni maeth.  Ar ôl i'r Aelodau drafod yr adroddiad Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant sy'n cynnwys Gwybodaeth Eithriedig, PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r newidiadau arfaethedig i ffioedd a lwfansau rhieni maeth fel y nodir yn adran 7 ac Atodiad A, B a C yr adroddiad

54.

CYNON VALLEY WASTE DISPOSAL COMPANY LIMITED AC AMGEN RHONDDA LIMITED - CYFARFOD CYFFREDINOL BLYNYDDOL

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol sy'n cynnwys gwybodaeth eithriedig sy'n rhoi cyfle i Aelodau archwilio datganiadau ariannol Cynon Valley Waste Disposal Company Limited ac Amgen Rhondda Limited (y Cwmnïau) sydd i'w cyflwyno i Gyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol y Cwmnïau.

Cofnodion:

Rhannodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol drosolwg o'r adroddiad eithriedig gan roi cyfle i'r Aelodau archwilio datganiadau ariannol Cynon Valley Waste Disposal Company Limited ac Amgen Rhondda Limited.

 

Ar ôl i'r Aelodau drafod adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol sy'n cynnwys gwybodaeth eithriedig PENDERFYNWYD:

 

1.     Bod y bwriad cyfredol i barhau i weithredu Cynon Valley Waste Disposal Company Limited ac Amgen Rhondda Limited (y 'Cwmnïau') yn gwmnïau dan reolaeth yr Awdurdod Lleol yn y dyfodol wedi'i gadarnhau;

 

2.     Yn amodol ar fodloni'r Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol nad oes unrhyw afreoleidd-dra yng nghyfrifon y Cwmnïau y dylid derbyn y cyfrifon ar ran y Cyngor;

 

3.     Penodi Azets Audit Services yn archwilwyr i'r Cwmnïau am y flwyddyn sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2022.

 

4.     Yn berthnasol i'r ddau gwmni - dileu Cyfarwyddiaeth y Cyfarwyddwr Cyfadran - Ffyniant, Datblygu a Gwasanaethau Rheng Flaen ar 30 Medi 2021 (yn dilyn ymddeoliad deiliad y swydd); penodi Cyfarwyddiaeth y Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Rheng Flaen o 1 Hydref 2021; a pharhau â Chyfarwyddiaeth y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Cyllid a Gwella;

 

5.     Nodi parhad swydd cyfarwyddwr anweithredol ar Fwrdd y Cwmnïau hyd at Gyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol 2022;

 

6.     Awdurdodi Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol ac/neu ei enwebai i arfer pleidlais y Cyngor yng Nghyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol y Cwmnïau yn unol ag argymhellion 2(ii) i 2(iv) uchod.

 

7.     Bydd Aelod o'r Cabinet yn cynrychioli'r Cyngor yng Nghyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol y Cwmnïau.