Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Is-bwyllgor y Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd
Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Rhoddodd Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu gyfle i'r Is-bwyllgor drafod yr ymatebion i'r ymgynghoriad ar Strategaeth Ddrafft Coed, Coetiroedd a Gwrychoedd RhCT.
Yn ogystal â hyn, rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod i'r Is-bwyllgor am adborth a sylwadau'r Pwyllgor Craffu – Materion yr Hinsawdd, Gwasanaethau Rheng Flaen a Ffyniant yn dilyn ei waith cyn y cam craffu ar y Strategaeth Coed, Coetiroedd a Gwrychoedd yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd 2022.
Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden wedi'i siomi gyda diffyg ymatebion gan y cyhoedd i'r ymgynghoriad, ond roedd wedi gwerthfawrogi sylwadau'r rheiny oedd wedi ymateb ac aelodau'r Pwyllgor Craffu. Pwysleisiodd yr Aelod o'r Cabinet bwysigrwydd plannu coed, a hynny mewn ardaloedd trefol ac mewn parciau.
Rhoddodd y Cadeirydd ddiolch i'r Cyfarwyddwr am yr adroddiad a thynnodd sylw at bwysigrwydd gofalu am y coed a gwrychoedd presennol, yn ogystal â phlannu rhai newydd.
PENDERFYNODDyr Is-bwyllgor:
1. Nodi sylwadau ac arsylwadau'r Pwyllgor Craffu – Materion yr Hinsawdd, Gwasanaethau Rheng Flaen a Ffyniant; a
2. Cymeradwyo'r Strategaeth Coed, Coetiroedd a Gwrychoedd.
Dyddiad cyhoeddi: 06/12/2022
Dyddiad y penderfyniad: 06/12/2022
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 06/12/2022 - Is-bwyllgor y Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd
Effective from: 10/12/2022
Dogfennau Cysylltiedig: