Manylion y penderfyniad

Manylion y penderfyniad

Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Penderfyniadau:

Rhannodd Pennaeth y Gwasanaethau Gofal y Strydoedd adborth o ymgynghoriad cyhoeddus a gafodd ei gynnal dros gyfnod o 5 wythnos rhwng Rhagfyr 2022 ac Ionawr 2023. Roedd yr ymgynghoriad yma'n ymwneud â'r diwygiadau arfaethedig i drefniadau rheoli gwastraff gweithredol y Cyngor o ran  trefniadau ar gyfer casglu sbwriel ac ailgylchu a fydd yn helpu trigolion ledled RhCT i ailgylchu rhagor yn y dyfodol. Bydd hyn hefyd yn sicrhau arbedion o ran effeithlonrwydd ariannol ac yn helpu i lywio penderfyniad y Cabinet o ran ffordd ymlaen.

 

Manteisiodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden ar y cyfle i ddiolch i'r swyddog am yr adroddiad manwl, yn ogystal â diolch i'r garfan ymgynghori am y gwaith sydd wedi'i gynnal, a'r trigolion am ymgysylltu â'r broses.

 

Roedd yr Aelod o'r Cabinet wedi cydnabod uchelgais Cymru sef sicrhau bod 70% o holl wastraff eiddo yn cael ei ailgylchu erbyn 2025. Roedd yn falch o nodi bod Rhondda Cynon Taf yn gweithio tuag at y targed, er mwyn osgoi dirwyon mawr. 67.48% yw'r gyfradd ailgylchu ar hyn o bryd.

 

Roedd yr Aelod o'r Cabinet yn cefnogi'r cynigion sydd wedi'u hamlinellu yn yr adroddiad. Byddai hyn yn arwain at gynnydd yn y cyfraddau ailgylchu, gostyngiad yn ôl-troed Carbon y Cyngor ac arbedion ariannol posibl gwerth bron i £1.5miliwn. Cytunodd yr Aelod o'r Cabinet â'r swyddogion a oedd wedi nodi y byddai cyfathrebu clir ac ymgysylltu â thrigolion yn hollbwysig wrth sicrhau llwyddiant unrhyw newidiadau sy'n cael eu rhoi ar waith.

 

O ran y 4000+ o ymatebion a dderbyniwyd, roedd yr Aelod o'r Cabinet yn falch o nodi bod Swyddogion wedi mynd i'r afael â'r pryderon a gafodd eu codi gan drigolion mewn perthynas â biniau ar olwynion 120litr, gan nodi y bydd modd i drigolion roi bag ychwanegol allan i'w gasglu. O ran cynnal cynllun peilot ar gyfer sachau ailgylchu y mae modd eu hailddefnyddio, nododd yr Aelod o'r Cabinet fod canran uchel o drigolion o blaid y newid ond nododd fod rhai strydoedd yn fwy addas nag eraill, dyma'r rheswm dros gynnal y cynllun peilot.

 

Holodd yr Aelod o'r Cabinet pa fesurau sydd ar waith i liniaru pryderon trigolion sydd â theuluoedd mawr, teuluoedd ifainc neu'r rheiny sy'n byw mewn tai llai o faint, pe byddai'r Cabinet yn cymeradwyo'r cynigion.  Dymunodd y swyddog ddiolch i'r Aelod o'r Cabinet am holi'r cwestiwn, a phwysleisiodd y byddai'r gwasanaeth yn parhau fel y mae ar hyn o bryd gan y bydd tri bag du yn cael eu casglu bob tair wythnos. O ran teuluoedd mwy, esboniodd y swyddog y byddai modd i'r teuluoedd hynny sydd â bin ar olwynion 120litr roi bag ychwanegol er mwyn helpu i liniaru'r effaith. O ran storio bagiau ailgylchu y mae modd eu hailddefnyddio, pwysleisiodd y swyddog y bydd cynllun peilot yn cael ei gynnal a bydd barn trigolion, boed hynny'n gadarnhaol neu'n negyddol, yn cael eu rhannu â'r Cabinet cyn pennu ffordd ymlaen. O ran storio bagiau du, pwysleisiodd y swyddog y byddai'r rhan fwyaf o wastraff o'r cartref yn parhau i gael ei gasglu bob wythnos, megis cewynnau, bwyd a gwastraff ailgylchu.  Esboniodd y swyddog y byddai ymgyrch gynhwysfawr yn cael ei chynnal yn y cyfryngau o ran pwysleisio pa mor bwysig yw hi i ailgylchu ac i sicrhau bod gan drigolion yr wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw. Byddai'r ymgyrch yma o fudd i'r rheiny sydd â phryderon am gyfanswm y gwastraff. Ychwanegodd y swyddog fod y Cyngor yn cynnig bag du ychwanegol i drigolion sy'n ei chael hi'n anodd gyda'r cyfyngiad, dyma broses oedd yn cael ei hadolygu ar y pryd.

 

O ran y materion a nodwyd mewn perthynas â theuluoedd mwy, esboniodd yr Arweinydd y byddai swyddogion yn gweithio gyda theuluoedd ac yn gofyn iddyn nhw gysylltu â'r Cyngor gan nodi unrhyw broblemau sy'n codi. Yna, bydd modd i swyddogion gefnogi teuluoedd gyda materion ailgylchu a sicrhau bod cyn lleied o wastraff ag sy'n bosibl yn mynd i'r bagiau du. Ond, os oedd y teulu yn parhau i'w chael hi'n anodd gan ei fod yn deulu mawr neu oherwydd bod gan y teulu cynnydd mewn gwastraff oherwydd anifail anwes, yna bydd modd i swyddogion wirio hyn a chynnig bag du ychwanegol.  Pwysleisiodd yr Arweinydd fod angen gweithio gyda darparwyr tai mewn perthynas â mannau casglu wrth symud ymlaen.

 

Ceisiodd yr Arweinydd fynd i'r afael â'r elfen ariannol bosibl sy'n gysylltiedig â'r cynigion. Byddai'r cynigion yn arbed dros £1miliwn ac esboniodd y byddai hyn yn cyfateb i gau tair canolfan hamdden. Rhoddodd yr Arweinydd wybod bod sawl maes yn gweithio yn y modd yma gan nodi ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n dysgu o'r hyn y maen nhw wedi'i wneud. Esboniwyd bod sawl Awdurdod Lleol yng Nghymru wedi cyhoeddi adolygiadau tebyg i'w gwasanaethau gwastraff yn rhan o'u Strategaethau ar Gyllidebau. Os oedd pob Awdurdod Lleol yn cymeradwyo'r cynigion yma byddai oddeutu 2/3 o'r Awdurdodau Lleol yng Nghymru yn rhoi newidiadau tebyg ar waith.

 

Pwysleisiodd y Dirprwy Arweinydd y sylwadau ynghylch pwysigrwydd cyfathrebu ac addysgu er mwyn gwella ffigyrau ailgylchu yng RhCT yn ogystal ag ymgysylltu â landlordiaid a thenantiaid y sector cymdeithasol. O ran Awdurdodau Lleol sydd eisoes yn cynnal casgliadau gwastraff bob tair wythnos, holodd y Dirprwy Arweinydd p'un a oedd unrhyw broblemau wedi codi ac os felly, sut mae'r Awdurdod Lleol wedi mynd i'r afael â'r problemau yma. Mae trigolion wedi codi pryderon o ran sut i gael gwared ar nwyddau glanweithiol, gofynnodd y Dirprwy Arweinydd am ragor o wybodaeth gan y swyddog mewn perthynas â'r pryderon yma. Rhoddodd y Swyddog wybod mai casgliadau gwastraff yw'r unig opsiwn ar gyfer gwaredu nwyddau glanweithiol ar hyn o bryd, cafodd hyn ei nodi fel effaith negyddol ar gydraddoldeb. Fodd bynnag, esboniodd y swyddog fod pob un o'r Awdurdodau Lleol ledled y wlad sy'n cynnal casgliadau bob tair neu bedair wythnos yn wynebu'r un broblem. Ond, does dim un Awdurdod Lleol wedi dychwelyd i gasgliadau wythnosol neu bob yn ail wythnos. Pwysleisiodd y Swyddog y byddai pob elfen o'r ymgynghoriad yn cael ei hadolygu'n barhaus a byddai mesurau lliniaru'n cael eu rhoi ar waith ble'n bosibl a phan fo angen.

 

Nododd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Newid yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol y manteision amgylcheddol sy'n gysylltiedig â'r cynnig. Nododd yr Aelod o'r Cabinet y pryderon a godwyd gan drigolion ag anableddau a'r rheiny sydd heb fynediad i gerbyd. Roedd yr Aelod o'r Cabinet wedi cydnabod bod modd i fag ychwanegol achosi problemau  ac mae'n bosibl y bydd y bag yn fwy trwm os yw'n cael ei lenwi a gwasarn cath a gwastraff anifeiliaid, a holodd pa fesurau lliniaru sydd ar waith ar gyfer hyn. O ran gwasarn cath, nododd y swyddog fod trafodaethau'n cael eu cynnal yngl?n â'r posibilrwydd o fynd â'r gwastraff yma i Ganolfannau Ailgylchu yn y Gymuned, byddai hyn yn lliniaru pryderon y trigolion.  O ran y bag ychwanegol ac anawsterau o ran symud y bag i ochr y ffordd neu'r man casglu, pwysleisiodd y swyddog y byddai'r Cyngor yn parhau i helpu'r trigolion yma.  Ychwanegodd yr Arweinydd y byddai cyfle gan drigolion sydd â llawer o wastraff anifeiliaid i siarad â swyddogion a chael bag gwastraff ychwanegol er mwyn rhoi rhywfaint o'r gwasarn mewn bag arall.

 

 

 

PENDERFYNODDy Cabinet:

1.    Nodi cynnwys yr adroddiad a phenderfynu cyflwyno'r diwygiadau canlynol i Strategaeth Rheoli Gwastraff y Cyngor:

 

(i)   Casglu gwastraff cartref gweddilliol bob tair wythnos ar gyfer yr holl gasgliadau gwastraff domestig.

 

(ii)  Ar gyfer trigolion y mae eu gwastraff yn cael ei gasglu bob tair wythnos bydd mesurau rheoli llym yn berthnasol i gyfaint yr holl wastraff domestig, sef: 

 

(a)         Uchafswm o dri bag du fesul cartref, (ar gyfer yr eiddo hynny sydd eisoes â chasgliadau gwastraff bagiau du),

 

(b)        Bydd y rheol 'Dim Gwastraff Ychwanegol' yn parhau ar gyfer pob eiddo sydd â chasgliadau bin ar olwynion 240litr, (ond mae modd i eiddo sydd â bin 120litr roi bag ychwanegol o wastraff, hyd at 70litr).

 

(iii)  Cychwyn cyfnod prawf ar gyfer y sachau ailgylchu y mae modd eu hailddefnyddio ar gyfer casglu gwastraff ailgylchu.

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 23/01/2023

Dyddiad y penderfyniad: 23/01/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 23/01/2023 - Cabinet

Effective from: 27/01/2023

Dogfennau Cysylltiedig: