Agenda a Chofnodion

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Hannah Williams - Uned Busnes y Cyngor  01443 424062

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

45.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

 

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.

 

 

46.

Cofnodion pdf icon PDF 355 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 3 Rhagfyr 2020.

 

Cofnodion:

PENDERFYNODD y Cabinet gymeradwyo cofnodion y cyfarfod, a gynhaliwyd ar 3 Rhagfyr 2020, yn rhai cywir.

 

 

47.

Y Diweddaraf mewn perthynas â Chyfrifiad 2021 pdf icon PDF 128 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, sy'n rhannu'r diweddariad cyntaf mewn perthynas â'r trefniadau cynllunio ar gyfer Cyfrifiad 2021 a'r gofynion sydd wedi'u gosod ar yr Awdurdod Lleol o ran gweithio mewn partneriaeth â'r Swyddfa Ystadegau Gwladol a'i chynorthwyo.

 

Cofnodion:

 

Darparodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ddiweddariad cyntaf mewn perthynas â'r trefniadau cynllunio ar gyfer Cyfrifiad 2021 a'r gofynion sydd wedi'u gosod ar yr Awdurdod Lleol o ran gweithio mewn partneriaeth â'r Swyddfa Ystadegau Gwladol a'i chynorthwyo.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wrth y Cabinet y byddai'r Cyfrifiad yn defnyddio dull 'digidol yn gyntaf'. Roedd yr Aelodau'n gyfarwydd â hyn yn dilyn ymgysylltiadau blaenorol o ganlyniad i'r amgylchiadau cyfredol gyda Covid-19. Nodwyd y byddai'n hanfodol i'r Cyngor weithio gyda thrigolion i sicrhau bod y broses mor hygyrch a chynhwysol â phosibl.

 

Fel bod modd edrych ar dueddiadau tymor hir, tra hefyd yn adlewyrchu'r gymdeithas newidiol rydyn ni'n yn byw ynddi heddiw, clywodd yr Aelodau am y tri maes gwybodaeth ychwanegol canlynol, a fydd yn cael eu cynnwys yng Nghyfrifiad 2021:

·         profiad blaenorol o weithio yn Lluoedd Arfog Y du

·         hunaniaeth rhywedd

·         cyfeiriadedd rhywiol

 

Yn ogystal â hynny, eglurwyd y byddai'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn darparu cymorth i ysgolion o ran codi ymwybyddiaeth o'r Cyfrifiad.

 

Diolchodd y Dirprwy Arweinydd i'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth am yr adroddiad a nododd fod gwybodaeth y Cyfrifiad yn hanfodol bwysig wrth helpu'r Cyngor gyda'i waith cynllunio. Roedd y Dirprwy Arweinydd yn arbennig o falch o nodi bod cwestiwn am y Lluoedd Arfog wedi'i gynnwys, ac eglurodd nad oedd gan unrhyw Gyngor yng Nghymru'r wybodaeth briodol o ran cyn-filwyr ar hyn o bryd.

 

Nododd y Dirprwy Arweinydd yr heriau sydd ynghlwm â dull digidol yn ystod y cyfyngiadau cyfredol, ond roedd yn hyderus y byddai’r Cyngor yn darparu cefnogaeth i’w breswylwyr er mwyn sicrhau bod y Cyfrifiad yn hygyrch.

 

PENDERFYNODDy Cabinet:

1.    Bod y Cyngor yn darparu cefnogaeth i'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer proses Cyfrifiad 2021;

2.    Y bydd y gefnogaeth, fel yn y gorffennol, yn cael ei chydlynu gan Reolwyr Cyswllt Cyfrifiad y Cyngor gyda chymorth adrannau eraill lle bo hynny wedi'i nodi;

3.    Aros am ddiweddariadau pellach yn ystod y cyfnod sy'n arwain at Gyfrifiad 2021 a chrynodeb o'r data ar ôl y Cyfrifiad yn gynnar yn 2022.

 

 

48.

Adroddiad Blynyddol 2019–20 y Bwrdd Rhianta Corfforaethol pdf icon PDF 127 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu sy'n cyflwyno Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Rhianta Corfforaethol ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2019-20 i'r Cabinet.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu  Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Rhianta Corfforaethol ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2019-20 i'r Aelodau.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Cabinet at Adran 5 yr adroddiad ac esboniodd, er gwaethaf yr amgylchiadau gyda Covid-19 a nifer o gyfarfodydd a ganslwyd, fod y Bwrdd Rhianta Corfforaethol wedi trafod ystod o adroddiadau yn ystod Blwyddyn y Cyngor ac wedi nodi ei feysydd ffocws allweddol ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2020-2021.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod Cadeirydd y Bwrdd Rhianta Corfforaethol, sef yr Aelod Cabinet cyfrifol, wedi cymryd rhan yng nghyfarfod y Pwyllgor Craffu - Plant a Phobl Ifanc ar 13 Ionawr 2021 i ateb unrhyw gwestiynau oedd gan yr Aelodau mewn perthynas â'r Adroddiad Blynyddol.

 

Esboniodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau i Blant fod y Bwrdd Rhianta Corfforaethol yn cynnwys Aelodau Etholedig trawsbleidiol a swyddogion, sy'n cwrdd yn rheolaidd fel ffrindiau beirniadol, i gefnogi, herio a cheisio sicrhau'r canlyniadau gorau posibl ar gyfer plant a phobl ifainc RhCT. Nododd yr Aelod o'r Cabinet fod cynnydd yn nifer y plant sy'n derbyn gofal, ar lefel leol a chenedlaethol, ond nododd fod y Cyngor yn dal i fod yn ymrwymedig i sicrhau bod plant a phobl ifainc Rhondda Cynon Taf yn ddiogel rhag niwed ac yn cael y gofal a'r gefnogaeth y maen nhw'n ei haeddu, waeth beth fo'u niferoedd.

 

Manteisiodd Aelod y Cabinet ar y cyfle i ddiolch i swyddogion ac Aelodau'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol am eu gwaith yn ystod y flwyddyn, ac ychwanegodd fod yr adroddiad wedi'i groesawu gan y Pwyllgor Craffu - Plant a Phobl Ifainc yn ei gyfarfod ar 13 Ionawr 2021.

 

PENDERFYNODDy Cabinet:

1.    Rhoi sylwadau ar yr Adroddiad Blynyddol fel sy'n briodol.

 

49.

Adroddiad Blynyddol Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru ar gyfer 2019-2020 pdf icon PDF 112 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant sy'n cyflwyno Adroddiad Blynyddol 2019-2020 y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau i Blant Adroddiad Blynyddol Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2019-2020 i'r Cabinet.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol ar gyfer Cymru (NAS) wedi'i lansio ym mis Tachwedd 2014, gan ddod â phob awdurdod lleol yng Nghymru ynghyd er mwyn cydweithio'n unigryw i ddarparu gwasanaethau mabwysiadu.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wrth y Cabinet y bu gostyngiad yn y galw o fewn yr Awdurdod Lleol yn ystod y flwyddyn ond dywedodd fod y galw am fabwysiadwyr wedi cynyddu yn ystod dechrau'r flwyddyn 2020-2021. O ganlyniad i hyn, esboniodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod sicrhau cyflenwad addas o fabwysiadwyr yn destun ffocws wrth edrych i'r dyfodol, a hynny ar lefel ranbarthol a chenedlaethol.

 

Diolchodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau i Blant i'r swyddog am yr adroddiad, gan gydnabod y bu llai o alw am fabwysiadwyr yn ystod y flwyddyn. Serch hynny, nododd fod hynny'n debygol o fod o ganlyniad i gamau a gymerwyd er mwyn atal plat rhag cael eu derbyn i'r system ofal. Adleisiodd yr Aelod o'r Cabinet bwysigrwydd cynyddu nifer y mabwysiadwyr yn y dyfodol, a hysbysodd y Cabinet, er gwaethaf yr amgylchiadau gyda Covid-19, fod y broses fabwysiadu wedi parhau yn ôl yr arfer drwyddi draw.

 

Cyn gorffen, nododd yr Aelod o'r Cabinet y gwelliannau a wnaed i'r Gwaith Taith Bywyd yn ystod y flwyddyn, sy'n hanfodol ar gyfer y bobl ifainc.

 

PENDERFYNODDy Cabinet:

1.    Nodi cynnwys yr adroddiad;

 

50.

Y Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau (BES) - Galw ar bob Cyngor i ymuno â Chynllun BES 2 pdf icon PDF 172 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Cyfadran Ffyniant, Datblygu a Gwasanaethau Rheng Flaen, sy'n pennu'r cyd-destun ehangach, cefndir a'r rhesymau dros sefydlu'r Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau (BES) ac sy'n ceisio cytundeb yr Awdurdod yma i gofrestru ar gyfer cynllun BES2.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau'r Rheng Flaen, yr adroddiad i'r Cabinet, a nododd y cyd-destun ehangach, cefndir y Cynllun Brys (BES) a'r rhesymau drosto, cyn gofyn i'r awdurdod gytuno i ymuno â'r Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau 2.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth am yr effaith niweidiol a gafodd y pandemig Covid-19 ar wasanaethau bysiau. Esboniodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod y mesurau cadw pellter cymdeithasol wedi lleihau nifer y teithwyr yn sylweddol ac felly roedd bysiau yn aml yn rhedeg ar golled ariannol.

 

Clywodd yr Aelodau fod trefniadau ffyrlo wedi cefnogi'r gyrwyr hynny nad oeddent yn gweithio ar hyn o bryd, ond roeddent yn pwysleisio'r angen am gymorth ychwanegol i gynnal rhwydwaith o wasanaethau yn ystod argyfwng Covid-19. O ganlyniad i hyn, roedd Llywodraeth Cymru, ar y cyd â Trafnidiaeth Cymru, wedi gofyn i Awdurdodau Lleol gytuno i egwyddorion cynllun BES 2, sy'n adeiladu ar becynnau cyllid blaenorol a gyhoeddwyd yn gynharach yn 2020, er mwyn diogelu'r gwasanaethau.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Cabinet at Atodiad 2 yr adroddiad ac esboniodd fod cytundeb BES 2 yn ceisio rhoi rhagor o reolaeth dros y gwasanaethau i sicrhau eu bod nhw'n fwy effeithlon ac yn cyd-fynd â'r rhwydwaith o wasanaethau rheilffordd yn yr ardal yn well.

 

Clywodd yr Aelodau mai Cyngor Sir Fynwy oedd yr awdurdod arweiniol ar gyfer De Ddwyrain Cymru, ac roedd sicrwydd y byddai Cyngor Taf Rhondda Cynon yn sicrhau bod cytundeb ar waith gyda Chyngor Sir Fynwy i sicrhau bod modd diwallu ei anghenion penodol.

 

Cydnabu’r Arweinydd y gwaith enfawr a wnaed gan swyddogion a manteisiodd ar y cyfle i ddiolch iddyn nhw. Dywedodd yr Arweinydd nad oes gan wasanaethau bysiau ffrwd incwm reolaidd oherwydd y cwymp mewn teithwyr ac na fyddai'r gwasanaeth, yn gynaliadwy o dan yr amgylchiadau presennol, heb y cyllid yma.

 

Cytunodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau'r Amgylchedd, Hamdden a Thai sylwadau’r Arweinydd a diolchodd i’r swyddogion am eu hymroddiad parhaus trwy gydol y pandemig.

 

PENDERFYNODDy Cabinet:

1.    I egwyddorion cytundeb BES 2 (Atodiad 2) i sicrhau cefnogaeth ariannol (amodol) i'r sector bysiau a sefydlu perthynas â Chyngor Sir Fynwy, fel llofnodwr ac awdurdod arweiniol De Ddwyrain Cymru, a hynny er mwyn sicrhau bod y cyllid yn bodloni blaenoriaethau'r awdurdod hwn ac yn cael ei gyflawni ar ei ran;

2.    Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Cyfadran - Datblygu Ffyniant a Gwasanaethau Rheng Flaen i drafod a chytuno ar unrhyw newidiadau pellach i'r cytundeb a allai fod yn ofynnol yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet; a

3.    Galw am adroddiad pellach ar gynigion diwygio bysiau yn ymwneud â rheoli gwasanaethau bysiau yng Nghymru yn y dyfodol.