Agenda a Chofnodion

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Emma Wilkins - Uned Busnes y Cyngor  07385401935

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

14.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Cafwyd y datganiadau o fuddiannau canlynol yngl?n â materion ar yr agenda:

 

·       Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Bevan - Eitem 3 ar yr agenda - Buddsoddiadau Atgyweirio a Chynnal a Chadw Ychwanegol mewn Ysgolion "Rydw i ar Gorff Llywodraethu Ysgol Gynradd Pont-y-gwaith y cyfeirir ati yn yr adroddiad"

·       Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Rosser - Eitem 3 ar yr agenda - Buddsoddiadau Atgyweirio a Chynnal a Chadw Ychwanegol mewn Ysgolion "Rydw i ar Gorff Llywodraethu Ysgol Gynradd Trealaw y cyfeirir ati yn yr adroddiad"

·       Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Lewis - Eitem 3 ar yr agenda - Buddsoddiadau Atgyweirio a Chynnal a Chadw Ychwanegol mewn Ysgolion "Rydw i ar Gorff Llywodraethu Ysgol Gynradd Gymraeg Abercynon y cyfeirir ati yn yr adroddiad"

·       Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Norris - Eitem 3 ar yr agenda - Buddsoddiadau Atgyweirio a Chynnal a Chadw Ychwanegol mewn Ysgolion "Rydw i ar Gorff Llywodraethu Ysgol Gynradd Cwm Clydach y cyfeirir ati yn yr adroddiad"

·       Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Hopkins - Eitem 3 ar yr agenda - Buddsoddiadau Atgyweirio a Chynnal a Chadw Ychwanegol mewn Ysgolion "Rydw i ar Gorff Llywodraethu Ysgol Gynradd Llanharan y cyfeirir ati yn yr adroddiad"

·       Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan - Eitem 3 ar yr agenda - Buddsoddiadau Atgyweirio a Chynnal a Chadw Ychwanegol mewn Ysgolion "Rydw i ar Gorff Llywodraethu Ysgol Gynradd y Darren-las, y cyfeirir ati yn yr adroddiad"

 

 

·       O ran eitem 8 ar yr agenda - cyfeiriodd y Cynghorydd R Bevan at y gollyngiad a dderbyniwyd gan y Pwyllgor Safonau ym mis Tachwedd 2020, sy'n caniatáu iddo siarad ar yr holl faterion sy'n ymwneud â'r Plant a Phobl Ifainc, gan fod ei ferch yn gweithio yn y Gyfarwyddiaeth.

 

·       Cafwyd y datganiad canlynol ynghylch ag eitem 8 'Adolygiad o Strwythur Uwch Reolwyr a Swyddi Rheoli Cysylltiedig y Cyngor' gan y Swyddog Monitro ar ran yr Uwch Swyddogion canlynol a oedd yn bresennol yn y cyfarfod – Mr C Bradshaw, Mr P Mee, Mr C Hanagan, Mr D Powell, Mr A Wilkins, Mr B Davies, Ms G Davies, Ms A Richards, Mr R Waters:

 

“Hoffwn ddatgan buddiant Personol ac Ariannol ar fy rhan fy hun a’r holl Brif Swyddogion sy’n bresennol mewn perthynas ag Eitem 8 ar yr Agenda gan fod ein swyddi yn cael eu cyfeirio atynt yn yr adroddiad.  Bydd pob Prif Swyddog yn gadael y cyfarfod ar gyfer yr eitem hon heblaw'r Prif Weithredwr, fel awdur a chyflwynydd yr adroddiad, a'r Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol, a fydd yn aros yn y cyfarfod i fynd i'r afael ag unrhyw ymholiadau gan Aelodau. Tra byddaf yn gadael y cyfarfod yn ystod y drafodaeth, byddaf ar gael pe bai unrhyw ymholiadau cyfreithiol neu gyfansoddiadol yn codi wrth drafod yr eitem. ”

 

 

15.

Gwelliannau o ran Mynediad ac Ymgysylltu mewn perthynas â Democratiaeth pdf icon PDF 226 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, sy'n rhoi diweddariad i'r Aelodau mewn perthynas â'r trefniadau i alluogi darlledu cyfarfodydd pwyllgor a'r gallu i weithredu trwy ddull hybrid.

 

Cofnodion:

 

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, ddiweddariad mewn perthynas â'r trefniadau i alluogi darlledu cyfarfodydd pwyllgor a'r gallu i weithredu trwy ddull hybrid. Ychwanegwyd bod y datblygiadau hyn yn anelu at annog ymgysylltiad a gwella cyfranogiad y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd.

 

Cafodd yr Aelodau fanylion am y broses gyflwyno arfaethedig o ran y trefniadau hybrid a gweddarlledu, ynghyd â manylion cynigion pellach i wella'r cyfleusterau hybrid trwy roi newidiadau ar waith yn yr ystafell bwyllgorau llai. Manteisiodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth ar y cyfle hefyd i drafod y newidiadau i dudalennau Pwyllgor y Cyngor ar y wefan i hyrwyddo'r ddarpariaeth gweddarlledu.

 

Croesawodd y Dirprwy Arweinydd yr agwedd raddol tuag at gyfarfodydd hybrid a phwysigrwydd cynnal cyfarfodydd arddangos a hyfforddiant i Aelodau er mwyn cyflwyno'r  systemau gwahanol sydd ar waith i sicrhau cyfarfodydd pwyllgor llwyddiannus bob amser.

 

Ar ôl trafod PENDERFYNWYD:

 

(i)             Nodi datblygiad y ddarpariaeth weddarlledu yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf, yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau Cymru, 2021.

 

(ii)           Nodi datblygiad gweddarlledu er mwyn hyrwyddo ymgysylltiad cyhoeddus a thryloywder proses wneud penderfyniadau'r Cyngor ymhellach;

 

(iii)         Nodi penderfyniad y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd mewn perthynas â'r cyfarfodydd sydd wedi'u hargymell yn rhai sy'n dal i gael eu cynnal ar-lein, a'r rhai a fydd yn cael eu hwyluso trwy ddull hybrid yn y dyfodol, yn amodol ar y cafeatau a amlinellir yn yr adroddiad

 

(iv)          Nodi'r cyfarfodydd a fydd yn cael eu gweddarlledu a'u ffrydio'n fyw trwy wefan y Cyngor a chyflwyno cyfarfodydd o'r fath.

 

(v)           Nodi'r symudiad i system Modern.Gov o ran cyhoeddi gwybodaeth i wefan y Cyngor, gan gynnwys manylion am bresenoldeb Aelodau.

 

(vi)          Nodi'r cyllid a dderbyniwyd trwy'r Gronfa Democratiaeth Ddigidol i gefnogi'r datblygiadau yr oedd eu hangen er mwyn bwrw ymlaen â gweddarlledu ym Mhencadlys y Cyngor.

 

 

16.

Buddsoddiadau Atgyweirio a Chynnal a Chadw Ychwanegol mewn Ysgolion pdf icon PDF 145 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant, sy'n rhoi manylion i Aelodau am waith atgyweirio a chynnal a chadw pellach i'w gymeradwyo ar gyfer 2021/22 o ganlyniad i gyllid ychwanegol a ddyfarnwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2021 ac a ategwyd gan gronfeydd wrth gefn wedi'u clustnodi'r Cyngor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Dros Dro ar gyfer Ysgolion yr 21ain a Thrawsnewid fanylion i'r Aelodau am waith atgyweirio a chynnal a chadw pellach i'w gymeradwyo ar gyfer 2021/22, o ganlyniad i gyllid ychwanegol a ddyfarnwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2021 ac a ategwyd gan gronfeydd wrth gefn wedi'u clustnodi'r Cyngor.

 

Clywodd yr Aelodau y byddai'r gwaith a restrir yn yr Atodiad sydd ynghlwm wrth yr adroddiad yn parhau i gefnogi ysgolion, gwella stoc adeiladau a mynd i'r afael â chyflwr hanfodol a materion iechyd a diogelwch ar draws yr ystâd ysgolion.  Byddai hefyd yn parhau i sicrhau bod adeiladau ysgol yn cydymffurfio â chanllawiau gweithredol Llywodraeth Cymru wrth i'r Cyngor barhau i weithio gyda heriau pandemig Covid-19.

 

Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant y buddsoddiad ychwanegol, sydd â'r nod o wella ysgolion y Fwrdeistref Sirol, gan wella lles a chreu amgylcheddau addysgol diogel. 

 

Croesawodd yr Arweinydd y buddsoddiad a oedd y tu hwnt i'r rhaglen gyfalaf, a soniodd am fuddion y buddsoddiad i'r economi leol, trwy greu swyddi'n lleol.

 

Ar ôl trafod PENDERFYNWYD:

 

1.    Cytuno ar y cynlluniau ychwanegol ar gyfer 2021/22 fel yr amlinellir yn Atodiad 1 yr adroddiad a chymeradwyo dechrau'r cynllun.

 

(D.S. Fel y nodwyd yng Nghofnod rhif 14, datganodd nifer o Aelodau fuddiant mewn perthynas â'r eitem hon.)

 

17.

Gwaith cyn y cam Craffu – Ymatebion i'r Ymgynghoriad ar y Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd Ddrafft (2021-2025) pdf icon PDF 124 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, sy'n rhoi adborth i'r Cabinet gan Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd a'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, wnaeth gyfarfod ar 14 a 15 Mehefin 2021, yn y drefn honno, i ystyried yr adroddiad ar yr Ymatebion i'r Ymgynghoriad ar y Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd Ddrafft (2021-2025). Mae'r adroddiad wedi'i atodi i'r Aelodau ei drafod.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, adborth i'r Cabinet gan Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd a'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, wnaeth gyfarfod ar 14 a 15 Mehefin 2021, yn y drefn honno, i ystyried yr adroddiad ar yr Ymatebion i'r Ymgynghoriad ar y Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd Ddrafft (2021-2025).

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau am yr ymatebion a dderbyniwyd gan y Pwyllgorau cyn cael trosolwg o'r ymatebion mewn perthynas â'r strategaeth hinsawdd ddrafft. Dywedwyd wrth yr Aelodau am y dulliau a ddefnyddiwyd i ymgynghori ar y strategaeth gan ddefnyddio'r platfform 'Dewch i Siarad RhCT'. 

 

Cyfeiriwyd yr Aelodau at adran 6 yr adroddiad, sy'n cyflwyno'r canfyddiadau allweddol i ymatebion yr ymgynghoriad, gyda 76% o'r ymatebwyr i'r arolwg yn cytuno y dylid nodi gwaith y Cyngor i fynd i'r afael â Newid Hinsawdd mewn un cynllun. Clywodd yr Aelodau fod 392 o bobl wedi cymryd rhan yn yr ymgysylltiad ar y Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd, gyda 220 o bobl yn cymryd rhan yn uniongyrchol yn yr ymgysylltiad trwy'r ymgyrch Dewch i Siarad am Newid yn yr Hinsawdd.Cafodd 349 eu hysbysu (wedi edrych ar ddogfennau a thudalennau lluosog) ac roedd 608 yn ymwybodol (wedi ymweld â'r safle).

 

Gwnaeth yr Aelod o’r Cabinet ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol a Chadeirydd y Gr?p Llywio ar Faterion yr Hinsawdd sylwadau am y lefel uchel o gefnogaeth i'r strategaeth a'r angen i ddod yn Fwrdeistref Sirol niwtral o ran carbon.  Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet farn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu mewn perthynas â'r ymatebion i'r ymgynghoriad.

 

Croesawodd yr Arweinydd gyfranogiad y cyhoedd a gwnaeth sylwadau am y dull cydgysylltiedig sydd ei angen ar y Cyngor a'r cymunedau i fwrw ymlaen â'r newidiadau yma er mwyn sicrhau bod y Fwrdeistref Sirol gyfan yn Garbon Niwtral mor agos â phosibl at 2030.

 

 

Ar ôl trafod PENDERFYNWYD:

 

 

1.    Nodi cynnwys yr adroddiad a drafodwyd gan Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu;

 

2.    Nodi sylwadau ac arsylwadau Gr?p Llywio'r Cabinet ,ar Faterion yr Hinsawdd ar ôl trafod yr adroddiad yn ei gyfarfod ar 14 Mehefin 2021; a sylwadau ac arsylwadau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn dilyn rhag-graffu ar yr adroddiad yn ei gyfarfod ar 15 Mehefin 2021 fel y cyfeirir ato yn yr adroddiad.

 

3.    I'r argymhellion a gyflwynir o fewn Canfyddiadau Ymgynghori'r Strategaeth Newid Hinsawdd Ddrafft (2021-2025), sydd ynghlwm fel Atodiad 1 i'r adroddiad hwn, ac er hwylustod a restrir isod:

 

               i. Gofyn i Swyddogion ddefnyddio'r adborth i lywio datblygiad y Strategaeth Newid Hinsawdd derfynol.

 

              ii. Cytuno i gefnogi'r dull o hwyluso sgwrs barhaus ar newid yn yr hinsawdd gyda thrigolion, busnesau lleol a phartneriaid, sy'n gysylltiedig â chynllun gwaith terfynol y Strategaeth Newid Hinsawdd.

 

 

18.

Prosiect Canopi Gwyrdd y Frenhines 2021-22 - Argymhellion Grŵp Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd pdf icon PDF 111 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, sy'n cyflwyno argymhellion Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd, a wnaeth gyfarfod ar 14 Mehefin 2021, er mwyn trafod adroddiad ar Brosiect Canopi'r Frenhines 2021-22.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, sy'n cyflwyno argymhellion Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd, a wnaeth gyfarfod ar 14 Mehefin 2021, er mwyn trafod adroddiad ar Brosiect Canopi'r Frenhines 2021-22.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau, er mwyn nodi'r Jiwbilî Platinwm yn 2022, mae Ei Mawrhydi y Frenhines wedi lansio ymgyrch Canopi Gwyrdd y Frenhines (QGC), i ddathlu 70 mlynedd o wasanaeth i'r Genedl. Mae'r ymgyrch yn canolbwyntio ar rôl coed a choetiroedd o ran gwella'r amgylchedd ac mae'n cynnwys elfennau o blannu cynaliadwy a gwarchod coetir hynafol a choed hynafol.

 

Gwnaeth yr Aelod o’r Cabinet ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannola chadeirydd y Gr?p Llywio ar Faterion yr Hinsawdd sylwadau am y prosiect ac aeth ati i gydnabod y byddai cyfranogiad y Cyngor yn cyfrannu'n gadarnhaol at flaenoriaeth y Cyngor o ran newid yn yr hinsawdd, yn ogystal â chydnabod bod yr holl gr?p o'r farn unfrydol y dylid cymryd rhan.  Cyfeiriodd yr Aelod o'r Cabinet at y bwriad i ymgysylltu â Chynghorau Cymuned a Thref ynghylch y lleoliadau mwyaf priodol ar gyfer plannu coed.

 

Croesawodd y Dirprwy Arweinydd y fenter i ddathlu jiwbilî'r frenhines a gwnaeth sylwadau am yr angen i amddiffyn y coetir presennol, gan gynnwys coetir hynafol.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr wrth yr Aelodau fod strategaeth plannu coed yn cael ei pharatoi a chydnabu fod hwn yn faes a oedd wedi'i dan-fuddsoddi yn y gorffennol.  Ychwanegodd mai'r bwriad oedd dod â'r strategaeth gerbron y Cabinet yn ystod yr hydref.

 

PENDERFYNWYD:

 

 

1.    Nodi cynnwys yr adroddiad a drafodwyd gan Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd ar 14 Mehefin 2021 a;

 

2.    Nodi arsylwadau Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd.

 

 

19.

Trafod cadarnhau'r cynnig isod yn benderfyniad

“Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 12 a 13 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”

Cofnodion:

 

PENDERFYNODD yr Aelodau y byddai'r cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

 

20.

Adolygiad o Strwythur Uwch Reolwyr a Swyddi Rheoli Cysylltiedig y Cyngor

Trafod adroddiad y Prif Weithredwr sy'n ceisio cymeradwyaeth i weithredu cynigion pellach er mwyn adolygu strwythur Uwch Reolwyr a Swyddi Rheoli Cysylltiedig y Cyngor.

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Weithredwr fanylion ei adroddiad eithriedig i'r Cabinet, sy'n ceisio cymeradwyaeth ar gyfer gweithredu cynigion pellach i ddiwygiadau i strwythur swydd Uwch Reolwyr a Swyddi Rheoli Cysylltiedig y Cyngor.  Clywodd yr Aelodau y byddai gweithredu'r strwythurau diwygiedig yn rhoi gostyngiad amcangyfrifedig o £250,000 mewn costau rheoli blynyddol ar lefel Uwch Reolwyr a Swyddi Rheoli Cysylltiedig (sy'n cynnwys argostau).  Soniodd y Prif Weithredwr am 3 gwelliant bach i'r adroddiad a adlewyrchir yn y penderfyniad isod.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.    Bod y strwythurau cyfarwyddiaeth diwygiedig a ddangosir yn Atodiadau 2(i), 2(ii) a 2(iii) yn cael eu gweithredu o 1 Awst 2021 a'r strwythur yn 2(iv) yn cael ei weithredu o 1 Hydref 2021. Cytunwyd i gymeradwyo newid strwythurol pellach fel y dangosir yn Atodiad 3 (i), a fydd mewn grym o 1 Mai 2022 (yn ddarostyngedig i'r broses ymgynghori staff angenrheidiol).

 

2.    Nodi y byddai gweithredu'r strwythurau diwygiedig yn rhoi gostyngiad amcangyfrifedig o £250,000 mewn costau rheoli blynyddol ar lefel Uwch Reolwyr a Swyddi Rheoli Cysylltiedig (sy'n cynnwys argostau).

 

3.    Nodi, yn rhan o'r rhaglen arbedion effeithlonrwydd barhaus, ac wedyn yn ddarostyngedig i unrhyw gymeradwyaeth ofynnol gan Bwyllgor Penodi'r Cyngor, y byddai'n arwain at ddileu'r swyddi canlynol o strwythur y Cyngor, yn unol â'r dyddiadau diwygio strwythurol uchod ym mhenderfyniad 1:

 

i)        Cyfarwyddwr Cyfadran – Ffyniant, Datblygu, a Gwasanaethau Rheng-flaen (gradd Cyfarwyddwr Cyfadran);

ii)      Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwasanaethau'r Gymuned (Cyfarwyddwr Gwasanaeth Lefel 2);

iii)     Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd (Cyfarwyddwr Gwasanaeth Lefel 2)

iv)     Pennaeth Materion Hamdden, Parciau a Chefn Gwlad (Pennaeth Gwasanaeth Lefel 1);

v)      Pennaeth Gofal i Gwsmeriaid * (Pennaeth Gwasanaeth Lefel 1)

 

* Sylwch fod y swydd hon yn destun cais VER y cytunwyd arno ar  30 Ebrill 2020. Nid yw'r swydd yma yn gysylltiedig â'r gostyngiad amcangyfrifedig mewn costau rheoli fel y manylir uchod ond nawr mae angen ei thynnu'n ffurfiol o strwythur y Cyngor.

 

4.    Nodi bod y Cabinet, yn sgîl y penderfyniad yn 1. uchod, wedi awdurdodi:

 

a)    diwygio swydd Cyfarwyddwr - Eiddo'r Cyngor (Cyfarwyddwr Lefel 2) i Gyfarwyddwr - Eiddo'r Cyngor (Cyfarwyddwr Lefel 1);

b)    diwygio swydd Pennaeth Cyfrifeg Corfforaethol a Rheolaeth (Pennaeth Gwasanaeth Lefel 1) i Gyfarwyddwr Gwasanaeth - Cyfrifeg Gorfforaethol a Rheolaeth (Cyfarwyddwr Gwasanaeth Lefel 2);

c)    diwygio swydd Pennaeth Addysg ac Adrodd ar Faterion Ariannol (Pennaeth Gwasanaeth Lefel 1) i Gyfarwyddwr Gwasanaeth - Addysg ac Adrodd ar Faterion Ariannol (Cyfarwyddwr Gwasanaeth Lefel 2);

d)    diwygio swydd Pennaeth Cyllid y Gymuned a Gwasanaethau i Blant (Pennaeth Gwasanaeth Lefel 1) i swydd Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Cyllid y Gymuned a Gwasanaethau i Blant (Cyfarwyddwr Gwasanaeth Lefel 2);

e)    diwygio swydd Pennaeth Datblygu'r Gyfundrefn (Pennaeth Gwasanaeth Lefel 1) i Gyfarwyddwr Gwasanaeth - Datblygu'r Gyfundrefn (Cyfarwyddwr Gwasanaeth Lefel 2);

f)      diwygio swydd Pennaeth Cysylltiadau â Gweithwyr (Pennaeth Gwasanaeth Lefel 2) i swydd Pennaeth Cysylltiadau â Gweithwyr (Pennaeth Gwasanaeth Lefel 1);

g)    diwygio swydd Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Pensiynau, Caffael a Thrafodion (Cyfarwyddwr Gwasanaeth Lefel 2) i Gyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Pensiynau, Caffael a Thrafodion (Cyfarwyddwr Gwasanaeth Lefel 1);

h)    diwygio swydd Pennaeth Refeniw a  ...  view the full Cofnodion text for item 20.