Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Rhannodd Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu yr wybodaeth ddiweddaraf am ddulliau arloesol Trivallis o wario eu Cyllideb Addasiadau 2020/2021 yn ystod pandemig Covid 19. Tynnwyd sylw'r Aelodau at y gwaith partneriaeth ehangach rhwng RhCT a Trivallis i ddarparu cartrefi wedi'u haddasu ar gyfer rhai o drigolion mwyaf agored i niwed y Cyngor ar draws RhCT.
Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr at y modd yr oedd Trivallis wedi defnyddio tanwariant cyllideb addasiadau 2020/21, a grëwyd oherwydd cyfyngiadau Covid-19, mewn ffordd fwy hyblyg ac arloesol, drwy arbrofi gyda dulliau newydd o ddiwallu anghenion cymunedau RhCT. Parhaodd y Cyfarwyddwr trwy ychwanegu bod y prosiectau a gyflawnwyd, y deilliannau a'r adborth gan rai o drigolion mwyaf agored i niwed Bwrdeistref Sirol RhCT wedi bod yn gadarnhaol iawn yn tystio i lwyddiant y ffordd yr oedd Trivallis wedi defnyddio'r gyllideb addasiadau a'r bartneriaeth barhaus rhwng y Cyngor a Trivallis er mwyn diwallu anghenion cymunedau.
Diolchodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu, a Thai i Trivallis am yr addasiadau a gyflwynwyd a chyfeiriodd at y lluniau yn yr adroddiad a oedd yn dangos y buddsoddiad.
Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:
1. Nodi bod Trivallis wedi defnyddio'r gyllideb addasiadau tai ar gyfer 2020/2021, yn dilyn cymeradwyaeth y Cyngor, mewn ffordd fwy hyblyg ac arloesol sydd wedi darparu eiddo wedi'u haddasu sydd wir eu hangen ar ein cymunedau.
2. Cydnabod y gwaith partneriaeth ehangach rhwng RhCT a Trivallis i ddarparu cartrefi wedi'u haddasu ar gyfer rhai o'n preswylwyr mwyaf agored i niwed ar draws RhCT.
3. Er mwyn i Trivallis barhau i weithredu'r model cyflenwi yma, yn amodol ar gymeradwyaeth swyddogion, ar gyfer y gyllideb addasiadau tai ar gyfer 2021/2022, er mwyn darparu eiddo wedi'u haddasu ar gyfer ein cymunedau mewn ymateb i'r pandemig.
Dyddiad cyhoeddi: 23/09/2021
Dyddiad y penderfyniad: 23/09/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 23/09/2021 - Cabinet
Effective from: 29/09/2021
Dogfennau Cysylltiedig: