Manylion y penderfyniad

Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo

Is KeyPenderfyniad?: Na

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Penderfyniadau:

Rhoddodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned wybod i'r Cabinet am ddeilliannau'r gweithgaredd ymgynghori a cheisiodd awdurdod i ymestyn y Ddau Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus mewn perthynas â mesurau rheoli c?n yn Rhondda Cynon Taf (mesurau Rheoli C?n).

 

Cyn cyflwyno'r adroddiad, dymunodd y Cyfarwyddwr ddiolch i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheolwr Polisi Corfforaethol a Materion Ymgynghori am eu gwaith caled mewn perthynas â'r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus yn ystod y misoedd blaenorol.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr bod yna nifer fach o berchenogion c?n sy'n parhau i beidio â chodi baw c?n neu sydd ddim yn eu cadw o dan reolaeth er cyflwyno'r Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus mewn perthynas â Mesurau Rheoli C?n. O ganlyniad i hynny, roedd y Cyfarwyddwr o'r farn ei bod hi'n hanfodol bod y Gorchmynion, fyddai fel arfer yn dod i ben ar 30 Medi 2020, yn cael eu hadnewyddu am gyfnod o 3 blynedd pellach er mwyn cynnal y manteision sylweddol sy'n gysylltiedig â baw c?n a sicrhau bod y mesurau perthnasol yn parhau i gael eu gweithredu i fynd i'r afael â'r nifer fach o bobl sy'n parhau i anwybyddu'r cyfreithiau sydd mewn grym.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr at yr Atodiad, oedd yn cynnwys deilliannau ar gyfer y gweithgaredd ymgynghori â'r cyhoedd pedair wythnos. Roedd y Cyfarwyddwr yn falch o roi gwybod i Aelodau bod y cyhoedd o blaid dull y Cyngor mewn perthynas â mynd i'r afael â baw c?n,  parhad y Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus am gyfnod o dair blynedd a chadw'r ddirwy uchaf posibl. Esboniodd y Cyfarwyddwr bod nifer o'r rheiny oedd wedi ymateb yn teimlo bod baw c?n yn parhau i fod yn broblem yn RhCT, ond roedden nhw'n cydnabod bod gwelliannau wedi bod yn dilyn cyflwyno'r Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus.

 

Nododd y Cyfarwyddwr bod Cynghorau Cymuned Llanhari a Phont-y-clun wedi gofyn bod y Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus yn cael ei ymestyn i gynnwys safleoedd yn eu hardaloedd nhw ac efallai bydd Aelodau'n dymuno amrywio'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus i adlewyrchu'r cais hwnnw. Siaradodd y Cyfarwyddwr am y gwaith marchnata a chodi ymwybyddiaeth, a gafodd ei gynnal adeg cyflwyno'r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus yn 2017. Gofynnodd bod Aelodau'n ystyried cynnal gwaith tebyg.

 

Rhannodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu sylwadau'r Pwyllgor Craffu – Cynnal Gwasanaethau Cyhoeddus, Cymunedau a Ffyniant ag Aelodau. Cafodd y Pwyllgor gyfle i roi sylw i'r cynigion cyn y cam craffu yn ystod ei gyfarfod ar 23 Medi 2020. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wybod i'r Cabinet bod Aelodau'r Pwyllgor Craffu o blaid parhau â'r Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus ac yn cydnabod effaith gadarnhaol y Gorchmynion.

 

Siaradodd yr Aelod o’r Cabinet ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol yn gadarnhaol am barhau gyda'r Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus, gan nodi bod yr ymyraethau wedi'u targedu wedi bod yn llwyddiannus yn ystod y blynyddoedd diwethaf er mwyn mynd i'r afael â baw c?n a sicrhau bod y strydoedd yn lân. 

 

Dymunodd yr Aelod o’r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden, a Gwasanaethau Treftadaeth ddiolch i'r swyddog am yr adroddiad a'r Pwyllgor Craffu am eu sylwadau. Roedd yr Aelod o'r Cabinet wedi cydnabod bod yr ymgynghoriad wedi'i reoli mewn ffordd wahanol, ond roedd yn fodlon gyda'r lefel ymgysylltu.  Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet y cynnig i ymestyn am gyfnod o dair blynedd, roedd yn falch o nodi bod dros 90% o drigolion yn cefnogi'r cynigion.

 

Siaradodd y Dirprwy Arweinydd yn gadarnhaol am y broses ymgynghori, gan nodi bod y canlyniadau'n cyfleu cefnogaeth y gymuned o ran mynd i'r afael â baw c?n. Manteisiodd y Dirprwy Arweinydd ar y cyfle i ddiolch i'r Pwyllgor Craffu am yr adborth gwerthfawr. Yn unol â'r sylwadau gafodd eu gwneud gan y Cyfarwyddwr, awgrymodd y Dirprwy Arweinydd bod y Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus yn cael ei addasu i gynnwys cais Cynghorau Cymuned Llanhari a Phont-y-clun a bod gwaith marchnata a chodi ymwybyddiaeth yn cael ei gynnal.


PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Nodi'r gefnogaeth aruthrol o blaid ymestyn y Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus sy'n ymwneud â Mesurau Rheoli C?n yn Rhondda Cynon Taf am gyfnod o 3 blynedd o 1 Hydref 2020;

2.    Trafod yr ymateb i'r ymgynghoriad â'r cyhoedd, fel sydd wedi'i nodi yn Atodiad 1, a phenderfynu a oes angen addasu'r gwaharddiadau a'r gofynion mewn perthynas â'r Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus fel sydd wedi'u nodi yn Atodiad 2;

3.    Ymestyn y Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus mewn perthynas â Mesurau Rheoli C?n, fel sydd wedi'u nodi yn Atodiad 2A a 2B, gan ychwanegu diwygiad i'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus sydd wedi'i ymestyn ar gyfer Rhondda Cynon Taf, er mwyn iddo gynnwys safleoedd Cyngor Cymuned Pont-y-clun a Llanhari;

4.    Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned, ar y cyd â'r Cyfarwyddwr Cyfadran - Ffyniant, Datblygu a Gwasanaethau Rheng Flaen, i lunio Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus mewn perthynas â Mesurau Rheoli C?n a sicrhau'u bod yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor; a

5.    Bod y Cyngor yn cyflawni gwaith codi ymwybyddiaeth a marchnata mewn perthynas ag ymestyn y Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus mewn perthynas â Mesurau Rheoli C?n.

 

Dyddiad cyhoeddi: 06/10/2020

Dyddiad y penderfyniad: 24/09/2020

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 24/09/2020 - Cabinet

Effective from: 01/10/2020

Dogfennau Cysylltiedig: