Agenda a Chofnodion

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Hannah Williams - Uned Busnes y Cyngor  01443 424062

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

72.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud:

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Lewis - 'Rydw i'n datgan Buddiant Personol mewn perthynas ag Eitem 12 - Diweddariad ynghylch Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant 2021 ac Eitem 13 - Rhaglen Gyfalaf Arfaethedig y Gwasanaeth Addysg a Chynhwysiant ar gyfer 2021/21. 'Fi yw Cadeirydd y Corff Llywodraethu yn YGG Abercynon, y cyfeirir ato yn yr adroddiadau'

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Rosser - 'Rydw i'n datgan Buddiant Personol mewn perthynas ag Eitem 13 - Rhaglen Gyfalaf Arfaethedig y Gwasanaeth Addysg a Chynhwysiant ar gyfer 2021/22 'Rydw i'n rhan o gorff llywodraethu Ysgol Gynradd Alaw, y cyfeirir ato yn yr adroddiadau

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol P Howe – ‘Rydw i’n datgan Buddiant Personol mewn perthynas ag Eitem 17 – Caffael hen safle Ffatri Chubb, Ystâd Ddiwydiannol Maerdy, Glynrhedynog, RhCT, CF43. 'Rydw i'n aelod o gorff llywodraethu Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn Y Forwyn '.

 

 

73.

Cofnodion pdf icon PDF 457 KB

Cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 25 Chwefror 2021 yn gofnod cywir.

 

Cofnodion:

PENDERFYNODD yr Aelodau gymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Chwefror, 2021 yn rhai cywir.

 

 

74.

Rhaglen Waith Y Cabinet pdf icon PDF 118 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am y rhestr arfaethedig o faterion y mae angen i'r Cabinet eu hystyried yn ystod Blwyddyn y Cyngor 2020–21.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu raglen waith ddrafft ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2020-21 i'r aelodau, a oedd yn rhestru'r materion y mae angen i'r Cabinet eu hystyried.  

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth am yr amgylchiadau cyfredol, gan gynnig sylwadau ynghylch yr angen am hyblygrwydd mewn perthynas â'r rhaglen yma.

 

Cafodd yr Aelodau eu cyfeirio at Atodiad 1 yr adroddiad a dywedwyd wrthyn nhw bod y rhaglen yn ddogfen fyw fel bod modd ychwanegu neu ddileu adroddiadau yn ystod y flwyddyn.

 

Nododd y Cyfarwyddwr fod defnyddio'r rhaglen yn helpu i gadw'r broses gwneud penderfyniadau yn agored ac yn dryloyw o fewn y Cyngor, yn ogystal â rhoi rhagor o gyfleoedd o ran camau cyn y cam craffu.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Rhaglen Waith ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2020-2021 (gan addasu'n briodol ar ôl yr angen) a chael yr wybodaeth ddiweddaraf bob 3 mis.

 

 

 

75.

Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 pdf icon PDF 230 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Cyfreithiol a'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, sy'n crynhoi gwahanol elfennau ar Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 a dderbyniodd Gydsyniad Brenhinol ar 20 Ionawr 2021. Mae'r adroddiad yn nodi cyd-destun a gofynion y Ddeddf, gan fanylu ar sefyllfa bresennol y Cyngor ac yn ceisio nodi'r swyddog(ion) arweiniol priodol a fydd yn ymwneud â chyflwyno'r gofynion deddfwriaethol.

 

 

Cofnodion:

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu drosolwg i'r Aelodau o'r dyletswyddau a osodwyd ar yr Awdurdod yn rhan o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, a gafodd gydsyniad brenhinol ar yr 20 Ionawr 2021.  Cafodd yr Aelodau gwybod bod angen mynd i'r afael â sawl cam gweithredu i sicrhau bod RhCT yn cydymffurfio â'r gofynion deddfwriaethol, yn unol â gofynion y Ddeddf.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth drosolwg cyffredinol o'r Ddeddf i'r Aelodau a fydd yn newid y ffordd y mae'r Cyngor yn gweithredu ar draws ystod o feysydd sy'n ymwneud â diwygio etholiadol, cyfranogiad y cyhoedd, llywodraethu a rheoli perfformiad, prosesau democrataidd a threfniadau gweithio cryfach gyda Chynghorau Tref a Chynghorau Cymuned.  Cafodd yr Aelodau wybod bod darpariaethau 'Dod i Rym' y Ddeddf yn gymhleth, a bod rhai darpariaethau'n dod i rym o fewn diwrnodau ar ôl derbyn Cydsyniad Brenhinol, ac eraill ymhen dau fis a'r mwyafrif yn rhan o Offerynnau Statudol y Gweinidogion. 

 

Croesawodd y Dirprwy Arweinydd yr adroddiad a siaradodd am waith gweithgor y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd sy'n edrych ar agweddau ar y Ddeddf mewn perthynas ag amrywiaeth o fewn democratiaeth.  Cytunodd y Dirprwy Arweinydd y byddai gwahanol elfennau o'r Ddeddf yn cael eu cyflwyno i'r gwahanol Bwyllgorau pan fo hynny'n briodol.

 

Siaradodd yr Arweinydd yn gadarnhaol ynghylch cyflwyno'r bleidlais i bobl ifainc sydd wedi'i chynnwys yn y Ddeddf a siaradodd am bwysigrwydd annog amrywiaeth o fewn democratiaeth, er mwyn sicrhau bod yr holl breswylwyr yn cael eu cynrychioli'n gyfartal.

 

Yn dilyn trafod, PENDERFYNWYD:

 

1.      Nodi'r diweddariad sy'n cael ei ddarparu yn yr adroddiad.

 

2.      Nodi datganiad sefyllfa'r Cyngor sydd wedi'i amlinellu yn yr adroddiad mewn perthynas â gofynion y Ddeddf  a chytunwyd bod y swyddogion perthnasol yn cael eu nodi ac yn bwrw ymlaen â'r camau gweithredu sydd angen eu cyflawni yn unol â'r amserlenni sydd wedi'u nodi yn y Ddeddf neu wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi rheoliadau perthnasol.

 

 

76.

Trefniadau cyn y cam craffu o'r Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2019-20 pdf icon PDF 139 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, sy'n cyflwyno adborth y Pwyllgor Trosolwg a Craffu i'r Cabinet ar ôl iddo ystyried Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol y Cyngor ar gyfer 2019-2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Amrywiaeth a Chynhwysiant yr Adroddiad Blynyddol gafodd ei ddatblygu er mwyn cyflawni dyletswyddau a rhwymedigaethau cyfreithiol y Cyngor o ran rhoi gwybod am ei gynnydd mewn perthynas â chyflawni Dyletswyddau Cydraddoldeb Cyffredinol a Phenodol. Cafodd yr Aelodau wybod bod yr adroddiad yn cynnwys manylion am y cynnydd a gafodd ei wneud yn 2019/20 o ran bodloni amcanion cydraddoldeb sydd wedi'u nodi yn rhan o Gynllun Cydraddoldeb Strategol y Cyngor.

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu gwybod i'r Cabinet fod Aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu wedi cael cyfle i gynnal gwaith cyn y cam craffu mewn perthynas â'r Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol cyn i'r Cabinet drafod yr adroddiad.

Roedd y Dirprwy Arweinydd wedi diolch i'r Rheolwr Amrywiaeth a Chynhwysiant a'i charfan am y gwaith a gafodd ei gyflawni ar ran y Cyngor, gan gyfeirio at fentrau y mae'r Cyngor wedi'u gweithredu wrth sicrhau Cyngor cyfartal.

Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:

1.    Nodi sylwadau ac arsylwadau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu;

 

2.    Cymeradwyo'r argymhellion a amlinellir yn Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2019/20 sydd ynghlwm wrth yr Adroddiad.

 

 

77.

Dyletswydd Economaidd Gymdeithasol (Deddf Cydraddoldeb 2010) pdf icon PDF 125 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol, sy'n rhoi gwybodaeth i'r Cabinet am y Ddyletswydd Gymdeithasol-economaidd a ddaw i rym ar 31 Mawrth 2021.

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Rheolwr Amrywiaeth a Chynhwysiant fanylion y Ddyletswydd Economaidd Gymdeithasol sy'n dod i rym ar 31 Mawrth 2021.  Cafodd yr Aelodau wybod bod y Ddyletswydd Economaidd Gymdeithasol yn cael ei hystyried fel mecanwaith allweddol a fydd yn cefnogi'r bobl fwyaf agored i niwed yn y gymdeithas.

 

Cafodd yr Aelodau wybod bod angen i'r ddyletswydd yma gael ei rhoi ar waith mewn perthynas â holl benderfyniadau allweddol y Cyngor ac amlinellwyd y broses ar gyfer bwrw ymlaen â'r ddyletswydd yma, gan gynnwys creu panel adolygu i gryfhau a diogelu'r broses o wneud penderfyniadau.  Cynghorwyd y bydd y Panel yn gweithredu fel mecanwaith adolygu annibynnol a fydd yn craffu'r cynnig sy'n cael ei drafod.

 

Siaradodd y Dirprwy Arweinydd am bwysigrwydd y ddyletswydd sydd ar y Cyngor a'r angen i sicrhau bod y ddyletswydd yma'n cryfhau'r broses asesiad o effaith ar gydraddoldeb i sicrhau nad oedd unrhyw un dan anfantais yn sgil unrhyw benderfyniad sy'n cael ei wneud gan y Cyngor.

 

Nodwch: Gyda chytundeb y Cadeirydd, siaradodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol P. Jarman am yr eitem yma.

 

Wrth ymateb i anerchiad y Cynghorydd Jarman, siaradodd yr Arweinydd a'r Prif Weithredwr am y gwaith a'r trafodaethau sydd eisoes wedi cael eu gwneud mewn perthynas â mannau gwefru ar gyfer cerbydau. Mae'r manylion yngl?n  â hyn i'w gweld yn y strategaeth ddrafft ar newid yn yr hinsawdd.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.    Nodi cynnwys yr adroddiad mewn perthynas gofynion y Ddyletswydd Economaidd Gymdeithasol a'r angen i sicrhau bod y ddyletswydd yma'n cael ei chynnwys yn rhan o benderfyniadau allweddol y Cyngor, i leihau anghydraddoldebau sy'n gysylltiedig â deilliannau anfantais economaidd gymdeithasol.

 

 

 

78.

Strategaeth Ddrafft y Cyngor 2021-2025 – Mynd i'r Afael â Newid yn yr Hinsawdd ar gyfer Ymgysylltiad Cyhoeddus pdf icon PDF 168 KB

Derbyn adroddiad y Prif Weithredwr, sy'n rhoi cyfle i'r Aelodau drafod Strategaeth Ddrafft y Cyngor - Mynd i'r Afael â Newid Hinsawdd - a chytuno i ymgysylltu ac ymgynghori â thrigolion a busnesau ar ymateb y Cyngor i Newid yn yr Hinsawdd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhannodd y Prif Weithredwr drosolwg o'r gwaith y mae'r Cyngor wedi'i wneud mewn perthynas â Newid yn yr Hinsawdd, gan gynghori am yr ymrwymiad cadarnhaol i gyfrannu at dargedau byd eang, cenedlaethol a lleol o ran lleihau carbon ym mhob un o wasanaethau'r Cyngor. Cafodd yr Aelodau wybod bod y Cyngor eisoes yn prynu 100% o'i gyflenwad ynni trydanol gan ffynonellau ynni adnewyddadwy ac wedi lleihau ei ôl troed carbon gan 37% neu 12,725 tunnell yn ystod y pum mlynedd diwethaf. 

 

Cyfeiriwyd at waith y Gr?p Llywio ar faterion Newid yn yr Hinsawdd, is-bwyllgor o Gabinet y Cyngor, sy'n gyfrifol am ddatblygu ymateb y Cyngor i'r agenda Newid yn yr Hinsawdd a chefnogi'r Cabinet i gyflawni targed Net Sero 2030. Bu'r Gr?p Llywio'n canolbwyntio ar ddeall materion carbon amrywiol yn y Fwrdeistref Sirol, gan gyflwyno cyfres o argymhellion i Gabinet y Cyngor a chasglu gwybodaeth i lywio gwaith datblygu Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd y Cyngor.

 

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr sylw'r Aelodau at Strategaeth Ddrafft Newid yn yr Hinsawdd y Cyngor sydd i'w gweld yn Atodiad A yr Adroddiad. Mae'r strategaeth yma'n pennu gweledigaeth, pwrpas ac uchelgais cyffredinol y Cyngor fel Awdurdod Lleol o ran ôl troed carbon y Cyngor a'r Fwrdeistref Sirol.

 

Cafodd yr Aelodau wybod, yn amodol ar benderfyniad y Cyngor, y byddai'r Strategaeth Ddrafft Newid yn yr Hinsawdd yn destun ymgynghoriad cynhwysfawr â'r cyhoedd yn ystod y ddau fis nesaf, hyd at 31 Mai 2021. Y bwriad yw bod y strategaeth yn cael ei chraffu gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, gan nodi pwysigrwydd cynnwys yr holl Aelodau yn rhan o'r broses ymgynghori.

 

Roed y Dirprwy Arweinydd wedi croesawu'r gwaith ymgysylltu â'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a'r cymunedau lleol i sicrhau bod y strategaeth yn canolbwyntio ar y materion cywir.

 

Siaradodd yr Aelod o’r Cabinet ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol mewn perthynas â'r ystod amrywiol o faterion sy'n cael eu trafod yn y strategaeth ddrafft uchelgeisiol, sy'n cynnwys amcanion hir dymor a byr dymor.  Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet ar y broses ymgynghori gadarn wedi'i threfnu a'r angen am waith ymgysylltu o'r fath.  Ychwanegodd y byddai'r strategaeth yn cael ei hadolygu o bryd i'w gilydd i sicrhau ei bod hi'n 'addas at y diben' ac yn ymateb i flaenoriaethau materion newid yn yr hinsawdd.

 

Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Corfforaethol a'r Arweinydd am yr eitem yma gan groesawu'r broses ymgynghori mewn perthynas â'r strategaeth.

 

Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:

 

1.    Nodi cynnwys yr adroddiad a Strategaeth Ddrafft Newid yn yr Hinsawdd sydd wedi'i atodi i'r adroddiad.

 

2.    Nodi Strategaeth Ddrafft Newid yn yr Hinsawdd y Cyngor a'r argymhellion sy'n deillio o'r cyfarfod Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd ar 17 Mawrth, yn enwedig bod swyddogion yn ymgysylltu ac ymgynghori â thrigolion a busnesau ar ymateb y Cyngor i Newid yn yr Hinsawdd.

 

3.    Gofyn bod canlyniadau'r ymgynghoriad mewn perthynas â 'Strategaeth Ddrafft Newid yn yr Hinsawdd y Cyngor’ yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet yn y  ...  view the full Cofnodion text for item 78.

79.

Trefniadau'r Awdurdod Lleol ar gyfer Diogelu Plant ac Oedolion mewn Perygl pdf icon PDF 193 KB

Derbyn adroddiad y Prif Weithredwr a'r Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant, sy'n darparu trosolwg o'r gwaith a wnaed i gyflawni'r camau gwella a nodwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru (Archwilio Cymru) mewn perthynas â chyfrifoldebau Diogelu Corfforaethol y Cyngor. .

 

 

Cofnodion:

Rhannodd Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant y newyddion diweddaraf yngl?n â'r cynnydd sydd wedi'i wneud mewn perthynas â threfniadau diogelu corfforaethol y Cyngor yn ystod y 12 mis diwethaf. Cyfeiriwyd at Adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru a gafodd ei lunio yn 2019. Roedd yr Adolygiad yma wedi canfod bod y Cyngor wedi bodloni'r rhan fwyaf o argymhellion a chynigion er mwyn gwella, neu wedi'u bodloni'n rhannol. Fodd bynnag, ychwanegodd y Cyfarwyddwr Cyfadran bod rhagor o gynigion er mwyn gwella wedi'u cyflwyno er mwyn cryfhau rhai o drefniadau Diogelu Corfforaethol y Cyngor. Aeth ymlaen i roi manylion y chwe chynnig. 

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Cyfadran bod y Cyngor yn parhau i wneud cynnydd mewn perthynas â chyflawni'i Ddyletswyddau Diogelu Corfforaethol, fel sydd i'w weld yn yr wybodaeth sydd wedi'i darparu yn ei adroddiad a natur barhaus y camau gweithredu sy'n cael eu cyflawni.

Siaradodd y Dirprwy Arweinydd am y gwaith y mae'r Cyngor yn ei wneud i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'i Dyletswyddau Diogelu Corfforaethol. Siaradodd hefyd am y gwaith partneriaeth sy'n cael ei gyflawni gyda Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg, sef y bartneriaeth amlasiantaeth statudol sy'n gyfrifol am faterion diogelu ym mhob rhan o'r rhanbarth.

Gyda chytundeb yr Arweinydd, siaradodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol P. Jarman ar y mater hefyd.  Wrth ymateb i'r materion a gafodd eu codi gan y Cynghorydd Jarman, cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Cyfadran at waith sy'n cael ei gyflawni mewn perthynas â strategaeth atal hunanladdiad (drafft).

 

PENDERFYNWYD:

 

1.    Adolygu'r cynnydd sydd wedi'i wneud mewn perthynas â'r camau gwella i gefnogi gofynion Diogelu Corfforaethol a cheisio unrhyw wybodaeth bellach am unrhyw feysydd lle mae hynny'n annigonol.

 

 

80.

Diogelwch Menywod mewn Mannau Cyhoeddus

Derbyn adroddiad ar lafar gan y Cyfarwyddwr - Gwasanaeth Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a Gwasanaethau Cymuned

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned ddiweddariad ar lafar mewn perthynas â Diogelwch Menywod mewn Mannau Cyhoeddus yn dilyn llofruddiaeth Sarah Everard yn Llundain ar 3 Mawrth 2021. 

 

Pwysleisiodd y Cyfarwyddwr bod cadw trigolion RhCT yn ddiogel yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol ar gyfer y Cyngor a'i bartneriaid. Aeth ymlaen i amlinellu rhai camau gweithredu sydd eisoes ar waith i sicrhau bod trigolion RhCT yn ddiogel.

 

Cafodd yr Aelodau wybod bod camerâu teledu cylch cyfyng digidol gwerth £400,000 wedi'u cael eu gosod yn rhan o fuddsoddiad yn ystod y tair blynedd diwethaf.   Cafodd manylion eu rhannu ynghylch y Cynllun Pub Watch, Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus a'r Strategaeth Gynhwysfawr sydd ar waith yn RhCT er mwyn mynd i'r afael â Thrais yn erbyn Menywod, Cam-drin yn y Cartref, a Thrais Rhywiol. 

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod bod y Cyngor, yr Heddlu a'r Bartneriaeth Cymunedau Diogel yn cyflawni adolygiad i sicrhau bod trefniadau ar y cyd cryfach ar waith i gadw menywod a merched yn ddiogel yn ein cymunedau ac yn benodol gyda'r nos wrth i'r economi gyda'r nos ailagor, yn dilyn cais gan y Cabinet.

 

Cyfeiriodd y Dirprwy Arweinydd at waith cadarnhaol sydd eisoes yn cael ei wneud gan y Cyngor a'i bartneriaid allweddol mewn perthynas â sicrhau diogelwch holl drigolion RhCT a'r angen i weithio gydag adeiladau a busnesau allweddol i sicrhau bod staff wedi'u hyfforddi ac yn gallu cydnabod os yw menyw yn teimlo'n anniogel.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at bwysigrwydd marsialiaid tacsis a phwysigrwydd tacsis cofrestredig a siaradodd hefyd  am y buddsoddiad pwysig ym maes Teledu Cylch Cyfyng fyddai'n tawelu meddwl trigolion.  Croesawodd yr Arweinydd yr adolygiad ac unrhyw gyfleoedd a allai ddeillio o'r adolygiad.

 

Nodwch: Gyda chytundeb y Cadeirydd, siaradodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol P. Jarman am yr eitem yma.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.    Nodi'r diweddariad ar lafar a ddarparwyd

2.    Derbyn adroddiad pellach yn y dyfodol ynghylch yr adolygiad sy'n cael ei gyflawni gyda phartneriaid mewn perthynas â diogelwch menywod mewn mannau cyhoeddus.

 

81.

Cynnig i ddarparu Gwasanaethau Cynghori ar Addysg Ranbarthol a Rennir ar gyfer Plant a Phobl Ifainc â Nam Synhwyraidd pdf icon PDF 116 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant, sy'n gofyn i'r Cabinet ystyried cynnig sy'n gofyn bod Carfan Synhwyraidd Rhondda Cynon Taf, o fewn y Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant, yn newid o fod yn wasanaeth synhwyraidd ymreolaethol ar wahân i wasanaeth cynghori isranbarthol, addysgol a rennir ar gyfer plant a phobl ifainc sydd â nam ar y synhwyrau.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhannodd y Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant wybodaeth gyda'r Aelodau sy'n gofyn i'r Cabinet ystyried cynnig sy'n gofyn bod Carfan Synhwyraidd Rhondda Cynon Taf sy’n rhan o’r Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant, yn newid o fod yn wasanaeth synhwyraidd ymreolaethol ar wahân i wasanaeth cynghori isranbarthol, addysgol a rennir ar gyfer plant a phobl ifainc sydd â nam ar y synhwyrau.  Cafodd yr Aelodau wybod y byddai gwasanaeth is-ranbarthol yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â dau Gyngor o ranbarth Cwm Taf Morgannwg; sef Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful yn ystod y tair blynedd nesaf.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr y byddai'r cyfle yn galluogi'r Cyngor i fwrw ymlaen â gwaith gwella'r ffordd y mae'r gwasanaethau nam synhwyraidd cyfredol yn gweithredu. Byddai rhannu'r adnoddau a'r arbenigedd yn rhanbarthol ymhlith tri Chyngor yn galluogi'r Cyngor i wireddu effeithlonrwydd ym meysydd teithio, cyfarpar, hyfforddiant a chymorth i deuluoedd ac ysgolion. Fodd bynnag, y prif reswm dros gyflwyno'r cynnig oedd sicrhau gwydnwch yn y system i fodloni maes ADY sy'n tyfu.

 

Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant am yr adolygiad annibynnol sydd eisoes wedi'i gynnal mewn perthynas â'r diffygion sydd wedi'u nodi.  Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet y byddai'r cynnig sy'n cael ei gyflwyno i Aelodau yn mynd i'r afael â'r diffygion hynny a byddai'n tawelu meddwl teuluoedd, ysgolion a staff yr Awdurdod Lleol yn ystod cyfnod ansicr iawn, mewn perthynas ag ADY yn y sector addysg yng Nghymru.

 

Gyda chytundeb yr Arweinydd, siaradodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol P Jarman ar y mater yma, ac ymatebodd yr Arweinydd i'w sylwadau hi.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.    Nodi cynnwys yr adroddiad;

 

2.    Cefnogi'r cynnig sydd wedi'i ddatblygu mewn partneriaeth â Chyfarwyddwyr Addysg Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful yn ardal Cwm Taf Morgannwg, i ddarparu Gwasanaethau Cynghori ar Addysg Ranbarthol a Rennir ar gyfer plant a phobl ifainc sydd â nam ar y synhwyrau, ar gyfer y tair blynedd nesaf.

 

 

82.

Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant – Diweddariad 2021 pdf icon PDF 169 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant, sy'n rhoi diweddariad i'r Cabinet o adroddiad Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant 2017-22 (CSA) a'r diweddariadau o ran y cynllun gweithredu blynyddol dilynol.

 

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant at ddyletswydd y Cyngor i sicrhau bod darpariaeth gofal plant ddigonol i fodloni gofynion rhieni yn yr ardal sydd angen darpariaeth gofal plant er mwyn iddyn nhw allu cychwyn swydd neu barhau â'u swyddi, neu i gyflawni addysg neu hyfforddiant a fyddai'n eu helpu nhw i ddod o hyd i waith, hyd y bo hynny'n rhesymol ymarferol. O ran y ddyletswydd yma, mae gofyn i Gynghorau gyflawni Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant bob 5 mlynedd, ynghyd ag adolygiadau blynyddol o'r asesiad a chynllun gweithredu.  Cafodd yr Aelodau wybod bod y Cyngor wedi cyhoeddi'i Adroddiad Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant diwethaf yn 2017 a bod Swyddogion bellach yn paratoi i lunio'r adroddiad llawn nesaf, y mae disgwyl iddo gael ei gyhoeddi yn nhymor y Gwanwyn, 2022.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr drosolwg manwl o'r asesiad i'r Aelodau gan ychwanegu bod pandemig COVID-19 wedi cael effaith sylweddol ar y sector gofal plant ledled Cymru.  Dywedodd y Cyfarwyddwr fod y Cyngor yn falch iawn o holl ddarparwyr gofal plant RhCT sydd wedi parhau i ddarparu gofal diogel i blant a'u teuluoedd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mewn modd proffesiynol a thosturiol. Daeth y Cyfarwyddwr â'i gyflwyniad i ben drwy ychwanegu bod darpariaeth gofal plant y Cyngor yn parhau i fod mewn sefyllfa dda i allu bodloni anghenion y mwyafrif o rieni sy'n gweithio, er gwaethaf y 12 mis diwethaf.  Mae gwaith datblygu yn parhau i gael ei gynnal mewn perthynas â'r galw gan rieni ac ym meysydd lle mae angen wedi'i nodi.

 

Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant am yr adborth cadarnhaol mewn perthynas â'r Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant. Pwysleisiodd sylwadau'r Cyfarwyddwr mewn perthynas â'r ddarpariaeth gofal plant yn ystod cyfnod 12 mis heriol iawn a'r amgylcheddau diogel yn ogystal ag ansawdd y gofal sy'n cael ei ddarparu i Blant y Fwrdeistref Sirol.

 

Gyda chytundeb yr Arweinydd, siaradodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol P. Jarman ar y mater hefyd. 

 

Siaradodd y Dirprwy Arweinydd am y ddarpariaeth gofal plant 30 awr a'r manteision y mae'r ddarpariaeth yma'n ei chynnig i deuluoedd sy'n gweithio.  Dymunodd yr Arweinydd ddiolch i'r sector gofal plant hefyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.    Nodi cynnwys yr adroddiad;

 

2.    Bydd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant yn trafod rôl CBSRhCT o ran darparu'r Cynnig Gofal Plant i Gymru yn y dyfodol gyda Llywodraeth Cymru.

 

3.    Derbyn adroddiad pellach a chynllun gweithredu wedi'i ddiweddaru ym mis Mehefin 2021

 

83.

Rhaglen Gyfalaf Arfaethedig y Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant 2021/2022 pdf icon PDF 126 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr, Addysg a Chynhwysiant, sy'n darparu manylion ynghylch y gwaith cyfalaf i'w gymeradwyo ar gyfer 2021/22, fel rhan o Raglen Gyfalaf dair blynedd y Cyngor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant fanylion i Aelodau'r Cabinet ynghylch gwaith cyfalaf i'w cymeradwyo ar gyfer 2021/22, yn rhan o Raglen Gyfalaf dair blynedd y Cyngor.

Atgoffodd y Cyfarwyddwr Aelodau'r Cabinet fod swm o £6.876 miliwn wedi'i ddyrannu i'r rhaglen gyfalaf arfaethedig (mân weithiau) ar gyfer 2021/22, fel y cafodd ei gytuno gan y Cyngor ar 28 Mawrth 2021.

Aeth yn ei blaen gan roi gwybod y byddai parhau gyda'r Rhaglen Gyfalaf dreigl tair blynedd a chadw lefel y cyllid yn parhau i wneud gwelliannau sylweddol i ansawdd adeiladau ysgolion y Cyngor ac mae wedi bod yn rhan hollbwysig o raglen foderneiddio ysgolion y Cyngor sydd yn ddiamau wedi cyfrannu at safonau gwell.

 

Cyfeiriodd yr aelodau at adran 5 yr adroddiad lle mae dyraniadau arfaethedig cronfeydd y rhaglen gyfalaf arfaethedig ar gyfer 2021/22 yn cael eu hamlinellu. Rhoddodd wybod bod manylion pellach am y rhaglenni gwaith i'w cael yn atodiadau 1-10 yr adroddiad.

Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Dysgu Gydol Oes yr adroddiad a'r buddsoddiad sy'n cael ei wneud yn yr ysgolion sy wedi'u nodi, a fyddai, yn ei barn hi, yn helpu i foderneiddio'r adeiladau a gwella'r amgylchedd dysgu i blant.

Siaradodd yr Arweinydd hefyd am y buddsoddiad ychwanegol a'r cynnydd sylweddol sydd wedi'i wneud yn rhan o'r rhaglen yn ystod blwyddyn heriol.

Gyda chytundeb yr Arweinydd, siaradodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol P. Jarman ar y mater hefyd.

Ar ôl trafod, PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Cymeradwyo cynlluniau blaenoriaethol y Rhaglen Gyfalaf i Sicrhau Addysg ar gyfer 2021/22 fel sy'n cael eu hamlinellu yn Atodiadau 1-9 o'r adroddiad ac i gymeradwyo dechrau ar y cynllun.

 

84.

Rhaglen Gyfalaf Atodol 2021/22 ar gyfer y Priffyrdd, Trafnidiaeth a Chynlluniau Strategol pdf icon PDF 211 KB

Cofnodion:

Darparodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Rheng Flaen raglen gyfalaf manwl ar gyfer Aelodau'r Cabinet o ran y Priffyrdd, Trafnidiaeth a Chynlluniau Strategol ar gyfer 2020/21.

 

Rhoddodd fanylion i'r Aelodau yn erbyn dyraniadau cyfalaf penodol 2020/21 o £12.949 miliwn ar gyfer Gwasanaethau Technegol y Priffyrdd a £12.076 miliwn ar gyfer Prosiectau Strategol. Ychwanegodd fod y dyraniadau yma'n cael eu gwneud er mwyn diogelu uniondeb hirdymor y rhwydwaith priffyrdd a chludiant a'i wella, er mwyn delio â gofynion teithio cynyddol. Rhoddwyd sylw penodol i hyrwyddo dulliau teithio mwy diogel a chynaliadwy a galluogi gweithgaredd economaidd.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth at adran 4.1.4 o'i adroddiad sy'n rhoi manylion y rhaglen a'r dyraniad cyllid, gan gadarnhau bod nifer y grantiau sydd wedi'u nodi yn yr adroddiad wedi'i gadarnhau gan Lywodraeth Cymru.

 

Croesawodd yr Arweinydd y buddsoddiad a dywedodd wrth yr Aelodau fod y rhaglen yn rhaglen waith dreigl. Croesawodd yr Arweinydd y gwelliannau i Isadeiledd y Priffyrdd wedi'u seilio ar y data yn yr adroddiad. Siaradodd am y flwyddyn heb ei thebyg ac effaith Storm Dennis ar y Fwrdeistref Sirol a'r effaith ar y priffyrdd ac isadeiledd y Priffyrdd.

 

Gyda chytundeb yr Arweinydd, siaradodd Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol G Caple a P Jarman ar yr eitem yma.

 

PENDERFYNWYD:

 

 

1.    Nodi a chymeradwyo'r Rhaglen Gyfalaf Atodol ar gyfer y Priffyrdd, Trafnidiaeth a Chynlluniau Strategol yn unol â'r manylion yn yr adroddiad.

 

2.    Nodi bod y dyraniadau presennol yn rhan o raglen gyfalaf 3 blynedd a chytuno i ddirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr y Gyfadran, mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor a'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a  Digidol, ymestyn gweithgarwch i gyflawni prosiectau ychwanegol yn ystod y flwyddyn ariannol lle mae capasiti yn bodoli ar gyfer cyflwyno carlam yn unol â phwrpas y rhaglen ehangach, neu ohirio rhaglenni/cynlluniau ac adleoli cyllid i sicrhau’r ddarpariaeth orau.

 

85.

Cynllun Rhyddhad Ardrethi Annomestig (NDR) Ar Gyfer Y Diwydiant Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch pdf icon PDF 159 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol sy'n rhoi  manylion am Ardrethi Annomestig Llywodraeth Cymru - Cynllun Rhyddhad y Diwydiant Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch ar gyfer 2021/22.

 

Cofnodion:

Roedd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Cyllid a Gwasanaethau Digidol wedi atgoffa Aelodau o'r pecyn cymorth ariannol y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i fusnesau ac sydd wedi datblygu o ganlyniad i bandemig y coronafeirws.  Dywedodd y Cyfarwyddwr fod y pecyn yn cynnwys cynllun rhyddhad Ardrethi Annomestig dros dro newydd ar gyfer blwyddyn ariannol 1 Ebrill 2020 - 31 Mawrth 2021.  Aeth ymlaen i roi gwybod bod y Cynllun Rhyddhad Ardrethi - Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yn darparu cyfnod o "wyliau" mewn perthynas ag Ardrethi Annomestig ar gyfer yr holl fusnesau cymwys yn ystod y cyfnod. Mae'r cynllun yma wedi'i gyllido gan LC. Yn 2020/21, roedd oddeutu 1,300 o fusnesau yn Rhondda Cynon Taf wedi elwa o ryddhad ardrethi gwerth £16miliwn yn rhan o'r cynllun.  Cafodd yr Aelodau gwybod bod cynllun i ymestyn y rhyddhad ardrethi wedi cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru a bod manylion y cynllun yma wedi'u darparu er mwyn i Aelodau eu trafod.

 

Croesawodd yr Arweinydd y cynlluniau i ymestyn y rhyddhad ardrethi a fyddai'n rhoi cymorth ariannol pellach sydd ei angen yn ogystal â sicrwydd ar gyfer busnesau lleol i fodloni’u rhwymedigaethau o ran ardrethi. Byddai hefyd yn ychwanegu at ymrwymiad ehangach y Cyngor i gynnal canol trefi bywiog ledled Rhondda Cynon Taf.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.    Nodi manylion Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch a mabwysiadu'r cynllun yn ffurfiol ar gyfer y flwyddyn 2021/22.

 

(DS Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu gwybod i’r Aelodau y byddai'r eitem wedi'i heithrio o’r broses galw i mewn oherwydd bod angen dosbarthau Ardrethi Annomestig yn unol â gofynion.)

 

86.

Adroddiad Cyflawniad y Cyngor – 31 Rhagfyr 2020 (Chwarter 3) pdf icon PDF 347 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol sy'n rhoi trosolwg o gyflawniad y Cyngor, yn ariannol ac yn weithredol, sy'n seiliedig ar naw mis cyntaf y flwyddyn ariannol yma (hyd at 31 Rhagfyr 2020).

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaeth Cyflawni a Gwella – grynodeb i'r Aelodau am gyflawniad y Cyngor dros naw mis cyntaf y flwyddyn ariannol hon (hyd at 31 Rhagfyr 2020), o ran materion ariannol a gweithredol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod y sefyllfa gyllidebol ar gyfer y trydydd chwarter yn rhagweld gorwariant gwerth £1.049miliwn, sy'n cynrychioli sefyllfa well o'i chymharu â chwarter 1 a 2.  Ychwanegodd fod y rhagamcaniad yma'n adlewyrchu parhad y pwysau allweddol yn enwedig o fewn y Gwasanaethau i Blant a Gwasanaethau Oedolion. Nododd yr Aelodau bod sefyllfa'r gyllideb wedi'i gosod yng nghyd-destun digynsail Covid-19, a'i fod yn ystyried y cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru a dderbyniwyd am naw mis cyntaf y flwyddyn, yn ogystal â'r swm y mae disgwyl i'r Cyngor ei dderbyn am weddill y flwyddyn, mewn perthynas â gwariant ychwanegol ac incwm a gollwyd o ganlyniad i'r pandemig.

 

Yn rhan o drefniadau rheoli gwasanaeth a rheolaeth ariannol cadarn y Cyngor, dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod y gwaith yn parhau ym mhob gwasanaeth i gyfrannu at sicrhau bod y sefyllfa ariannol yn agosáu at fod yn unol â'r gyllideb; ac ymgysylltu â Llywodraeth Cymru i dynnu sylw at bwysigrwydd darparu cyllid ychwanegol er mwyn diwallu pwysau costau parhaus.

 

Ar 31 Rhagfyr 2020, cyfanswm y buddsoddiad cyfalaf yw £57.483miliwn, gyda chynnydd yn parhau i gael ei wneud yn ystod Chwarter 3, gan ystyried cyfyngiadau Covid-19 a'r gofynion o ran diogelwch.  Daeth y Cyfarwyddwr Gwasanaeth a'i drosolwg i ben drwy roi gwybod am y cynnydd da sydd wedi'i wneud ym mhob un o flaenoriaethau Cynllun Corfforaethol y Cyngor, sef Pobl, Lleoedd a Ffyniant, sy'n parhau i ganolbwyntio ar ddarparu cymorth hanfodol i drigolion a busnesau i fynd i'r afael ag effaith sylweddol Covid-19 ar gymunedau lleol, ynghyd â bwrw ymlaen â gwaith cyflawni cynlluniau mawr.

 

Cyfeiriodd y Dirprwy Arweinydd at y dangosyddion cadarnhaol mewn perthynas ag absenoldeb oherwydd salwch, gan ddiolch i holl staff y Cyngor am eu hymrwymiad a'u gwaith caled yn ystod blwyddyn heriol.

 

Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Eiddo'r Cyngor yr adroddiad, gan nodi'r gwelliannau sydd wedi'u gwneud ers yr adroddiad diwethaf.  Cyfeiriodd at y pwysau parhaus sy'n wynebu'r Cyngor mewn perthynas â'r Gwasanaethau Cymdeithasol gan ganmol swyddogion am y gwaith sy'n cael ei wneud er mwyn manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd cyllid grant.

 

Roedd yr Arweinydd hefyd wedi diolch i staff y Cyngor am y gwaith sydd wedi'i wneud, gan gyfeirio at fuddsoddi a gwaith mewn ysgolion, canol trefi ac eiddo gwag ledled y Fwrdeistref Sirol.  Siaradodd yr Arweinydd hefyd am bwysau sylweddol ar y Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.     Nodi'r amgylchiadau digynsail parhaus y mae Gwasanaethau'r Cyngor yn eu hwynebu o ganlyniad i bandemig Covid-19.

 

Refeniw

2.     Nodi a chytuno ar sefyllfa alldro refeniw'r Gronfa Gyffredinol ar 31 Rhagfyr 2020 (Adran 2 o'r Crynodeb Gweithredol) gan gynnwys y cyllid parhaus gan Lywodraeth Cymru i gefnogi gwasanaethau yn sgil Covid-19.

 

Cyfalaf

3.     Nodi sefyllfa alldro cyfalaf y Cyngor fel y mae ar 31  Rhagfyr 2020 (Adrannau 3a-e o'r Crynodeb Gweithredol).

 

4.  ...  view the full Cofnodion text for item 86.

87.

Trafod cadarnhau'r cynnig isod yn benderfyniad

“Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: “Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”

 

 

88.

Caffael Hen Safle Ffatri Chubb, Ystad Ddiwydiannol Maerdy, Glynrhedynog, RhCT, CF43 4AB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Materion Eiddo'r Cyngor sy'n ceisio awdurdod i gaffael budd Rhydd-ddaliadol tir sy'n cynnwys Hen Safle Ffatri Chubb, Ystad Ddiwydiannol Maerdy, Glynrhedynog, RhCT sydd wedi'i leoli mewn safle allweddol ger daliadau tir preifat a chynghorau, i hwyluso datblygiad Ysgol Gynradd Gymraeg newydd a / neu ddatblygu'r safle i ddiwallu anghenion y gymuned leol.

 

 

Cofnodion:

Ceisiodd Gyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor ganiatâd y Cabinet i gaffael tirddaliad hen safle Ffatri Chubb, Ystad Ddiwydiannol Maerdy, Glynrhedynog, RhCT.  Yn rhan o'i adroddiad eithriedig, cafodd Aelodau wybod bod y tir wedi'i leoli ar safle allweddol cyferbyn â thirddaliadau preifat a thirddaliadau'r Cyngor, fyddai'n gallu cael eu defnyddio i hwyluso gwaith datblygu Ysgol Gynradd cyfrwng Cymraeg newydd a/neu ddatblygu'r safle i fodloni anghenion y gymuned leol.

 

Gyda chytundeb yr Arweinydd, siaradodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol P Howe ar y mater hefyd. 

 

PENDERFYNWYD:

 

1.    Prynu rhydd-ddaliad ar safle'r hen ffatri Chubb, Ystad Ddiwydiannol Maerdy, Glynrhedynog.

 

 

(DS. Datganodd Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol P Howe fuddiant personol mewn perthynas â'r eitem yma y mae cofnod rhif 73 yn cyfeirio ato)

 

89.

Datblygiad Gofal Ychwanegol Danymynydd (Porth)

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant, sy'n  darparu diweddariad ar ailddatblygiad hen Gartref Gofal Danymynydd, Porth, ar gyfer darparu tai gofal ychwanegol fel rhan o raglen datblygu tai gofal ychwanegol y Cyngor, a gymeradwywyd yn flaenorol gan y Cabinet, ac sy'n ceisio cymeradwyaeth i'r gyllideb a'r cyllid cyfalaf gofynnol i gyflawni'r cynllun.

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant ddiweddariad i Aelodau mewn perthynas â'r cynnig i ailddatblygu Cartref Gofal Dan y Mynydd, Porth, er mwyn darparu tai â gofal ychwanegol yn rhan o raglen datblygu tai â gofal ychwanegol y Cyngor sydd eisoes wedi cael ei chymeradwyo gan y Cabinet.  Yn yr adroddiad eithriedig, ceisiodd y Cyfarwyddwr Cyfadran gymeradwyaeth gan y Cabinet ar gyfer y gyllideb a'r cyllid cyfalaf sydd ei angen i ddarparu'r cynllun ac adleoli Canolfan Oriau Dydd Arbenigol i Ganolfan Oriau Dydd Brynnar Jones dros dro.

 

Gyda chytundeb yr Arweinydd, siaradodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Caple ar y mater hefyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.    Cymeradwyo'r pecyn cyllido fel sy'n cael ei amlinellu yn Adran 5 o'r adroddiad er mwyn ail-ddatblygu safle hen Gartref Gofal Preswyl Dan y Mynydd ar gyfer darparu cynllun tai â gofal ychwanegol.

 

2.    Cynnwys Cynllun Tai â Gofal Ychwanegol o fewn y Rhaglen Gyfalaf Dan y Mynydd rhan o Raglen Gyfalaf 3 Blynedd (Rhaglen Foderneiddio (Oedolion)).

 

3.    Adleoli'r Ganolfan Oriau Dydd Arbenigol i Bobl ag Awtistiaeth yng Nghartref Gofal Dan y Mynydd, Porth, i gyfleuster Canolfan Oriau Dydd Brynnar Jones, Gelli, a bod Gweithwyr Cymdeithasol a staff y Ganolfan Oriau Dydd yn parhau i ymgysylltu ag unigolion sy'n defnyddio'r Gwasanaeth Oriau Dydd a'u teuluoedd/cynhalwyr er mwyn asesu'u hanghenion a'u cefnogi nhw yn ystod y cynllun adleoli arfaethedig, ac ar ôl hynny, fel sydd wedi'i nodi ym mharagraff 5.7 o'r adroddiad.

 

4.    Derbyn adroddiadau diweddaru pellach ar gynnydd cyflwyno Cynllun Tai Gofal Ychwanegol y Cyngor a'r cynllun datblygu, ac ar gostau'r cynlluniau unigol a'r gofynion ariannu i'w hystyried a'u cymeradwyo.