Manylion y penderfyniad

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Rhoddodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Cyllid a Gwella, drosolwg i'r Aelodau am gyflawniad y Cyngor dros dri mis cyntaf y flwyddyn ariannol hon (hyd at 30 Mehefin 2021), o ran materion ariannol a gweithredol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod yr adroddiad wedi'i lunio yng nghyd-destun pandemig Covid-19 a'i fod yn parhau i achosi heriau sylweddol wrth ddarparu Gwasanaethau'r Cyngor ochr yn ochr â chostau ychwanegol sylweddol a cholledion incwm sydd, hyd yma, wedi gweld y rhan fwyaf o achosion yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau fod sefyllfa cyllideb refeniw Chwarter 1 yn rhagamcanu gorwariant o £0.415 miliwn, a oedd yn amcanestyniad cynnar ar gyfer y flwyddyn lawn ac sy'n adlewyrchu effaith y newidiadau a ragwelir yn y galw hyd at ddiwedd y flwyddyn, gyda phwysau yn bennaf o fewn y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion a'r Gwasanaethau i Blant. Mae'n ystyried costau ychwanegol a cholledion incwm a ragwelir o ganlyniad uniongyrchol i bandemig Covid-19 (gan dybio eu bod yn cael eu hariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru).  Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y bydd gwaith yn parhau i fonitro sefyllfa ariannol y Cyngor, adnewyddu rhagolygon ariannol wrth i wybodaeth wedi'i diweddaru ddod ar gael a pharhau i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru i dynnu sylw at bwysigrwydd darparu cyllid ychwanegol i gefnogi goblygiadau ariannol Covid-19 a phwysau parhaus costau parhaol.

 

Roedd buddsoddiad cyfalaf ar 30 Mehefin 2019 yn £10.624 miliwn, gyda nifer o gynlluniau yn cael eu hail-broffilio yn ystod y chwarter i adlewyrchu newidiadau mewn costau yn ogystal â cheisiadau am grant allanol newydd sydd wedi'u cymeradwyo. Mae'r gwariant hyd yma yn cynrychioli parhad rhaglen fuddsoddi tymor hir sy'n cefnogi gwelliannau gweladwy i seilwaith ac asedau ledled y Fwrdeistref Sirol, a hynny gan ystyried gofynion diogelwch Covid-19.

 

O ran blaenoriaethau Cynllun Corfforaethol y Cyngor, sef 'Pobl, Lleoedd a Ffyniant', gwnaed cynnydd da ar y cyfan yn ystod tri mis cyntaf y flwyddyn.

 

Daeth y Cyfarwyddwr Gwasanaeth â'i adroddiad i ben drwy rannu'r trydydd diweddariad cynnydd parthed cyflwyno argymhellion i wella ymateb y Cyngor i dywydd garw, roedd y Cyngor mewn lle da, gyda chamau allweddol yn cael eu datblygu i ddangos cyfeiriad clir ar gyfer y dyfodol.

 

Diolchodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Corfforaethol i swyddogion am yr adroddiad a gwnaeth sylwadau ar y gorwariant a ragwelir a'r pwysau sy'n wynebu'r Cyngor mewn perthynas â'r gwasanaethau cymdeithasol a'r angen am gefnogaeth barhaus gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo i leddfu'r pwysau hyn.  Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet y buddsoddiad parhaus yn y rhaglen gyfalaf a'r gwaith parhaus a wnaed a oedd yn cyd-fynd â'r gwaith adfer sydd ei angen ar draws y Fwrdeistref Sirol yn dilyn y tywydd garw.  Talodd yr Aelod o'r Cabinet deyrnged i staff y Cyngor a siaradodd am y pwysau ychwanegol a roddir ar wasanaethau oherwydd y pandemig a allai fod wedi cael effaith ar y cynnydd bach yn lefelau salwch.

Parhaodd yr Aelod o'r Cabinet trwy ddarparu trosolwg manwl o waith cadarnhaol y Cyngor mewn ystod o wahanol wasanaethau a oedd yn edrych yn bennaf ar wella'r gwasanaethau a ddarperir i drigolion Rhondda Cynon Taf.

 

Adleisiodd yr Arweinydd sylwadau'r Aelod i'r Cabinet a soniodd am sut llwyddodd y Cyngor i barhau i ddarparu ei wasanaethau craidd yn ystod y pandemig a sut datblygwyd gwasanaethau newydd i helpu i gefnogi preswylwyr a phartneriaid yn ystod yr amser yma, drwy ffyrdd arloesol o feddwl a darparu gwasanaethau i sicrhau diogelwch pawb.

 

Manteisiodd y Dirprwy Arweinydd ar y cyfle i dalu teyrnged i waith caled ac ymroddiad staff y Cyngor yn ystod y pandemig a thu hwnt.

 

Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gofal Cymdeithasol i Oedolion a’r Gymraeg am y pwysau a roddir ar y sector gofal cymdeithasol a’r angen i Lywodraeth Cymru fod yn effro i’r pwysau a’r angen am gymorth ychwanegol yn y maes yma ac unwaith eto talodd deyrnged i’r staff yn y sector sy'n mynd y tu hwnt i'r disgwyl er budd eraill.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod pwysau aruthrol ar wasanaethau gofal cymdeithasol ledled Cymru a chroesawodd unrhyw arian ychwanegol y gellid ei sicrhau gan Lywodraeth Cymru.

 

Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:

 

1.       Nodi effaith barhaus pandemig Covid-19 ar ddarparu gwasanaethau ac, ochr yn ochr, ailgyflwyno gwasanaethau wrth i gyfyngiadau Covid-19 gael eu codi'n raddol

 

Refeniw

 

2.       Nodi a chytuno ar sefyllfa alldro refeniw'r Gronfa Gyffredinol ar 30 Mehefin 2021 (Adran 2 o'r Crynodeb Gweithredol) a nodi'r cyllid parhaus gan Lywodraeth Cymru i gefnogi gwasanaethau yn sgil Covid-19.

 

Cyfalaf

 

3.       Nodi sefyllfa alldro cyfalaf y Cyngor fel y mae ar 30 Mehefin 2021 (Adrannau 3a-e o'r Crynodeb Gweithredol).

 

4.       Nodi manylion Dangosyddion Materion Darbodusrwydd Cylch Rheoli’r Trysorlys fel y mae ar 30 Mehefin 2019 (Adran 3f o'r Crynodeb Gweithredol).

 

Blaenoriaethau'r Cynllun Corfforaethol

 

5.       Nodi diweddariadau cynnydd Chwarter 2 ar gyfer blaenoriaethau Cynllun Corfforaethol y Cyngor (Adrannau 5 a - c o'r Crynodeb Gweithredol).

 

6.       Nodi'r adroddiad cynnydd i wella ymateb tymor byr a thymor hir y Cyngor i ddigwyddiadau tywydd eithafol (adran 6 o'r Grynodeb Weithredol)

 

Dyddiad cyhoeddi: 21/09/2021

Dyddiad y penderfyniad: 21/09/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 21/09/2021 - Cabinet

Dogfennau Cysylltiedig: