Manylion y penderfyniad

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Penderfyniadau:

Cyflwynodd Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau Cymdeithasol yr adroddiad, sy'n rhoi cyfle i'r Cabinet drafod deilliannau ymgynghoriad sy’n ymwneud â’r opsiynau a ffefrir ar gyfer darpariaeth llety i bobl h?n ym mhob un o gartrefi gofal preswyl y Cyngor yn y dyfodol.

 

Yna rhannodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu 2022-2027, a oedd wedi trafod yr adroddiad yn ystod ei gyfarfod ar 27 Chwefror 2023. Roedd llythyr ffurfiol wedi'i rannu â'r Cabinet cyn y cyfarfod ond manteisiodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth ar y cyfle i grynhoi prif bwyntiau'r llythyr:

  • Roedd nifer o Aelodau wedi cydnabod gwrthwynebiad cryf y cyhoedd i'r cynnig mewn perthynas â Chartref Garth Olwg.
  • Roedd y mwyafrif wedi nodi'r angen am newid;
  • Mae nifer o Aelodau wedi nodi bod angen cyflwyno'r cynigion i fuddsoddi ym mhob cyfleuster cyn gynted ag sy'n bosibl;
  • Cafodd sylw ei wneud gan Aelod mewn perthynas â'r hyn y mae'r adroddiad yn canolbwyntio arno, sef capasiti, yn hytrach na sicrhau bod darpariaeth well ar gael yn lleol ym mhob rhan o'r fwrdeistref sirol;
  • Gofynnodd Aelod am sicrwydd bod y Cyngor yn 'hyderus' bod modd cefnogi pobl i fyw'n annibynnol am gyfnod hirach yn y gymuned wrth fynd ati i leihau'r capasiti;
  • Nododd y mwyafrif bod angen rhagor o gapasiti i ofalu am bobl â dementia yn rhan o'r cynigion yma.

 

Manteisiodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y cyfle i ddiolch i'r swyddogion am yr adroddiad cynhwysfawr, a oedd yn nodi rhaglen foderneiddio barhaus y Cyngor ar gyfer cartrefi gofal, er y sefyllfa ariannol ar hyn o bryd. Roedd yr Aelod o'r Cabinet yn gefnogol o'r cynigion a oedd yn ceisio parchu pobl a'u hurddas gan ddarparu cartrefi gofal modern o'r radd flaenaf, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer oedolion ag anghenion cymhleth ac anableddau dysgu. Nododd yr Aelod o'r Cabinet, o ran yr ymgynghoriad cyhoeddus a gafodd ei gynnal, bod y sylwadau'n gadarnhaol ar y cyfan a bod trigolion yn croesawu'r buddsoddiad. Siaradodd Aelod o'r Cabinet am y pryderon mewn perthynas â'r cynigion ar gyfer Garth Olwg, gan fanteisio ar y cyfle i ganmol y Cynghorydd G Stacey am dynnu sylw at sawl mater ar ran preswylwyr a staff, a hynny o ran cadw'r cartref gofal yng Ngarth Olwg, a hefyd croesawu cyfleuster newydd ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu.

 

Pwysleisiodd yr Arweinydd nad yw nifer o'r cartrefi gofal sy'n gweithredu ar hyn o bryd yn darparu'r safonau modern newydd y disgwylir, er bod staff gwych yn y cartrefi. Rhoddodd yr Arweinydd wybod bod y Cyngor wedi ystyried ailfodelu'r ystafelloedd er mwyn cynnwys ystafell en-suite, ond byddai hyn yn fwy heriol i drigolion o ganlyniad i'r angen i'w symud sawl tro. Cafodd y cynnig yma'i gondemnio gan Gomisiynydd Pobl H?n. 

 

Roedd y Dirprwy Arweinydd wedi diolch i'r Cyfarwyddwr am yr adroddiad gan siarad yn gadarnhaol am y newidiadau i'r cyfleuster yng Nglynrhedynog, a hynny er mwyn cynyddu capasiti, yn dilyn trafod ymatebion i'r ymgynghoriad.  Nododd y Dirprwy Arweinydd ei bod hi'n gwerthfawrogi bod modd i gyfnod o newid arwain at bryder, ond roedd hi o'r farn ei bod hi'n bwysig cydnabod na fyddai parhau gyda'r sefyllfa fel y mae ar hyn o bryd yn deg i ddefnyddwyr y gwasanaeth yn y dyfodol, gan nodi ei bod hi'n hollbwysig bod y cyfleuster yn cael ei addasu, yn rhan o fuddsoddiad, er mwyn cwrdd ag anghenion cenedlaethau'r dyfodol.

 

Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden yn gadarnhaol am yr adroddiad a'r buddsoddiad sylweddol i gwrdd ag anghenion cymunedau lleol. Nododd yr Aelod o'r Cabinet fod yr ymgynghoriad wedi cael ei groesawu, ond aeth ati i gydnabod pryderon y trigolion mewn perthynas â'r cynnig ar gyfer Cartref Garth Olwg, mae'r rhain wedi cael eu nodi gan y Pwyllgorau Craffu hefyd. Fodd bynnag, pwysleisiodd yr Aelod o'r Cabinet y byddai'r buddsoddiad yn darparu llety â darpariaeth gofal amgen i gefnogi oedolion ag anableddau dysgu.

 

O ran y pryderon a nodwyd gan drigolion mewn perthynas â'r cynigion ar gyfer Garth Olwg, nododd yr Arweinydd fod dau gartref gofal pellach sy'n cael eu darparu gan y Cyngor, cartrefi gofal preifat a dau gyfleuster gofal ychwanegol o fewn 5 milltir o Gartref Garth Olwg. Nododd yr Arweinydd fod Garth Olwg yn gweithredu ar gyfradd o 50%, nid yw hyn yn debygol o gynyddu. Rhoddodd wybod hefyd bod gwelyau gwag mewn cyfleusterau cyfagos. Pwysleisiodd yr Arweinydd fod angen capasiti a chydnerthedd yn y system gan esbonio y byddai'r cynigion yn rhoi capasiti ychwanegol sylweddol, er y gostyngiadau bach. Siaradodd yr Arweinydd am gyfleusterau gofal ychwanegol y Cyngor ac ymweliad y Cabinet i'r cyfleuster yn Nhonysguboriau a'r adborth cadarnhaol yno.

 

PENDERFYNODDy Cabinet:

1.     Trafod:

·         yr ymatebion i'r ymgynghoriad ar foderneiddio naw cartref gofal preswyl y Cyngor ar gyfer pobl h?n;

·         yr wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn yr adroddiad yma;

·         yr Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb (sy'n cynnwys Dyletswydd Economaidd-Gymdeithasol) a'r Asesiad o'r Effaith ar y Gymraeg; ac

·         argymhellion a sylwadau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, yn dilyn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Chwefror 2023, pan gafodd y Pwyllgor gyfle i gynnal gwaith cyn y cam craffu mewn perthynas â'r opsiynau a ffefrir ar gyfer darpariaeth llety'r Cyngor ar gyfer pobl h?n yn y dyfodol, a hynny'n dilyn yr ymgynghoriad [NODWCH: Cafodd llythyr y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ei rannu ag Aelodau'r Cabinet cyn cyfarfod y Cabinet a chafodd fanylion y llythyr yma'i rannu gan y Cyfarwyddwr Gwasanaeth yn ystod y cyfarfod].

 

2.     Cadw’r ddarpariaeth gwasanaeth bresennol yn y pum cartref gofal preswyl isod (sy'n cael eu cynnal gan y Cyngor):

 

·         Cwrt Clydach, Trealaw

·         T? Pentre, Y Pentre

·         Tegfan, Trecynon

·         Cae Glas, Y Ddraenen Wen

·         Parc Newydd, Tonysguboriau

 

3.     Bwrw ymlaen gyda'r opsiwn a ffefrir sef datgomisiynu Cartref Gofal Ystrad Fechan yn barhaol a pharhau i archwilio'r posibilrwydd o ddatblygu'r tir ger y cartref gofal presennol gyda Linc Cymru a'r Bwrdd Iechyd a hynny er mwyn darparu llety newydd â darpariaeth gofal. Bydd hyn yn cynnwys 40 fflat gofal ychwanegol ac 20 gwely preswyl ar gyfer gofal dementia, ynghyd ag opsiynau llety iechyd a gofal cymdeithasol eraill gan ddibynnu ar y safle datblygu a'r angen, fel sydd wedi'i nodi yn Adran 7 o'r adroddiad yma. Yn dilyn penderfyniad blaenorol gan y Cabinet, mae cartref gofal preswyl Ystrad Fechan ar gau ar hyn o bryd a does dim trigolion yn byw yn y cartref.

 

4.     Cyflwyno adroddiad pellach i'r Cabinet sy'n nodi manylion y cynigion buddsoddi ar gyfer llety newydd â darpariaeth gofal, gan gynnwys 40 fflat gofal ychwanegol a 20 gwely gofal dementia yn Nhreorci.

 

5.     Bwrw ymlaen â'r opsiwn a ffefrir sef gweithio gyda Linc Cymru i archwilio'r posibilrwydd o ddatblygu'r tir ger cartref gofal T? Glynrhedynog a hynny er mwyn darparu llety newydd â darpariaeth gofal. Bydd hyn yn cynnwys 25 fflat gofal ychwanegol ac 15 gwely preswyl ar gyfer gofal dementia, a datgomisiynu cartref gofal T? Glynrhedynog pan fydd y llety â darpariaeth gofal i bobl h?n amgen arfaethedig wedi'i ddatblygu, fel sydd wedi'i nodi yn Adran 7 o'r adroddiad; NODER: Dyma ddiwygiad i'r opsiwn a ffefrir sydd yn rhan o'r ymgynghoriad, sef darparu llety â darpariaeth gofal sy'n cynnwys 20 fflat gofal ychwanegol a 10 gwely ar gyfer gofal dementia, byddai'r cynigion newydd yn cynyddu'r ddarpariaeth yn ardal Rhondda Fach.

 

6.     Cyflwyno adroddiad pellach i'r Cabinet sy'n nodi manylion y cynnig ar gyfer buddsoddi, er mwyn darparu llety newydd â darpariaeth gofal, gan gynnwys 25 fflat gofal ychwanegol ac 15 gwely ar gyfer gofal dementia yng Nglynrhedynog.

 

7.     Bwrw ymlaen â'r opsiwn a ffefrir sef gweithio gyda Linc Cymru i archwilio'r posibilrwydd o ddatblygu'r tir ger cartref gofal Troed-y-rhiw a hynny er mwyn darparu llety newydd â darpariaeth gofal. Bydd hyn yn cynnwys 25 fflat gofal ychwanegol ac 15 gwely preswyl ar gyfer gofal dementia, a datgomisiynu cartref gofal Troed-y-rhiw pan fydd y llety amgen arfaethedig ar gyfer pobl h?n wedi'i ddatblygu, fel sydd wedi'i nodi yn Adran 7 o'r adroddiad;

 

8.     Cyflwyno adroddiad pellach i'r Cabinet sy'n nodi manylion y cynnig i ddarparu llety newydd â darpariaeth gofal. Bydd hyn yn cynnwys 25 fflat gofal ychwanegol ac 15 gwely ar gyfer gofal dementia yn Aberpennar.

 

9.     Bwrw ymlaen â'r opsiwn a ffefrir, sef datblygu cartref gofal Garth Olwg a hynny er mwyn darparu llety newydd â darpariaeth gofal i gefnogi oedolion ag anableddau dysgu a datgomisiynu cartref gofal Garth Olwg ar gyfer pobl h?n pan fydd lleoliadau amgen wedi'u sefydlu ar gyfer y preswylwyr presennol, a hynny mewn cartref o'u dewis sy'n bodloni'u hanghenion wedi'u hasesu, fel sydd wedi'i nodi yn Adran 7 o'r adroddiad.

 

10. Bydd y broses ar gyfer datgomisiynu Cartref Gofal Preswyl Garth Olwg yn cael ei chwblhau erbyn diwedd Mai 2023, a bydd yn cydymffurfio â'r egwyddorion arfer da sydd wedi'u nodi isod ym mharagraff 7.7 o'r adroddiad, ac yn sicrhau bod cymorth cynhwysfawr yn cael ei ddarparu i breswylwyr, eu teuluoedd a'r staff.

 

11. Cyflwyno adroddiad pellach i'r Cabinet sy'n pennu manylion y cynigion i ddarparu llety â darpariaeth gofal amgen i gefnogi oedolion ag anableddau dysgu ar safle Cartref Gofal Preswyl Garth Olwg.

 

12. Bydd Cyfarwyddwr Dros Dro'r Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol yn llunio cynllun datblygu'r gweithlu er mwyn mynd i'r afael â'r materion sydd wedi'u nodi gan staff yn ystod yr ymgynghoriad a hynny er mwyn denu, cadw a chefnogi gweithlu dibynadwy, dawnus ac ymroddgar i gefnogi gwaith darparu gwasanaeth gofal preswyl y Cyngor. Bydd y Cynllun Datblygu'r Gweithlu yn cael ei rannu â'r Undebau Llafur er mwyn ceisio'u barn nhw cyn rhoi'r cynllun ar waith.

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 28/02/2023

Dyddiad y penderfyniad: 28/02/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 28/02/2023 - Cabinet

Effective from: 04/03/2023

Dogfennau Cysylltiedig: