Agenda a Chofnodion

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Hannah Williams - Uned Busnes y Cyngor  01443 424062

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

51.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

 

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud yngl?n â'r agenda:

·         Cyhoeddodd yr Aelod o’r Cabinet ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol fuddiant personol yn Eitem 4 yr agenda, Diweddariad Blynyddol Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 2020: 'Fi yw Cadeirydd y Llywodraethwyr yn YGG Abercynon, y cyfeirir ato yn yr adroddiad',

·         Cyhoeddodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Harries fuddiant personol yn Eitem 5 yr agenda, Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif - Cynigion i Wella Darpariaeth Addysg ar gyfer Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn-Y-Forwyn: 'Rwy'n gyn-ddisgybl yn Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn-Y-Forwyn, mae gen i aelodau o'r teulu sy'n ddisgyblion yn yr ysgol, ac rydw i'n Aelod o'r Corff Llywodraethu.';

·         Cyhoeddodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Morgans fuddiant personol yn Eitem 5 yr agenda, Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif - Cynigion i Wella Darpariaeth Addysg ar gyfer Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn-Y-Forwyn: 'Mae gen i berthynas agos a buddiant personol yn Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn-Y-Forwyn.'

 

 

52.

Cofnodion pdf icon PDF 364 KB

Derbyn cofnodion o gyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr 2020.

 

Cofnodion:

PENDERFYNODD y Cabinet gymeradwyo cofnodion y cyfarfod, a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr 2020, yn rhai cywir.

 

 

53.

Argymhellion Grŵp Llywio'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd pdf icon PDF 156 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, sy'n cyflwyno argymhellion Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd, a wnaeth gyfarfod ar 16 Tachwedd 2020, er mwyn trafod adroddiadau ar Asedau Natur, Cynlluniau Datblygu Strategol a Lleol a Chynhyrchu Ynni.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu argymhellion Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd, a wnaeth gyfarfod ar 16 Tachwedd 2020, er mwyn trafod adroddiad ar Asedau Natur, Cynlluniau Datblygu Strategol a Lleol a Materion Cynhyrchu Ynni.

 

Tynnodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth sylw'r Aelodau at Adran 4 yr adroddiad, a oedd yn manylu ar y sylwadau a'r argymhellion dilynol a wnaed gan y Gr?p Llywio mewn perthynas â phob un o'r adroddiadau a drafodwyd.

 

Roedd yr Aelod o’r Cabinet ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol a Chadeirydd Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd yn falch o nodi bod y Gr?p Llywio wedi parhau i weithio'n dda, gan gydnabod mai newid yn yr hinsawdd oedd her yr oes. Tynnodd yr Aelod o'r Cabinet sylw at argymhelliad allweddol y Gr?p, sef i'r Cyngor ystyried y tir mwyaf addas ar gyfer adfer mawnog a dal a thrin d?r a sut, ynghyd â defnyddio mannau gwyrdd a phwyntiau gwefru cerbydau trydanol, y mae modd i hyn gysylltu â Chynllun Datblygu Lleol y Cyngor.

 

Aeth yr Aelod o'r Cabinet ymlaen i siarad am Gynhyrchu Ynni a Phrosiect Ffynnon Taf, sydd ar y gweill ar hyn o bryd. Ar ôl ei gwblhau, bydd yn defnyddio ynni geo-thermol/tanddaearol adnewyddadwy gan ddefnyddio d?r o'r Afon Taf. Diolchodd yr Aelod o'r Cabinet i Gyfarwyddwr Materion Eiddo'r Cyngor am y gwaith a wnaed i ddatblygu prosiectau o'r fath ac edrychodd ymlaen at gael diweddariadau pellach yn y dyfodol.

 

Adleisiodd yr Arweinydd ddiolch yr Aelod o'r Cabinet i'r Cyfarwyddwr a nododd fod llu o waith wedi'i wneud dros nifer o flynyddoedd o ran cynhyrchu ynni, yn ogystal â gwaith Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Nodi cynnwys yr adroddiad a drafodwyd gan Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd ar 16 Tachwedd 2020 (Atodiad 1 yr adroddiad);

2.    Nodi adborth a thrafodaeth y Gr?p Llywio;

3.    Nodi argymhelliad Gr?p Llywio'r Cabinet  mewn perthynas â'r adroddiad Asedau Natur:

                      I.        Bod Cyfarwyddwr Materion Eiddo'r Cyngor ac Ecolegydd y Cyngor yn cynnal adolygiad o'r tir sy'n eiddo cyhoeddus, i nodi'r safleoedd hynny sydd fwyaf addas ar gyfer adfer mawnog a'r goblygiadau cost; gydag adroddiad wedi'i gyflwyno yn ôl i'r Gr?p Llywio ei drafod.

 

 

54.

Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 2020 pdf icon PDF 278 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant, sy'n rhoi diweddariad ar y camau sydd wedi'u hamlinellu yng Nghynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gyfer y cyfnod rhwng 2017 a 2020, a gafodd ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ar 15 Mawrth 2018. Roedd disgwyl mai'r diweddariad blynyddol blaenorol ar gyfer 2019 i 2020 fyddai'r un olaf ar gyfer y cynllun yma. Serch hynny, oherwydd pandemig Covid-19, mae'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yma wedi'i ymestyn i gwmpasu'r cyfnod rhwng 2020 a 2021.

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant, ddiweddariad ar y camau sydd wedi'u hamlinellu yng Nghynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gyfer y cyfnod rhwng 2017 a 2020, a gafodd ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ar 15 Mawrth 2018. Nodwyd y disgwyliad mai'r diweddariad blynyddol blaenorol ar gyfer 2019 i 2020 fyddai'r un olaf ar gyfer y cynllun yma. Serch hynny, oherwydd pandemig Covid-19, mae'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yma wedi'i ymestyn i gwmpasu'r cyfnod rhwng 2020 a 2021.

 

Clywodd yr Aelodau fod Llywodraeth Cymru wedi newid rhai o'r rheoliadau sy'n ymwneud â'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, gan gynnwys Rheoliadau Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019 a Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) (Diwygiad) (Coronafeirws) 2020. Amlygwyd y ddau newid allweddol yma mewn perthynas â'r rheoliadau i'r Aelodau:

·      Ymestyn hyd cylch gweithredu'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg o'i dair blynedd gyfredol i ddeng mlynedd (2022 i 2032);  

·      Disodli'r ddyletswydd gyfredol sydd ar Awdurdodau Lleol i gynllunio darpariaeth eu haddysg gyfrwng Gymraeg yn seiliedig ar alw ar yr amod bod Awdurdodau Lleol yn cyflawni targedau sydd wedi'u gosod gan LlC. Nod y targedau yma yw cynyddu canran y disgyblion sydd yn eu blwyddyn gyntaf o addysg gyfrwng Gymraeg dros gyfnod y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yma.

Tynnodd y Cyfarwyddwr sylw'r Aelodau at y tabl yn Adran 5.2 yr adroddiad, a oedd yn amlinellu cyfanswm canran y dysgwyr statudol oed ysgol sy'n cyrchu eu dysgu trwy Ysgolion Cynradd, Canol ac Uwchradd cyfrwng Cymraeg, a nododd mai CBSRhCT oedd â'r ganran uchaf o blith y pum ardal Awdurdod Lleol o dan Gonsortiwm Canolbarth y De am y tair blynedd academaidd flaenorol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr fod gan y mwyafrif o ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg ym Mwrdeistref Sirol RhCT leoedd dros ben ar hyn o bryd, 28.1% mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg. Aeth y Cyfarwyddwr ymlaen i siarad am y pwysau capasiti bach yn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg, gan nodi bod y camau a gymerwyd i fynd i'r afael â'r materion wedi'u hamlinellu yn Adran 5.7 yr adroddiad. Enghraifft o hyn oedd ymrwymiad y Cyngor i fuddsoddi £3.69 miliwn yn Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr er mwyn darparu 48 lle arall. Yn ogystal, mae CBSRhCT wedi buddsoddi $ miliwn arall i gynyddu ansawdd ac argaeledd darpariaeth Gymraeg yn y blynyddoedd cynnar ar safleoedd ysgolion cynradd.

 

Diolchodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant i'r Cyfarwyddwr am yr Adroddiad Blynyddol, a heriwyd gan y Pwyllgor Craffu – Plant a Phobl Ifainc ar  27 Ionawr 2021. Roedd yr Aelod o'r Cabinet yn falch o nodi'r nifer fawr o fuddsoddiadau a wnaed gan y Cyngor ac yn benodol, yr ymrwymiad a wnaed i ddarpariaeth gyfrwng Cymraeg y n y blynyddoedd cynnar, sy'n galluogi plant i symud ymlaen i ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg.

 

Roedd yr Aelod o'r Cabinet o'r farn bod yr adroddiad yn dangos yn glir ymrwymiad yr Awdurdod Lleol i gefnogi'r camau a amlinellir o fewn y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg ac  ...  view the full Cofnodion text for item 54.

55.

Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif - Cynigion i Wella'r Ddarpariaeth Addysg yn Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn pdf icon PDF 148 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant, sy'n ceisio cymeradwyaeth yr Aelodau o ran dechrau'r broses ymgynghori statudol berthnasol a gofynnol mewn perthynas â'r cynnig i gynnal newidiadau a reoleiddir i Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn, trwy drosglwyddo'r ysgol i adeilad newydd ar safle newydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Dros Dro ar faterion Ysgolion yr 21ain Ganrif a Materion Trawsnewid yr adroddiad, sy'n ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i gychwyn yr ymgynghoriad statudol perthnasol a gofynnol ar gyfer y cynnig i gynnal newid rheoledig yn Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn-y-Forwyn (“YGG Llyn-y-Forwyn”), a hynny drwy symud yr ysgol i adeilad newydd ar safle newydd.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod YGG Llyn-y-Forwyn yn un o adeiladau tlotaf y Cyngor, gyda graddfa cyflwr adeilad 'D' ac ôl-gostau cynnal a chadw o fwy na £1.01 miliwn. Esboniwyd bod yr adeiladddim yn hygyrch ac, o ganlyniad i hynny, ddim yn cydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010. At hynny, roedd y cyfleoedd ar gyfer chwarae yn yr awyr agored yn gyfyngedig, heb unrhyw fannau gwyrdd allanol ar gael a'r holl fannau chwarae caled yn cael eu heffeithio gan raddfa naturiol y tir. 

 

Er mwyn mynd i’r afael â’r materion, cynigiodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y dylid creu ysgol gynradd Gymraeg newydd ar safle newydd, gyda buddsoddiad oddeutu £8.5 miliwn er mwyn gwella ac ehangu'r cyfleusterau. Byddai'r buddsoddiad yn cynnwys:

·         amgylcheddau dysgu modern a hyblyg i'r holl ddisgyblion, neuadd/ardal giniawa, ardal adnoddau dysgu amlbwrpas;

·         cyfleusterau mewnol ac allanol hygyrch at ddefnydd y gymuned ehangach;

·         mannau awyr agored gwell i gefnogi'r ystod lawn o weithgareddau'r cwricwlwm, gan gynnwys ystafell ddosbarth awyr agored ac ardal 'ysgolion coedwig';

·         dulliau rheoli traffig gwell, gan gynnwys man gollwng disgyblion sy'n teithio ar fysiau i'r safle a maes parcio i'r staff.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth na fyddai dalgylch YGG Llyn-y-Forwyn yn cael ei newid ac y byddai'r cynnig yn creu capasiti cyfrwng Cymraeg ychwanegol yn ardal Cwm Rhondda Fach yn Rhondda Cynon Taf. Ymhellach, eglurwyd bod 65% o'r disgyblion sy'n mynychu YGG Llyn-y-Forwyn yn defnyddio Cludiant Cartref i'r Ysgol, a bod diffyg cyfleusterau gollwng disgyblion ar y safle presennol, gyda cherbydau'n defnyddio'r strydoedd cyfagos ar gyfer gollwng a chasglu ar ddechrau a diwedd y diwrnod ysgol. Clywodd yr Aelodau y byddai gan safle newydd yr ysgol gyfleusterau gollwng a chasglu pwrpasol ar y safle, gan wneud y broses yn fwy diogel, yn llai aflonyddgar i'r gymuned, ac yn fwy hylaw i staff yr ysgol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, yn dilyn arfarniad safle o 11 ardal, pob un wedi'i leoli yn Rhondda Fach, y cynigiwyd codi adeilad newydd yr ysgol ar ochr ogleddol Crib-y-ddôl, Glynrhedynog, CF43 4AD, ardal a gaiff ei hadnabod yn lleol fel hen Ffatri Chubb.

 

I gloi, dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, pe bai'r Cabinet yn cytuno, y byddai ymgynghoriad mewn perthynas â'r mater yn rhedeg o 1 Mawrth 2021 i 30 Ebrill 2021.

 

Canmolodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant yr adroddiad, gan nodi, pe bai'n cael ei gymeradwyo, y byddai un o'r adeiladau tlotaf yn y portffolio addysg yn cael ei ddisodli gan amgylchedd dysgu newydd a modern ar gyfer disgyblion, sydd â chapasiti ychwanegol i ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg.

 

Gyda chaniatâd y Cadeirydd, siaradodd Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol S Morgans a J Harries am yr eitem yma.

 

Nododd yr Arweinydd sylwadau a  ...  view the full Cofnodion text for item 55.

56.

Cyllideb Refeniw'r Cyngor ar gyfer 2020/21 pdf icon PDF 112 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol, sy'n rhoi gwybodaeth i'r Cabinet am setliad llywodraeth leol 2021/2022 a chanlyniadau cam 1 o ymgynghoriad y gyllideb, i gynorthwyo gyda'i drafodaethau wrth lunio'r strategaeth cyllideb refeniw ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22, y bydd yn ei hargymell i'r Cyngor i'w chymeradwyo.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol wybodaeth i'r Cabinet am setliad llywodraeth leol 2021/2022 a chanlyniadau cam 1 o ymgynghoriad y gyllideb, i gynorthwyo gyda'i drafodaethau wrth lunio'r strategaeth cyllideb refeniw ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22, y bydd yn ei hargymell i'r Cyngor i'w chymeradwyo.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr y Cabinet at y papur trafod a baratowyd gan Uwch Arweinwyr y Cyngor mewn ymateb i setliad llywodraeth leol 2021/22, a oedd ynghlwm yn Atodiad A i'r adroddiad.

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr mai cyfanswm cyfredol Balansau Cronfa Gyffredinol y Cyngor ar hyn o bryd yw £8.709 miliwn a dywedodd ei fod yn parhau i fod o'r farn y dylai'r Cyngor ddal o leiaf £10 miliwn fel Balansau'r Gronfa Gyffredinol. Nododd y Cyfarwyddwr fod y cronfeydd wrth gefn wedi'u defnyddio i helpu preswylwyr a busnesau ar ôl Storm Dennis, sef y pwrpas priodol, yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf; ac roedd yn fodlon bod cynlluniau wedi'u rhoi ar waith i ailgyflenwi Cronfeydd Wrth Gefn y Gronfa Gyffredinol i'r lefel isafswm dros gyfnod ein Cynllun Ariannol Tymor Canolig (£0.5 miliwn y flwyddyn am y 3 blynedd nesaf). Aeth y Cyfarwyddwr ymlaen i siarad am Gronfa Ariannu Pontio'r Cyngor, sy'n £4.330 miliwn ar hyn o bryd, ac sydd, ers blynyddoedd lawer, wedi'i ddefnyddio'n synhwyrol fel rhan o'r strategaeth gyllideb gytbwys.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr y Cabinet at Adran 3 yr adroddiad a rhoi gwybod i'r Aelodau am bwyntiau allweddol Setliad Llywodraeth Leol 2021/22 Dros Dro, a gyhoeddwyd ar 22 Rhagfyr 2020.

 

O ran gosod lefel Treth y Cyngor, soniodd y Cyfarwyddwr am dargedu cyllid digonol tuag at ddarparu gwasanaethau allweddol ac, ar yr un pryd, sicrhau bod swm Treth y Cyngor a godir y flwyddyn nesaf yn rhesymol ac y gellir ei chyfiawnhau i breswylwyr. Nododd yr Aelodau mai'r cynnig gwreiddiol a gafodd ei fodelu oedd cynyddu Treth y Cyngor yn 2020/21 o 2.85%, ond cynigiwyd y dylid cynyddu Treth y Cyngor o 2.65% yn lle hynny. Byddai hyn yn cynyddu'r bwlch cyllidebol sy'n weddill o £182,000.

 

O ran y Gyllideb Ysgolion, cynigiodd y Cyfarwyddwr gynnydd o £2.2 miliwn o £161.6 miliwn i £163.8 miliwn er mwyn cwmpasu yr holl bwysau chwyddiant a nifer y disgyblion yn llawn, gan gynnwys costau uwch Ardrethi Annomestig. 

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr fanylion y cynigion a canlynol y manylir arnynt yn Adran 9 yr adroddiad, a fyddai'n ceisio amddiffyn gwasanaethau rheng flaen a blaenoriaethu neu ailddyrannu adnoddau i feysydd blaenoriaeth:

·         Cynllun rhyddhad lleol - Ardrethi Annomestig  

·         Costau parcio

·         Newid yn yr Hinsawdd a Lleihau Carbon

·         Graddedigion    

·         Cefnogi lles.

·         Ffïoedd a chostau

·         Gwasanaethau Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd - Adnoddau Ychwanegol

·         Cymorth Atal Llifogydd

·         Carfan Torri Gordyfiant

 

Aeth y Cyfarwyddwr ymlaen i roi gwybod i'r Cabinet am adborth o Gam 1 y broses ymgynghori, a oedd yn ceisio barn y Pwyllgor Craffu - Cyllid a Chyflawniad, y Fforwm Cyllideb Ysgolion, preswylwyr a rhanddeiliaid. I gloi, dywedodd wrth y Cabinet, yn dilyn cymeradwyo'r cynigion ger eu bron, byddai Cam 2 yr ymgynghoriad yn cychwyn ar unwaith. Byddai'r Strategaeth Gyllideb ddrafft yn cael ei chyflwyno  ...  view the full Cofnodion text for item 56.

57.

Cynllun Dirprwyo'r Arweinydd - 3A

Derbyn Cynllun Dirprwyo diwygiedig yr Arweinydd yn dilyn newidiadau diweddar i'r Uwch Garfan Arwain.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD Cynllun Dirprwyo diwygiedig yr Arweinydd yn dilyn newidiadau diweddar i Garfan yr Uwch Arweinwyr.