Manylion y penderfyniad

Manylion y penderfyniad

Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Ysgolion yr 21ain Ganrif a Thrawsnewid cyfle i'r Cabinet drafod yr argymhellion a gafodd eu gwneud gan y corff llywodraethu mewn perthynas ag enwau'r ysgolion newydd sy'n cael eu sefydlu yn rhan o gynigion trefniadaeth ysgolion ar gyfer ardal Pontypridd.

 

Manteisiodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg ar y cyfle i ddiolch i swyddogion am gynnal yr ymgynghoriad anstatudol a gweithio gyda chyrff llywodraethu, athrawon, disgyblion a'r cymunedau ehangach sy'n gysylltiedig â datblygu'r ysgolion newydd. Nododd yr Aelod o'r Cabinet fod yr enwau sydd wedi'u hargymell ar gyfer yr ysgolion wedi'u datblygu gan ystyried barn a sylwadau'r disgyblion ym mhob ysgol.

 

Gyda chytundeb yr Arweinydd, siaradodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol C Lisles ar yr eitem yma.

 

Yn rhan o'i ymateb i sylwadau'r Aelod nad yw'n Aelod o'r Pwyllgor, nododd yr Arweinydd y byddai swyddogion yn cadw cofnod o awgrymiadau er mwyn sicrhau bod unrhyw ymgynghoriadau yn y dyfodol yn cael eu hehangu i annog rhagor o bobl i ymgysylltu, ond nododd fod nifer rhesymol wedi cymryd rhan yn yr ymgynghoriad yn yr achos yma.  O ran y sylwadau a gafodd eu gwneud ynghylch pennu ai oedolion neu blant a gyflwynodd y sylwadau, roedd yr Aelodau o'r farn bod y ffigur cyffredinol yn dangos bod pob sylw yn cael ei gofnodi yn yr un modd, waeth pwy ydych chi yn y gymuned.

 

Rhoddodd yr Arweinydd wybod i'r Cabinet ei fod e wedi derbyn e-bost gan Aelod Lleol a oedd yn dymuno cefnogi'r enwau newydd ar gyfer yr ysgol 3-16 oed newydd yng Nghilfynydd a'r Ysgol Cyfrwng Cymraeg newydd yn Rhydfelen, gan fod y mwyafrif o athrawon a disgyblion o blaid y cynnig.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu wybod i'r Aelodau fod y Cyngor wedi ceisio caniatâd y Llywydd i eithrio'r eitem hon rhag y broses galw i mewn, a hynny o ganlyniad i ohirio'r adroddiad yn ystod cyfarfod Pwyllgor y Cabinet ym mis Chwefror, a'r brys mae hyn wedi'i greu o ran bwrw ymlaen â'r materion hyn cyn diwedd y flwyddyn academaidd ym mis Gorffennaf.

 

PENDERFYNODDy Cabinet:

1.    Cymeradwyo'r enw sydd wedi’i gynnig gan gorff llywodraethu dros dro'r Ysgol 3-16 oed newydd yn Y Ddraenen-wen, y mae disgwyl iddi agor ym mis Medi 2024 - yr enw sydd wedi’i gynnig yw Ysgol Afon Wen;

2.    Cymeradwyo'r enw sydd wedi’i gynnig gan gorff llywodraethu dros dro'r Ysgol 3-16 oed newydd ym Mhontypridd, y mae disgwyl iddi agor ym mis Medi 2024 - yr enw sydd wedi’i gynnig yw Ysgol Bro Taf; a

3.    Cymeradwyo'r enw sydd wedi’i gynnig gan gorff llywodraethu dros dro'r Ysgol Cyfrwng Cymraeg newydd yn Rhydfelen, y mae disgwyl iddi agor ym mis Medi 2024 - yr enw sydd wedi’i gynnig yw Ysgol Awel Taf.

 

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 15/05/2023

Dyddiad y penderfyniad: 15/05/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 15/05/2023 - Cabinet

Dogfennau Cysylltiedig: