Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Cyflwynodd Cyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor ei adroddiad i'r Aelodau yn gofyn am awdurdod i ddynodi tir a elwir ar hyn o bryd yn 'Barc Cefn Gwlad Cwm Clydach' yng Nghwm Clydach, Tonypandy (Cwm Rhondda Fawr) yn Barc Gwledig yn unol â darpariaethau Deddf Cefn Gwlad 1968. Dywedwyd wrth yr Aelodau am y rhesymeg dros y cynnig.
Dywedodd y Cyfarwyddwr wrth y Cabinet y byddai ei ddynodi'n Barc Gwledig yn caniatáu i'r Cyngor godi arwyddion Cyrchfan Twristiaeth, nodi statws penodol yr ardal a hyrwyddo'r ardal i ymwelwyr. Byddai'r Gwasanaeth Twristiaeth yn hyrwyddo'r lleoliad yn rhan o gynnig ehangach i ymwelwyr y parc, a fyddai'n cyfrannu at y thema 'gweithgareddau awyr agored' a nodwyd yn Strategaeth Dwristiaeth y Cyngor. Byddai dynodi'r tir yn Barc Gwledig hefyd yn caniatáu i'r Cyngor a'i bartneriaid wneud cais am arian grant allanol i wella'r cyfleoedd i drigolion ac ymwelwyr a gwella iechyd a lles y bobl sy'n defnyddio'r Parc Gwledig.
Gwnaeth yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Corfforaethol sylwadau cadarnhaol ar y cynnig a'r effaith gadarnhaol y byddai hyn yn ei chael ar ardal leol Cwm Clydach a chodi ymwybyddiaeth ymhellach o ardaloedd cefn gwlad y Fwrdeistref Sirol. Roedd yr Aelod yn gobeithio y byddai'r dynodiad yma'n arwain at ddenu cyllid i'r ardal.
Gwnaeth y Dirprwy Arweinydd sylwadau ar y nodweddion ym mharc gwledig Cwm Clydach a soniodd am y gwelliannau y byddai'r dynodiad yma'n ei gynnig i'r nodweddion cadarnhaol sydd eisoes yn bodoli.
Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:
1. Cymeradwyo dynodi darn o dir a elwir ar hyn o bryd yn Barc Cefn Gwlad Cwm Clydach, yn mesur oddeutu 67.2 ha / 166 erw yng Nghwm Clydach, Tonypandy yn 'Barc Gwledig Cwm Clydach' yn unol â darpariaethau Deddf Cefn Gwlad 1968
Dyddiad cyhoeddi: 21/09/2021
Dyddiad y penderfyniad: 21/09/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 21/09/2021 - Cabinet
Effective from: 25/09/2021
Dogfennau Cysylltiedig: