Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Adroddodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth Ysgolion yr 21ain Ganrif a Thrawsnewid am ddeilliant cyhoeddi'r Hysbysiad Statudol diweddar ynghylch y cynnig i gynnal newidiadau a reoleiddir yn Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn trwy symud yr ysgol i adeilad newydd ar safle newydd.
Dywedwyd wrth yr Aelodau, yn dilyn cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 17 Mehefin 2021, y penderfynwyd symud ymlaen i gam nesaf y broses statudol a chyhoeddi'r Hysbysiad Statudol angenrheidiol. Cyhoeddwyd yr Hysbysiad Statudol ar 25 Mehefin 2021, gan ddechrau'r Cyfnod Gwrthwynebu. Roedd yr hysbysiad yn para am gyfnod o 28 diwrnod a dywedwyd wrth yr Aelodau na chyflwynwyd unrhyw wrthwynebiadau na sylwadau yn ystod y cyfnod.
Gwnaeth yr Aelod o'r Cabinet dros Addysg a Chynhwysiant sylwadau ar y cynllun uchelgeisiol sy'n cael ei ddatblygu a'r angen i drawsnewid yr ysgol i sicrhau'r addysg orau i bobl ifainc y Fwrdeistref Sirol. Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet am yr ymateb cadarnhaol i'r cynllun. Cafodd hyn ei bwysleisio ymhellach gan na dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau yn ystod y cyfnod gwrthwynebiadau.
Croesawodd y Dirprwy Arweinydd y buddsoddiad pellach yn yr ysgolion yn y Fwrdeistref Sirol. Mynegodd yr Arweinydd ei fod yntau'n croesawu'r buddsoddiad hefyd.
Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:
1. Nodi na dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau, na sylwadau mewn ymateb i gyhoeddiad yr hysbysiad statudol i weithredu'r cynnig yma.
2. Gweithredu'r cynnig heb unrhyw newidiadau.
3. Derbyn adroddiadau pellach wrth i'r prosiect ddatblygu a symud ymlaen trwy brosesau cymeradwyo Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 21/09/2021
Dyddiad y penderfyniad: 21/09/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 21/09/2021 - Cabinet
Effective from: 25/09/2021
Dogfennau Cysylltiedig: