Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Darparodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Rheng Flaen drosolwg o'i adroddiad a gynigiodd raglen beilot o waith i strydoedd preifat nad yw'r Cyngor yn credu eu bod yn cyrraedd safonau'r Cyngor o ran gwaith carthffos, lefelau, gosod palmantau, arwyneb y ffordd, fflagio, sianeli, goleuo a gwelliannau. Dywedwyd wrth yr Aelodau bod oddeutu 190km o strydoedd preifat wedi'u nodi ar draws RhCT ynghyd â nifer anhysbys o strydoedd preifat anhysbys. Mae mwy na 90% o strydoedd preifat wedi'u nodi.
Dywedwyd wrth yr Aelodau fod Llywodraeth Cymru wedi dyrannu cyllid i brosiect peilot i gynorthwyo cynghorau i wneud gwaith i ddod â strydoedd preifat i safon addas ac i'w mabwysiadu fel priffyrdd y gellir eu cynnal ar draul y cyhoedd. Rhannwyd i'r Cyngor gyflwyno cynnig llwyddiannus am £157,000 o gyllid i wneud gwaith ar stryd breifat yn Belle Vue, a gofynnodd y Cyfarwyddwr am gymeradwyaeth y Cyngor i symud ymlaen â gwaith ar stryd breifat yn Belle Vue, Trecynon gan ddefnyddio cyllid grant Llywodraeth Cymru.
Cyfeiriodd yr Arweinydd at ei ran ar un o weithgorau Llywodraeth Cymru yn edrych ar faterion o'r fath gan ei fod yn broblem ledled Cymru. Cyfeiriodd yr Arweinydd at y cyllid gan Lywodraeth Cymru a'r ardal a awgrymwyd ar gyfer y buddsoddi yn Belle Vue a chyfeiriodd hefyd at y 6 ardal a nodwyd gan y Cyngor ar gyfer y rhaglen beilot. Gwnaeth yr Arweinydd sylwadau am yr ymateb cadarnhaol i waith ymgysylltu gyda'r cyhoedd.
Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Gwasanaethau Treftadaeth y rhaglen beilot a’r cyllid a gafwyd gan Lywodraeth Cymru.
Yna, anerchodd y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol P Jarman y Pwyllgor.
Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:
1. Nodi a chymeradwyo'r strydoedd sydd wedi'u rhestru i fod yn rhan o'r prosiect peilot yn Atodiad A yr adroddiad.
2. Penderfynu nad yw'r gwaith carthffosiaeth, lefelau, palmentydd, arwyneb y ffordd, gwaith fflagio, sianeli na golau stryd ar y strydoedd sydd wedi'u rhestru yn Atodiad A yn cyrraedd safon yr Awdurdod.
3. Cyfarwyddo'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Rheng Flaen i baratoi cynlluniau, amcangyfrifon a dosraniadau dros dro a chyflwyno'r rhain i'w cymeradwyo mewn adroddiad yn y dyfodol i Gyfarwyddwr Cyfadran - Ffyniant, Datblygu, a Gwasanaethau Rheng Flaen i'w hystyried a'u cymeradwyo ar y cyd â deiliad y portffolio.
4. Nodi a chymeradwyo'r gwaith arfaethedig a'r amcangyfrif ar gyfer Belle Vue, Trecynon fel y dangosir yn Atodiad B yr adroddiad.
5. Fydd perchnogion yr eiddo ar y ffyrdd ddim yn gyfrifol am dalu unrhyw gostau
Dyddiad cyhoeddi: 21/09/2021
Dyddiad y penderfyniad: 21/09/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 21/09/2021 - Cabinet
Effective from: 25/09/2021
Dogfennau Cysylltiedig: