Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Rhannodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Rhianta Corfforaethol ar gyfer 2020 - 2021 â'r Aelodau, a amlinellodd waith y Bwrdd trwy gydol Blwyddyn y Cyngor. Dywedwyd wrth yr Aelodau bod yr adroddiad hefyd yn cynnwys y meysydd blaenoriaeth y byddai'r Bwrdd yn eu trafod yn y dyfodol er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn gwella'r gwasanaethau mae'n eu darparu i blant a phobl ifainc sy'n derbyn gofal.
Manteisiodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Plant a Phobl Ifainc a Chadeirydd y Bwrdd ar y cyfle i ddiolch i holl Aelodau'r Bwrdd am eu gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf, fel yr adlewyrchir yn yr adroddiad a'r gwaith cadarnhaol a ddatblygwyd yn y gwasanaeth er budd y plant a'r bobl ifainc sy'n derbyn gofal. Cofnododd hefyd ei diolch i'r staff yn y gwasanaeth am barhau i gyflawni yn ystod y pandemig.
Adleisiodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau i Oedolion a'r Gymraeg y sylwadau a wnaed ac fel Is-gadeirydd y Bwrdd, talodd deyrnged i'r Cadeirydd am ei stiwardiaeth yn ystod y flwyddyn.
PENDERFYNWYD:
1. Nodi Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Rhianta Corfforaethol ar gyfer 2020/21
Dyddiad cyhoeddi: 21/09/2021
Dyddiad y penderfyniad: 21/09/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 21/09/2021 - Cabinet
Effective from: 25/09/2021
Dogfennau Cysylltiedig: