Manylion y penderfyniad

Manylion y penderfyniad

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu y Strategaeth Dwristiaeth ddrafft RhCT i'r Aelodau. Mae'r strategaeth yn amlygu blaenoriaethau allweddol sy'n gysylltiedig â thwristiaeth. Cyfeiriwyd yr Aelodau at yr ymarfer ymgynghori cyhoeddus a gynhaliwyd ar ddrafft Strategaeth Dwristiaeth RhCT, gan nodi bod y bobl a wnaeth ymateb, ar y cyfan, yn gefnogol i'r Strategaeth a'i chynnwys, ac yn croesawu'r cynigion.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau bod y Strategaeth Dwristiaeth RhCT ddrafft wedi'i diweddaru i gynnwys mân ddiwygiadau (a ddaeth yn sgil sylwadau a gyflwynwyd yn ystod yr ymgynghoriad a chan y Pwyllgor Craffu – Cyllid a Chyflawniad).

 

Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu, a Thai yr adroddiad a chyfeiriodd at bwysigrwydd annog twristiaeth gan gydnabod effeithiau cadarnhaol y pandemig a'r neges i aros gartref mewn perthynas â thwristiaeth. Cyfeiriodd yr Aelod o'r Cabinet at y £179 miliwn mae'r diwydiant twristiaeth yn ei gyfrannu at economi RhCT a gwnaeth sylwadau hefyd ar y buddion o ran cyflogaeth.

 

Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet am yr adborth ymgynghori cadarnhaol a dyfodol disglair y diwydiant twristiaeth yn y Fwrdeistref Sirol.

 

Siaradodd y Dirprwy Arweinydd am yr ystod amrywiol o weithgareddau ledled y Fwrdeistref Sirol a'r angen i barhau i fuddsoddi yn y diwydiant twristiaeth i wella'r cyfleusterau i bawb.

 

Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:

 

1.     Ar ôl trafod yr ymatebion i'r ymarfer ymgynghori cyhoeddus gafodd ei gynnal mewn perthynas â drafft Strategaeth Dwristiaeth RhCT nad oes angen unrhyw newidiadau pellach i'r cynigion, ac eithrio'r rhai a fabwysiadwyd eisoes yn y Strategaeth.

 

2.     Cymeradwyo drafft Strategaeth Dwristiaeth RhCT fel y ddogfen strategol swyddogol a fydd yn sail i flaenoriaethau ac ymdrechion twristiaeth y Cyngor.

 

Dyddiad cyhoeddi: 23/09/2021

Dyddiad y penderfyniad: 23/09/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 23/09/2021 - Cabinet

Effective from: 29/09/2021

Dogfennau Cysylltiedig: