Manylion y penderfyniad

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws Penderfyniad: Argymell Ymlaen i'r Cyngor

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol ganlyniadau’r ymgynghoriad cyhoeddus i'r Cabinet a gytunodd i’w roi ar waith mewn perthynas â chyflwyno premiwm Treth y Cyngor ar eiddo gwag tymor hir ac ail gartrefi yn y Fwrdeistref Sirol.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr am gyfarfod y Cabinet a gafodd ei gynnal ar 17 Hydref 2022, lle trafododd y Cabinet Strategaeth Cartrefi Gwag newydd ar gyfer 2022-2025, a chytuno arni. Cytunodd y Cabinet hefyd gynnal ymgynghoriad ar y cynnig i gyflwyno Premiwm Treth y Cyngor ar Eiddo Gwag Tymor Hir. Cynigiwyd y byddai'r premiwm ar gyfer eiddo gwag tymor hir yn cael ei gyflwyno a'i roi ar waith o 1 Ebrill 2023, ac y byddai'r premiwm ar gyfer ail gartrefi yn cael ei roi ar waith o 1 Ebrill 2024 (yn unol â gofynion y Ddeddf). Byddai'r Cyngor yn ysgrifennu at bob perchennog cartref, ar ôl dod i benderfyniad, er mwyn rhoi gwybod am y newidiadau sydd ar y gweill, gan roi cymaint o rybudd ag sy'n bosibl.

 

Tynnodd y Cyfarwyddwr sylw'r Cabinet at Atodiad 1 yr adroddiad, a oedd yn cynnwys manylion yr ymatebion i'r ymgynghoriad a gafodd ei gynnal rhwng 24 Hydref a 21 Tachwedd 2022.

 

Nododd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol fod gan y Cyngor bwerau dewisol i godi symiau uwch o ran Treth y Cyngor ar gyfer eiddo gwag tymor hir ac ail gartrefi, gan anelu at ddefnyddio eiddo gwag eto, cynyddu nifer y tai fforddiadwy a gwella cynaliadwyedd cymunedau lleol. Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet fod eiddo gwag yn cael effaith niweidiol ar gymunedau ac roedd o blaid cynnig y cynnig gwreiddiol a oedd yn destun ymgynghoriad.

 

Siaradodd yr Arweinydd o blaid y cynnig gwreiddiol ac er bod y rhan fwyaf o berchnogion yn erbyn y cynigion, nododd fod y rhan fwyaf o'r cyhoedd o'u blaid nhw gan yr ystyrir bod yr eiddo gwag yn difetha cymunedau. Nododd yr Arweinydd y byddai gan berchnogion ddwy flynedd i adnewyddu neu werthu'r eiddo cyn y cynnydd sylweddol.

 

Siaradodd yr Arweinydd am y Grant Eiddo Gwag a oedd wedi bod yn llwyddiannus a nododd y byddai rhaglen Cymru gyfan ar gyfer eiddo gwag wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru ar gael yn y Flwyddyn Newydd.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1. Nodi adborth yr ymgynghoriad fel sydd wedi'i atodi yn Atodiad 1 yr adroddiad; 2. Ar ôl trafod adborth yr ymgynghoriad, bwrw ymlaen â chyflwyno premiwm fel sydd wedi'i nodi yn y cynnig gwreiddiol;

3. Yn unol â'r uchod, argymell y ffordd arfaethedig ymlaen i'r Cyngor Llawn; ac

4. Yn amodol ar yr uchod, awdurdodi'r Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol i roi'r trefniadau gweithredu angenrheidiol ar waith.

 

Reasons for the decision:

The need to provide Cabinet with the results of the public consultation which it agreed to initiate in respect of the introduction of a Council Tax Premium on long term empty properties and second homes in the County Borough.

 

Dyddiad cyhoeddi: 12/12/2022

Dyddiad y penderfyniad: 12/12/2022

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 12/12/2022 - Cabinet

Dogfennau Cysylltiedig: