Manylion y penderfyniad

Manylion y penderfyniad

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol wybodaeth i'r Cabinet am setliad llywodraeth leol 2023/24 a chanlyniadau cam 1 o ymgynghoriad y gyllideb, i gynorthwyo gyda'i drafodaethau wrth lunio'r strategaeth cyllideb refeniw ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24 y bydd yn ei hargymell i'r Cyngor i'w chymeradwyo.

 

Dymunodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Newid yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol ddiolch i'r Cyfarwyddwr am yr adroddiad gan gydnabod bod holl Awdurdodau Lleol Cymru yn wynebu amser heriol o ran gwneud penderfyniadau ar faterion cyllid. Nododd yr Aelod o'r Cabinet fod yr adroddiad yn dangos sut y byddai modd darparu cyllideb gytbwys yn 2023-2024, heb unrhyw ddiswyddiadau gorfodol a thrwy wneud newidiadau bach i wasanaethau o'u cymharu ag Awdurdodau Lleol eraill.  Roedd yr Aelod o'r Cabinet yn falch o nodi bod y cynnydd arfaethedig i gyfraddau Treth y Cyngor yn debygol o fod ymhlith yr isaf yng Nghymru, ac mae'n bosibl y bydd cynnydd o ran ffioedd a chostau yn is na lefelau chwyddiant.

 

Pwysleisiodd y Dirprwy Arweinydd pa mor bwysig yw hi i gynnal ymgynghoriad ar y Gyllideb gan fynd ati i sôn am y meysydd gwahanol sy'n destun ymgynghoriad i lunio'r strategaeth gyllideb. O ran yr ymatebion i'r ymgynghoriad, nododd y Dirprwy Arweinydd fod canran uchel o'r bobl a ymatebodd o blaid y cynnig ac yn gefnogol o sut mae'r Cyngor yn rheoli materion ariannol yn y sefyllfa sydd ohoni. 

 

Siaradodd yr Arweinydd am y cynnydd sylweddol ar gyfer ysgolion a gafodd ei nodi yn yr adroddiad, gan esbonio bod cynnydd gwerth £13.7miliwn wedi bod o ran adnoddau'r Cyngor. Esboniodd yr Arweinydd y bydd bwlch yn y gyllideb gwerth £9.1miliwn hyd yn oed ar ôl gwneud y newidiadau arfaethedig i wasanaethau, yr arbedion a nodwyd a’r setliad dros dro gan Lywodraeth Cymru. Byddai modd defnyddio £5miliwn o’n cronfeydd ynni wrth gefn a byddai modd defnyddio £4.1miliwn o’n cronfeydd pontio wrth gefn.

 

PENDERFYNODDy Cabinet:

1.    Nodi bod y gweithdrefnau sy'n ymwneud ag adeiladu cyllideb refeniw, y broses ymgynghori cyllideb, ac adrodd i'r Cyngor, wedi'u nodi yn "Y Gyllideb a'r Fframwaith Polisi", sy'n cael ei gynnwys yng Nghyfansoddiad y Cyngor;

2.    Nodi a thrafod canlyniadau proses cam 1 o ymgynghori ar y gyllideb;

3.    Adolygu a thrafod drafft o Strategaeth Cyllideb Refeniw 2022/23, y manylir arni yn y Papur Trafod sydd ynghlwm 'Atodiad A';

4.    Adolygu a phennu lefel y cynnydd yn Nhreth y Cyngor ar gyfer 2023/24 y byddai’n dymuno ei gynnwys yn y strategaeth i ffurfio’r sail ar gyfer cynnal ail gam o'r ymgynghoriad.

5.    Cytuno amserlen ddrafft ar gyfer pennu cyllideb refeniw 2023/24 fel sydd wedi'i nodi yn Atodiad A2 o'r adroddiad;

6.    Derbyn adborth o ail gam yr ymgynghoriad cyllideb er mwyn trafod a phenderfynu ar y strategaeth gyllidebol derfynol i'w chyflwyno i'r Cyngor;

7.    Bod y Cyngor yn parhau i gefnogi'r strategaeth ariannol tymor canolig gyda'r nod o sicrhau'r effeithlonrwydd parhaus o ran darparu gwasanaethau, trawsnewid gwasanaethau wedi'u targedu a newidiadau eraill sy'n cynnal uniondeb ariannol y Cyngor wrth barhau i anelu cymaint â phosibl i ddiogelu swyddi a gwasanaethau allweddol.

 

(Nodwch: Rhoddodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu wybod y bydd yn ceisio caniatâd Llywydd y Cyngor er mwyn eithrio'r eitem yma o'r drefn Galw i Mewn, fel bod modd cychwyn yr ymgynghoriad ar unwaith.)

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 23/01/2023

Dyddiad y penderfyniad: 23/01/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 23/01/2023 - Cabinet

Dogfennau Cysylltiedig: