Manylion y penderfyniad

Manylion y penderfyniad

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws Penderfyniad: I'w Benderfynu

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Penderfyniadau:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr, Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a Gwasanaethau'r Gymuned drosolwg i'r Aelodau o'r adroddiad ger eu bron sy'n gofyn i'r Cabinet gymeradwyo Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus newydd i Rondda Cynon Taf. Yn ogystal â hynny, rhannodd y Cyfarwyddwr ganlyniadau'r ymarfer ymgynghori cyhoeddus i adolygu Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus 2018 a chadarnhau cefnogaeth y cyhoedd a rhanddeiliaid ar gyfer Gorchymyn newydd sy'n rheoli ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ymwneud â sylweddau meddwol yn Rhondda Cynon Taf, ac yn cynnwys dau barth gwaharddedig penodol i reoli defnydd sylweddau meddwol (gan gynnwys alcohol) yng nghanol trefi Pontypridd ac Aberdâr. 

 

Darparodd y Cyfarwyddwr y rhesymeg ar gyfer y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus newydd gan gynghori bod angen trafod y cynigion yn rhan o ystod eang o fesurau i fynd i'r afael â phroblemau cymhleth fel ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yfed ar y stryd.  Ychwanegodd fod y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus yn offeryn defnyddiol ond nid yw'n ddigon i ddatrys yr holl broblemau. 

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau fod gan y Cyngor gysylltiadau partneriaeth cryf a sefydledig â Heddlu De Cymru ac asiantaethau cymorth eraill a'r bwriad yw parhau i gryfhau'r perthnasoedd hyn i sicrhau eu bod yn defnyddio'r adnoddau mwyaf priodol sydd ar gael i fynd i'r afael ag achosion unigol o ymddygiad o'r fath.

 

Cyfeiriwyd yr Aelodau at y data yn yr adroddiad a oedd yn cefnogi'r rhesymeg dros fynd â'r penderfyniadau ymlaen ac amlygwyd manylion yr ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd mewn perthynas â'r cynigion i'r Aelodau hefyd.

 

Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol y cynigion a'r sylwadau yn yr ymgynghoriad cyhoeddus mewn perthynas ag ychwanegu Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus newydd a chyfeiriodd at y data yn yr adroddiad a oedd yn cefnogi'r farn yma.  Yn ogystal, croesawodd yr Aelod y cyfle i adolygu Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus 2018.

 

Gwnaeth Aelod o'r Cabinet sylwadau ar yr angen i fusnesau ymddiried yn y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus a bod angen i fusnesau rhoi gwybod am faterion sy'n codi. Gwnaeth sylwadau ar y rhwystredigaethau a brofir weithiau gyda'r gweithdrefnau adrodd cyfredol a soniodd am wasanaeth e-bost newydd yr heddlu, gan ddweud bod angen ei hyrwyddo ymhellach.

 

Gyda chytundeb yr Arweinydd, anerchodd y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol J Brencher y pwyllgor ar yr eitem yma, gan groesawu cyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus.

 

Gwnaeth y Dirprwy Arweinydd sylwadau ynghylch cefnogaeth y cyhoedd a'r angen i gryfhau'r trefniadau adrodd a siaradodd am bwysigrwydd y trefniadau partneriaeth gyda'r heddlu, a oedd yn rhan greiddiol o lwyddiant y cynllun. Cyfeiriodd y Dirprwy Arweinydd hefyd at ddefnyddio Ardal Gwella Busnes Pontypridd i gynorthwyo i fynd i'r afael â phroblemau yng nghanol y dref.

 

Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:

 

1.     Nodi canfyddiadau'r adolygiad y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus a sefydlwyd yn 2018 ynghyd ag adborth y cyhoedd a rhanddeiliaid allweddol mewn perthynas â sefydlu Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus i gynnwys gwaharddiadau a gofynion i reoli ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig ag alcohol a sylweddau meddwol.

 

2.     Cymeradwyo Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus newydd ar gyfer y Fwrdeistref Sirol gyfan i reoli alcohol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig â sylweddau. Bydd y Gorchymyn yn cwmpasu dau barth gwahardd penodol i reoli'r defnydd o sylweddau meddwol (gan gynnwys alcohol) mewn mannau cyhoeddus yng nghanol trefi Aberdâr a Pontypridd.

 

3.     Cymeradwyo newidiadau i'r ffin Parth Sylweddau Meddwol 2018 ym Mhontypridd, sydd wedi'i nodi yn Atodiad 2 yr adroddiad, i gynnwys yr ardal o amgylch Fflatiau Dyffryn Taf yn ardal y Graig Isaf, yr ardal y tu allan i D? Pennant, Pontypridd a'r ardal danffordd ger Gorsaf Fysiau Pontypridd.

 

4.     Cymeradwyo Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus newydd am gyfnod o 3 blynedd i gynnwys yr un amodau â Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus 2018 a rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned i lunio'r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus terfynol sy'n ymwneud â Sylweddau Meddwol gan gynnwys Alcohol a sicrhau ei fod yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor.

 

5.     Cynnal y ddirwy am gosbau penodedig ar gyfer troseddau sy'n groes i'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus yn £100.

 

Dyddiad cyhoeddi: 23/09/2021

Dyddiad y penderfyniad: 23/09/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 23/09/2021 - Cabinet

Effective from: 29/09/2021

Dogfennau Cysylltiedig: