Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Hannah Williams - Uned Busnes y Cyngor  01443 424062

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Gynghorwyr, yn unol â gofynion Cod Ymddygiad y Cyngor.

 

Nodwch:

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.

 

 

2.

Cofnodion pdf icon PDF 352 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 28 Gorffennaf 2020 yn rhai cywir.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Gorffennaf 2020 yn rhai cywir.

 

 

3.

Cynllun Dirprwyo'r Arweinydd

Derbyn Cynllun Dirprwyo'r Arweinydd ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2020, yn dilyn y diwygiadau a gafodd eu hadrodd yn ystod Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor.

 

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau Gynllun Dirprwyo'r Arweinydd ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2020-2021, yn dilyn cyflwyniad yn ystod Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor.

 

4.

Rhaglen Waith y Cabinet 2020-2021 pdf icon PDF 118 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am y rhestr arfaethedig o faterion y mae angen i'r Cabinet eu hystyried yn ystod Blwyddyn y Cyngor 2020–21.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu raglen waith ddrafft ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2020-2021 i'r aelodau, a oedd yn rhestru'r materion y mae angen i'r Cabinet eu hystyried.  

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth am yr amgylchiadau cyfredol, gan fynegi bod angen mwy o hyblygrwydd o ran y rhaglen yma.

 

Cafodd yr Aelodau eu cyfeirio at Atodiad 1 yr adroddiad a dywedwyd wrthyn nhw bod y rhaglen yn ddogfen fyw fel bod modd ychwanegu neu ddileu adroddiadau yn ystod y flwyddyn.

 

Nododd y Dirprwy Arweinydd fod defnyddio'r rhaglen yn helpu i gadw'r broses gwneud penderfyniadau yn agored ac yn dryloyw o fewn y Cyngor, yn ogystal â rhoi rhagor o gyfleoedd o ran gwaith cyn y cam craffu.

 

PENDERFYNWYD:

1.    Cymeradwyo'r Rhaglen Waith ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2020-2021 (gan addasu yn ôl yr angen) a chael yr wybodaeth ddiweddaraf bob 3 mis.

 

5.

Rhaglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif - Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM) Partneriaeth Addysg Gymraeg Ysgolion yr 21ain Ganrif - Cytundeb Partneriaeth Strategol (SPA) pdf icon PDF 208 KB

Derbyn adroddiad y Prif Weithredwr, sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cabinet am elfen ariannu'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM) ar gyfer rhaglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhannodd Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant y newyddion diweddaraf mewn perthynas ag elfen ariannol Model Buddsoddi Cydfuddiannol Rhaglen Colegau ac Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru â'r Cabinet yn ogystal â cheisio cymeradwyaeth gan y Cabinet er mwyn cychwyn Cytundeb Partneriaeth Strategol gyda Phartneriaeth Addysg Cymru (WEPCo) i hwyluso gwaith darparu addysg a chyfleusterau yn y gymuned. Roedd y Cyfarwyddwr hefyd wedi ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i benodi Cyfarwyddwr Gwasanaeth Dros Dro ar gyfer Ysgolion yr 21ain Ganrif a materion Trawsnewid a/neu Gyfarwyddwr Eiddo Corfforaethol i fod yn  'Gynrychiolydd Cyfranogwyr' yn rhan o'r Bwrdd Partneriaeth Strategol.

 

Gofynnodd y Cyfarwyddwr i'r Aelodau nodi y byddai cymeradwyo cychwyn Cytundeb Prosiect ar gyfer unrhyw Brosiectau Braenaru yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet unwaith eto yn y dyfodol a bod cytuno i gychwyn Cytundeb Partneriaeth Strategol ddim yn golygu bod y Cyngor wedi ymrwymo i gychwyn trefniadau cytundebol mewn perthynas ag unrhyw brosiectau. 

 

Diolchodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant y Cyfarwyddwr am yr adroddiad cymhleth a chynhwysfawr. Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet am yr angen i barhau gyda'r agenda moderneiddio ysgolion ac felly, yr angen i fanteisio ar gyllid refeniw yn rhan o'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol a chychwyn Cytundeb Partneriaeth Strategol gyda Phartneriaeth Addysg Cymru. Pwysleisiodd yr Aelod o'r Cabinet bod y Model Buddsoddi Cydfuddiannol yn wahanol ac yn fwy manwl na'r model Menter Cyllid Preifat a nododd y byddai'r Awdurdod Lleol yn parhau i berchen ar y fenter. O ran penodi 'Cynrychiolydd Cyfranogwyr' i fod yn rhan o'r Bwrdd Partneriaeth Strategol, roedd yr Aelod o'r Cabinet yn fodlon gyda'r argymhellion ac roedd o'r farn y byddai'n ddefnyddiol i'r ddau swyddog fynychu cyfarfodydd, gan ddibynnu ar yr agenda, oherwydd yr arbenigedd sydd gyda nhw.

 

Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Corfforaethol o blaid y cynigion i barhau i wella cyfleusterau ysgolion a chytunodd y byddai Aelodau'r Bwrdd Partneriaeth Strategol yn elwa o arbenigedd y ddau swyddog. Holodd yr Aelod o'r Cabinet a fyddai'n bosibl i'r Cyngor gyflwyno cais tendro i gyflawni rhywfaint o waith cynnal a chadw a all godi. 

 

Adleisiodd yr Arweinydd y sylwadau gan yr Aelod o'r Cabinet mewn perthynas â'r Cyngor yn cyflawni rhywfaint o'r gwaith a'r refeniw os oedd yn bosibl.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Nodi deilliant Cam y Cynigydd a Ffefrir y Weithdrefn Caffael Cystadleuol yn rhan o'r Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 sydd wedi'i nodi yn yr adroddiad;

2.    Bod yn rhan o weithredu a chyflawni'r Cytundeb Partneriaeth Strategol gyda Phartneriaeth Addysg Cymru ym Medi 2020 i hwyluso darpariaeth ystod o wasanaethau seilwaith a darparu cyfleusterau addysg a chymunedol;

3.    Cymeradwyo'r Cytundeb Partneriaeth Strategol yn Atodiad A o'r adroddiad ac fel sydd wedi'i nodi ym mharagraff 4.6 i 4.16 ac Atodiad 1 o'r adroddiad;

4.    Nodi y bydd y Cytundeb Partneriaeth Strategol yn cael ei gyflawni fel gweithred a'i ardystio'n unol ag Erthygl 14.05, Rhan 2 o Gyfansoddiad y Cyngor;

5.    Penodi Andrea Richards, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Ysgolion yr 21ain Ganrif a Thrawsnewid Dros Dro a/neu Dave Powell, Cyfarwyddwr Eiddo Corfforaethol yn  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Rhaglen Gyfalaf y Cyngor 2020/21 pdf icon PDF 118 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol, sy'n rhoi manylion cam 2 y rhaglenni cyfalaf atodol arfaethedig ar gyfer Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant a Gwasanaethau'r Priffyrdd, Trafnidiaeth a Chynlluniau Strategol i'r Cabinet.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol yr adroddiad, a geisiodd darparu manylion a cheisio cymeradwyaeth ar gyfer cam 2 y rhaglenni cyfalaf atodol ar gyfer Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant a Phrosiectau'r Priffyrdd, Trafnidiaeth, a Chynlluniau Strategol.

 

Cafodd Aelodau wybod mai cyfanswm cynlluniau cam 2 oedd £2.8miliwn ar gyfer Priffyrdd a £3.1miliwn ar gyfer Addysg.

 

Siaradodd yr Arweinydd o blaid yr argymhellion a dymunodd nodi ei ddiolch i garfanau'r Priffyrdd ac Eiddo'r Cyngor am y gwaith maen nhw'n ei wneud, o ran cynnal ysgolion a chyflawni cynlluniau'r priffyrdd.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Cymeradwyo cynlluniau cam 2 fel sydd wedi'u nodi yn yr atodiadau perthnasol;

2.    Trosglwyddo unrhyw gynlluniau sydd ddim yn cael eu cwblhau erbyn diwedd y flwyddyn ariannol i 2021/22. Bydd y cynlluniau yma'n cael eu hadrodd yn rhan o adroddiadau cyflawniad chwarterol ac wrth bennu'r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2021/22 a thu hwnt; ac

3.    Alinio adnoddau dros y rhaglen gyfalaf 3 blynedd gyfredol yn unol â chynnydd y cynlluniau.

 

 

7.

Adolygiad o'r Portffolio Grantiau Busnes Adfywio pdf icon PDF 133 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu, sy'n ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i newid y cynlluniau grant cymorth i fusnesau cyfredol sy'n cael eu darparu gan y Gwasanaeth Adfywio, ac i sefydlu tri chynllun pellach – Grant Adfer Canol y Dref yn sgil COVID-19, y Gronfa Fuddsoddi ar gyfer Prosiectau Mawr a'r Grant Gwrthsefyll Llifogydd. 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu'r adroddiad, a oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i newid ffocws grantiau busnes y Cyngor sy'n cael eu darparu gan y Gwasanaeth Adfywio, a sefydlu tri chynllun pellach, Grant Adfer Canol Trefi Covid-19, Cronfa Buddsoddi mewn Prosiectau Mawr a'r Grant Gwrthsefyll Llifogydd.  Esboniodd y Cyfarwyddwr y byddai'r cynlluniau grant yn galluogi'r Cyngor i ddarparu portffolio o fuddsoddi ariannol i gefnogi busnesau wrth ymateb i'r heriau economaidd, gan eu helpu i ddatblygu cydnerthedd, cefnogi twf economaidd ac arallgyfeirio gyda'r bwriad o ysgogi buddsoddiad gan y sector preifat.

 

Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu, a Thai o blaid y cynigion a manteisiodd ar y cyfle i ddiolch i'r swyddogion am weithio trwy gydol y cyfnod heriol yma i sefydlu'r cynlluniau er mwyn cefnogi'r busnesau. Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet ei fod yn hanfodol bod busnesau yn cael eu cefnogi yn dilyn effaith Covid-19 a Storm Dennis. Roedd o'r farn y byddai monitro effeithlonrwydd y cynlluniau wrth symud ymlaen yn allweddol.

 

Adleisiodd y Dirprwy Arweinydd sylwadau'r Aelod o'r Cabinet a siaradodd am bwysigrwydd cefnogi canol trefi, ynghyd â hyrwyddo mesurau cadw pellter cymdeithasol.

 

Siaradodd yr Arweinydd am y Grant Gwrthsefyll Llifogydd, gan nodi pwysigrwydd y grant i fusnesau ac yn enwedig y rheiny sydd efallai heb hawl i yswiriant.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

 

1.    Newid ffocws pwrpas y Gronfa Buddsoddi Busnesau a'r Grant Cynnal Canol y Dref er mwyn cynnwys camau gweithredu, fel sydd wedi'u nodi ym mharagraff 5.1.3 a 5.2.3 yr adroddiad, er mwyn cefnogi gwaith adfer busnesau yn dilyn COVID-19;

2.    Sefydlu Grant Adfer Canol Trefi COVID-19 RhCT newydd i gyflawni Grant Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru gwerth £350,000;

3.    Sefydlu Cronfa Buddsoddi mewn Prosiectau Mawr i ddarparu buddsoddiad ar gyfer prosiectau wedi'i dargedu ac wedi'i arwain gan sefydliadau allanol, fydd yn sicrhau manteision economaidd sylweddol; a

4.    Sefydlu Grant Gwrthsefyll Llifogydd i ddarparu cymorth wedi'i dargedu i fusnesau Canol Tref sydd wedi cael eu heffeithio'n sylweddol gan y llifogydd mawr yn dilyn Storm Dennis.

 

 

8.

Adroddiad Cyflawniad y Cyngor ar gyfer y Chwarter Cyntaf pdf icon PDF 790 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol sy'n rhoi crynodeb i'r Cynghorwyr am gyflawniad y Cyngor dros dri mis cyntaf y flwyddyn ariannol hon (hyd at 30 Mehefin 2020), mewn perthynas â materion ariannol a gweithredol fel ei gilydd.

 

Cofnodion:

Rhannodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Cyflawniad a Gwelliant Adroddiad Cyflawniad Chwarter 1 ar gyfer y flwyddyn ariannol gyda'r Cabinet. 

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wybod mai'r gorwariant a ragwelir ar gyfer y flwyddyn gyfan yw £2.9miliwn. Esboniodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth bod effaith ariannol amcangyfrifedig Covid-19 wedi'i chynnwys yn y sefyllfa a ragwelir, sef cyfanswm o £27.2miliwn. Tybir bod hwn wedi'i ariannu gan gymorth ariannol Llywodraeth Cymru.  Cafodd Aelodau wybod bod taliadau Prydau Ysgol am Ddim, cefnogi'r sector gofal mewnol ac allanol, cefnogi gweithio gartref a'r costau cyfarpar cysylltiedig, cyfarpar diogelu personol, arwyddion a sgriniau yn adeiladau'r Cyngor er mwyn cefnogi mesurau cadw pellter cymdeithasol, wedi'u cynnwys yn y costau Covid-19 amcangyfrifedig

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wybod i Aelodau bod pymtheg risg strategol wedi'u cynnwys o fewn y Gofrestr Risgiau. Mae pob un ohonyn nhw wedi'u hadolygu a'u diweddaru. Roedd yna dau ddiweddariad penodol mewn perthynas â'r risgiau. Yn gyntaf, cafodd Risg 11 - Cynlluniau Adfywio ei newid o risg ganolig i risg uchel er mwyn adlewyrchu effaith bosibl Covid-19 ar gyflawni Prosiectau Strategol; yn ogystal â risg trosfwaol mewn perthynas â Covid-19.

 

Diolchodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Eiddo'r Cyngor y Swyddogion am yr adroddiad, a nododd bod y gorwariant o £2.9miliwn wedi digwydd yn y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion a'r Gwasanaethau i Blant yn bennaf. Gan ystyried y pwysau parhaus ar y gwasanaethau hynny ac effaith y llifogydd a Covid-19, pwysleisiodd yr Aelod o'r Cabinet yr angen am gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru.

 

Roedd yr Aelod o'r Cabinet yn falch o nodi bod y Cyngor wedi parhau i fuddsoddi £7.6miliwn ychwanegol mewn Buddsoddiadau Cyfalaf i wella'r Fwrdeistref Sirol a bod salwch staff wedi gostwng i 3.3%. Cyfeiriodd yr Aelod o'r Cabinet at adran 'Pobl' yr adroddiad, a nododd y swm mawr o waith gafodd ei gyflawni yn ystod Covid-19 i amddiffyn cymunedau, trigolion h?n a busnesau.

 

Siaradodd y Dirprwy Arweinydd am y buddsoddiad sylweddol er gwaetha'r pwysau a diolchodd i'r swyddogion am eu gwaith rheoli. Manteisiodd y Dirprwy Arweinydd ar y cyfle i ddiolch i'r staff a'r gymuned am gymryd rhan yn y broses yn ystod blwyddyn heriol iawn.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Nodi amgylchiadau digynsail y mae Gwasanaethau'r Cyngor yn gweithredu ynddyn nhw o ganlyniad i bandemig COVID-19;

Refeniw

2.    Nodi sefyllfa alldro refeniw Cronfa Gyffredinol y Cyngor ar 30 Mehefin 2020 (Adran 2 y Crynodeb Gweithredol) a nodi bod y cyllid COVID-19 sydd wedi'i gadarnhau gan Lywodraeth Cymru wedi'i ymgorffori yn y sefyllfa yma i gefnogi'r ddarpariaeth gwasanaeth barhaus;

Cyfalaf

3.    Nodi sefyllfa alldro cyfalaf y Cyngor fel y mae ar 30 Mehefin 2020 (Adrannau 3a-e o'r Crynodeb Gweithredol);

4.    Nodi manylion Dangosyddion Materion Darbodusrwydd Cylch Rheoli’r Trysorlys fel y mae ar 30 Mehefin 2020 (Adran 3f o'r Crynodeb Gweithredol yn yr adroddiad).

Blaenoriaethau'r Cynllun Corfforaethol

5.    Nodi diweddariadau am gynnydd chwarter 1 y Cyngor fel sydd wedi'u nodi ym mlaenoriaethau'r Cynllun Corfforaethol.

 

9.

Sefydlu Asiantaeth Gosod Tai Cymdeithasol pdf icon PDF 169 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned, sy'n rhoi gwybod i'r Cabinet am y cynnig i sefydlu Asiantaeth Gosod Tai Cymdeithasol i reoli eiddo rhent preifat ar ran landlordiaid preifat a sicrhau dyraniadau tai addas i gleientiaid sydd angen tai. Mae'r adroddiad yn ceisio gwneud Aelodau'n effro i oblygiadau ariannol posibl gweithredu Asiantaeth o'r fath pe bai cyllid grant allanol a sicrhawyd at y diben hwn yn dod i ben.

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned wybod i'r Cabinet am y cynnig i sefydlu Asiantaeth Gosod Tai Cymdeithasol i reoli eiddo rhent preifat ar ran landlordiaid preifat i sicrhau bod dyraniadau tai addas ar gael i'r cleientiaid sydd eu hangen.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr am y pwysau cynyddol sydd ar y gwasanaethau digartrefedd, sydd wedi cynyddu yn ystod y pandemig. Rhoddodd wybod bod y gwasanaeth wedi gweld cynnydd o 76% o ran ceisiadau digartrefedd yn ystod y cyfnod rhwng Mawrth a Mehefin 2020. Aeth y Cyfarwyddwr ymlaen i esbonio bod lefel y galw wedi tynnu sylw at y ffaith nad oes modd i'r sector rhentu cymdeithasol fodloni'r galw gan gleientiaid a bod angen gweithio ar y cyd â'r sector rhentu preifat.

 

Cafodd Aelodau wybod bod y Cyngor wedi sicrhau cyllid Llywodraeth Cymru i sefydlu Asiantaeth ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol a rhoddodd wybod bod posibilrwydd o gyfrifoldebau ariannol parhaus er mwyn gweithredu'r Asiantaeth.

 

Nododd yr Aelod o’r Cabinet ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol bod y gwasanaeth yn arloesol ac yn angenrheidiol er mwyn bodloni gofynion Strategaeth Ddigartrefedd ehangach y Cyngor. Roedd yr Aelod o'r Cabinet wedi cydnabod y goblygiadau ariannol, ond roedd o'r farn bod y cynigion yn bodloni uchelgais y Cyngor i symud i ffwrdd o'r llety gwely a brecwast a'i bod hi'n gadarnhaol y byddai'r cynigion yn cryfhau cysylltiadau'r Cyngor â'r Sector Landlordiaid Preifat.

 

Croesawodd y Dirprwy Arweinydd yr adroddiad ac ar ran yr Aelod Etholedig ar gyfer ward Trefforest. Eglurodd bod y cynigion yn darparu elfen o gynaliadwyedd a sefydlogrwydd ar gyfer y nifer uchel o eiddo sy'n rhan o'r sector rhentu preifat yn y ward. Pwysleisiodd y Dirprwy Arweinydd bwysigrwydd marchnata'r cynllun ac annog landlordiaid i ymuno ag ef.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Nodi'r achos busnes sydd wedi'i amlinellu'n rhan o Atodiad 1 yr Adroddiad a chadarnhau sefydlu Asiantaeth Gosod Tai Cymdeithasol ar gyfer CBSRhCT gan ddefnyddio cyllid grant Llywodraeth Cymru wedi'i sicrhau ar gyfer y cynllun yma yn 2020/21; a

2.    Nodi'r costau sy'n gysylltiedig â gweithredu Asiantaeth Gosod Tai Cymdeithasol a nodi'r cyllid hwnnw.

 

10.

Cymeradwyo cynlluniau Theatrau Rhondda Cynon Taf o ran cynhyrchu Perfformiad Nadolig Digidol i'w rannu ar-lein ym mis Rhagfyr 2020 pdf icon PDF 128 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned, sy'n rhoi gwybodaeth i Aelodau'r Cabinet mewn perthynas â'r cynnig i Theatrau Rhondda Cynon Taf gynhyrchu perfformiad Nadolig digidol i'w rannu ar-lein ym mis Rhagfyr 2020.

 

Cofnodion:

Rhannodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned wybodaeth mewn perthynas â chynigion sy'n galw ar Theatrau RhCT i gynhyrchu perfformiad digidol i'w rannu ar-lein adeg y Nadolig, Rhagfyr 2020.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr y byddai Theatrau RhCT, fel arfer, yn cynhyrchu pantomeim bob Nadolig. Mae'r pantomeim yn boblogaidd iawn ymhlith y trigolion. Mae nifer fawr o bobl yn mwynhau'r achlysur yma, ond oherwydd cyfyngiadau Covid-19, fyddai perfformiad byw ddim yn bosibl yn 2020. Cafodd Aelodau wybod bod rhaglenni'r Theatr wedi'u cynllunio hyd at 18 mis ymlaen llaw ac yn yr achos yma, cafodd y cytundebau â'r perfformwyr eu llofnodi yn Ionawr 2020. O ganlyniad i hynny, mae gofyn i'r gwasanaeth dalu'r perfformwyr er nad oes modd cynnal y pantomeim.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr am yr opsiwn o ddarparu perfformiad y Nadolig ar-lein. Byddai hynny'n gofyn am gyllid ychwanegol mewn perthynas â Chyfarpar Diogelu Personol, ffilmio, golygu, dehonglwyr iaith arwyddion ac ati.

 

Daeth y Cyfarwyddwr â'r cyflwyniad i ben trwy bwysleisio i'r Cabinet y byddai canllawiau cadw pellter cymdeithasol yn cael eu dilyn ac y byddai'r perfformiad ar-lein yn cael ei gynnig am ddim i drigolion fel cyfle i gael mynediad i'r celfyddydau, er gwaetha'r amgylchiadau cyfredol.

 

Siaradodd yr Aelod o’r Cabinet ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol am yr heriau sy'n wynebu Sector y Celfyddydau a Gwasanaethau Diwylliannol. Roedd o'r farn y byddai'r cynigion yn gyfle i'r gwasanaeth ymgysylltu â'r gymuned a chyflwyno hwyl yr ?yl. Aeth yr Aelod o'r Cabinet ati i gydnabod bod yna elfen o dlodi digidol yn y Fwrdeistref Sirol ond roedd yn cydnabod bod swyddogion wedi gwneud lot o waith er mwyn ceisio ymgysylltu â'r gymuned mewn ffyrdd gwahanol.

 

Adleisiodd y Dirprwy Arweinydd sylwadau'r Aelod o'r Cabinet ac esboniodd ei bod hi'n bwysig bod y cymunedau'n profi rhywfaint o normalrwydd a hwyl yr ?yl ar ddiwedd blwyddyn heriol.

 

(Nodwch: Doedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu, a Thai ddim yn bresennol ar gyfer y bleidlais)

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Nodi cynnwys yr adroddiad; a

2.    Cymeradwyo'r cynnig i gynhyrchu perfformiad y Nadolig digidol i'w rannu ar-lein.

 

 

11.

Adnewyddu'r Ymgynghoriad ar Ddiogelu Mannau Cyhoeddus pdf icon PDF 243 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned a Chyfarwyddwr Cyfadran Materion Ffyniant, Datblygu a Gwasanaethau Rheng Flaen a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol, sy'n hysbysu'r Cabinet o ganlyniadau'r gweithgaredd ymgynghori â'r cyhoedd ac sy'n ceisio caniatâd i ymestyn y ddau Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus sy'n ymwneud â mesurau rheoli c?n yn Rhondda Cynon Taf (y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus - Rheoli C?n).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned wybod i'r Cabinet am ddeilliannau'r gweithgaredd ymgynghori a cheisiodd awdurdod i ymestyn y Ddau Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus mewn perthynas â mesurau rheoli c?n yn Rhondda Cynon Taf (mesurau Rheoli C?n).

 

Cyn cyflwyno'r adroddiad, dymunodd y Cyfarwyddwr ddiolch i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheolwr Polisi Corfforaethol a Materion Ymgynghori am eu gwaith caled mewn perthynas â'r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus yn ystod y misoedd blaenorol.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr bod yna nifer fach o berchenogion c?n sy'n parhau i beidio â chodi baw c?n neu sydd ddim yn eu cadw o dan reolaeth er cyflwyno'r Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus mewn perthynas â Mesurau Rheoli C?n. O ganlyniad i hynny, roedd y Cyfarwyddwr o'r farn ei bod hi'n hanfodol bod y Gorchmynion, fyddai fel arfer yn dod i ben ar 30 Medi 2020, yn cael eu hadnewyddu am gyfnod o 3 blynedd pellach er mwyn cynnal y manteision sylweddol sy'n gysylltiedig â baw c?n a sicrhau bod y mesurau perthnasol yn parhau i gael eu gweithredu i fynd i'r afael â'r nifer fach o bobl sy'n parhau i anwybyddu'r cyfreithiau sydd mewn grym.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr at yr Atodiad, oedd yn cynnwys deilliannau ar gyfer y gweithgaredd ymgynghori â'r cyhoedd pedair wythnos. Roedd y Cyfarwyddwr yn falch o roi gwybod i Aelodau bod y cyhoedd o blaid dull y Cyngor mewn perthynas â mynd i'r afael â baw c?n,  parhad y Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus am gyfnod o dair blynedd a chadw'r ddirwy uchaf posibl. Esboniodd y Cyfarwyddwr bod nifer o'r rheiny oedd wedi ymateb yn teimlo bod baw c?n yn parhau i fod yn broblem yn RhCT, ond roedden nhw'n cydnabod bod gwelliannau wedi bod yn dilyn cyflwyno'r Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus.

 

Nododd y Cyfarwyddwr bod Cynghorau Cymuned Llanhari a Phont-y-clun wedi gofyn bod y Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus yn cael ei ymestyn i gynnwys safleoedd yn eu hardaloedd nhw ac efallai bydd Aelodau'n dymuno amrywio'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus i adlewyrchu'r cais hwnnw. Siaradodd y Cyfarwyddwr am y gwaith marchnata a chodi ymwybyddiaeth, a gafodd ei gynnal adeg cyflwyno'r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus yn 2017. Gofynnodd bod Aelodau'n ystyried cynnal gwaith tebyg.

 

Rhannodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu sylwadau'r Pwyllgor Craffu – Cynnal Gwasanaethau Cyhoeddus, Cymunedau a Ffyniant ag Aelodau. Cafodd y Pwyllgor gyfle i roi sylw i'r cynigion cyn y cam craffu yn ystod ei gyfarfod ar 23 Medi 2020. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wybod i'r Cabinet bod Aelodau'r Pwyllgor Craffu o blaid parhau â'r Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus ac yn cydnabod effaith gadarnhaol y Gorchmynion.

 

Siaradodd yr Aelod o’r Cabinet ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol yn gadarnhaol am barhau gyda'r Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus, gan nodi bod yr ymyraethau wedi'u targedu wedi bod yn llwyddiannus yn ystod y blynyddoedd diwethaf er mwyn mynd i'r afael â baw c?n a sicrhau bod y strydoedd yn lân. 

 

Dymunodd yr Aelod o’r Cabinet  ...  view the full Cofnodion text for item 11.

12.

Gogledd Porth Cwm Cynon (Ffordd Osgoi Aberdâr) pdf icon PDF 170 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Cyfadran Materion Ffyniant, Datblygu a Gwasanaethau Rheng Flaen sy'n rhoi'r newyddion diweddaraf am ddatblygu a chyflawni'r cynllun trafnidiaeth sylweddol: Gogledd Porth Cwm Cynon (Ffordd Osgoi Aberdâr).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Priffyrdd a Thrafnidiaeth ei adroddiad i'r aelodau a oedd yn rhoi diweddariad ar y cynnydd presennol mewn perthynas â datblygu a chyflwyno'r prif brosiect trafnidiaeth: Gogledd Porth Cwm Cynon (Ffordd Osgoi Aberdâr)

 

Nododd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth bod Gogledd Porth Cwm Cynon yn gyswllt pwysig rhwng yr A4059 sydd eisoes yn bodoli â'r cynllun deuoli arfaethedig ar gyfer yr A465, sy'n briffordd strategol. Esboniodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y byddai Ffordd Osgoi Aberdâr yn darparu hwb economaidd i'r ardal, yn ogystal â bod yn gyswllt pwysig.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at Adran 3.3 o'r adroddiad, sy'n nodi amlinelliad o fanteision trafnidiaeth ac adfywio'r prosiect, mae'r rhain yn cynnwys:

·         Cysylltedd;

·         Llai o draffig yn Llwydcoed;

·         Capasiti a Chydnerthedd;

·         Amseroedd teithio gwell; ac

·         Ansawdd aer gwell.

 

Aeth y Cyfarwyddwr Gwasanaeth ymlaen i drafod cynnydd y cynllun hyd yn hyn, gan roi gwybod i Aelodau bod y gwaith alinio'r briffordd cychwynnol wedi dod i ben a bod yr ymgynghoriad â rhanddeiliaid a'r rheiny sydd wedi'u heffeithio gan y cynigion mewn perthynas â Gogledd Porth Cwm Cynon.

 

Dymunodd yr Arweinydd ddiolch i'r swyddog am yr adroddiad a siaradodd o blaid y cynigion. Siaradodd yr Arweinydd am gynllun deuoli Ffordd Blaenau'r Cymoedd. Mae disgwyl i'r cynllun wneud cynnydd yn y dyfodol agos a heb y ffordd gyswllt, dywedodd y byddai llwybr amgen llawer yn hirach er mwyn cyrraedd Cwm Cynon. Siaradodd yr Arweinydd am fanteision y ffordd, gan nodi y byddai'n lleihau'r pellter teithio'n sylweddol ar gyfer trigolion sy'n teithio i mewn ac allan o'r cwm. Mewn perthynas â chyllid ar gyfer y cynllun, nododd yr Arweinydd bod £4.3miliwn wedi'i ddyrannu gan Lywodraeth Cymru a'r Awdurdod Lleol. Rhoddodd wybod ei fod wedi mynychu cyfarfodydd gyda Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chyllid cynyddol pellach. Daeth yr Arweinydd i ben trwy roi gwybod bod y cynllun yn cysylltu â datblygiadau eraill yn RhCT, megis y datblygiad yn Nhresalem.

 

Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu, a Thai y datblygiad ar gyfer RhCT a De Cymru.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Nodi'r cynnydd sydd wedi'i wneud a chefnogi camau nesaf y rhaglen ar gyfer y cynllun;

2.    Rhoi awdurdod dirprwyedig i Gyfarwyddwr Cyfadran Ffyniant, Datblygu a Gwasanaethau Rheng Flaen i gyflwyno cais cynllunio ar ran y Cyngor ar gyfer Porth Cwm Cynon (Ffordd Osgoi Aberdâr);

3.    Rhoi awdurdod dirprwyedig i Gyfarwyddwr Cyfadran Ffyniant, Datblygu a Gwasanaethau Rheng Flaen, yn amodol ar gyllid, i drafod prynu unrhyw dir sy'n berchen i drydydd parti ac sydd ei angen ar gyfer y cynllun. Hefyd, caffael y tir hwnnw yn rhan o gytundeb. Os nad oes modd prynu'r tir yn rhan o drafodaeth, dirprwyo'r grymoedd fel sydd wedi'i nodi ym mharagraff 2.1.4 mewn perthynas â gweithredu Gorchymyn Prynu Gorfodol a'r Gorchymyn Ffyrdd Ymyl;

4.    Yn amodol ar gymeradwyo caniatâd cynllunio a sicrhau digon o gyllid ar gyfer pob cam o'r broses, rhoi awdurdod dirprwyedig i Gyfarwyddwr Cyfadran Ffyniant, Datblygu a Gwasanaethau Rheng Flaen a chymryd yr holl gamau angenrheidiol i sicrhau bod y Gorchymyn Prynu Gorfodol a Gorchymyn Ffyrdd Ymyl  ...  view the full Cofnodion text for item 12.