Manylion y penderfyniad

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws Penderfyniad: I'w Benderfynu

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Penderfyniadau:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant ei adroddiad i'r Aelodau. Mae'r adroddiad yn nodi cyflawniad Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor y llynedd, gan amlygu'r cyfeiriad a'r blaenoriaethau a osodwyd ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

Rhoddwyd trosolwg i'r Aelodau o'r gwaith a wnaed, a oedd hefyd yn adlewyrchu ar y cynnydd a wnaed yn erbyn y blaenoriaethau a nodwyd yn yr adroddiad blynyddol blaenorol. Hysbyswyd yr Aelodau bod yr adroddiad yn wahanol i adroddiadau blaenorol i'r graddau ei fod hefyd yn cynnwys pennod benodol yn nodi ymateb y gwasanaethau i bandemig Covid-19 yn ystod y flwyddyn gyfan. Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Cyfadran at yr amgylchiadau heriol y mae pawb yn eu hwynebu a'r effaith aruthrol pandemig Covid ar staff ac ar y gallu i ddarparu'r gwasanaeth.

 

Fe wnaeth yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau i Oedolion a'r Gymraeg longyfarch y Cyfarwyddwr Cyfadran ar ei Adroddiad Blynyddol cyntaf fel Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol a myfyrio ar ddigwyddiadau pwysig y flwyddyn flaenorol yn sgil pandemig Covid, a'r effeithiau ar staff a defnyddwyr y gwasanaeth.  Gwnaeth yr Aelod o'r Cabinet sylwadau ar yr heriau a wynebwyd a sut llwyddwyd i ddarparu gwasanaethau yn barhaus trwy'r pandemig, gan nodi ei fod yn dyst i ymroddiad, ymrwymiad ac ymdrechion staff, nid yn unig yn y gwasanaethau cymdeithasol ond ar draws y Cyngor cyfan.

Parhaodd yr Aelod o'r Cabinet trwy drafod gweledigaethau'r gwasanaeth ar gyfer y dyfodol a'r angen am ymgysylltiad cyhoeddus wrth helpu i lunio'r gwasanaethau hyn i sicrhau eu bod yn addas at y diben.

 

Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Plant a Phobl Ifainc yr adroddiad a manteisiodd ar y cyfle i gyfeirio at waith y gwasanaethau ieuenctid a'u dull rhagweithiol o ddarparu gwasanaethau i bobl ifainc y Fwrdeistref Sirol, gan gyfeirio at y ffaith bod y cynnig ar gael i bawb a oedd ei angen wedi'i gynnal ar-lein o fewn 72 awr i'r cyhoeddiad am gyfnod clo.

 

Adleisiodd yr Arweinydd sylwadau'r Aelod o'r Cabinet, gan ddiolch i staff a nodi'r pwysau aruthrol a oedd yn wynebu’r sector gofal cymdeithasol.

 

Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:

 

1.     Cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol Rhondda Cynon Taf, sydd wedi'i atodi fel Atodiad 1 yr adroddiad.

 

Dispensation to Speak:

County Borough Councillor R Bevan referenced his dispensation in relation to the item: As in accordance with the dispensation provided to me by the Standards Committee on the 27th November 2020 I have dispensation to speak and vote on all matters relating to the Community and Children’s Services Group, save for any specific matters that directly affect my daughter who is employed by the Council in the Community and Children’s Services Group as the Service Manager for Access and Enablement.

Dyddiad cyhoeddi: 23/09/2021

Dyddiad y penderfyniad: 23/09/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 23/09/2021 - Cabinet

Effective from: 29/09/2021

Dogfennau Cysylltiedig: