Manylion y penderfyniad

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo (yn amodol ar gael eu galw i mewn)

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, adborth i'r Cabinet gan Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd a'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, wnaeth gyfarfod ar 14 a 15 Mehefin 2021, yn y drefn honno, i ystyried yr adroddiad ar yr Ymatebion i'r Ymgynghoriad ar y Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd Ddrafft (2021-2025).

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau am yr ymatebion a dderbyniwyd gan y Pwyllgorau cyn cael trosolwg o'r ymatebion mewn perthynas â'r strategaeth hinsawdd ddrafft. Dywedwyd wrth yr Aelodau am y dulliau a ddefnyddiwyd i ymgynghori ar y strategaeth gan ddefnyddio'r platfform 'Dewch i Siarad RhCT'. 

 

Cyfeiriwyd yr Aelodau at adran 6 yr adroddiad, sy'n cyflwyno'r canfyddiadau allweddol i ymatebion yr ymgynghoriad, gyda 76% o'r ymatebwyr i'r arolwg yn cytuno y dylid nodi gwaith y Cyngor i fynd i'r afael â Newid Hinsawdd mewn un cynllun. Clywodd yr Aelodau fod 392 o bobl wedi cymryd rhan yn yr ymgysylltiad ar y Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd, gyda 220 o bobl yn cymryd rhan yn uniongyrchol yn yr ymgysylltiad trwy'r ymgyrch Dewch i Siarad am Newid yn yr Hinsawdd.Cafodd 349 eu hysbysu (wedi edrych ar ddogfennau a thudalennau lluosog) ac roedd 608 yn ymwybodol (wedi ymweld â'r safle).

 

Gwnaeth yr Aelod o’r Cabinet ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol a Chadeirydd y Gr?p Llywio ar Faterion yr Hinsawdd sylwadau am y lefel uchel o gefnogaeth i'r strategaeth a'r angen i ddod yn Fwrdeistref Sirol niwtral o ran carbon.  Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet farn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu mewn perthynas â'r ymatebion i'r ymgynghoriad.

 

Croesawodd yr Arweinydd gyfranogiad y cyhoedd a gwnaeth sylwadau am y dull cydgysylltiedig sydd ei angen ar y Cyngor a'r cymunedau i fwrw ymlaen â'r newidiadau yma er mwyn sicrhau bod y Fwrdeistref Sirol gyfan yn Garbon Niwtral mor agos â phosibl at 2030.

 

 

Ar ôl trafod PENDERFYNWYD:

 

 

1.    Nodi cynnwys yr adroddiad a drafodwyd gan Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu;

 

2.    Nodi sylwadau ac arsylwadau Gr?p Llywio'r Cabinet ,ar Faterion yr Hinsawdd ar ôl trafod yr adroddiad yn ei gyfarfod ar 14 Mehefin 2021; a sylwadau ac arsylwadau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn dilyn rhag-graffu ar yr adroddiad yn ei gyfarfod ar 15 Mehefin 2021 fel y cyfeirir ato yn yr adroddiad.

 

3.    I'r argymhellion a gyflwynir o fewn Canfyddiadau Ymgynghori'r Strategaeth Newid Hinsawdd Ddrafft (2021-2025), sydd ynghlwm fel Atodiad 1 i'r adroddiad hwn, ac er hwylustod a restrir isod:

 

               i. Gofyn i Swyddogion ddefnyddio'r adborth i lywio datblygiad y Strategaeth Newid Hinsawdd derfynol.

 

              ii. Cytuno i gefnogi'r dull o hwyluso sgwrs barhaus ar newid yn yr hinsawdd gyda thrigolion, busnesau lleol a phartneriaid, sy'n gysylltiedig â chynllun gwaith terfynol y Strategaeth Newid Hinsawdd.

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 24/06/2021

Dyddiad y penderfyniad: 24/06/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 24/06/2021 - Cabinet

Dogfennau Cysylltiedig: