Agenda, Penderfyniadau a Chofnodion drafft

Agenda, Penderfyniadau a Chofnodion drafft

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Hannah Williams - Uned Busnes y Cyngor  01443 424062

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

58.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

 

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant personol canlynol eu gwneud:-

·         Cyhoeddodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion a'r Iaith Gymraeg, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Hopkins, y buddiant canlynol yn Eitem 4 ar yr Agenda - Ymatebion i'r Ymgynghoriad ar yr Ardoll Seilwaith Cymunedol (CIL): 'Rydw i'n Aelod o Gyngor Cymuned Llanharan';

·         Cyhoeddodd yr Aelod o’r Cabinet ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Lewis y buddiant canlynol yn Eitem 8 yr Agenda - Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif - Diweddariad ar y Cynigion i wella Darpariaeth Addysg yng Nghwm Cynon: 'Fi yw Cadeirydd y Llywodraethwyr yn YGG Abercynon, y cyfeirir ato yn yr adroddiad',

·         Cyhoeddodd yr Aelod o’r Cabinet ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Lewis y buddiant canlynol yn Eitem 14 ar yr Agenda - Cynllun Rheoli Asedau Corfforaethol 2018/23: Gwybodaeth interim: 'Cyfeirir at Neuadd Gymdeithasol Abercynon yn yr adroddiad ac rydw i'n aelod o'r Pwyllgor'; a

·         Cyhoeddodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol L. Walker y buddiant canlynol yn Eitem 8 ar yr Agenda - Adolygiad o Ddarpariaeth Ysgolion Arbennig yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf: 'Rydw i ar y Corff Llywodraethu Ysgol T? Coch'.

 

·          

 

59.

Cofnodion pdf icon PDF 328 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 14 Ionawr 2021 a 28 Ionawr 2021 yn rhai cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNODD y Cabinet gymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 14 Ionawr 2021 a 28 Ionawr 2021 yn rhai cywir.

 

60.

Cytundeb Dinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd - Pum Mlynedd yn Ddiweddarach pdf icon PDF 205 KB

Derbyn adroddiad y Prif Weithredwr, sy'n rhoi diweddariad am gynnydd Cyd-gabinet  Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ('CCR') (y 'Cabinet Rhanbarthol' - cyd-bwyllgor), i oruchwylio twf economaidd y Rhanbarth ac i gyflawni'r ymrwymiadau a nodir ym Margen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Weithredwr ddiweddariad am gynnydd Cyd-gabinet  Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ('CCR') (y 'Cabinet Rhanbarthol' - cyd-bwyllgor), gan drafod goruchwylio twf economaidd y Rhanbarth a chyflawni'r ymrwymiadau a nodir ym Margen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr wrth y Cabinet, o dan delerau ac amodau Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, fod y rhaglen ariannu yn destun Adolygiad Porth bob pum mlynedd. Esboniwyd bod yr Adolygiad Porth yn asesiad dan arweiniad Llywodraeth y DU, gyda chefnogaeth Panel Gwerthuso Cenedlaethol annibynnol, a gomisiynodd SQW i gynnal gwerthusiad o effeithiau'r buddsoddiadau a wnaed hyd yma gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd. Tynnwyd sylw'r Aelodau at yr atodiadau i'r adroddiad, lle manylwyd ar ddogfennau'r Adolygiad Annibynnol a'r Hunanwerthusiad.

 

Atgoffodd y Prif Weithredwr yr Aelodau fod y buddsoddiad CCR gwerth £1.2 biliwn yn cynnwys dwy elfen wahanol:

·         £734 miliwn – cynllun METRO;

·         £495 miliwn - Cronfa Fuddsoddi Ehangach y Cabinet Rhanbarthol.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr wrth y Cabinet fod llawer o waith Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd y tu allan i gwmpas yr Awdurdod Lleol, a olygai y gallai ychwanegu gwerth. Hysbyswyd yr aelodau o'r buddsoddiadau canlynol yn sgil Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, a oedd o fudd i RCT:

·         Buddsoddiad 'Zipworld', gwerth £4 miliwn;

·         Cyfnewidfa'r Porth;

·         Adleoliad Trafnidiaeth Cymru i Bontypridd; a

·         Gwelliannau i linellau'r Cwm.

 

Diolchodd yr Arweinydd i'r Prif Weithredwr am y diweddariad ac roedd yn falch o nodi lefel y buddsoddiad o safbwynt RhCT a'r Cymoedd. Soniodd yr Arweinydd am y buddsoddiad o £2.5 miliwn yng Nghyfnewidfa'r Porth, y rhaglen i raddedigion, 'Zipworld' - y mae disgwyl iddo gael ei ehangu, a thrafodaethau mewn perthynas â gosod pwyntiau gwefru Cerbydau Trydan. Ychwanegodd yr Arweinydd fod y 10 Awdurdod Lleol, trwy'r Fargen Ddinesig, wedi dod ynghyd i roi llais cryfach i Dde Ddwyrain Cymru, a oedd wedi caniatáu iddyn nhw lobïo Llywodraeth y DU a Chymru ar gyfleoedd cyllido amrywiol.

 

Adleisiodd y Dirprwy Arweinydd sylwadau’r Arweinydd am y buddsoddiad cadarnhaol yn RhCT a’r Cymoedd, trwy Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, a nododd fod y rhyng-gysylltedd yn y Rhanbarth wedi creu rhagor o gyfleoedd a dewis. Dywedodd y Dirprwy Arweinydd fod yr adroddiad wedi cael ei ystyried gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu y Cyngor yn ei gyfarfod ar 23 Chwefror 2021 a lleisiodd ei chefnogaeth i'r adroddiad.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Nodi'r wybodaeth a ddarparwyd yn yr adroddiad, a'r cynnydd a wnaed gan Gyd-Gabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd mewn perthynas â'r ymrwymiadau y cytunwyd arnynt a nodir ym Margen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd;

2.    Adolygu a thrafod yr adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth y DU ar hynt Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd  i lywio'r Adolygiad Porth sydd ar ddod o Gronfa Buddsoddi Ehangach Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd dros y pum mlynedd diwethaf, fel y nodir yn Atodiad A; a

3.    Gofyn i ganlyniadau, casgliad ac argymhellion yr Adolygiad Porth sydd i ddod, sydd i'w cwblhau cyn 31 Mawrth 2021, gael eu cyflwyno i'r Cabinet yn y dyfodol, cyn gynted ag y daw'n ddogfen gyhoeddus.

 

 

61.

Ymatebion i Ymgynghoriad yr Ardoll Seilwaith Cymunedol pdf icon PDF 138 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr, Materion Ffyniant a Datblygu, sy'n rhoi diweddariad i'r Cabinet am yr ymatebion sy'n deillio o ymgynghoriad yr Ardoll Seilwaith Cymunedol mewn perthynas â Rhestr Rheoliad 123 y Cyngor.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr, Materion Ffyniant a Datblygu, ddiweddariad i'r Cabinet am yr ymatebion sy'n deillio o ymgynghoriad yr Ardoll Seilwaith Cymunedol mewn perthynas â Rhestr Rheoliad 123 y Cyngor.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr fod y Cabinet, ar 17 Tachwedd 2020, wedi cymeradwyo'r Rhestr Rheoliad 123 wedi'i diweddaru, i'w chyhoeddi ar wefan y Cyngor am gyfnod o 28 diwrnod.  Dechreuodd y cyfnod ymgynghori ddydd Mawrth 24 Tachwedd 2020 a daeth i ben ddydd Llun 21 Rhagfyr 2020.

 

Cafodd yr Aelodau wybod am yr ymatebion canlynol o ganlyniad i'r ymgynghoriad:

·         Argymhellodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol Mark Adams y dylid ychwanegu estyniad Ffordd Liniaru Rhondda Fach i Maerdy at Restr Rheoliad 123; a

·         Argymhellodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol Joel James ac Aelodau Cyngor Cymuned Llanilltud Faerdref fod gofyniad i wella/cynyddu gallu addysgol yn Ysgol Gynradd Maesybryn, Llanilltud Faerdref.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr fod swyddogion wedi ystyried yr argymhellion uchod mewn ymgynghoriad ag Addysg a Phriffyrdd ac wedi cyflwyno'r materion i'r Cabinet i'w trafod.

 

O ran yr argymhelliad am Estyniad Ffordd Liniaru Rhondda Fach, atgoffodd y Cyfarwyddwr yr Aelodau mai pwrpas Rhestr CIL 123 oedd lliniaru effaith twf a datblygiad sylweddol, yn enwedig yr hyn sy'n gysylltiedig â'r Cynllun Datblygu Lleol. O ran Ffordd Liniaru Rhondda Fach, dywedodd y Cyfarwyddwr fod nifer o gynlluniau trafnidiaeth eisoes wedi'u cynnwys yn Rhestr 123, gyda'r nod penodol o liniaru effaith datblygiadau. Eglurodd y Cyfarwyddwr nad oedd y cynllun yn cyd-fynd ag egwyddorion Rhestr Rheoliad 123 ac felly, cynigiodd beidio ag ychwanegu'r cynllun at Restr Rheoliad 123, ond yn hytrach, ystyried llwybrau cyllido eraill.

 

O ran argymhelliad Ysgol Gynradd Maesybryn, dywedodd y Cyfarwyddwr nad oedd unrhyw bwysau brys ar yr ysgol, a fyddai’n gwarantu ei chynnwys yn Rhestr Rheoliad 123 ar hyn o bryd, ond awgrymodd fod darpariaeth addysg, sy’n cyd-fynd â thwf, yn cael ei hystyried yn rhan adolygiad y Cynllun Datblygu Lleol.

 

Diolchodd yr Arweinydd i'r Cyfarwyddwr am y diweddariad a nododd, o ran argymhelliad Ysgol Gynradd Maesybryn, y gellid edrych ar hyn yn ddiweddarach pe bai'r sefyllfa'n newid. Gan gyfeirio at argymhelliad Estyniad Ffordd Liniaru Rhondda Fach, cydnabu’r Arweinydd nad oedd hyn briodol ar gyfer y rhestr ar hyn o bryd ond pwysleisiodd ei fod yn parhau i fod yn flaenoriaeth gan y Cyngor. Esboniodd yr Arweinydd fod maint y buddsoddiad yr oedd ei angen ar gyfer hyd llawn y ffordd yn fwy na £150 miliwn, ac o'r herwydd, byddai angen ystyried llwybrau cyllido eraill.

 

Cymeradwyodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu, a Thai y sylwadau a wnaed gan yr Arweinydd a dywedodd fod ymestyn Ffordd Liniaru Rhondda Fach yn bwnc trafod gyda thrigolion yr ardal, gan y byddai mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus yn cael ei wella'n fawr. Cydnabu'r Aelod o'r Cabinet na fyddai'r estyniad yn briodol ar gyfer y rhestr gyfredol ac y byddai'r gwaith yn cael ei lywio'n well trwy'r Cynllun Datblygu Lleol.

 

Adleisiodd y Dirprwy Arweinydd y sylwadau blaenorol ac ychwanegodd fod y Cyfarwyddwr wedi mynychu cyfarfodydd y Pwyllgor Cyd-gysylltu â'r Gymuned yn aml i atgoffa'r Cynghorau Cymuned o'r rhwymedigaethau i gyflwyno  ...  view the full Cofnodion text for item 61.

62.

Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 – Defnydd o'r Ddeddf yn 2019-20 gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Pholisi Gorfodi Corfforaethol y Cyngor pdf icon PDF 131 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Cyfreithiol, sy'n galluogi Aelodau i adolygu defnydd y Cyngor o Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 (fel y'i diwygiwyd) ('RIPA') am y cyfnod o 1 Ebrill 2019 i 31 Rhagfyr 2020, gan gynnwys ymateb i ymchwiliad Swyddfa'r Comisiynydd Pwerau Ymchwilio (IPCO); a'r Ddogfen Polisi a Gweithdrefnau Corfforaethol newydd ar Gaffael Data Cyfathrebu o dan Ddeddf Pwerau Ymchwilio 2016 (IPA).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol yr wybodaeth flynyddol ddiweddaraf i'r Aelodau am ddefnydd y Cyngor o Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 (fel y'i diwygiwyd) yn ystod y cyfnod 1 Ebrill 2019 tan 31 Rhagfyr 2020. Esboniodd y Cyfarwyddwr fod Swyddfa'r Comisiynydd Pwerau Archwilio (IPCO) wedi newid ei gyfnod dychwelyd blynyddol i gyd-fynd â'r flwyddyn galendr; ac awgrymodd fod yr adroddiad ar ddefnydd y Cyngor o RIPA yn cael ei ddiwygio yn yr un modd i gyd-fynd â'r flwyddyn galendr.

 

Atgoffwyd yr Aelodau y gellir cyhoeddi awdurdodiadau gwyliadwriaeth dan gyfarwyddyd lle bo hynny'n angenrheidiol ac yn gymesur er mwyn atal neu ganfod trosedd, neu atal anhrefn, lle gellir cosbi o leiaf un o'r troseddau trwy uchafswm cyfnod o garchar o leiaf chwe mis neu ragor, neu os yw'n ymwneud â gwerthu alcohol neu dybaco/nicotin dan oed. Yn ystod y cyfnod 1 Ebrill 2019 - 31 Rhagfyr 2020, dywedodd y Cyfarwyddwr y cyhoeddwyd pedwar awdurdodiad mewn perthynas â gwyliadwriaeth dan gyfarwyddyd; roedd pob un ohonynt mewn perthynas â Thipio Sbwriel.  Yn ystod yr un cyfnod, ni chafwyd unrhyw awdurdodiadau ar gyfer defnyddio ffynonellau cudd-wybodaeth ddynol.

 

Parhaodd y Cyfarwyddwr i siarad am y gwaith cudd, nad yw'n dod o fewn y gofynion statudol ar gyfer RIPA. Dywedodd y Cyfarwyddwr fod y defnydd o dechnegau gorfodi cudd yn cael eu hasesu i sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni yn unol â gofynion Deddf Hawliau Dynol 1998. Dywedodd y Cyfarwyddwr wrth y Cabinet y bu cynnydd yn y broses fonitro safleoedd rhyngrwyd, yn enwedig o ganlyniad i bandemig Covid-19. Dysgodd yr Aelodau fod adolygiad o'r gweithrediadau a'r ymchwiliadau hyn yn dangos nad oedden nhw wedi arwain at effaith amhriodol ar hawliau dynol unigolyn ar unrhyw adeg.

 

Yna siaradodd y Cyfarwyddwr am archwiliad tair blynedd yr IPCO ar y defnydd priodol o RIPA yn Rhondda Cynon Taf, a gynhaliwyd o bell ar 7 Medi 2020. Roedd yn braf nodi bod yr adroddiad archwilio yn ategu'r defnydd a'r gweithdrefnau RIPA sydd ar waith yn yr Awdurdod Lleol.

 

Cyn gorffen, tynnodd y Cyfarwyddwr sylw'r Aelodau at Atodiad B yr adroddiad, a oedd yn manylu ar Bolisi Corfforaethol newydd y Cyngor ar gyfer Caffael Data Cyfathrebu, a gafodd ei ddrafftio o ganlyniad i ddyfodiad y Ddeddf Pwerau Ymchwilio.

 

Diolchodd y Dirprwy Arweinydd i'r Cyfarwyddwr am y diweddariad a rhoi sicrwydd i'r Aelodau bod y RIPA yn parhau i gael ei defnyddio mewn modd cyson a phriodol. Siaradodd y Dirprwy Arweinydd am y cyfeiriad at hyfforddiant yn y llythyr at y Prif Weithredwr a theimlai y byddai hyfforddiant yn fuddiol i'r holl Aelodau Etholedig yn y dyfodol agos.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Nodi cynnwys yr adroddiad.

2.    Cydnabod bod RIPA wedi ei defnyddio mewn modd priodol sy'n gyson â pholisïau'r Cyngor, yn ystod y cyfnod 1 Ebrill 2019 tan 31 Rhagfyr 2020;

3.    Cymeradwyo'r Ddogfen Polisi a Gweithdrefnau Corfforaethol wedi'i diweddaru ar Gaffael Data Cyfathrebu o dan Ddeddf Pwerau Ymchwilio 2016 (IPA) sydd ynghlwm yn Atodiad B i'r adroddiad; a

4.    Cymeradwyo newid yn y cyfnod adrodd i flwyddyn  ...  view the full Cofnodion text for item 62.

63.

Adroddiad Blynyddol y Cydwasanaeth Mabwysiadu Rhanbarthol 2019-2020 pdf icon PDF 110 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant sy'n cyflwyno Adroddiad Blynyddol y Cydwasanaeth Mabwysiadu Rhanbarthol 2019-2020.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant  Adroddiad Blynyddol y Cydwasanaeth Mabwysiadu Rhanbarthol 2019-2020 i'r Cabinet.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Cyfadran fod RhCT yn rhan o Gydwasanaeth Mabwysiadu’r Fro, y Cymoedd a Chaerdydd (VVC), y mwyaf o blith y pum cydweithrediad rhanbarthol, sy’n rhan o’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yng Nghymru (NAS).

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Cyfadran wrth y Cabinet fod yr adroddiad wedi bod yn destun craffu gan Fwrdd Rhianta Corfforaethol y Cyngor a'r Pwyllgor Craffu - Plant a Phobl Ifainc.

 

Yn ystod Blwyddyn y Cyngor 2019-20, dysgodd yr Aelodau fod y galw am fabwysiadwyr wedi lleihau rhywfaint yn RhCT, ond roedd hyn yn debygol o fod yn gysylltiedig â'r gwaith â ffocws a wnaed i leihau nifer y Plant sy'n Derbyn Gofal yn fwy cyffredinol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Cyfadran mai blaenoriaeth allweddol y cydweithrediad oedd cynyddu'r cyflenwad o fabwysiadwyr a phwysleisiodd bwysigrwydd gwaith recriwtio. Yn ystod y cyfnod, bu cynnydd o 35% yn nifer y mabwysiadwyr, sy'n galonogol, ond dywedodd y Cyfarwyddwr Cyfadran fod angen gwaith pellach i gynyddu'r niferoedd. At ei gilydd, roedd y Cyfarwyddwr Cyfadran o'r farn bod yr adroddiad yn tynnu sylw at ddarlun cadarnhaol a buddion y dull cydweithredol.

 

Diolchodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau i Blant i'r Cyfarwyddwr Cyfadran am yr adroddiad calonogol. Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet am y gwelliant a wnaed i'r gwaith 'Taith Bywyd', a oedd wedi cynyddu o 44% i 60%, ond nododd fod cryn dipyn i'w wneud eto i gyrraedd y targed o 84%.

 

Aeth yr Aelod o'r Cabinet ymlaen i siarad am y gwaith sylweddol a wnaed i gynyddu nifer y mabwysiadwyr yn y Rhanbarth, a oedd wedi arwain at gynnydd o 35%. Roedd yr Aelod o'r Cabinet yn falch o nodi'r cynnydd, ond nododd fod angen gwneud gwaith pellach i gynyddu'r niferoedd, yn enwedig yn dilyn pwysau'r pandemig Covid-19.

 

Adleisiodd yr Arweinydd sylwadau'r Aelod o'r Cabinet a manteisiodd ar y cyfle i ddiolch i staff am ddal ati i recriwtio rhagor o  fabwysiadwyr flwyddyn ar ôl blwyddyn. Siaradodd yr Arweinydd am y gostyngiad yn nifer yr atgyfeiriadau i'r gwasanaeth Plant sy'n Derbyn Gofal yn ystod y pandemig a chydnabu, wrth i'r plant ddechrau dychwelyd i'r ysgol, y gallai'r atgyfeiriadau gynyddu eto. Dywedodd yr Arweinydd fod trafodaethau yn cael eu cynnal gyda Llywodraeth Cymru mewn perthynas â rhoi cefnogaeth ychwanegol i Awdurdodau Lleol i ddarparu ar gyfer unrhyw bwysau ychwanegol wrth ddychwelyd i'r drefn arferol.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Nodi cynnwys yr adroddiad.

 

64.

Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif - Y Diweddaraf am Gynigion i wella darpariaeth Addysg yng Nghwm Cynon pdf icon PDF 158 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant, sy'n rhoi diweddariad i'r Cabinet am y prosiectau i wella addysg yng Nghwm Cynon, yn dilyn yr adroddiad a ddaeth gerbron y Cabinet ym mis Medi 2018.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant, adroddiad sy'n rhoi diweddariad i'r Cabinet am y prosiectau i wella addysg yng Nghwm Cynon, yn dilyn yr adroddiad a ddaeth gerbron y Cabinet ym mis Medi 2018. Dyma'r prosiectau dan sylw:

·         Y buddsoddiad mewn ysgol newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Hirwaun; a

·         Gwella darpariaeth addysg Gymraeg yng Nghwm Cynon.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr, yn dilyn yr adroddiad i'r Cabinet ym mis Medi 2018, y gwnaed buddsoddiad sylweddol yn natblygiad Ysgol Gynradd Hirwaun, gwerth cyfanswm o £10.2 miliwn, ar ôl i Lywodraeth Cymru gymeradwyo'r cyllid. Dywedodd y Cyfarwyddwr fod adeilad yr ysgol bellach wedi'i gwblhau a bod staff a disgyblion wedi symud i mewn ar ôl hanner tymor ym mis Tachwedd 2020.  Esboniwyd bod Cam 2 ar y gweill gyda dymchwel y bloc iau a bod y ddarpariaeth Dechrau'n Deg newydd ar y safle hefyd wedi'i chwblhau a'i hagor ym mis Ionawr 2021.

 

O ran y buddsoddiad yn YGG Aberdâr, dywedodd y Cyfarwyddwr fod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo cyllid gwerth cyfanswm o £4.5 miliwn ers hynny, gan gynnwys y cyllid i greu Meithrinfa newydd. Hysbyswyd yr Aelodau bod ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar hyn o bryd cyn cyflwyno cais cynllunio.

 

Aeth y Cyfarwyddwr ymlaen i siarad am y buddsoddiad yn Ysgol Gyfun Rhydywaun a'r cynlluniau i gynyddu'r capasiti. Dywedodd y Cyfarwyddwr fod cynlluniau wedi datblygu'n sylweddol a bod y cais cynllunio ar gyfer y prosiect wedi'i gyflwyno, a'r bwriad yw dechrau'r gwaith ar y safle ym mis Ebrill 2021. Dywedodd y Cyfarwyddwr mai cyfanswm y gost amcangyfrifedig a gyflwynwyd i'r Cabinet ym mis Medi 2018 oedd £ 10.2 miliwn ond yn dilyn datblygiad pellach, roedd cyfanswm costau'r prosiect ar gyfer y cynigion bellach yn £ 12.1 miliwn. Serch hynny, ychwanegodd y Cyfarwyddwr, yn dilyn newidiadau i'r pecyn cyllido, a olygai fod cyfradd ymyrraeth grant Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif wedi cynyddu o 50% i 65%, mewn gwirionedd roedd cyfraniad y Cyngor i'r buddsoddiad cyffredinol wedi gostwng o tua £5.1 miliwn i £4.2 miliwn.

 

Ymhellach, cyfeiriodd y Cyfarwyddwr at y buddsoddiad ychwanegol canlynol a wnaed trwy'r portffolio Addysg:

·         Buddsoddiad o fwy na £2 miliwn trwy Raglenni Cyfalaf a Moderneiddio Ysgolion y Cyngor, sydd wedi'u cyflawni'n llwyddiannus; a

·         Sicrhawyd £250k o Grant Cyfalaf Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru i ailagor Meithrinfa ar safle Ysgol Gynradd Gymraeg Abercynon. 

 

Ar ôl gorffen cyflwyniad y Cyfarwyddwr, cynigiodd y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol y diwygiad canlynol i argymhelliad 2.2 yr adroddiad, i'w drafod gan y Cabinet:

·         Nodi a chymeradwyo'r amrywiadau i gynigion Ysgol Gyfun Rhydywaun ers yr adroddiad diwethaf a chytuno i gynnig y dylid cyflwyno cyfraniad gofynnol y Cyngor trwy fenthyca darbodus i'r Cyngor (yn amodol ar gymeradwyaeth yr Achos Busnes Terfynol).

 

Diolchodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant i'r Cyfarwyddwr am yr adroddiad cadarnhaol ac roedd yn falch o gefnogi'r argymhellion gyda'r diwygiad. Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet fod yr adroddiad yn dangos ymrwymiad y Cyngor i fuddsoddi yn y portffolio Addysg a chynyddu darpariaeth Cyfrwng Cymraeg yn y Fwrdeistref yn  ...  view the full Cofnodion text for item 64.

65.

Adolygiad o Ddarpariaeth Ysgolion Arbennig yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf pdf icon PDF 220 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant, sy'n rhoi gwybodaeth i'r Cabinet am ymarfer casglu data a gynhaliwyd er mwyn hwyluso adolygiad manwl o ddarpariaeth ysgolion arbennig ledled y Fwrdeistref Sirol.

 

 

Cofnodion:

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant, sy'n rhoi gwybodaeth i'r Cabinet am ymarfer casglu data a gynhaliwyd er mwyn hwyluso adolygiad manwl o ddarpariaeth ysgolion arbennig ledled y Fwrdeistref Sirol. Ystyriodd yr adolygiad hefyd effaith Deddf Tribiwnlys Anghenion Dysgu Ychwanegol ac Addysg (2018) o safbwynt cenedlaethol a lleol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr mai pwrpas yr adroddiad oedd mynd i’r afael â’r galw am gapasiti ychwanegol mewn ysgolion arbennig yn Rhondda Cynon Taf i ddarparu ar gyfer y cynnydd yn nifer y disgyblion a chydnabod bod y dyletswyddau statudol a osodir ar y Cyngor i gyflawni rhwymedigaethau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru) (ALNET), a fydd yn cynyddu'r pwysau o ran capasiti yn y sector ysgolion arbennig.

 

Tynnwyd sylw aelodau at Adran 4 yr adroddiad, sef dadansoddiad manwl o'r galw cynyddol am lefydd ym mhob ysgol arbennig. Dangosodd y gymhariaeth ddata y bu cynnydd cyson yn nifer y dysgwyr, flwyddyn ar ôl blwyddyn ers 2016, yn Ysgol Hen Felin ac Ysgol T? Coch.

 

Nododd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant ei bod yn anodd rhagamcanu galw wrth edrych i'r dyfodol, ond derbyniodd fod y data yn dangos cynnydd cyson. Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet fod cyfyngiadau ar rai safleoedd ysgolion ac, o ystyried y gwaith o weithredu deddfwriaeth newydd, Deddf ALNET (2018), ym mis Medi 2021, roedd yn bwysig cynnal adolygiad o'r ddarpariaeth.

 

Gyda chytundeb y Cadeirydd, siaradodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol E. Webster am yr eitem yma.

 

Diolchodd yr Arweinydd i'r Cynghorydd Walker am ei sylwadau a PHENDERFYNODD Y CABINET:

1.    Nodi cynnwys yr adroddiad;

2.    Cydnabod y pwysau ar ein hysgolion arbennig a'r angen am adolygiad manwl o ddarpariaeth ysgolion arbennig ledled y Fwrdeistref Sirol;

3.    Cyflawni gwaith cwmpasu ychwanegol gan gynnwys astudiaethau dichonoldeb lle bo hynny'n briodol, i lywio cynigion posibl ar gyfer newid; a

4.    Derbyn adroddiad pellach yn cyflwyno canlyniad yr adolygiad, gan gynnwys argymhellion ar gyfer buddsoddiadau posibl yn y dyfodol.

 

 

66.

Diweddariad ar Weithredu Deddf Tribiwnlys Anghenion Dysgu Ychwanegol ac Addysg (2018) yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf pdf icon PDF 186 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant, sy'n rhoi diweddariad i'r Cabinet am weithrediad Deddf ALNET (Deddf Tribiwnlys Anghenion Dysgu Ychwanegol ac Addysg) (2018) a darparu gwybodaeth i'r Cabinet am oblygiadau'r ddeddfwriaeth newydd i'r Cyngor o safbwynt lleol.

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant, adroddiad sy'n rhoi diweddariad i'r Cabinet am weithrediad Deddf ALNET (Deddf Tribiwnlys Anghenion Dysgu Ychwanegol ac Addysg (2018)) a darparu gwybodaeth i'r Cabinet am oblygiadau'r ddeddfwriaeth newydd i'r Cyngor o safbwynt lleol.

 

Hysbyswyd y Cabinet am y newidiadau a gynlluniwyd yng Nghymru mewn perthynas â'r ddarpariaeth statudol sy'n ofynnol i ddiwallu anghenion dysgwyr ag Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) / Anghenion Dysgu Ychwanegol (ALN) wrth weithredu deddfwriaeth newydd, Deddf ALNET (2018), ym mis Medi 2021. Derbyniodd Deddf ALNET (Cymru) 2018 (Deddf 2018) Gydsyniad Brenhinol ym mis Ionawr 2018.

 

Rhoddodd y swyddog fanylion i'r Cabinet mewn perthynas â'r fframwaith statudol newydd, a'r un ar ddeg nod craidd yn y Ddeddf, a amlinellwyd yn Adran 4 yr adroddiad.

 

Esboniodd y swyddog fod yn rhaid i Gyngor Bwrdeistref Sirol RCT fod yn barod i weithredu'r system ADY newydd yn unol â'r amserlenni rhagnodedig o fis Medi 2021 ac argymhellodd y dylid gwneud gwaith ychwanegol i hwyluso adolygiad manwl o'r adnoddau ychwanegol y mae Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant y Sir, sicrhau bod RhCT yn gallu gweithredu gofynion statudol newydd Deddf ALNET yn llawn, a galluogi pob dysgwr ag ADY i gyflawni ei botensial trwy weithredu diwygio trawsnewidiol yn effeithiol.  

 

Diolchodd Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant i'r swyddog am y diweddariad a dywedodd  fod angen yr adolygiad i fynd i'r afael â'r galw am gapasiti ychwanegol i'r awdurdod lleol gyflawni ei ddyletswyddau statudol ehangach o dan y Ddeddf ALNET newydd, er mwyn sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn Rhondda Cynon Taf yn derbyn darpariaeth ADY o ansawdd uchel. Ychwanegodd yr Aelod o'r Cabinet ei bod hi'n edrych ymlaen at dderbyn canlyniad yr adolygiad ac ystyried y buddsoddiad posibl y gallai fod ei angen.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.      Nodi cynnwys yr adroddiad;

2.      Cynnal adolygiad i gwmpasu'r adnoddau ychwanegol sydd eu hangen i weithredu'r ddeddfwriaeth ADY newydd; a

3.      Derbyn adroddiad pellach yn cyflwyno canlyniad yr adolygiad, gan gynnwys argymhellion ar gyfer buddsoddiadau posibl yn y dyfodol.

 

 

67.

Polisi Ffioedd a Thaliadau'r Cyngor 2021/22 pdf icon PDF 163 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol, sy'n cyflwyno adolygiadau arfaethedig i ffioedd a thaliadau'r Cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol, 2021/22, (pob un i'w gweithredu o 1 Ebrill 2021 ymlaen neu cyn gynted ag y bo'n ymarferol wedi hynny).

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau, Cyflawni a Gwella, adroddiad i'r Aelodau sy'n amlinellu'r diwygiadau arfaethedig i lefelau ffioedd a thaliadau'r Cyngor ar gyfer 2021/21 (ar waith o Ebrill 2021 neu cyn gynted â phosibl wedyn), yn ogystal â rhoi gwybodaeth am y ffioedd a'r taliadau sydd eisoes wedi'u cymeradwyo y mae modd eu cynnwys yn y Strategaeth Gyllideb arfaethedig ar gyfer 2021/22.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod adolygiad y Cabinet o'r ffioedd a'r taliadau yn rhan o drefniadau cynllunio ariannol Tymor Canolig y Cyngor, a bod cynnig i roi cynnydd safonol o 1.7% ar waith o 1 Ebrill 2021, ac eithrio yn y meysydd gwahanol:

·         Hamdden am Oes - Dim cynnydd

·         Taliadau Meysydd Parcio - Dim cynnydd;

·         Ffïoedd chwarae yr haf a'r gaeaf (Clybiau Chwaraeon) - Dim cynnydd;

·         Pryd-ar-glud/Prydau Canolfannau Oriau Ddydd - 10c y pryd ac yna rhewi'r pris tan 2023

·         Prydau Ysgol - Dim Cynnydd (a'r pris wedi'i rewi tan Ebrill 2023)

·         Ffioedd Profedigaeth - Dim Cynnydd

·         Y Lido/Parc Treftadaeth Cwm Rhondda - Dim cynnydd

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod y lefelau cyllid a dderbyniwyd trwy'r Setliad Llywodraeth Leol wedi cael eu trafod; goblygiadau penderfyniadau a gymeradwywyd eisoes; Meysydd blaenoriaeth y Cynllun Corfforaethol; adborth a dderbyniwyd yn rhan o'r broses ymgynghori; a rhagamcanu lefel chwyddiant ar gyfer y dyfodol. Esboniwyd y byddai effaith y cynigion uchod yn lleihau'r incwm o £185k mewn blwyddyn lawn.

 

Diolchodd yr Arweinydd i'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth am y  diweddariad. Dywedodd yr Arweinydd fod y sefyllfa wrth edrych i'r dyfodol, o ran ffioedd a thaliadau, yn gadarnhaol ac yn falch o nodi bod yr ymgynghoriad a gynhaliwyd wedi dangos cefnogaeth eang i'r cynigion.

 

Aeth yr Arweinydd ymlaen i siarad am y peilot, a gymeradwywyd ym mis Tachwedd 2019, i gymhwyso ffi amlosgi is ar gyfer trefnwyr angladdau sy'n cynnig amlosgiad uniongyrchol yn Rhondda Cynon Taf. Esboniwyd bod y Cyngor wedi edrych yn sympathetig ar feysydd fel hyn, a oedd, yn anffodus, wedi codi o ganlyniad i bandemig Covid-19.

 

Roedd y Dirprwy Arweinydd yn falch o nodi'r gostyngiad parhaus arfaethedig o 25% i holl ffioedd profedigaeth y Cyngor a dynnir gan deuluoedd cyn-filwyr rhyfel ymadawedig a swyddogion y lluoedd arfog sy'n preswylio yn Rhondda Cynon Taf.

 

Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Amgylchedd, Hamdden a Threftadaeth am bwysigrwydd plant yn cyrchu'r cyfleusterau hamdden ar adeg pan mae'n ddiogel gwneud hynny a chwestiynodd effaith ariannol rhewi taliadau caeau 3G, yn unol â thaliadau caeau chwarae. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth pe bai'r Cabinet yn bwriadu rhewi taliadau caeau 3G, byddai'r gost flynyddol yn cyfateb i £2000.

 

Roedd Aelodau'r Cabinet yn gefnogol i'r gwelliant ac yn cydnabod bod y gost yn fach iawn o'i chymharu â phwysigrwydd i blant gael mynediad at gyfleusterau hamdden. Felly, PENDERFYNWYD:

1.    Cymeradwyo'r lefelau diwygiedig arfaethedig ar gyfer holl ffioedd a thaliadau'r Cyngor fel sydd wedi'u hamlinellu yn adran 5 o'r adroddiad ac sydd wedi'u nodi yn Atodiad 1, yn amodol ar y diwygiad yma;

·         Rhewi'r taliadau caeau 3G ar gyfer 2021/2022 (ar gost o £2k);

2.    Yn amodol ar gytuno ar gynigion ffioedd  ...  view the full Cofnodion text for item 67.

68.

Cyllideb Refeniw'r Cyngor ar gyfer 2021/22 pdf icon PDF 101 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol, sy'n cyflwyno'r cynigion sydd wedi bod yn destun ymgynghoriad ar gyfer ail gam yr ymgynghoriad o'r gyllideb, er mwyn i'r Cabinet drafod strategaeth gyllideb ddrafft y bydden nhw'n dymuno ei chyflwyno i'r Cyngor, a'i diwygio yn ôl yr angen.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol ganlyniadau ail gam yr ymgynghoriad ar y Gyllideb i'r Cabinet er mwyn i'r Aelodau ystyried a diwygio'r strategaeth gyllideb ddrafft yr hoffent ei hargymell i'r Cyngor yn y cyfarfod ar 10 Mawrth 2021.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr fod yr adborth wedi'i atodi i'r adroddiad a'i fod yn cynnwys adborth Pwyllgor Craffu - Cyllid a Chyflawniad y Cyngor a Fforwm Cyllideb yr Ysgol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr wrth y Cabinet fod yr adroddiad yn cynnwys:

·         Cynnydd arfaethedig yn y Dreth Gyngor o 2.65%, a fyddai'n cynyddu'r bwlch cyllideb sy'n weddill o £182,000;

·         Cyllideb Ysgolion sydd â chynnydd o £2.2 miliwn o £161.6 miliwn i £163.8 miliwn er mwyn cwmpasu yr holl bwysau chwyddiant a nifer y disgyblion yn llawn, gan gynnwys costau uwch Ardrethi Annomestig.

·         Cyflawni arbedion effeithlonrwydd o £4.6 miliwn;

·         Nodwyd nifer o feysydd ar gyfer adnoddau a buddsoddiad ychwanegol, gan gynnwys y canlynol:

Ø  Cynllun rhyddhad lleol - Ardrethi Annomestig  

Ø  Costau parcio

Ø  Newid yn yr Hinsawdd a Lleihau Carbon

Ø  Graddedigion    

Ø  Cefnogi Lles

Ø  Ffïoedd a chostau

Ø  Gwasanaethau Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd - Adnoddau Ychwanegol

Ø  Cymorth Atal Llifogydd

Ø  Carfan Torri Gordyfiant

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr, er mwyn mynd i'r afael â'r bwlch cyllidebol sy'n weddill, y cynigiwyd y dylid dyrannu £ 0.711 miliwn o'r gronfa Ariannu Drosiannol ar gyfer 2021/22, a oedd yn cynnwys penderfyniad y Cabinet i rewi taliadau caeau 3G ar gyfer 2021/22.

 

Diolchodd yr Arweinydd i'r Cyfarwyddwr a'r tîm ariannol am yr adroddiad cadarn gerbron y Cabinet.

 

Eglurodd yr Arweinydd fod y gefnogaeth arfaethedig o £50,000 i fusnesau yn ychwanegol at y gefnogaeth a ddarparwyd gan y Cyngor yn y flwyddyn flaenorol. Ar ben hynny, dywedodd yr Arweinydd fod y Cymorth Atal Llifogydd arfaethedig gwerth £50,000 yn ychwanegol at y refeniw ychwanegol o £0.5 miliwn a oedd wedi'i ymgorffori yn y gyllideb i ariannu timau Draenio parhaus ychwanegol a bod y Rhaglen Gyfalaf yn cynnwys £6-8 miliwn o ran y cynigion a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â gwaith lliniaru llifogydd.

 

O ran y cynnydd arfaethedig o 2.65% yn Nhreth y Cyngor, nododd yr Arweinydd, ei fod ymhlith yr isaf yng Nghymru a'i fod yn falch o nodi'r lefel uchel o gefnogaeth gan breswylwyr yn ystod yr ymgynghoriad.

 

O ran cyllid ar gyfer ysgolion, nododd yr Arweinydd fod y gyllideb arfaethedig yn amddiffyn pwysau ysgolion ond eglurodd fod angen buddsoddiad sylweddol mewn ysgolion o ran dal i fyny. Dywedodd yr Arweinydd y byddai Llywodraeth Cymru yn debygol o wneud dyraniad o fewn ei gyllideb, yn amodol ar gyhoeddi Setliad y DU.

 

Manteisiodd y Dirprwy Arweinydd ar y cyfle i ganmol y broses ymgynghori drylwyr a chynhwysfawr, gan gydnabod y dull digidol arloesol a gymerwyd oherwydd y cyfyngiadau. Nododd y Dirprwy Arweinydd fod y Cyngor wedi ymgysylltu â mwy na 1500 o drigolion trwy'r broses a bod y gefnogaeth i'r cynigion yn gadarnhaol ar y cyfan.

 

Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Corfforaethol hefyd yn hapus i gefnogi'r adroddiad ac roedd o'r farn  ...  view the full Cofnodion text for item 68.

69.

Rhaglen Gyfalaf y Cyngor 2021/22–2023/24 pdf icon PDF 271 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol, sy'n cyflwyno i'r Cabinet raglen gyfalaf dair blynedd arfaethedig ar gyfer 2021/22 hyd at 2023/24, a fydd yn cael ei chyflwyno i'r Cyngor i'w chymeradwyo, os yw'n dderbyniol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol, adroddiad sy'n cyflwyno i'r Cabinet raglen gyfalaf dair blynedd arfaethedig ar gyfer 2021/22 hyd at 2023/24, a fydd yn cael ei chyflwyno i'r Cyngor i'w chymeradwyo, os yw'n dderbyniol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr fod y rhaglen dair blynedd arfaethedig yn cynnwys:

·         Rhaglen graidd gwerth £42 miliwn;

·         Mwy na £12 miliwn i gefnogi Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif;

·         Grantiau penodol o bron i £13 miliwn; a

·         Dyrannu £27 miliwn i flaenoriaethau buddsoddi.

 

Diolchodd yr Arweinydd i'r Cyfarwyddwr am yr adroddiad a nododd fod y cynigion buddsoddi yn cyd-fynd yn agos â'r blaenoriaethau a amlinellwyd yng Nghynllun Corfforaethol y Cyngor.

 

Parhaodd yr Arweinydd a nododd y byddai'r Rhaglen Gyfalaf gyffredinol yn debygol o gynyddu'n sylweddol dros y misoedd nesaf oherwydd nifer o gynigion arfaethedig a gyflwynwyd gan y Cyngor i Lywodraeth Cymru.

 

Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Corfforaethol yr adroddiad a dywedodd fod y cynigion yn parhau â momentwm y buddsoddiad sylweddol parhaus ledled RCT gan y Cyngor.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    103 / 5000 Translation results Cynnig y rhaglen gyfalaf tair blynedd yn Atodiad A i'r Cyngor ar 10 Mawrth 2021 sy'n cynnwys:

·         Adolygiad a rhyddhau arfaethedig o gronfeydd wrth gefn wedi'u clustnodi fel sy'n cael eu manylu ym mharagraff 5.3 o'r adroddiad sydd ynghlwm;

·         Ailddyrannu adnoddau cyfalaf presennol fel y manylir ym mharagraffau 5.5 - 5.8 o'r adroddiad atodedig;

·         Blaenoriaethau buddsoddi arfaethedig fel sy'n cael eu manylu ym mharagraff 6.2 yr adroddiad atodedig;

·         Rhaglen gyfalaf graidd y Cyngor ;

·         Cyfanswm rhaglen gyfalaf y Cyngor, gan gynnwys cyllid ychwanegol sydd ddim yn gyllid craidd.

 

2.    Awdurdodi'r Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol i newid lefel Adnoddau'r Cyngor sy'n ofynnol i ariannu'r Rhaglen Gyfalaf Tair Blynedd Graidd fel y dangosir yn Atodiad 2 o ganlyniad i unrhyw newid i lefelau adnoddau cyfalaf y Cyngor a gyhoeddwyd yn y Setliad Llywodraeth Leol Terfynol.

 

70.

Trafod cadarnhau'r cynnig isod yn benderfyniad

“Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”

 

 

71.

Cynllun Rheoli Asedau Corfforaethol 2018/23: Gwybodaeth interim

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Eiddo'r Cyngor, sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cabinet am y cynnydd yn erbyn themâu allweddol y Cynllun Rheoli Asedau Corfforaethol 2018/23. 

 

Penderfyniad:

Following the consideration of the report of the Director, Corporate Estates  containing exempt information as defined in Paragraph 14 of Part 4 of Schedule 12A of the Local Government Act, 1972 (as amended), namely information relating to the financial affairs of any particular person (including the authority holding that information), it was AGREED:

1.    To note the content of the report; and

2.    To receive a further report from the Director of Corporate Estates following a full review of the Council’s built assets to ensure optimum use based upon our revised future service needs.

 

Cofnodion:

Yn dilyn trafod adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Eiddo'r Cyngor, sy'n cynnwys Gwybodaeth Eithriedig fel y diffinnir ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), sef gwybodaeth yngl?n â materion ariannol unigolyn penodol (gan gynnwys yr awdurdod sy'n dal yr wybodaeth honno), PENDERFYNWYD:

1.    Nodi cynnwys yr adroddiad;

2.    Derbyn adroddiad pellach gan Gyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor yn dilyn adolygiad llawn o asedau adeiledig y Cyngor i sicrhau'r defnydd gorau posibl ohonyn nhw ar sail ein hanghenion gwasanaeth diwygiedig ar gyfer y dyfodol.