Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Rhoddodd Cyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor ddiweddariad i'r Aelodau mewn perthynas â'r gwaith a wnaed wrth ddatblygu Strategaeth y Cyngor ar gyfer Gwefru Cerbydau Trydanol (EVC) a gofynnodd i'r Cabinet am fabwysiadu'r strategaeth a'i chyhoeddi'n ffurfiol.
Atgoffwyd yr Aelodau o argymhelliad cychwynnol Strategaeth i'r Cabinet gan Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd ym mis Mawrth eleni, a chymeradwyodd y Cyfarwyddwr waith trawsbynciol sawl gr?p gwasanaeth wrth roi'r Strategaeth ar waith.
Hysbysodd y Cyfarwyddwr yr Aelodau am ddau ymarfer ymgynghori cyhoeddus llwyddiannus a lywiodd y strategaeth ddrafft a'r strategaeth derfynol, a rhoi gwybod i'r Aelodau ymhellach am y canlyniad cadarnhaol a roddwyd gan y panel adolygu mewn perthynas â'r Asesiadau Effaith a baratowyd mewn ymgynghoriad â'r Gwasanaethau Cymraeg a'r Gwasanaethau Amrywiaeth a Chynhwysiant.
Rhoddodd y Cyfarwyddwr yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau mewn perthynas â'r gwaith presennol o ran gweithredu i fanylu ar dargedau tymor byr, canolig a hir y Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydanol. Er nad oes unrhyw oblygiadau ariannol pellach, dywedodd y dylai'r Aelodau nodi bod y cynlluniau ar y gweill ar hyn o bryd yn cael eu hariannu'n llawn gan Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Fodd bynnag, efallai y bydd angen cyllid ychwanegol i gyflawni ffrydiau gwaith newydd yn y dyfodol.
Diolchodd y Cyfarwyddwr y swyddogion dan sylw a'r panel adolygu am roi mewnbwn i ddatblygiad y strategaeth.
Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu bod yr adroddiad wedi'i gyflwyno i Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd ar 10 Tachwedd a bod y Cabinet wedi derbyn y sylwadau. Roedd y rhan fwyaf o'r adborth am y broses ymgynghori yn gadarnhaol, yn ogystal â'r adborth am sut yr ystyriwyd sylwadau cyn i'r Strategaeth gael ei chyflwyno i'r Cabinet. Ychwanegodd y bu trafodaeth ynghylch darparu cyngor i aelodau'r cyhoedd a thrigolion sy'n byw mewn eiddo teras yn rhan o gyflawni'r strategaeth wrth symud ymlaen. Fodd bynnag, roedd y mwyafrif yn cytuno bod y strategaeth yn un gadarnhaol ac yn cefnogi'r trafodaethau ehangach ar ddefnyddio cerbydau trydanol.
Cymeradwyodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Corfforaethol y strategaeth adiolchodd i swyddogion am eu gwaith ar ei ddatblygiad i sicrhau ei lwyddiant ac y byddai ei nodau a'i amcanion yn cael eu cyflawni. Diolchodd i Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd ac aelodau'r cyhoedd am eu trafodaeth a'u hadborth a fydd nawr yn cael eu hymgorffori yn y cynllun gweithredu.
Siaradodd yr Arweinydd yn gadarnhaol am y cam cyntaf o gyflwyno adnoddau gwefru ar gyfer cerbydau trydanol dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf a dywedodd ei fod yn si?r y bydd mwy a mwy yn symud at ddefnyddio Cerbydau Trydanol dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Roedd hefyd yn falch bod rhan o'r cam cyntaf yn cael ei ariannu gan Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac y byddai trafodaethau'n parhau gyda Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd am fwy o gymorth i ehangu'r strategaeth yn ardal RhCT
Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:
1. Yn dilyn adborth a gafwyd gan yr ymgynghoriad cyhoeddus mewn perthynas â'r Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydanol, a'r adborth a gafwyd gan Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd, mabwysiadodd y Cabinet y strategaeth arfaethedig yn ffurfiol yn amodol ar unrhyw newidiadau a awgrymwyd a'i chyhoeddi ar wefan y Cyngor.
Dyddiad cyhoeddi: 15/11/2021
Dyddiad y penderfyniad: 15/11/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 15/11/2021 - Cabinet
Effective from: 19/11/2021
Dogfennau Cysylltiedig: