Manylion y penderfyniad

Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo

Is KeyPenderfyniad?: Na

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Penderfyniadau:

Rhoddodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol wybodaeth i'r Cabinet am setliad llywodraeth leol 2021/2022 a chanlyniadau cam 1 o ymgynghoriad y gyllideb, i gynorthwyo gyda'i drafodaethau wrth lunio'r strategaeth cyllideb refeniw ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22, y bydd yn ei hargymell i'r Cyngor i'w chymeradwyo.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr y Cabinet at y papur trafod a baratowyd gan Uwch Arweinwyr y Cyngor mewn ymateb i setliad llywodraeth leol 2021/22, a oedd ynghlwm yn Atodiad A i'r adroddiad.

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr mai cyfanswm cyfredol Balansau Cronfa Gyffredinol y Cyngor ar hyn o bryd yw £8.709 miliwn a dywedodd ei fod yn parhau i fod o'r farn y dylai'r Cyngor ddal o leiaf £10 miliwn fel Balansau'r Gronfa Gyffredinol. Nododd y Cyfarwyddwr fod y cronfeydd wrth gefn wedi'u defnyddio i helpu preswylwyr a busnesau ar ôl Storm Dennis, sef y pwrpas priodol, yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf; ac roedd yn fodlon bod cynlluniau wedi'u rhoi ar waith i ailgyflenwi Cronfeydd Wrth Gefn y Gronfa Gyffredinol i'r lefel isafswm dros gyfnod ein Cynllun Ariannol Tymor Canolig (£0.5 miliwn y flwyddyn am y 3 blynedd nesaf). Aeth y Cyfarwyddwr ymlaen i siarad am Gronfa Ariannu Pontio'r Cyngor, sy'n £4.330 miliwn ar hyn o bryd, ac sydd, ers blynyddoedd lawer, wedi'i ddefnyddio'n synhwyrol fel rhan o'r strategaeth gyllideb gytbwys.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr y Cabinet at Adran 3 yr adroddiad a rhoi gwybod i'r Aelodau am bwyntiau allweddol Setliad Llywodraeth Leol 2021/22 Dros Dro, a gyhoeddwyd ar 22 Rhagfyr 2020.

 

O ran gosod lefel Treth y Cyngor, soniodd y Cyfarwyddwr am dargedu cyllid digonol tuag at ddarparu gwasanaethau allweddol ac, ar yr un pryd, sicrhau bod swm Treth y Cyngor a godir y flwyddyn nesaf yn rhesymol ac y gellir ei chyfiawnhau i breswylwyr. Nododd yr Aelodau mai'r cynnig gwreiddiol a gafodd ei fodelu oedd cynyddu Treth y Cyngor yn 2020/21 o 2.85%, ond cynigiwyd y dylid cynyddu Treth y Cyngor o 2.65% yn lle hynny. Byddai hyn yn cynyddu'r bwlch cyllidebol sy'n weddill o £182,000.

 

O ran y Gyllideb Ysgolion, cynigiodd y Cyfarwyddwr gynnydd o £2.2 miliwn o £161.6 miliwn i £163.8 miliwn er mwyn cwmpasu yr holl bwysau chwyddiant a nifer y disgyblion yn llawn, gan gynnwys costau uwch Ardrethi Annomestig. 

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr fanylion y cynigion a canlynol y manylir arnynt yn Adran 9 yr adroddiad, a fyddai'n ceisio amddiffyn gwasanaethau rheng flaen a blaenoriaethu neu ailddyrannu adnoddau i feysydd blaenoriaeth:

·         Cynllun rhyddhad lleol - Ardrethi Annomestig  

·         Costau parcio

·         Newid yn yr Hinsawdd a Lleihau Carbon

·         Graddedigion    

·         Cefnogi lles.

·         Ffïoedd a chostau

·         Gwasanaethau Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd - Adnoddau Ychwanegol

·         Cymorth Atal Llifogydd

·         Carfan Torri Gordyfiant

 

Aeth y Cyfarwyddwr ymlaen i roi gwybod i'r Cabinet am adborth o Gam 1 y broses ymgynghori, a oedd yn ceisio barn y Pwyllgor Craffu - Cyllid a Chyflawniad, y Fforwm Cyllideb Ysgolion, preswylwyr a rhanddeiliaid. I gloi, dywedodd wrth y Cabinet, yn dilyn cymeradwyo'r cynigion ger eu bron, byddai Cam 2 yr ymgynghoriad yn cychwyn ar unwaith. Byddai'r Strategaeth Gyllideb ddrafft yn cael ei chyflwyno i'r Cabinet i'w chymeradwyo ar 25 Chwefror 2021 ac yna i'r Cyngor i'w gadarnhau ar 10 Mawrth 2021.

 

Manteisiodd yr Arweinydd ar y cyfle i ddiolch i'r Uwch Arweinwyr, swyddogion cyllid a rheolwyr gwasanaeth am yr adroddiad trylwyr ac am gyllideb heb unrhyw doriadau, a'r cynnydd isaf, o bosibl, yn Nhreth y Cyngor yng Nghymru. Gan gyfeirio at adborth ymgynghoriad Cam 1, dywedodd yr Arweinydd y bu cefnogaeth sylweddol gan breswylwyr o ran y blaenoriaethau buddsoddi a bod 77% wedi cefnogi'r cynnydd arfaethedig o 2.85% yn Nhreth y Cyngor.

 

Siaradodd yr Arweinydd am y blaenoriaethau buddsoddi amrywiol y manylwyd arnyn nhw yn yr adroddiad ar gyfer meysydd allweddol fel iechyd y cyhoedd, lles a chymorth atal llifogydd, ynghyd â'r rhewi arfaethedig ar daliadau ar Hamdden am Oes, ffioedd parcio, Ffioedd Chwarae Haf a Gaeaf, prydau ysgol , ffioedd profedigaeth, yn ogystal â'r Lido a Pharc Treftadaeth Cwm Rhondda.

 

Canmolodd y Dirprwy Arweinydd swyddogion am yr adroddiad cadarnhaol a chydnabu fod arbedion effeithlonrwydd yn dod yn anos flwyddyn ar ôl blwyddyn, yn enwedig o ystyried effaith pandemig Covid-19 a Storm Dennis.

 

Cytunodd yr Aelod o'r Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Corfforaethol gyda’r Cyfarwyddwr ei bod wedi bod yn hanfodol defnyddio cyfran o Gronfeydd Wrth Gefn y Gronfa Gyffredinol, ac roedd yn falch o nodi bod cynllun i’w ailgyflenwi dros y tair blynedd nesaf. Cytunodd yr Aelod o'r Cabinet hefyd â'r defnydd parhaus a synhwyrol o Gronfa Wrth Gefn Pontio'r Cyngor, a theimlai ei fod yn ategu gwaith caled pob adran wrth wneud arbedion effeithlonrwydd.

 

Croesawodd yr Aelod o’r Cabinet ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol y buddsoddiad ychwanegol sydd wedi'i gynnwys yn y gyllideb arfaethedig mewn perthynas â Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon, a oedd yn dystiolaeth o ymrwymiad y Cyngor i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a dod yn Awdurdod carbon niwtral erbyn 2030.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Nodi bod y gweithdrefnau sy'n ymwneud ag adeiladu cyllideb refeniw, y broses ymgynghori cyllideb, ac adrodd i'r Cyngor, wedi'u nodi yn "Y Gyllideb a'r Fframwaith Polisi", sy'n cael ei gynnwys yng Nghyfansoddiad y Cyngor;

2.    Nodi ac ystyried canlyniadau proses cam 1 o ymgynghori ar y gyllideb;

3.    Strategaeth Gyllideb Refeniw ddrafft 2021/22, y manylir arni yn y Papur Trafod ynghlwm 'Atodiad A', fel sail ar gyfer ail gam yr ymgynghoriad;

4.    Yr amserlen ddrafft ar gyfer pennu cyllideb refeniw 2021/22, sydd wedi'i nodi yn Atodiad A2;

5.    Derbyn adborth o ail gam yr ymgynghoriad cyllideb er mwyn trafod a phenderfynu ar y strategaeth gyllidebol derfynol i'w chyflwyno i'r Cyngor;

6.    Bod y Cyngor yn parhau i gefnogi'r strategaeth ariannol tymor canolig gyda'r nod o sicrhau'r effeithlonrwydd parhaus o ran darparu gwasanaethau, trawsnewid gwasanaethau wedi'u targedu a newidiadau eraill sy'n cynnal uniondeb ariannol y Cyngor wrth barhau i anelu cymaint â phosibl i ddiogelu swyddi a gwasanaethau allweddol.

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 28/01/2021

Dyddiad y penderfyniad: 28/01/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 28/01/2021 - Cabinet

Effective from: 04/02/2021

Dogfennau Cysylltiedig: