Agenda a Chofnodion

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Hannah Williams - Uned Busnes y Cyngor  01443 424062

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

39.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

 

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.

 

40.

Cofnodion pdf icon PDF 393 KB

Cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 17 Tachwedd 2020 yn gofnod cywir.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.

 

41.

Rhaglen Waith Y Cabinet pdf icon PDF 118 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am y rhestr arfaethedig o faterion y mae angen i'r Cabinet eu hystyried yn ystod Blwyddyn y Cyngor 2020–21.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu raglen waith ddrafft ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2020-21 i'r aelodau, a oedd yn rhestru'r materion y mae angen i'r Cabinet eu hystyried. 

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth am y sefyllfa bresennol, gan nodi bod angen am fwy o hyblygrwydd mewn perthynas â´r rhaglen.

 

Cafodd yr Aelodau eu cyfeirio at Atodiad 1 yr adroddiad a dywedwyd wrthyn nhw bod y rhaglen yn ddogfen fyw fel bod modd ychwanegu neu ddileu adroddiadau yn ystod y flwyddyn.

 

Nododd y Dirprwy Arweinydd fod defnyddio'r rhaglen yn helpu i gadw'r broses gwneud penderfyniadau yn agored ac yn dryloyw o fewn y Cyngor, yn ogystal â rhoi rhagor o gyfleoedd o ran camau Cyn-graffu.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Rhaglen Waith ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2020-2021 (gan addasu'n briodol ar ôl yr angen) a chael yr wybodaeth ddiweddaraf bob 3 mis.

 

42.

Gwaith Deuoli A4119 Heol Cwm Elái - Parc Busnes Llantrisant hyd at Gylchfan Coed-elái pdf icon PDF 148 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Cyfadran Materion Ffyniant, Datblygu a Gwasanaethau Rheng Flaen sy'n rhoi'r newyddion diweddaraf am ddatblygu a chynnal y cynllun trafnidiaeth sylweddol: Gwaith Deuoli A4119 Heol Cwm Elái - Parc Busnes Llantrisant hyd at Gylchfan Coed-elái a cheisio awdurdodiad dirprwyedig y Cabinet i'r Cyfarwyddwr Cyfadran Materion Ffyniant, Datblygu, a Gwasanaethau Rheng-flaen i gyflwyno cais cynllunio ar ran y Cyngor ar gyfer codi pont Teithio Llesol arfaethedig ar gylchfan Coed-elái

 

 

Cofnodion:

Darparodd y Cyfarwyddwr Cyfadran Materion Ffyniant, Datblygu a Gwasanaethau Rheng Flaen adroddiad i'r Cabinet sy'n rhoi'r newyddion diweddaraf am ddatblygu a chynnal y cynllun trafnidiaeth sylweddol: Gwaith Deuoli A4119 Heol Cwm Elái – Parc Busnes Llantrisant hyd at Gylchfan Coed-elái.

 

Clywodd yr Aelodau fod y gwaith cynllunio cychwynnol ar gyfer y prosiect bellach wedi'i gwblhau, ac mae cynlluniau manwl wrthi'n cael eu llunio. Mae disgwyl i'r gwaith yma ddod i ben yn ystod tymor y gwanwyn, 2021. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, fod y gylchfan sy'n gwasanaethu Pencadlys Gwasanaeth Tân De Cymru wedi'i chadw gan fod y gwaith a fyddai'n ofynnol ar gyfer creu mynedfa newydd yn gofyn am waith peirianneg helaeth, a fyddai wedi arwain at gost ychwanegol o £2 miliwn.

 

Cafodd manylion y dull partneriaeth cytunedig gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu pont droed/beiciau sy'n cydymffurfio â Theithio Llesol, yn hytrach na thanffordd ar gylchfan Coed-elái, eu trafod hefyd. Clywodd yr Aelodau y byddai'r bont yn gwasanaethu'r safle datblygu yn ogystal â darparu llwybr Teithio Llesol. Dywedwyd wrth yr Aelodau fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r Cyngor i fynd i'r afael â'r costau ychwanegol.

 

Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu, a Thai yr adroddiad a gwnaeth sylwadau am y buddion niferus y byddai pobl o'r Fwrdeistref Sirol yn eu profi o ganlyniad i'r prosiect, gan groesawu'r ychwanegiadau a amlinellwyd gan y Cyfarwyddwr Gwasanaeth.

 

Gwnaeth yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Corfforaethol sylwadau am y buddion i Gwm Rhondda a gofynnodd a fyddai'r gylchfan wrth gefn Pencadlys y Gwasanaeth Tân yn cysylltu â'r ffordd ddeuol, gan gyfeirio at y sefyllfa gyfredol o ran tagfeydd yn yr ardal. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth mai'r bwriad oedd cael cynllun ffordd ddeuol er mwyn atal unrhyw dagfeydd yn y dyfodol.

 

Siaradodd yr Arweinydd yn gadarnhaol am y prosiect, gan gyfeirio eto at y buddion y byddai'r prosiect yn eu creu i lawer o drigolion a chymudwyr i mewn ac allan o'r Fwrdeistref Sirol. Ychwanegodd y byddai'r prosiect yn cael ei ategu gan waith pellach gyda safle datblygu Coed-elái yn y dyfodol.

 

Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:

 

(i)            Nodi'r cynnydd a wnaed a chymeradwyo'r camau nesaf y rhaglen ar gyfer y prosiect.

 

(ii)          Rhoi awdurdodiad dirprwyedig i'r Cyfarwyddwr Cyfadran Materion Ffyniant, Datblygu, a Gwasanaethau Rheng-flaen i gyflwyno cais cynllunio ar ran y Cyngor ar gyfer codi pont Teithio Llesol arfaethedig ar gylchfan Coed-elái.

 

43.

Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru: Rheoliadau Drafft i Sefydlu Cydbwyllgorau Corfforedig pdf icon PDF 176 KB

Derbyn adroddiad ar y cyd y Prif Weithredwr, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a Chyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, sy'n rhannu'r newyddion diweddaraf ag Aelodau mewn perthynas â chyflwyno Cydbwyllgorau Corfforedig (CJCs) yn unol â Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) sydd ar hyn o bryd yn aros am Gydsyniad Brenhinol (rhagwelir y bydd hyn yn cael ei roi yn gynnar yn 2021); mae'r adroddiad yn gofyn i'r Cabinet drafod rheoliadau drafft a fyddai'n cael eu llunio o dan y ddeddfwriaeth honno mewn perthynas â sefydlu a gweithredu Cydbwyllgorau Corfforedig; ac yn ceisio adborth Aelodau ar yr ymgynghoriad a gychwynnwyd gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â'r rheoliadau drafft hynny.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol yr Aelodau at yr adroddiad ar y cyd ger eu bron gan nodi bod darpariaethau wedi'u cynnwys, drwy'r Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), i greu cyfrwng ar gyfer galluogi prif gynghorau i gyfathrebu ar lefel rhanbarthol yn gyson, a hynny gan ddefnyddio Cyd-Bwyllgorau Corfforaethol (CJCs). Clywodd yr Aelodau fod Llywodraeth Cymru yn cydnabod nad yw cydweithredu yn fater newydd i lywodraeth leol, gyda phrif gynghorau’n cydweithredu’n effeithiol mewn ystod o feysydd ers peth amser. Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr at y rôl sylweddol yr oedd Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi'i chwarae wrth sefydlu cydweithrediadau ar draws Cwm Taf Morgannwg a rhanbarth ehangach De Cymru.

 

Clywodd yr Aelodau mai nod y Cyd-bwyllgorau yma oedd sicrhau bod trefniadau rhanbarthol cyson, cydnerth ac atebol ar waith er mwyn cyflawni tair swyddogaeth bwysig: (i) cynllunio defnydd tir strategol (ii) cynllunio trafnidiaeth strategol a (iii) datblygu economaidd. Ychwanegwyd bod Llywodraeth Cymru o'r farn y byddai sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforaethol trwy reoliadau, yn darparu rhagor o gydlyniant a llai o gymhlethdod yn yr ymagwedd at drefniadau llywodraethu rhanbarthol wrth arfer y tair swyddogaeth a gynigiwyd.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr drosolwg byr i'r Aelodau o swyddogaethau allweddol Cyd-bwyllgor Corfforaethol gan gynnwys aelodaeth, sefydlu, hawliau pleidleisio, Aelodau cyfetholedig, materion staffio ac adnoddau, a chraffu. Clywodd yr Aelodau y byddai cyllid cychwynnol yn cael ei ddarparu ac y byddai angen cynnal cyfarfod agoriadol y Cyd-bwyllgor Corfforaethol erbyn Medi 2021.

 

Cyn cloi, dywedodd y Cyfarwyddwr fod y Rheoliadau Drafft sy'n llunio Cyd-bwyllgorau Corfforaethol yn destun Ymgynghoriad ar hyn o bryd, a dywedodd fod Aelodau'r Pwyllgor wedi trafod y rheoliadau drafft yng nghyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar 9 Rhagfyr 2020, ac y byddai adborth o'r cyfarfod hwnnw'n rhan o'r ymateb cyffredinol i'r ymgynghoriad.

 

Ar yr adeg hon y cyfarfod galwodd yr Arweinydd ar Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Adams, fel Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a aeth ymlaen i roi trosolwg i'r Cabinet o sylwadau'r Pwyllgor Craffu mewn perthynas â'r rheoliadau drafft.

 

Diolchodd y Dirprwy Arweinydd i'r Pwyllgor Craffu am ei adborth ac adleisio rhai o'r pryderon a godwyd. Nododd y Dirprwy Arweinydd y byddai angen disgresiwn sylweddol o fewn Awdurdodau Lleol rhanbarthol wrth drafod trefniadau llywodraethu ac ymarferoldeb yn rhan o Gyd-bwyllgorau Corfforaethol. Cyfeiriodd yr Aelod eto at bryderon mewn perthynas ag aelodau cyfetholedig a'r goblygiadau y byddai hyn yn eu cael ar ddemocratiaeth; yr amserlenni uchelgeisiol a nodwyd gyda dyddiad cychwyn Medi 2021 a'r diffyg trefniadau craffu a amlinellwyd yn y rheoliadau drafft. Ychwanegodd fod hyn yn hanfodol ar gyfer unrhyw atebolrwydd.

 

Dywedodd yr Arweinydd ei fod yn hapus mewn egwyddor â'r cysyniad o Gyd-bwyllgorau Corfforaethol a siaradodd am rai pryderon posibl gyda mandadu swyddogaethau a arferir gan Gyd-bwyllgorau Corfforaethol. Er mwyn i CJCs fod yn llwyddiannus, dywedodd fod angen iddyn nhw gael eu llywio gan Lywodraeth Leol.

 

Cytunodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu, a Thai fod angen i Aelodau Etholedig lywio'r agenda mewn perthynas â Cyd-bwyllgorau Corfforaethol a chododd bryderon hefyd mewn perthynas  ...  view the full Cofnodion text for item 43.

44.

Adolygiad o Ymateb y Cyngor i Storm Dennis pdf icon PDF 4 MB

Derbyn adroddiad y Prif Weithredwr, sy'n darparu trosolwg o ymateb y Cyngor i Storm Dennis ac yn nodi cyfres o argymhellion i'w hystyried gan y Cabinet sy'n gwella ymateb tymor byr a thymor hir y Cyngor i ddigwyddiadau tywydd eithafol, yn ogystal â chyfyngu ar effaith llifogydd ar y cymunedau hynny sydd fwyaf mewn perygl.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Weithredwr drosolwg manwl i'r Aelodau o ymateb y Cyngor i Storm Dennis, un o blith pedair storm fawr i daro Cymru ar ddechrau 2020, a arweiniodd at lifogydd mewn 1,070 o aelwydydd yn RhCT. Nododd y Prif Weithredwr gyfres o argymhellion i'w hystyried gan y Cabinet sy'n gwella ymateb tymor byr a thymor hir y Cyngor i ddigwyddiadau tywydd eithafol, yn ogystal â chyfyngu ar effaith llifogydd ar y cymunedau hynny sydd fwyaf mewn perygl.

 

Gwnaeth y Prif Weithredwr sylwadau am ddigwyddiad tywydd eithafol Storm Dennis, a ddigwyddodd ar ôl cyfres o ddigwyddiadau eraill. Cyfeiriodd hefyd at dopograffeg y Fwrdeistref Sirol, a oedd hefyd yn ffactor a wnaeth gyfrannu i'r digwyddiadau a ddatblygodd a'r effaith ddinistriol a gafodd y storm ar gymunedau lleol ledled y Fwrdeistref Sirol. Soniodd y Prif Weithredwr am aelwydydd a busnesau a fu dan dd?r, y tirlithriad sylweddol yn ardal Tylorstown a'r difrod a achoswyd i asedau seilwaith priffyrdd, systemau draenio, ac adeiladau'r Cyngor, fel Lido Cenedlaethol Cymru.

 

Rhoddwyd trosolwg i'r Aelodau o'r gwaith a wnaed gan y Cyngor i baratoi ar gyfer y Storm, y gwaith a wnaed yn ystod y storm, a'r hyn a wnaed ar ôl hynny.

 

Diolchodd yr Arweinydd i'r Prif Weithredwr am ei adroddiad manwl a diolchodd hefyd i'r Aelodau am eu cyflwyniadau, sydd ynghlwm yn Atodiad 3 yr adroddiad, gan nodi bod dau gyflwyniad hwyr hefyd wedi'u derbyn ers cyhoeddi'r adroddiad. Bydd y rhain yn cael eu dosbarthu i Aelodau'r Cabinet er gwybodaeth. Diolchodd yr Arweinydd hefyd am y gwaith a'r sylwadau a ddarparwyd gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu hyd yma, a'r themâu penodol sy'n dod i'r amlwg.

 

Gwnaeth yr Arweinydd sylwadau am yr argymhellion yn yr adroddiad a fyddai'n gofyn am gyllid sylweddol, a siaradodd hefyd am gost yr iawndal hyd yn hyn sy'n fwy na £80 miliwn. Clywodd yr Aelodau am lefel y buddsoddiad a nifer y prosiectau a gyflwynwyd eisoes gan y Cyngor, yr ymarferion mapio sydd eisoes ar y gweill a'r angen i gynnal arolygon unigol i sicrhau bod pethau'n cael eu gwneud yn gywir a bod seilwaith, fel cylfatiau, yn dal i fod yn addas at y diben. Soniodd yr Arweinydd am drafodaethau gyda Chyfoeth Naturiol Cymru a'r mesurau ataliol y mae angen eu cryfhau, gan roi sylw i 'ystafell reoli argyfwng' a fyddai'n monitro dyfeisiau llifogydd ac yn cynnwys llinell ffôn annibynnol, a'r wybodaeth ychwanegol y byddai hyn yn ei darparu pe bai'r fath sefyllfa'n codi eto. Gwnaeth yr Arweinydd sylwadau am yr angen i wneud eiddo yn fwy gwydn ac ychwanegodd fod cadernid y systemau sydd ar waith gan y Cyngor wedi gwella ymhellach yn dilyn y digwyddiad. Diolchodd i'r holl staff a'r cymunedau a oedd wedi cyfrannu at yr ymdrechion, cyn, yn ystod ac ar ôl Storm Dennis. Gorffennodd yr Arweinydd ei sylwadau trwy ofyn am gyflwyno adroddiad pellach ar sefyllfa'r Cyngor mewn perthynas â Storm Dennis i'r Cabinet neu'r Cyngor yn y Flwyddyn Newydd.

 

Siaradodd y Dirprwy Arweinydd am yr ymateb eithriadol a welwyd cyn,  ...  view the full Cofnodion text for item 44.